Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Jan Kelly 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Nodi bod y Cyngor, yn y Cyfarfod Blynyddol, wedi penderfynu y dylid penodi’r Cynghorydd Rob Davies yn Gadeirydd y Pwyllgor

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn y Cyfarfod Blynyddol, nododd y Pwyllgor yn ffurfiol y dylid penodi’r Cynghorydd Rob Davies fel Cadeirydd y Pwyllgor.

2.

Penodi Is-Gadeirydd

Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd y Cadeirydd am enwebiadau ar gyfer swydd yr Is-gadeirydd.   

Cynigiodd y Cynghorydd Bernie Attridge y Cynghorydd Steve Copple.  Eiliodd y Cynghorydd Antony Wren y cynnig hwnnw.

Gan na chafwyd unrhyw enwebiadau eraill, cymeradwywyd hyn yn unfrydol.

 

PENDERFYNWYD:

Penodi’r Cynghorydd Steve Copple yn Is-gadeirydd y Pwyllgor.

 

 

3.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Mewn ymateb i gwestiwn a ofynnwyd gan y Cynghorydd Bernie Attridge, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod eitem rhif 6 ar y Rhaglen yn ymwneud â rolau’r Cynghorwyr, ac na fyddai angen i’r Cynghorwyr ddatgan cysylltiad fel arfer. Yr unig adeg y byddai angen gwneud hynny yw os oedd Cynghorwr wedi’i ganfod yn euog o drosedd yn y gorffennol, gan y byddai mewn sefyllfa wahanol i weddill y pwyllgor ac angen datgan lefel wahanol o gysylltiad i gysylltiad personol.

PENDERFYNWYD:

Ni dderbyniwyd unrhyw Ddatganiadau.

 

4.

Cofnodion pdf icon PDF 87 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 15 Mawrth 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2023 fel y’u cynigiwyd a’u heiliwyd gan y Cynghorwyr Steve Copple ac Ian Hodge.

 

PENDERFYNWYD:

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir.

 

5.

Gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar Gyfer Cynghorwyr pdf icon PDF 112 KB

Cymeradwyo pa Gynghorwyr gaiff wiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Wrth gyflwyno’r adroddiad, amlinellodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) gyd-destun a lefel risg isel y materion a drafodwyd. Cynhaliwyd cryn dipyn o wiriadau yn anffurfiol cyn ethol yr ymgeiswyr, gan gynnwys cam ffurfiol llofnodi’r Datganiad cyn gallu sefyll fel ymgeisydd. Byddai hyn yn cymell rhai pobl i beidio â sefyll. Roedd yn bwysig amddiffyn unigolion diamddiffyn, enw da’r Cyngor a rôl y Cynghorydd.

 

            Amlinellodd y Prif Swyddog lefel y datgeliad y gallai'r Cynghorwyr ei ddisgwyl a’r cymhlethdodau cyfreithiol yr oedd yr adroddiad yn eu cynnwys. Roedd yn gydbwysedd rhwng yr hawl i wybod, preifatrwydd unigolyn ac adsefydlu sydd wedi’i ymgorffori yn y ddeddfwriaeth ac yn cyfyngu ar allu’r Cyngor i gael datgeliad.   Gwelwyd gwybodaeth am y tair lefel o wiriadau ym mhwynt 1.01 yr adroddiad, gyda’r lefel fanwl yn ofynnol ar gyfer y Cabinet a’r Paneli Mabwysiadu a Maethu yn sgil y wybodaeth sensitif a fyddai’n cael ei rhannu. Yna, cyfeiriodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) at bwynt 1.07 yr adroddiad, gan ddweud y dylid cynnal gwiriadau safonol ar gyfer y Cynghorwyr hynny sydd ar y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, gan eu bod yn cyflawni swyddogaethau’r Cyngor. Byddai’r gwiriadau sylfaenol yn ddigonol ar gyfer y Cynghorwyr eraill nad oeddent yn dal unrhyw un o’r rolau hyn.

