Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod hybrid

Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

14.

Datgan Cysylltiad

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cadeirydd gysylltiad personol gydag eitem rhif 6.1 ar y rhaglen (FUL/000077/22), gan fod wedi cael cyswllt, ar fwy na dri achlysur, gydag aelodau o’r cyhoedd a’r ymgeisydd, ond heb ymateb i’r negeseuon.

 

Dywedodd y Cyfreithiwr wrth y Pwyllgor bod y rheoliadau ar ddatgan cysylltiad wedi newid i adlewyrchu’r ‘cyswllt sylweddol’ ar geisiadau cynllunio mewn perthynas ag Aelod yn derbyn gohebiaeth pedwar neu ragor o weithiau gan yr ymgeisydd, neu’r gwrthwynebydd, ar lafar, neu’n ysgrifenedig.

15.

Sylwadau Hwyr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i Aelodau ddarllen y sylwadau hwyr a oedd wedi eu dosbarthu cyn y cyfarfod ac a oedd wedi eu hatodi i’r eitem yn y rhaglen ar wefan y Cyngor:

 

https://committeemeetings.flintshire.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=490&MId=5494&LLL=0

Sylwadau Hwyr pdf icon PDF 82 KB

Dogfennau ychwanegol:

16.

Cofnodion pdf icon PDF 59 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 19 Gorffennaf 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf 2023 yn gofnod cywir, ar ôl i’r Cynghorwyr Mike Peters a Richard Jones.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir.

17.

Eitemau i'w gohirio

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynghorodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) bod eitemau rhif 6.3 a 6.4 ar y rhaglen yn cael eu hargymell i’w gohirio oherwydd problemau ar yr ymweliad safle, ac i ddatrys materion technegol ar lefelau safle arfaethedig a threfniadau mynediad ar gyfer parcio.  Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Chris Bithell a Mike Peers.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod eitemau rhif 6.3 a 6.4 ar y rhaglen (FUL/000621/23 a CONS/000790/22) yn cael eu gohirio i ddatrys materion mynediad a thechnegol, ac i alluogi ymweliad safle pellach, ac adroddiad diwygiedig ar gyfer dyddiad yn y dyfodol.

18.

Mae adroddiad y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi)

Mae adroddiad y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi) yn amgaeedig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Cofnodi’r penderfyniadau fel maent ar y rhestr o Geisiadau Cynllunio sydd wedi’i chynnwys fel atodiad.

18a

FUL/000077/22 - C - Cais llawn - Codi 21 annedd fforddiadwy gyda mynediad i'r briffordd y gellir ei mabwysiadu yn Ffordd Rhewl Fawr , Penyffordd, Treffynnon pdf icon PDF 186 KB

As in report

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoi caniatâd cynllunio yn ddibynnol ar Rwymedigaeth Adran 106 a’r amodau a restrir yn yr adroddiad yn unol ag argymhelliad y swyddog.

6.1 FUL-77-22 Reduced Size Pics pdf icon PDF 4 MB

Dogfennau ychwanegol:

18b

OUT/000042/22 - C - Cais aminellol - Dymchwel annedd bresennol a chodi bloc o bedwar rhandy preswyl, gydag un yn fforddiadwy, ynghyd â'r gwaith cysylltiedig yn Lornell, Halkyn Street, , Treffynnon pdf icon PDF 80 KB

As in report

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoi caniatâd cynllunio yn ddibynnol ar yr amodau a restrir yn yr adroddiad yn unol ag argymhelliad y swyddog.

6.2 OUT-42-22 Reduced Size Pics- pdf icon PDF 4 MB

Dogfennau ychwanegol:

18c

FUL/000621/23 - C - Cais llawn - Trawsnewid a chodi estyniad i adeilad allan i ffurfio swyddfa gartref a champfa, dymchwel rhan o wal ffin i greu man parcio oddi ar y stryd gyda phwynt gwefru cerbyd trydan yn Arweinfa, Gwaenysgor pdf icon PDF 132 KB

As in report

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bod y cais yn cael ei ohirio i ddatrys materion mynediad a thechnegol, ac i alluogi ymweliad safle pellach, ac adroddiad diwygiedig ar gyfer dyddiad yn y dyfodol.

6.3 FUL-621-23 Reduced Size Pics pdf icon PDF 410 KB

Dogfennau ychwanegol:

18d

CONS/000790/22 - C - Cais ardal gadwraeth - Trawsnewid a chodi estyniad i adeilad allan i ffurfio swyddfa gartref a champfa; a dymchwel rhan o wal ffin i greu man parcio oddi ar y stryd gyda phwynt gwefru cerbyd trydan yn Arweinfa, Gwaenysgor pdf icon PDF 111 KB

As in report

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bod y cais yn cael ei ohirio i ddatrys materion mynediad a thechnegol, ac i alluogi ymweliad safle pellach, ac adroddiad diwygiedig ar gyfer dyddiad yn y dyfodol.

6.4 CONS-790-22 Reduced Size Pics pdf icon PDF 410 KB

Dogfennau ychwanegol:

18e

063810 - Cais llawn - Adeiladu 12 caban gwyliau, derbynfa/swyddfa a gweithdy/storfa gyfarpar ym Mharc Gwledig Llaneurgain, Llaneurgain pdf icon PDF 244 KB

As in report

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bod y cais yn cael ei gyfeirio’n ôl i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru i nodi nad yw’r Pwyllgor yn cefnogi’r argymhelliad i roi caniatâd cynllunio am y rhesymau canlynol:

 

·         Nid yw manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yn gorbwyso’r niwed amgylcheddol a’r problemau o ran iechyd y cyhoedd.

·         Nid oes modd cyfiawnhau’r cais yn y lleoliad hwn.

·         Effaith gronnus hyn, a’r datblygiad arfaethedig arall.

·         O ganlyniad, nid yw’r cais yn cefnogi amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gen Matters - 063810 Reduced size pics pdf icon PDF 10 MB

Dogfennau ychwanegol:

19.

AELODAU O'R CYHOEDD A'R WASG HEFYD YN BRESENNOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd naw aelod o’r cyhoedd yn bresennol ar ddechrau’r cyfarfod.