Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

28.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y byddai cysylltiad personol yn cael ei gofnodi ar ran yr Aelodau o ran eitem 4 – Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW)

 

29.

Cofnodion pdf icon PDF 83 KB

 

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 30 Mehefin a 30 Medi 2021.

 

 

.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Mehefin 2021 a 30 Medi.

 

Cywirdeb:  30 Medi 2021: paragraff cyntaf, dylai cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 24 Mawrth, nodi 30 Medi 2021.

 

30 Medi 2021: Mewn ymateb i'r sylwadau a wnaeth y Cynghorydd Mike Peers, cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd roi gwybod i’r Gr?p Strategaeth Cynllunio am yr awgrymiadau a nodir yng nghofnod rhif 24, penderfyniad (f).

 

Cafodd y cofnodion eu cynnig gan y Cynghorydd Michelle Perfect a’u heilio gan y Cynghorydd Jean Davies.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y cywiriad uchod, bod y cofnodion yn cael eu cymeradwyo yn gofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

 

 

30.

Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) pdf icon PDF 112 KB

Cael yr Adroddiad Blynyddol Drafft ar gyfer 2022

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar Adroddiad Blynyddol drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW) ar gyfer 2022. Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod yr IRPW wedi anfon yr Adroddiad Blynyddol drafft i Gynghorau Sir ar 29 Medi, yn gofyn am sylwadau erbyn 26 Tachwedd 2021.  Roedd angen i’r IRPW ystyried unrhyw sylwadau a gafodd ar y drafft cyn cyflwyno fersiwn derfynol yr adroddiad ym mis Chwefror 2022.

 

Wrth gyflwyno'r adroddiad drafft, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod yr IRPW yn cynnig codi cyflog sylfaenol aelodau etholedig prif Gynghorau yn 2021/22 a fydd yn gyfanswm o £16,800 o 9 Mai 2022.  Cynigiwyd codi cyflog Aelodau Cabinet, Arweinwyr y Cyngor a'u dirprwyon hefyd.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod Adroddiad Blynyddol drafft IRPW wedi'i ystyried gan Arweinwyr Grwpiau mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Hydref, a manylwyd ar eu barn gyffredinol ym mharagraff 1.18 yr adroddiad.  Roedd y Cynghorydd Neville Phillips, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd, a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd wedi rhannu arsylwadau rhagarweiniol ac adborth gan Arweinwyr Grwpiau a chynrychiolwyr yr IRPW mewn cyfarfod ymgynghori a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd.  Gofynnodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd am farn y Pwyllgor ar y cynigion a wnaeth yr IRPW yn yr adroddiad drafft ar gyfer 2022 ac wedi hynny.

 

Mynegodd y Cynghorydd David Healey nifer o bryderon a chynigiodd fod Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, ar ran y Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd, yn ysgrifennu at yr IRPW i gadarnhau barn gyffredinol yr Arweinwyr Grwpiau fel y nodir ym mharagraff 1.18 yr adroddiad.  Eiliodd y Cynghorydd Mike Peers hyn.  Pan gafwyd pleidlais, cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

PENDERFYNWYD:

 

a)         Dylai’r Pwyllgor nodi’r Penderfyniadau a wnaeth Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 202/21 yn yr Adroddiad Blynyddol drafft ar gyfer 2022/23; a

(b)       Bod Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn ysgrifennu at yr IRPW ar ran y Pwyllgor i gymeradwyo barn gyffredinol yr Arweinwyr Grwpiau fel a ganlyn:

 

  • Mae’n siomedig bod yr IRPW wedi caniatáu i’r sefyllfa ddatblygu i’r fath raddau bod cynnydd mor fawr i gyflogau Aelodau bellach yn angenrheidiol; a

 

  • Dydyn ni ddim yn credu y dylai’r cynnydd fod mewn un cam, ond

yn hytrach, fesul camau yn ystod oes y Cyngor nesaf gan sicrhau hefyd bod y

cynnyddrannau hynny’n ystyried y lefelau chwyddiant yr oedd yn bodoli ar y pryd

 

 

31.

Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu 2020/21 pdf icon PDF 73 KB

Ystyried a chymeradwyo Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu ar gyfer 2020/21

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar yr Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu ar gyfer 2020/21. Rhoddodd wybodaeth gefndir ac eglurodd y newidiadau a gafodd eu gwneud i fformat yr Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu drafft a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad i gael ei ystyried a'i gymeradwyo gan y Pwyllgor.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at dudalen 120 yr adroddiad ac, ar bwynt o gywirdeb, dywedodd fod y Cynghorydd Bob Connah wedi bod yn aelod o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant, o fis Rhagfyr 2020.

 

Awgrymodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y dylid cyfeirio at y rôl werthfawr sy’n cael ei chyflawni gan Arweinwyr Grwpiau o ran darparu craffu anffurfiol ar gynigion yn yr Adroddiad drafft.  Awgrymodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y dylid ychwanegu'r gydnabyddiaeth at ragair yr Adroddiad a ysgrifennodd Arweinydd y Cyngor.  

 

Gwnaeth y Cynghorydd Ted Palmer gynnig yr argymhellion ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd Arnold Woolley.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi sylwadau’r Pwyllgor ar yr Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu drafft ar gyfer 2020/21; a 

 

(b)       Cymeradwyo'r Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu drafft ar gyfer 2020/21 i'w gyflwyno i'r Cyngor.

 

32.

Cyfarfodydd aml leoliad a'r model ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol - adroddiad cynnydd pdf icon PDF 100 KB

I roi gwybod i’r pwyllgor am y cynnydd presennol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad a rhoddodd wybodaeth gefndir a chyd-destun.  Dywedodd fod paragraffau 1.07 i 1.12 yr adroddiad yn nodi polisi cyfarfodydd aml leoliad interim a awgrymwyd i gael ei ystyried i’w fabwysiadu nes bod y Cyngor newydd, a fydd yn cael ei ethol ym mis Mai 2022, yn penderfynu ar ei bolisi ei hun.  Roedd yn rhagweld efallai na fyddai hyn yn rhesymol tan hydref 2022.

 

            Mewn ymateb i'r sylwadau a wnaeth y Cynghorydd Mike Peers, rhoddodd Swyddogion eglurhad am y cyfeiriad at gydbwysedd gwleidyddol fel y nodir ym mharagraff 1.08 yr adroddiad.  Gwnaeth y swyddogion sylw ar ymwybyddiaeth o argraffiadau’r cyhoedd ynghylch grwpiau gwleidyddol, y safiad niwtral o ran lleoliad a gafodd ei fabwysiadu gan awdurdodau lleol eraill, ac ymrwymiad y Cyngor i ehangu amrywiaeth a democratiaeth.

 

            Mewn ymateb i'r sylwadau ychwanegol a wnaeth y Cynghorydd Ted Palmer ynghylch cydbwysedd gwleidyddol yn adran 1.08 yr adroddiad, eglurodd y Prif Swyddog y byddai mynediad teg a chyfartal yn cael ei roi i'r holl Aelodau a oedd yn dymuno bod yn bresennol yn gorfforol yng nghyfarfodydd y Cyngor a gynhelir yn Siambr y Cyngor.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Arnold Woolley a ellid rhoi’r dewis o bleidleisio electronig yng nghyfarfodydd Zoom y Cyngor er mwyn sicrhau eglurder.  Siaradodd y Prif Swyddog o blaid defnyddio pleidleisio ar-lein mewn cyfarfodydd o bell.  Eglurodd y Rheolwr Tîm – Gwasanaethau Democrataidd fod profi’r system bleidleisio ar-lein ar Zoom wedi dangos bod angen gwneud rhagor o waith i’w addasu er mwyn ei ddefnyddio yng nghyfarfodydd y Cyngor a chytunodd i fwrw ymlaen â hyn.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Rob Davies a’i eilio gan y Cynghorydd Mike Peers.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y polisi Aml gyfarfodydd interim, fel y manylir arno ym mharagraffau 1.07 - 1.12

yr adroddiad yn cael ei fabwysiadu hyd nes bydd y Cyngor newydd yn penderfynu ar ei bolisi cyfarfodydd aml leoliad ei hun.

 

33.

Datganiad a Gwarediad Tir Nad Oes ei Angen pdf icon PDF 86 KB

Cytuno ar fân newidiadau i’r Cyfansoddiad i wella tryloywder ac eglurder ynghylch sut fydd y tir yn cael ei ddatgan fel nad oes ei angen

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad i gytuno ar fân newidiadau i'r Cyfansoddiad ynghylch sut y byddai tir yn cael ei nodi’n dir nad oes ei angen.  Rhoddodd wybodaeth gefndir ac eglurodd nad oedd y broses ar gyfer nodi a gwaredu tir nad oes ei angen ar y Cyngor wedi’i gofnodi ar hyn o bryd a chynigiwyd cynnwys y broses yn y Cyfansoddiad er mwyn gwella tryloywder ac eglurder.  

 

            Cododd y Cynghorydd Mike Peers nifer o gwestiynau ynghylch awdurdod dirprwyedig, aelodaeth o Fwrdd y Rhaglen Asedau Cyfalaf, tir ac eiddo nad oes eu hangen, a'r cyfeiriad at adroddiad dirprwyedig yn adran 1.03 yr adroddiad.   Siaradodd y Cynghorydd Peers am yr angen i sicrhau bod ‘gwerth gorau’ yn cael ei sicrhau ar gyfer gwerthu tir/eiddo a chynigiodd bod cyfeiriad at hyn yn cael ei gynnwys yn y Cyfansoddiad.  Eiliodd y Cynghorydd Arnold Woolley y cynnig. 

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog at adran 1.04 yn yr adroddiad a dywedodd fod proses gofnodi ar wahân i awdurdodi gwerthu darn penodol o dir a oedd yn seiliedig ar werth y tir a rhoddodd drosolwg o'r broses waredu.  Cadarnhaodd bod Aelodau eisoes yn rhan o'r broses werthu.  Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Peers cadarnhaodd y Prif Swyddog y cafwyd prisiad annibynnol ar y bwriad i werthu tir. 

Mewn ymateb i’r sylwadau a wnaeth y Cynghorydd Peers ynghylch ‘gwerth gorau’, dywedodd y Prif Swyddog fod hwn yn rhwymedigaeth statudol ar y Cyngor na allai gael gwared ar dir sy’n llai na gwerth marchnad teg gan eithrio rhai amgylchiadau.  Cytunodd y Prif Swyddog gynnwys cyfeirio at yr angen i gael ‘ystyriaeth orau’ i’r ddirprwyaeth bresennol i Swyddogion ynghylch gwerthu tir. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Ian Smith, eglurodd y Prif Swyddog bod yn rhaid ymgynghori â'r Aelod(au) lleol ar werthu unrhyw dir yn eu Ward.

 

Gofynnodd y Cynghorydd David Healey pa gamau fyddai'n cael eu dilyn pe bai Corff Llywodraethu Ysgol yn anghytuno â'r posibilrwydd o werthu tir ar ystâd ysgol.  Eglurodd y Prif Swyddog y byddai trafodaethau'n digwydd â phawb sydd ynghlwm mewn amgylchiadau o'r fath.  Dywedodd y Prif Swyddog, pe bai Ysgol yn anghytuno â’r posibilrwydd o werthu darn penodol o dir, dylai'r penderfyniad ynghylch a oedd y tir yn cael ei ddatgan yn 'warged' fod yn destun adroddiad dirprwyedig ac amlinellodd y broses gwneud penderfyniadau ar gyfer adroddiadau dirprwyedig.   

 

            Cynigwyd yr argymhelliion canlynol gan y Cynghorydd David Healey a’u heilio gan y Cynghorydd Ted Palmer.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y broses arfaethedig ar gyfer nodi a gwaredu tir

nad oes ei angen bellach yn cael ei gynnwys yn y Cyfansoddiad;

 

(b)       Cynnwys cyfeiriad at yr angen i gael ‘ystyriaeth orau’ i’r ddirprwyaeth bresennol i Swyddogion ynghylch gwerthu tir; a

 

(c)        Pe bai Ysgol yn anghytuno â’r posibilrwydd o werthu darn penodol o dir, dylai'r penderfyniad ynghylch a oedd y tir yn cael ei ddatgan yn 'warged' fod yn destun adroddiad dirprwyedig

 

 

34.

AELODAU O'R WASG YN BRESENNOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol.

 

(Dechreuodd y cyfarfod am 2.00 pm a daeth i ben am 3.20 pm)