 

            Eglurwyd y byddai canlyniadau’r gwiriadau’n cael eu hanfon at y Prif Swyddog (Llywodraethu) fel Swyddog Monitro, ac y byddai ef yn sicrhau eu bod yn aros yn gyfrinachol. Fodd bynnag, pe canfyddid bod gan aelod euogfarn a fyddai’n eu gwneud yn anaddas ar gyfer eu rôl, yna byddai trafodaethau’n cael eu cynnal â’r Aelod Cabinet neu’r Arweinydd Gr?p. Nid oedd gan y Prif Swyddog unrhyw awdurdod i benderfynu pwy sy’n eistedd ar y Cabinet na’r Pwyllgorau Craffu; byddai hyn yn dibynnu ar gydweithrediad yr Arweinydd ac Arweinwyr y Grwpiau. Pe canfyddid na ddylai Cynghorydd a gafwyd yn euog o drosedd a’i ddedfrydu i fwy na thri mis yn y carchar fod wedi bod yn gymwys i sefyll yn y lle cyntaf, byddai’r Prif Weithredwr, fel Swyddog Canlyniadau, ac Arweinydd eu Gr?p yn cael eu hysbysu. Golyga hyn y byddent yn cael eu diarddel oherwydd eu heuogfarn, bod eu rôl yn dod yn wag ac y byddai angen cynnal isetholiad. Byddai adroddiad yn cael ei anfon i swyddfa’r Ombwdsmon, gan ddilyn proses a fyddai’n rhoi ystyriaeth annibynnol a diduedd o breifatrwydd yr unigolyn hwnnw. Byddai’r wybodaeth hon yn cael ei chadw’n gyfrinachol, gan gyfyngu ar fynediad yn dilyn canllawiau a osodwyd gan ddeddfwriaeth.

 

            Roedd y Cynghorydd Bernie Attridge yn cefnogi’r adroddiad pwysig iawn hwn yn llawn. Gofynnodd a oedd y Prif Swyddog wedi cymryd cyngor gan Swyddogion Monitro eraill i ganfod beth yr oedd awdurdodau eraill yn ei wneud o ran gwiriadau manwl y DBS, ac a allai CLlLC fynd â hyn i’r lefel nesaf. Awgrymodd hefyd y dylid lobio Llywodraeth Cymru (LlC) er mwyn gallu gwneud newidiadau i’r canllawiau fel bod gwiriadau DBS yn cael eu cynnal ar gyfer pob aelod lleol bob 4 mlynedd.  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Diweddariad Ar Seminarau, Sesiynau Briffio A Gweithdai Aelodau pdf icon PDF 100 KB

Rhoi’rwybodaeth ddiweddaraf i aelodau ynghylch y digwyddiadau ymgysylltu a gynhaliwyd ers yr adroddiad diwethaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Wrth gyflwyno’r adroddiad, cyfeiriodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd at y Rhaglen Gynefino i Aelodau lwyddiannus a gyflwynwyd yn dilyn yr Etholiad diwethaf. Cynigiwyd cyflwyno rhaglen thematig wedi’i thargedu’n fwy manwl y byddai’r Aelodau’n elwa ohoni. Roedd CLlLC yn adolygu eu fframwaith ac yn gobeithio ei ailgyflwyno o fewn y 12 mis nesaf. Amlinellodd Atodiad 1 yr adroddiad y pynciau a drafodwyd yn y sesiynau cynefino, a’r bwriad oedd ailedrych ar rai o’r sesiynau er mwyn eu hadnewyddu a’u diweddaru i gynnwys unrhyw newidiadau a wnaed. Tynnodd sylw’r Aelodau at bwynt 1.05 yr adroddiad a oedd yn amlygu rhai o’r pynciau generig y dylid eu cynnwys yn y rhaglen, gan amlinellu’r pum maes allweddol, sef pynciau seiliedig ar sgiliau, gwybodaeth sefydliadol, moeseg, seiliedig ar wasanaeth neu bwnc a sesiynau rheoleiddio neu dechnegol. Ceisiodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd farn yr Aelodau am y pynciau yr oedden nhw’n meddwl y byddai’n fuddiol eu cynnwys ar y rhaglen hyfforddi.

            Gofynnodd y Cynghorydd Roz Mansell faint y mae’r sesiynau hyfforddi’n ei gostio. Cadarnhawyd y byddai’r sesiynau’n cael eu cyflwyno gan swyddogion penodol, gyda Data Cymru’n darparu sesiynau am ddim ar reoli data a hyfforddiant llythrennedd carbon. Byddai’r sesiynau am ddim, a’r Cyngor yn talu am unrhyw gostau bychain. Byddai’r rhan fwyaf o’r sesiynau’n cael eu cyflwyno’n fewnol.

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Gina Maddison at y polisi Gweithio Ar Eich Pen Eich Hun, gan ofyn a fyddai hwn yn cael ei gynnwys yn yr hyfforddiant Diogelu neu a oedd gan y Cyngor bolisi Gweithio Ar Eich Pen Eich Hun y gellid ei rannu gyda’r Cynghorwyr. Cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd fod CLlLC yn canolbwyntio ar sesiynau ar hyn yn eu Fframwaith. Roedd gan y Cyngor Bolisi Gweithio Ar Eich Pen Eich Hun ar gyfer gwahanol feysydd gwaith, a chytunodd i gynnwys hyn fel Cam Gweithredu. Roedd Iechyd a Diogelwch a Diogelu i Aelodau yn rhan o’r amserlen a’r broses ddatblygu ar gyfer y 12 mis nesaf a thu hwnt.

            Ceisiodd y Cynghorydd Bernie Attridge gadarnhad mai’r Pwyllgor oedd yn clustnodi eitemau ar gyfer y Rhaglen Hyfforddi Aelodau, gan ofyn a fyddai unrhyw sesiynau hyfforddi y cytunwyd arnynt yn cael eu cyflwyno i’r Cyngor llawn eu mabwysiadu. Gofynnodd sut yr oedd Aelodau eraill yn cynnig awgrymiadau ar gyfer eu hanghenion hyfforddi os nad oeddent ar y Pwyllgor hwn, gan nodi bod y Pwyllgor Safonau wedi gofyn am ragor o arweiniad mewn perthynas â’r cyfryngau cymdeithasol. Teimlai ei bod yn bwysig cynnig yr arweiniad hwn cyn gynted ag y bo modd, gan fod y cyfryngau cymdeithasol yn adnodd buddiol i’w ddefnyddio gyda’r arweiniad priodol.

            Adroddodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd fod canllawiau LlC dan Ddeddf Etholiadau Llywodraeth Leol yn nodi mai Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd oedd yn gyfrifol am raglen hyfforddi’r Aelodau. Roedd y Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn amod fod gan Aelodau Gynlluniau Datblygu Unigol a bod eu hamserlen a’u hanghenion hyfforddi’n cael eu hadolygu’n rheolaidd i sicrhau bod y sgiliau cywir gan yr Aelodau.

            Cytunodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) â’r sylwadau a wnaed am y  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 81 KB

Cytunoar eitemau o fusnesau i gael eu trafod mewn cyfarfodydd yn y dyfodol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad, gan gynnig trosolwg o’r eitemau a oedd wedi’u cynnwys ar gyfer y pwyllgor. Anogwyd aelodau'r pwyllgor i awgrymu eitemau pellach i’w cynnwys ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol a fyddai’n cael ei datblygu dros amser.

 

            Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Bernie Attridge a’u heilio gan y Cynghorydd Ian Hodge.

 

PENDERFYNWYD:

(a)     Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y’i diwygiwyd; a

(b)     Rhoi awdurdod i Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

 

 

8.

Members of the public and press in attendance

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol.