Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Ceri Shotton / 01352 702305  E-bost: ceri.shotton@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

22.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

23.

Cofnodion pdf icon PDF 79 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 17 Tachwedd 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Tachwedd.

 

Cafodd y cofnodion eu cynnig fel cofnod cywir gan y Cynghorydd Chris Bithell a’u heilio gan y Cynghorydd Mike Peers. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

24.

Cynllun Deisebau Drafft pdf icon PDF 78 KB

Pwrpas:        Galluogi’r pwyllgor i ystyried a chymeradwyo y Cynllun Deisebau drafft.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) gynllun deisebau drafft, a fydd yn galluogi aelodau’r cyhoedd i drefnu a chyflwyno deisebau yn uniongyrchol i’r Cyngor Sir.  Roedd Adran 42 Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, a fyddai’n dod i rym o 5 Mai 2022, yn rhoi dyletswydd ar brif gynghorau i wneud a chyhoeddi cynllun deisebau.

 

Roedd Swyddogion wedi drafftio cynllun deisebau, yn seiliedig ar y meini prawf addasrwydd ar gyfer cwestiynau’r Cyngor, gyda chopi yn Atodiad 1 yr adroddiad.  Roedd hyn wedi bod mewn lle ers rhai blynyddoedd ac yn dilyn adolygiad roedd yn dal i gael ei ystyried yn addas gyda chyflwyniad deisebau electronig yn cael eu rheoli gan ddefnyddio meddalwedd Modern.gov a oedd yn cefnogi’r system pwyllgorau.     

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion, a amlinellwyd yn yr adroddiad, gan y Cynghorwyr Bob Connah a Rob Davies.

 

Siaradodd y Cynghorydd Vicky Perfect o blaid y gofyniad bod rhaid i lofnodwr fyw neu weithio o fewn ardal y Cyngor, a dywedodd fod deisebau blaenorol wedi’u derbyn o wledydd eraill mewn perthynas â Chastell y Fflint.

 

Ceisiodd y Cynghorydd Ted Palmer eglurhad na fyddai deisebau gan sefydliadau megis change.org yn cael eu derbyn.  Eglurodd y Prif Swyddog y byddai system ddeisebau’r Cyngor ar gael yn eang ond bod angen adeiladu sicrwydd i mewn i gynllun y Cyngor ei hun.  Roedd y Cynghorydd Palmer yn cefnogi’r argymhelliad hwn gan ei fod yn teimlo y byddai’n anodd asesu lle’r oedd yr holl lofnodwyr yn byw ac yn gweithio drwy unrhyw gynlluniau deisebau eraill. 

 

Awgrymodd y Cynghorydd Mike Peers y dylai Aelodau lleol gael eu hysbysu o unrhyw ddeisebau a gyflwynir er mwyn delio ag unrhyw ymholiadau gan drigolion lleol a all godi o’r ddeiseb, a gofynnodd hefyd a fyddai mecanwaith ar gael er mwyn i’r cyhoedd apelio os oeddent yn teimlo nad oedd y ddeiseb wedi cael ei drin yn gywir.  Gwnaeth sylw ar yr adolygiad o ddeisebau er mwyn sicrhau eu bod yn briodol a chwestiynodd os oedd Aelodau lleol yn gallu cyflwyno deiseb i’r Cyngor Sir yn dilyn gwrthod unrhyw ddeisebau ar-lein yn sgil eu priodolrwydd.  I gloi, cwestiynodd y cynnig na ddylai deisebau gael eu derbyn os oeddent yn ymwneud â cheisiadau cynllunio.  Teimlodd y byddai deiseb ar gais cynllunio yn rhoi cyfle i aelodau’r cyhoedd wneud sylw, yn arbennig ar geisiadau graddfa fawr, a hefyd yn rhoi mwy o safbwyntiau i’r Pwyllgor.

 

Siaradodd y Cynghorydd Chris Bithell o blaid caniatáu pobl a oedd yn byw a gweithio tu allan i’r Sir i gyflwyno ac arwyddo deisebau ar-lein.  Roedd yn teimlo y dylai barn trigolion mewn siroedd cyfagos ac sy’n ymweld â Sir y Fflint yn rheolaidd ar gyfer siopa a thwristiaeth, gael eu clywed.  Gwnaeth sylw ar y cynnig y byddai’r Prif Weithredwr yn penderfynu sut i ymateb i ddeiseb a gofynnodd pe byddai penderfyniad yn cael ei wneud i beidio gweithredu, y byddai rheswm hefyd yn cael ei ddarparu.  O ran deisebau ar geisiadau cynllunio, amlinellodd enghreifftiau lle’r oedd ceisiadau cynllunio wedi parhau i gael eu hystyried gan y  ...  view the full Cofnodion text for item 24.

25.

Cynllun Gweithredu Amrywiaeth mewn Democratiaeth pdf icon PDF 89 KB

Pwrpas:        Derbyn Cynllun Gweithredu Amrywiaeth mewn Democratiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y Cynllun Gweithredu Amrywiaeth mewn Democratiaeth Drafft, fel y nodwyd yn Atodiad 1 yr Adroddiad.  Bwriad y cynllun gweithredu drafft oedd lleihau neu dynnu rhwystrau i etholiad ymysg y grwpiau a dangynrychiolir ac roedd yn cynnwys cyfres o ffrydiau gwaith.

 

Ers 2018, roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi bod yn edrych os oedd demograffeg cynrychiolwyr etholedig yn adlewyrchu demograffeg yr ardaloedd yr oeddent yn ei gynrychioli.  Yn 2021 penderfynodd annog holl Gynghorau yng Nghymru i ymrwymo i’w datganiad amrywiaeth mewn democratiaeth eu hunain er mwyn ceisio gwneud y cohort Cynghorwyr etholedig yn fwy adlewyrchol o’r boblogaeth ar y cyfan.  Cafodd yr 11 maes allweddol ar gyfer ystyriaeth eu crynhoi o fewn yr adroddiad a manylodd y Prif Swyddog ar y camau arfaethedig mewn perthynas â bob maes o fewn y cynllun gweithredu drafft, a ddangosir yn Atodiad 1.

 

Fe wnaeth y Prif Swyddog hefyd ddarparu manylion o’r sylwadau/awgrymiadau a wnaed gan Aelodau yn ystod y sesiynau briffio a gynhaliwyd er mwyn ystyried y cynllun gweithredu drafft a sut cafodd y rhain  eu hystyried wrth gyflwyno’r adroddiad.

 

Gwahoddodd y Prif Swyddog y Cydlynydd Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a Gofal Cymdeithasol i wneud sylw ar y cynllun gweithredu drafft, gan ddiolch iddi am ei gwaith wrth ddrafftio’r cynllun gweithredu.  Nid oedd y Cydlynydd yn dymuno ychwanegu unrhyw beth i’r cyflwyniad a roddwyd gan y Prif Swyddogion, ond awgrymodd y byddai’r Pwyllgor yn dymuno ychwanegu argymhelliad ychwanegol i’r Pwyllgor fonitro’r cynllun gweithredu wrth symud ymlaen.

 

Cafodd yr argymhelliad, fel yr amlinellwyd o fewn yr adroddiad, ynghyd â’r argymhelliad ychwanegol i’r Pwyllgor fonitro’r cynllun gweithredu yn y dyfodol, ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Chris Bithell ac Ian Smith. 

 

Siaradodd Chris Bithell o blaid yr adroddiad ac amlinellodd gwaith blaenorol y Cyngor, a gafodd gydnabyddiaeth genedlaethol i gynyddu amrywiaeth ac annog pobl i ddod yn Gynghorwyr.  Dywedodd ei fod yn siomedig gweld fod nifer y bobl ifanc a bleidleisiodd yn etholiad y Cynulliad Cenedlaethol wedi bod yn isel ac amlinellodd y gwaith roedd y Cyngor wedi’i wneud i sefydlu Cyngor Ieuenctid a chyfleoedd yn y gorffennol i bobl ifanc fynychu cyfarfodydd gyda Chynghorwyr i drafod materion.  Gwnaeth sylw ar bolisïau cyflogaeth ar gyfer sefyll ar gyfer swydd gyhoeddus a dywedodd er y gall gyflogwyr letya hyn, gall ddod yn Gynghorydd a chael amser i ffwrdd o’r gwaith i fynychu cyfarfodydd ac ati, effeithio ar gyfleoedd o fewn y gyflogaeth yn y dyfodol.

 

Er ei fod yn croesawu’r cynigion, siaradodd y Cynghorydd Ian Smith am gyfarfodydd yn cael eu cynnal yn y boreau/prynhawniau gan atal pobl ifanc rhag sefyll ar gyfer etholiad.  Dywedodd bod cyfarfodydd Pwyllgor yn y bore yn golygu fod rhaid i Gynghorwyr gymryd diwrnod llawn o’r gwaith er mwyn mynychu.  Gwnaeth sylw hefyd ar gyfarfodydd gyda chyrff allanol yn cael eu cynnal yn ystod y dydd ac anallu Cynghorwyr a oedd yn gweithio llawn amser i gwrdd yn rheolaidd â’r Heddlu ac ati, yn sgil ymrwymiadau gwaith.  

 

Siaradodd y Cynghorydd Mike Peers am y gefnogaeth  ...  view the full Cofnodion text for item 25.

26.

Aelodau O'r Wasg Yn Bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.