Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Yn y Cyfarfod Blynyddol, penderfynodd y Cyngor mai Gr?p y Democratiaid Rhyddfrydol a fydd yn cadeirio’r Pwyllgor hwn. Rhoddir gwybod i’r Pwyllgor mai’r Cynghorydd Neville Phillips yw Cadeirydd y Pwyllgor am y flwyddyn ddinesig hon.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu i Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd atgoffa’r Pwyllgor bod y Cyngor, yn y Cyfarfod Blynyddol, wedi penderfynu mai plaid y Democratiaid Rhyddfrydol ddylai enwebu Cadeirydd y Pwyllgor. Roedd y gr?p wedi enwebu’r Cynghorydd Neville Phillips.
PENDERFYNWYD: Cadarnhau’r Cynghorydd Neville Phillips fel Cadeirydd y Pwyllgor am flwyddyn y cyngor.
(O’r pwynt hwn ymlaen, cadeiriodd y Cynghorydd Phillips weddill y cyfarfod)
|
|
Penodi Is-Gadeirydd Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gofynnodd y Cadeirydd am enwebiadau ar gyfer swydd yr Is-gadeirydd.
Cynigodd y Cynghorydd David Evans y Cynghorydd Michelle Perfect fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Dave Healey.
Cynigodd y Cynghorydd Mike Peers y Cynghorydd Bob Connah fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Rob Davies.
Ar ôl cynnal pleidlais, penodwyd y Cynghorydd Michelle Perfect yn Is-gadeirydd y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD:
Penodi'r Cynghorydd Michelle Perfect yn Is-gadeirydd y Pwyllgor am flwyddyn y cyngor.
|
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 24 Mawrth 2021.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mawrth 2021.
Cynigwyd y cofnodion gan y Cynghorydd Chris Bithell ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Rob Davies.
PENDERFYNWYD:
Yn amodol ar gywiro’r gwallau teipograffyddol, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.
|
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Diwygiadau i Reolau'r Weithdrefn PDF 81 KB Galluogi’r pwyllgor i ystyried y protocol diwygiedig
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i’r Pwyllgor i gyflwyno sylwadau arno a chytuno ar ddiwygiadau i Reolau’r Weithdrefn. Cyfeiriodd at Gyfarfod Blynyddol y Cyngor a gynhaliwyd ar 9 Medi 2020 ac y cytunwyd gyda’r newidiadau dros dro i rai o’r Rheolau, a dosbarthwyd y rhain. Eglurodd wrth i’r Cyngor symud tuag at ‘gyfarfodydd aml-leoliad’ sydd yn ofyniad yn y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, mae’r hyn oedd yn newidiadau dros dro bellach angen cael eu mabwysiadu yn ffurfiol gan y Pwyllgor wrth i’r Cyngor ddatblygu polisi ar gyfarfodydd aml-leoliad. Eglurodd yr adroddiad bod angen gwneud newidiadau i reolau’r weithdrefn a oedd wedi’u hatodi i’r adroddiad. Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod angen rheolau hyblyg i ddelio â chyfyngiadau o ran pandemig Covid-19, a nododd bod posibilrwydd y byddai’n rhaid i’r Cyngor ddychwelyd i drefniant lle y byddai pawb yn bresennol yn bersonol yn y cyfarfod, ar brydiau; neu lle bo rhai yn bresennol yn bersonol ac eraill yn bresennol o bell (cyfarfodydd hybrid); neu bresenoldeb llwyr drwy ddyfeisiau o bell. Nododd y Prif Swyddog bod materion ehangach i’w hystyried o ran sut yr oedd y Cyngor yn dymuno symud ymlaen â chyfarfodydd yn y dyfodol. Cyfeiriodd y Cynghorydd Chris Bithell at y newidiadau arfaethedig i Reolau’r Weithdrefn a nodwyd yn atodiad yr adroddiad. Yngl?n â gweithdrefn 8 - Hyd y cyfarfodydd, mynegodd bryderon os oedd yn rhaid i Aelod fynychu sawl cyfarfod mewn diwrnod na fyddai digon o amser i ail-wefru batri i-pad. Cyfeiriodd hefyd at Weithdrefn 17- Cofnod o Bresenoldeb, a chyflwyno sylwadau ar bresenoldeb mewn cyfarfodydd o bell a nododd pe bai’n rhaid i aelodau adael yn ystod cyfarfod byddai’n effeithio ar gworwm y cyfarfod. Ymatebodd y Prif Swyddog i’r materion a godwyd. Awgrymodd y Cadeirydd y gallai’r sawl sy’n cynnal cyfarfod o bell ddiweddaru’r Cadeirydd yn ystod y cyfarfod i hysbysu o weddill yr aelodau sy’n bresennol os bydd nifer o bobl yn gadael y cyfarfod. Tynnodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd sylw at Weithdrefn 15.1 - Mwyafrif, a oedd yn trafod pleidleisio mewn cyfarfodydd o bell / hybrid.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Michelle Perfect at weithdrefn 8 - Hyd y cyfarfodydd, ac awgrymu y dylid diwygio’r cyfeiriad at gyfarfodydd y Cyngor sy’n dechrau am 2.00pm i nodi: “Dylai cyfarfodydd y Cyngor ddod i ben ar ôl 3 awr fel arfer”. Cyfeiriodd hefyd at Weithdrefn 14 - Penderfyniadau a Chynigion Blaenorol, ac awgrymu y dylid egluro’r diwygiad a gynigir i nodi bod 10 e-bost unigol yn cael eu hanfon at Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at Weithdrefn 15.0 - Pleidleisio, gan nodi’r diwygiad arfaethedig o ran ‘cydsyniad tawel’, eglurodd bod angen darparu canllawiau ysgrifenedig o ran sut y gall Aelodau nodi eu bod yn dymuno gwrthwynebu neu ymatal rhag pleidleisio. Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at Weithdrefn 15.5 - Pleidlais wedi’i Chofnodi, gan awgrymu y dylid diwygio’r geiriad i nodi: “y bydd y Swyddog Monitro yn atgoffa’r Aelodau o’r broses i nodi yn y dull ‘sgwrsio’ eu bod yn gofyn am bleidlais ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
PROTOCOL AELODAU AR YMWNEUD Â WARDIAU ERAILL PDF 100 KB Galluogi’r pwyllgor i ystyried y protocol diwygiedig
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i alluogi’r Pwyllgor i ystyried y protocol diwygiedig. Cyflwynodd y wybodaeth gefndir ac egluro y bu’n rhaid ail-ystyried y protocol i’w wneud yn ‘haws ei ddefnyddio’ yn dilyn pryderon yn ddiweddar. Roedd pryderon penodol o ran ailddrafftio’r protocol yn ymwneud â’r angen i arsylwi cynrychiolaeth ddaearyddol, materion cynrychiolaeth pleidleisiwr / cynghorydd, a chanlyniadau anfodlonrwydd gyda’r camau gweithredu a gymerwyd gyda diffyg atebolrwydd. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd bod y protocol gwreiddiol o 2011 a gymeradwywyd gan Bwyllgor y Cyfansoddiad yn atodiad i’r adroddiad, a’r Protocol diwygiedig i Aelodau ar Ymwneud â Wardiau Eraill a gefnogwyd gan Arweinwyr y Grwpiau.
Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y prif ystyriaethau fel y nodwyd yn y Protocol diwygiedig ac egluro ei fod wedi’i ail-ysgrifennu i gynorthwyo Aelodau gyda materion dadleuol. Cyfeiriodd at eithriadau i’r protocol, y weithdrefn i’w dilyn, a monitro.
Nododd y Cynghorydd Michelle Perfect bod adegau lle bo Cynghorwyr Tref a Chymuned yn cysylltu â swyddogion y Cyngor Sir yn uniongyrchol i gael gwybodaeth yn hytrach na dilyn y weithdrefn gywir a gofyn a oes modd llunio gweithdrefn i fynd i’r afael â’r mater. Eglurodd y Prif Swyddog y gellir ystyried rhoi cyfarwyddiadau i swyddogion y Cyngor Sir o ran sut y dylid ymateb i gais gan gynghorwyr tref a chymuned unigol. Awgrymodd y dylai unrhyw weithdrefn o’r fath gael ei chyflwyno i’w hystyried yn Fforwm y Sir.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at Atodiad 2, adran 1, yr ail baragraff, a nodi o ran comisiwn ffiniau lleol na fyddai’r frawddeg “Ystyr Aelod Lleol yw Cynghorydd neu un o’r ddau sy’n cynrychioli’r ward” yn berthnasol pe bai ward â thri aelod ac awgrymu y dylid nodi: “Mae Aelod Lleol yn golygu’r Cynghorydd sy’n cynrychioli’r ward.”
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Rob Davies ar Atodiad 2, paragraff 3.1, yngl?n â chytundeb rhwng rhywun nad yw’n aelod o’r ward ac aelod y ward, cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y gellir gwneud hyn dros e-bost neu dros y ffôn i gyflawni canlyniad effeithiol.
Awgrymodd y Cynghorydd David Healey y dylai’r Protocol gyfeirio at y risgiau sy’n ymwneud â chyfryngau cymdeithasol a nodi enghraifft pan fu Aelodau’n ymwneud â materion nad oedd yn eu ward eu hunain.
Cyfeiriodd y Cynghorydd David Evans at Atodiad 2, adran 4- Monitro, a nodi bod mater trawsffiniol rhwng ei ward ef a ward gyfagos a gofynnodd am eglurhad o ran yr amgylchiadau lle bo’n rhaid hysbysu Gwasanaethau’r Aelodau am faterion lleol. Ymatebodd y Swyddogion i’r ymholiad a gyflwynwyd ac awgrymodd y Prif Swyddog er mwyn osgoi biwrocratiaeth ddiangen, bod achosion o dorri’r Protocol yn cael eu cofnodi’n unig, yn hytrach nag achosion o gydymffurfiaeth.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Chris Bithell at atodiad 2, paragraff 1.1, gan nodi bod Aelodau’n ymwneud â materion mewn ward nad yw’n ward iddynt oherwydd materion cynllunio. Awgrymodd y dylid hysbysu swyddogion yn yr Adran Gynllunio mewn achosion o’r fath, ac unrhyw adran berthnasol arall, er mwyn gallu darparu’r manylion cyswllt priodol.
Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd i ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Diweddariad ar Seminarau, Sesiynau Briffio a Gweithdai Aelodau PDF 77 KB Rhoi’rwybodaeth ddiweddaraf i aelodau ynghylch y digwyddiadau ymgysylltu a gynhaliwyd ers yr adroddiad diwethaf.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad yn cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf ar ddigwyddiadau Datblygu ac Ymgysylltu ag Aelodau a gynhaliwyd ers y cyfarfod diwethaf ym mis Mawrth 2021, a’r rhai sydd i ddod. Eglurodd y bydd y wybodaeth ddiweddaraf o ran presenoldeb mewn digwyddiadau a gynhaliwyd ar 28 Mehefin a thu hwnt yn cael eu cyflwyno yn y cyfarfod nesaf. Gwahoddodd Aelodau i gysylltu ag ef gydag unrhyw awgrymiadau yr oeddent yn dymuno eu cyflwyno ar gyfer digwyddiadau datblygu yn y dyfodol.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Chris Bithell a’u heilio gan y Cynghorydd Ted Palmer.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y cynnydd gyda Gweithdai Aelodau, Briffiadau a Seminarau ers yr adroddiad diwethaf yn cael ei nodi; ac
(b) Os oes gan Aelodau unrhyw awgrymiadau ar gyfer Datblygu ac Ymgysylltu ag Aelodau yn y dyfodol, eu bod yn cysylltu â Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd i’w trafod.
|
|
AELODAU O'R WASG YN BRESENNOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.
(The meeting started at 2.00 pm and ended at 3.02 pm)
|