Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

26.

Datgan Cysylltiad

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

27.

Sylwadau Hwyr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i Aelodau ddarllen y sylwadau hwyr a oedd wedi eu dosbarthu cyn y cyfarfod ac a oedd wedi eu hatodi i’r eitem yn y rhaglen ar wefan y Cyngor:

 

https://committeemeetings.flintshire.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=490&MId=5496&LLL=0

Oct Late Obs pdf icon PDF 76 KB

Dogfennau ychwanegol:

28.

Cofnodion pdf icon PDF 67 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 27 Medi 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Medi 2023 yn gofnod cywir, ar ôl i’r Cynghorwyr Bernie Attridge a Chris Bithell eu cynnig a’u heilio.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir.

29.

Eitemau i'w gohirio

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni argymhellwyd gohirio dim un o’r eitemau.

30.

Adroddiad y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi)

Mae adroddiad y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi) yn amgaeedig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cofnodi’r penderfyniadau fel maent ar y rhestr o Geisiadau Cynllunio sydd wedi’i chynnwys fel atodiad.

30a

FUL/000001/23 - C - Cais llawn - datblygiad o 20 fflatiau bwthyn un ystafell wely, 3 t? dwy ystafell wely a 7 t? tair ystafell wely, gyda gwaith tirlunio cysylltiedig, a mynediad i gerbydau yng nghyn Ganolfan Arddio'r Sbectrum, Ffordd Wrecsam, Cefn-y-Bedd pdf icon PDF 140 KB

As in report

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol ag argymhelliad y swyddog, rhoi caniatâd cynllunio yn ddibynnol ar Rwymedigaeth Adran 106 a’r amodau a restrir yn yr adroddiad gydag amod ychwanegol fel a ganlyn:

 

Amod 21

Cyn eu gosod, dylid cyflwyno manylion llawn goleuadau a derbyn cytundeb ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Fe ddylai’r Cynllun Goleuadau gynnwys:  Manylion lleoliad a’r mathau o oleuadau a ddefnyddir Manylion y tafliad golau mewnol Cynlluniau’n amlinellu’r tafliad golau ar hyd Afon Cegidog Manylion y goleuadau a ddefnyddir yn ystod y gwaith adeiladu a gweithredu Mesurau i fonitro tafliad golau unwaith y bydd y datblygiad yn weithredol Dylid gosod a chadw’r goleuadau fel y cawsant eu cymeradwyo.

6.1 FUL-1-23 - Reduced Size Pics pdf icon PDF 9 MB

Dogfennau ychwanegol:

30b

063093 - C - Materion a gedwir yn ôl - Cais ar gyfer cymeradwyo materion a gadwyd yn ôl, yn dilyn caniatâd amlinellol Cyf; 053325 yn 1 Ffordd Rhuthun, Gwernymynydd pdf icon PDF 113 KB

As in report

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol ag argymhelliad y swyddog, rhoi caniatâd cynllunio yn ddibynnol ar yr amodau a restrir yn yr adroddiad a’i ddiwygio fel a ganlyn:

 

Amod 8 i nodi:

Cyn datblygu, bydd cynlluniau cychwynnol yn dangos lefelau topograffeg ac adrannau hydredol y safle, yn ogystal â manylion unrhyw strwythurau sydd eu hangen, yn cael eu cyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol i’w cymeradwyo. 

 

Ar ôl eu cymeradwyo, bydd yn rhaid i'r datblygiad gael ei wneud yn unol â'r manylion a gymeradwyir.

 

Amod 9 i nodi:

Er gwaethaf y manylion a gymeradwyir drwy hyn, bydd cynllun goleuadau allanol yn cael ei gyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol i’w gymeradwyo’n ysgrifenedig cyn y bydd unrhyw un yn meddiannu’r anheddau.  Ar ôl derbyn cymeradwyaeth ysgrifenedig, bydd yn rhaid i unrhyw oleuadau allanol gydymffurfio â’r manylion cymeradwy.

6.2 063093 - Reduced Size Pics pdf icon PDF 11 MB

Dogfennau ychwanegol:

30c

FUL/000240/23 - C - Cais llawn - Cadw t? tafarn presennol a chodi dwy annedd tair ystafell wely (Defnydd Dosbarth C3), gan ddefnyddio mynediad presennol Kinnerton Lane, gyda pharcio cysylltiedig, tirlunio meddal a chaled, gan gynnwys ail ddylunio maes parcio'r t? tafarn yn y Royal Oak, Kinnerton Lane, Higher Kinnerton pdf icon PDF 102 KB

As in report

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwrthod rhoi caniatâd cynllunio, yn groes i argymhelliad y swyddog, am y rhesymau canlynol:

 

·           Effaith ar yr amgylchedd yn sgil colli coed.

·           Effaith ar amwynder yn sgil preswylwyr newydd yn bacio i’r maes parcio.

·           Effaith ar hyfywedd y dafarn.

·           Cerbydau’n parcio ar y briffordd gyfagos yn sgil diffyg llefydd parcio.

6.3 FUL-240-23 - Reduced Size Pics pdf icon PDF 16 MB

Dogfennau ychwanegol:

31.

AELODAU O'R CYHOEDD A'R WASG HEFYD YN BRESENNOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd saith aelod o’r cyhoedd yn bresennol ar ddechrau’r cyfarfod.