Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Penodi Cadeirydd ar gyfer y Pwyllgor
Cofnodion: Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Pwyllgor.
Enwebwyd y Cynghorydd Rita Johnson gan y Cynghorydd Ian Dunbar, ac eiliwyd hynny’n briodol.
Enwebwyd y Cynghorodd Clive Carver gan y Cynghorydd Jean Davies, ac fe eiliwyd hynny.
Ar ôl cynnal pleidlais penodwyd y Cynghorydd Rita Johnson yn Gadeirydd y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD:
Penodi’r Cynghorydd Rita Johnson yn Gadeirydd y Pwyllgor.
(Cadeiriodd y Cynghorydd Rita Johnson weddill y cyfarfod)
|
|
Penodi Is-Gadeirydd Pwrpas: Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.
Cofnodion: Enwebwyd y Cynghorydd Marion Bateman gan y Cynghorydd Joe Johnson, ac eiliwyd hynny’n briodol.
Enwebwyd y Cynghorodd Clive Carver gan y Cynghorydd Mike Peers, ac eiliwyd hynny.
Ar ôl cynnal pleidlais penodwyd y Cynghorydd Marion Bateman yn Is-gadeirydd y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD:
Penodi’r Cynghorydd Marion Bateman yn Is-gadeirydd y Pwyllgor. |
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.
Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.
|
|
Pwrpas:Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Cyfansoddiad a’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 1 Chwefror 2017.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (i) Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cyfansoddiad a gynhaliwyd ar 1 Chwefror 2017.
(ii) Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 1 Chwefror 2017.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol. |