Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Nicola Gittins / 01352 702345 E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 30 Mehefin 2021. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Byddai cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ym mis Mehefin yn cael eu hystyried yng nghyfarfod mis Tachwedd.
PENDERFYNWYD:
Cyflwyno cofnodion mis Mehefin i gyfarfod mis Tachwedd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Diwygiadau i God Ymarfer Cynllunio PDF 93 KB Pwrpas: I adolygu Cod Ymarfer Cynllunio yn unol â phenderfyniad y Pwyllgor a’r Cyngor yn gynharach yn y flwyddyn. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro yr adroddiad gan egluro bod y Pwyllgor wedi ystyried ym mis Mawrth 2021 adolygu’r Protocol ar gyfer Cyfarfod Contractwyr, fel rhan o adolygiad treigl y Pwyllgor o Gyfansoddiad y Cyngor. Cafodd y rhannau o’r Protocol oedd yn ymwneud ag Aelodau a’u Trafodion â Chontractwyr/Datblygwyr a Thrydydd Parti eraill a allai fod yn ymgeisio neu’n ceisio contract gyda’r Cyngor eu diweddaru.
Penderfynodd y Pwyllgor y dylai’r rhannau o’r Protocol ar gyfer Cyfarfodydd â Chontractwyr oedd yn rhoi cyngor o ran Datblygwyr gael eu cynnwys yn y Cod Ymarfer Cynllunio ac y dylid ei ddiweddaru’n briodol.
Yng nghyfarfod y Cyngor ym mis Ebrill 2021, pan gafodd y Protocol diwygiedig ei gymeradwyo, gofynnodd Aelodau hefyd am i gyngor gael ei ychwanegu at y Cod Ymarfer Cynllunio ar y broses ymgynghoriad cyn ymgeisio.
Ystyriodd y Gr?p Strategaeth Cynllunio y newidiadau arfaethedig uchod i’r Cod Ymarfer Cynllunio ar 13 Mai 2021 a 10 Mehefin 2021 a gwnaed nifer o addasiadau ychwanegol, fyddai o gymorth i Aelodau oedd yn rhan o’r broses gynllunio. Yn ychwanegol, cynigiodd y Pwyllgor Safonau ddiwygiadau ychwanegol pellach ar 5 Gorffennaf 2021. Cafodd yr holl ddiwygiadau hyn eu hatodi i’r adroddiad.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, eglurodd y Dirprwy Swyddog Monitro nad yw’n ofynnol i holl Aelodau’r Pwyllgor Cynllunio gael holl fanylion y cynnig yn y cyfnod ymgynghori statudol cyn ymgeisio. Dylid cysylltu â’r Aelodau Lleol fel y gallant gynghori am unrhyw faterion lleol i helpu’r datblygwr baratoi’r cais. Roedd angen i Aelodau’r Pwyllgor Cynllunio gael eu gweld i fod yn ddiduedd gyda datblygwyr.
Wrth ymateb i gwestiwn arall, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu), os bydd y cymydog yn gofyn i Aelod edrych ar y safle o’i eiddo yn ystod ymweliad safle, ni fyddai hyn yn dderbyniol dim ond os byddai pob Aelod ar yr ymweliad safle yn mynd i weld y safle. Yn ychwanegol, ni ddylai ymweliadau safle gynnwys sgyrsiau ag aelodau o'r cyhoedd.
Gofynnodd y Cynghorydd Bithell am wybodaeth am y broses apeliadau. Eglurodd y Dirprwy Swyddog Monitro bod y cynigwyr ac eilydd y cynnig yn erbyn argymhelliad y swyddogion yn cael eu gwahodd i gyfarfod â’r Swyddog Cynllunio perthnasol i baratoi datganiad mewn ymateb i apêl.
Gofynnodd y Cynghorydd Bithell a ellid rhoi unrhyw fanylion yn adran 15, Cwynion. Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y gellid cynnwys y Weithdrefn Gwynion Gyhoeddus. Roedd proses uwchgyfeirio ar gyfer Cynghorwyr oedd wedi codi mater a heb gael ymateb, ond ni fyddai’r manylion hyn yn cael eu rhoi mewn dogfen gyhoeddus. Gofynnodd hefyd a ellid cynnwys adran yn y Cod Ymarfer Cynllunio i egluro y gellir darparu cyflwyniadau ysgrifenedig ymlaen llaw gan yr ymgeisydd, y sawl sydd o blaid y cais a’r sawl sydd yn erbyn y cais, i sicrhau bod eu datganiad yn gallu cael ei ddarllen ar eu rhan gan swyddog os na fyddant yn gallu mynychu’r cyfarfod.
Awgrymodd y Cynghorydd Peers y dylai’r geiriad “pan ofynnir amdano, dylid darparu cymorth o’r fath yn brydlon”, gael ei gynnwys yn adran 2.4.2.
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyflwyniad i Aelodau ar gyfer 2022 PDF 87 KB Pwrpas: Gwahodd y pwyllgor i ystyried a chyfrannu at y rhaglen ddrafft sy’n cael ei datblygu. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad ac eglurodd, ar ôl etholiadau’r Cyngor cyfan, oedd yn digwydd ar gylch pum mlynedd, roedd Rhaglen Gynefino i Aelodau yn cael ei chynnig. Bwriad y rhaglen oedd cynnwys Aelodau newydd a’r rhai sy’n dychwelyd.
I Aelodau newydd, byddai’r pwyslais ar roi cyflwyniad i’w rôl newydd a rhannu gwybodaeth i’w galluogi i ddechrau eu datblygiad fel Cynghorydd.
I Aelodau sy’n dychwelyd, y nod fyddai adnewyddu gwybodaeth, rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf a sgiliau ychwanegol pan fo angen.
Roedd y Rhaglen wedi cael ei chyflwyno i Arweinwyr Gr?p ble’r oedd yn cael ei gefnogi.
Gofynnodd y Cynghorydd Bithell a oedd angen cyhoeddi dyfeisiau RSA i Aelodau o hyd. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd bod y dyfeisiau RSA yn cael eu hadeiladu i’r gliniaduron oedd yn cael eu cyhoeddi i Aelodau erbyn hyn. Mewn ymateb i gwestiwn arall, eglurodd y byddai’r ‘Pwy yw Pwy’ yn rhoi manylion yr uwch swyddogion. Byddai manylion cyswllt swyddogion eraill ar gael ar yr Infonet. Cydnabuwyd y byddai angen amserlen i gyflwyno Aelodau i gyfarfodydd dros y we. Gofynnodd y Cynghorydd Bithell am wybodaeth ynghylch sut gallai Aelodau eu diogelu eu hunain. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod y ddogfen yn cael ei diweddaru ac y byddai’n cael ei chylchredeg i’r holl Aelodau. Mewn ymateb i sylw ar broblemau TG, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y byddai Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a’r Arweinydd Tîm - Gwasanaethau Democrataidd yn rhoi manylion gwasanaeth trywydd cyflym sydd ar gael i Aelodau wrth gysylltu â’r Ddesg Gymorth TG. Awgrymwyd y dylid rhannu’r amserlen gynefino ag ymgeiswyr cyn yr etholiad.
Roedd y Cynghorydd Smith yn croesawu’r sesiynau gyda’r nos.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Chris Bithell a’u heilio gan y Cynghorydd Ian Smith.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r sylwadau ar Raglen Gynefino Aelodau 2022; a
(b) Cyflwyno’r awgrymiadau i’w cynnwys yn y Rhaglen Gynefino Aelodau i Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Diweddariad ar Seminarau, Sesiynau Briffio a Gweithdai Aelodau PDF 78 KB Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ynghylch y digwyddiadau ymgysylltu a gynhaliwyd ers yr adroddiad diwethaf. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad ac eglurodd ei fod yn rhoi manylion am y digwyddiadau a gynhaliwyd ers y cyfarfod diwethaf ym mis Mawrth 2021 a’r rhai oedd ar y gweill.
Yn y tabl a ganlyn, mae’r digwyddiadau ymgysylltu a gynhaliwyd ers y diweddariad diwethaf, yn cynnwys tri digwyddiad a oedd heb eu cynnal eto, a hefyd nifer yr Aelodau oedd yn bresennol fel y cytunwyd yn y cyfarfod diwethaf:
Gwahoddodd Aelodau i gysylltu ag ef gydag unrhyw awgrymiadau yr oeddent yn dymuno eu cyflwyno ar gyfer digwyddiadau datblygu Aelodau yn y dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd Bithell y byddai’n hoffi cael hyfforddiant ar y meddalwedd Cynllunio newydd cyn gynted y bydd ar gael.
Cynigiodd y Cynghorydd Joe Johnson yr argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd gan y Cynghorydd Bob Connah.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r cynnydd gyda’r Gweithdai, Sesiynau Briffio a’r Seminarau i Aelodau ers yr adroddiad diwethaf; a
(b) Cyflwyno unrhyw awgrymiadau ar gyfer Gweithdai, Sesiynau Briffio neu Seminarau i Aelodau yn y dyfodol i Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Members of the public and press in attendance Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol. |