Agenda and minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Maureen Potter / 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.
Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 14 Hydref 2020.
Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Hydref 2020.
Materion sy'n codi Tudalen 8 – Dywedodd y Cynghorydd Mike Peers, yn dilyn y materion a godwyd ganddo ef a’r Cynghorydd Chris Bithell, fod y Prif Swyddog (Llywodraethu) wedi cytuno i ddiwygio’r Protocol fel bo’n briodol a gofynnodd a fyddai modd iddo gadarnhau p’un a oedd hyn wedi cael ei gwblhau neu beidio. Cadarnhaodd y Prif Swyddog ei fod, yn dilyn y cyfarfod, wedi rhannu’r Protocol diwygiedig gydag Aelodau cyn cyfarfod y Cyngor Sir ar 20 Hydref, ac roedd y Protocol wedi cael ei gymeradwyo gan y Cyngor.
Mewn ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Chris Bithell, cytunodd y Prif Swyddog i olrhain y canllawiau i Aelodau ar y broses ar gyfer rhoi gwybod am ymholiadau a chwynion os nad oedd y rhain wedi cael eu hail-anfon.
Cafodd y cofnodion eu cynnig gan y Cynghorydd Chris Bithell a’u heilio gan y Cynghorydd Mike Peers.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.
|
|
Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu 2019/20 Ystyried a chymeradwyo Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu ar gyfer 2019/20.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i alluogi’r Pwyllgor i ystyried a chymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu ar gyfer 2019/20. Darparodd wybodaeth gefndirol a chynghorodd fod yr Adroddiad Blynyddol yn cynnig sicrwydd i’r Cyngor fod y swyddogaeth Trosolwg a Chraffu yn cyflawni ei rôl. Cyflwynwyd yr Adroddiad Blynyddol drafft i’r Pwyllgor er mwyn rhoi cyfle i aelodau gyflwyno sylwadau cyn iddo gael ei gyflwyno i’r Cyngor i’w gymeradwyo’n ffurfiol. Roedd yr Adroddiad Blynyddol yn seiliedig ar y strwythur chwe Phwyllgor Trosolwg a Chraffu a adolygwyd yn y ystod y flwyddyn. Cyflwynwyd y strwythur pum Pwyllgor newydd yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor ym mis Medi 2020. Cyfeiriodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd at gylch gwaith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol a oedd, ar ôl cwblhau ei nodau a’i dasgau yn llwyddiannus, wedi’i dynnu’n ôl fel rhan o’r adolygiad. Byddai materion i’r dyfodol mewn perthynas â’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol yn cael eu dyrannu i’r Pwyllgor mwyaf priodol yn y strwythur presennol.
Cafodd yr argymhelliad i gymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol ei gynnig gan y Cynghorydd Ted Palmer a’i eilio gan y Cynghorydd Patrick Heesom.
Gofynnodd y Cynghorydd Mike Peers am eglurhad o’r gofyniad ym mharagraff 1.01 o’r adroddiad. Mewn ymateb i’r sylwadau, eglurodd y Swyddogion mai’r arfer cyfredol oedd i bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ystyried ei Raglen Gwaith i'r Dyfodol ym mhob cyfarfod a bod Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn cael ei bwydo i Raglen Gwaith i‘r Dyfodol y Cyngor a oedd yn cael ei chyflwyno i’r Cabinet yn fisol. Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd i ystyried y geiriad yn y Cyfansoddiad.
Awgrymodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y dylid diwygio’r argymhelliad yn yr adroddiad fel a ganlyn:
(a) Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu ar gyfer 2019/20 a (b) Bod y Pwyllgor yn argymell newid y geiriad yn y Cyfansoddiad i adlewyrchu’r arfer cyfredol
Cafodd y diwygiad ei gynnig gan y Cynghorydd Mike Peers a’i eilio gan y Cynghorydd Chris Bithell.Pan gafwyd pleidlais, cymeradwywyd hyn.
Diolchodd y Cynghorydd Patrick Heesom i Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd am ei waith ar Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu ar gyfer 2019/20; a
(b) Bod y Pwyllgor yn argymell newid y geiriad yn y Cyfansoddiad i adlewyrchu’r arfer cyfredol
|
|
Absenoldeb Mabwysiadu i Aelodau Awdurdodau Lleol ymgynghori â’r pwyllgor ar gynigion LlC i ymestyn cyfnod Absenoldeb Mabwysiadu i Aelodau o Awdurdodau Lleol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar gynigion Llywodraeth Cymru (LlC) i ymestyn Absenoldeb Mabwysiadu ar gyfer Aelodau’r Awdurdod Lleol o bythefnos i 26 wythnos. Eglurodd fod y cyfnod ymgynghori ar agor tan 29 Rhagfyr 2020 ac roedd tri chwestiwn yn cael eu cyflwyno i awdurdodau lleol er mwyn mesur rhesymoldeb y cynigion. Ceisiwyd awdurdod i Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ymateb i’r ymgynghoriad ar ran y Cyngor.
Cyfeiriodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd at y tri chwestiwn ym mharagraff 1.06 yn yr adroddiad, yr ymatebion awgrymedig, a’r newidiadau a nodwyd ym mharagraff 1.05.
Gofynnodd y Cynghorydd Mike Peers gwestiwn am y newidiadau i’r rheoliadau a fyddai’n atal pobl rhag cymryd sawl cyfnod o absenoldeb mabwysiadu o dan yr un trefniant. Holodd am achosion o fabwysiadu mwy nag un plentyn o fewn y flwyddyn, a fyddai absenoldeb o 26 wythnos yn cael ei gynnig ar gyfer bob plentyn neu ai 26 wythnos y flwyddyn fyddai’r uchafswm? Ceisiodd y Cynghorydd Peers eglurhad mewn perthynas â’r newid a fyddai’n caniatáu i unigolion sy’n cymryd absenoldeb mabwysiadu barhau â rhai dyletswyddau gyda chaniatâd y Cadeirydd, a gofynnodd a fyddai hyn yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd ei ystyried yn y dyfodol.
Ymatebodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd i’r cwestiynau a godwyd ac eglurodd y byddai’r cynnydd a gynigir i hyd yr absenoldeb mabwysiadu yn caniatáu 26 wythnos ar gyfer y broses fabwysiadu a dywedodd ei fod yn annhebygol y byddai unrhyw un yn mynd drwy’r broses fabwysiadu eto yn yr un flwyddyn. . Rhoddodd enghraifft hefyd o sut y gall unigolyn sy’n cymryd absenoldeb mabwysiadu barhau â rhai o’u dyletswyddau gyda chaniatâd y Cadeirydd.
Cynghorodd y Prif Swyddog, yn dilyn y cyfnod ymgynghori, pe bai’r ddeddfwriaeth yn cael ei phasio, efallai y bydd LlC yn gofyn i’r Awdurdod fabwysiadu newid i’w Rheolau Sefydlog, a fyddai’n cael ei ymgorffori yn y Cyfansoddiad. Byddai’r mater hwn yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd i’w gymeradwyo yn dilyn hynny.
Cynigiodd y Cynghorydd Chris Bithell gymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Rob Davies.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r cynigion a’r tri chwestiwn, ynghyd â’r ymatebion awgrymedig, fel ymateb y Cyngor; a
(b) Rhoi awdurdod i Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ymateb i’r ymgynghoriad ar ran y Cyngor.
|
|
AELODAU O'R CYHOEDD A'R WASG YN BRESENNOL Cofnodion: Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol |