Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

15.

Penodi Is-Gadeirydd

Pwrpas:        Yn dilyn ymddiswyddiad y deiliad blaenorol, croesawir enwebiadau ar gyfer is-gadeirydd y pwyllgor hwn.

 

 

Cofnodion:

Enwebodd y Cynghorydd David Wisinger y Cynghorydd Jean Davies ar gyfer swydd yr Is-gadeirydd ac eiliwyd hyn yn briodol gan y Cynghorydd Clive Carver.

 

PENDERFYNWYD:

 

Penodi'r Cynghorydd Jean Davies yn Is-gadeirydd y Pwyllgor.

16.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

.

 

Cofnodion:

Dim.

17.

Cofnodion pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 16 Hydref 2019.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Hydref 2019. 

 

Cynigodd y Cynghorydd Chris Bithell y dylid cymeradwyo’r cofnodion ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd David Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

18.

Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2020/21 pdf icon PDF 85 KB

Pwpras:        Galluogi’rpwyllgor i dderbyn Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2020/21, sy’n pennu taliadau i aelodau etholedig ac aelodau cyfetholedig am y flwyddyn nesaf.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2020/21, sy’n pennu taliadau i aelodau etholedig ac aelodau cyfetholedig am y flwyddyn nesaf.Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd bod Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol wedi anfon yr Adroddiad Blynyddol drafft at y Cynghorau Sir ar 15 Hydref a gofyn bod sylwadau yn cael eu cyflwyno erbyn 10 Rhagfyr 2019. Roedd gofyn i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ystyried y sylwadau a dderbyniwyd mewn perthynas â’r drafft cyn cyflwyno’r fersiwn derfynol o’r adroddiad ym mis Chwefror 2020. 

 

Wrth gyflwyno’r adroddiad, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd bod Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol wedi gwneud 51 o Benderfyniadau ar gyfer 2020/21, ac roedd 18 ohonynt yn uniongyrchol berthnasol i Gyngor Sir y Fflint. Dywedodd bod Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol wedi cynnig y dylid cynyddu’r cyflog sylfaenol yn 2020/21 o £350 ar gyfer aelodau etholedig o brif gynghorau i gyfanswm o £14,218,  yn weithredol o 1 Ebrill 2020. Er mwyn rhoi hyn mewn cyd-destun, roedd y Panel wedi cynnal dadansoddiad o gyflogau Aelodau sylfaenol ac wedi nodi bod cyflogau ‘aelodau meinciau cefn y Cyngor’ wedi gostwng yn sylweddol is na chwyddiant.  Dywedodd nad oedd unrhyw newid, ar wahân i’r cynnydd i gyflog sylfaenol, wedi’i gynnig ar gyfer cyflogau uwch neu ddinesig. Ymgynghorwyd ag arweinwyr grwpiau gwleidyddol a dirprwyon ar yr adroddiad mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd 2019. 

 

Rhoddodd y Cynghorydd Mike Peers adborth ar gyfarfod Arweinwyr Gr?p a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd a dywedodd mai’r argymhelliad a gododd ar ôl ystyried adroddiad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol oedd ei nodi. Cynigodd felly bod y Pwyllgor yn nodi’r penderfyniadau a wnaed gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn ei Adroddiad Blynyddol drafft ar gyfer 2020/21.

 

Tynnodd y Cynghorydd Peers sylw at dudalen 17, adran 6, o’r rhaglen, a oedd yn cyfeirio at y ddarpariaeth yn y fframwaith i ad-dalu Aelodau am gostau gofal. Esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd nad oedd gofyn i Gynghorau ddatgelu derbynyddion y costau gofal ac roedd ganddynt y cyfleuster i gydgrynhoi’r costau. Dywedodd bod yr Awdurdod wedi mabwysiadu’r ddarpariaeth hon fel arfer da ers sawl blwyddyn bellach, fodd bynnag, roedd Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol unwaith eto wedi rhoi pwyslais ar Gynghorau yn mabwysiadu’r elfen hon o’r fframwaith fel nad oedd Aelodau dan anfantais yn ariannol.

 

Esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd fod Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn cynnig bod y cynnydd o ran cyflog yn dod i rym ar 1 Ebrill 2020, fodd bynnag, awgrymwyd y dylai’r Pwyllgor ystyried a fyddai’n fwy ymarferol i’r cynnydd i daliadau Aelodau ddod i rym wedi cyfarfod blynyddol yr Awdurdod yn hytrach nag ar ddechrau’r flwyddyn ariannol. Dywedodd y byddai hyn hefyd yn mynd i’r afael ag unrhyw newid i swyddi’r Aelodau a oedd yn digwydd ar ôl y Cyfarfod Blynyddol.

 

Siaradodd y Cynghorydd Chris Bithell am rôl a chyfrifoldebau newidiol a chynyddol yr Aelodau Etholedig ac Aelodau Cabinet a dywedodd ei bod ond  ...  view the full Cofnodion text for item 18.

19.

Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu 2018/19 pdf icon PDF 75 KB

Pwrpas:        Ystyried a chymeradwyo Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu ar gyfer 2018/19.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i ystyried a chymeradwyo Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu 2018/19. Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd bod yr Adroddiad Blynyddol yn rhoi sicrwydd i’r Cyngor bod y swyddogaeth Trosolwg a Chraffu yn cyflawni ei rôl gyfansoddiadol.Roedd Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu drafft ar gyfer 2018/19 wedi’i atodi i’r adroddiad. 

 

Cafodd y cais i gymeradwyo Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu ei gynnig gan y Cynghorydd Chris Bithell a’i eilio gan y Cynghorydd Joe Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu 2018/19 sydd wedi’i atodi i’r adroddiad.

20.

Aelodau o'r Cyhoedd A'r Wasg Yn Bresennol

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol.