Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

8.

Datgan Cysylltiad

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cyng. Hilary McGuill gysylltiad personol ag eitem 6.2 – (061368) Newid defnydd tir i ddefnydd preswyl (Cymuned Teithwyr Sipsi), y safle i gynnwys un garafán statig, un garafán deithiol, gwaith trin d?r a lle parcio i ddau gar a llawr caled ac isadeiledd cysylltiedig ar dir wrth ymyl Ashwood House, Church Lane, Aston Hill, Ewlo, Glannau Dyfrdwy, CH5 3BF. Eglurodd y Cyng. McGuill ei bod yn aelod o fwrdd New Homes a bod gan New Homes ddiddordeb yn y tir wrth ymyl y safle.

 

Hefyd, datganodd y Cynghr. Bernie Attridge a Ted Palmer gysylltiad personol ag eitem 6.2 (061368) gan fod gwrthwynebwyr wedi cysylltu â nhw ar sawl achlysur.

 

9.

Sylwadau Hwyr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r Aelodau ddarllen y sylwadau hwyr a oedd wedi’u dosbarthu cyn y cyfarfod a’u hatodi i’r eitem ar y rhaglen ar wefan y Cyngor:

 

https://cyfarfodyddpwyllgor.siryfflint.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=490&MId=4999&Ver=4&LLL=1

 

Sylwadau Hwyr pdf icon PDF 92 KB

Dogfennau ychwanegol:

10.

Cofnodion pdf icon PDF 66 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar  15 Mehefin 2022.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2022.

 

Cywirdeb:

Y Cyng. Richard Lloyd a gadeiriodd y cyfarfod ond mae wedi’i gofnodi fel Is-Gadeirydd yn Cadeirio dan yr eitem ar bresenoldeb.

Dywedodd y Cyng. Ted Palmer ei fod yn bresennol yn y cyfarfod a gofynnodd bod ei bresenoldeb yn cael ei nodi.

 

Yn amodol ar y newidiadau uchod cynigiodd ac eiliodd y Cynghr. Hilary McGuill a Paul Johnson fod y cofnodion yn gywir.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y newidiadau uchod, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir.

 

11.

Eitemau i'w gohirio

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Argymhellodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) y dylid gohirio eitem 6.2 – (061368) Newid defnydd tir i ddefnydd preswyl (Cymuned Teithwyr Sipsi), y safle i gynnwys un garafán statig, un garafán deithiol, gwaith trin d?r a lle parcio i ddau gar a llawr caled ac isadeiledd cysylltiedig ar dir wrth ymyl Ashwood House, Church Lane, Aston Hill, Ewlo, Glannau Dyfrdwy, CH5 3BF. Argymhellodd y Prif Swyddog y dylid gohirio’r eitem oherwydd y sylwadau hwyr a dderbyniwyd ar ran y gwrthwynebwyr ar ôl cyhoeddi’r rhaglen. Roedd y sylwadau yn nodi materion nad oedd modd mynd i’r afael â nhw cyn i’r Pwyllgor ystyried yr adroddiad.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cyng. Chris Bithell a’i eilio gan y Cyng. Mike Peers. Wrth fynd i bleidlais, cytunwyd i ohirio’r eitem.

 

PENDERFYNWYD:

 

Gohirio eitem 6.2 – (061368) Newid defnydd tir i ddefnydd preswyl (Cymuned Teithwyr Sipsi), y safle i gynnwys un garafán statig, un garafán deithiol, gwaith trin d?r a lle parcio i ddau gar a llawr caled ac isadeiledd cysylltiedig ar dir wrth ymyl Ashwood House, Church Lane, Aston Hill, Ewlo, Glannau Dyfrdwy, CH5 3BF.

 

12.

Mae adroddiad y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi

Mae adroddiad y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi) yn amgaeedig.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Cofnodi’r penderfyniadau fel y dangosir ar amserlen y Ceisiadau Cynllunio sydd wedi’i chynnwys fel atodiad.

 

12a

064256 - C -CAIS LLAWN AR GYFER ADDASU ATIG DORMER GYDAG ESTYNIAD UNLLAWR YN 26 FFORDD MUIRFIELD, BWCLE pdf icon PDF 88 KB

As in report

Dogfennau ychwanegol:

12b

061368 - C - NEWID DEFNYDD O DIR I DIR PRESWYL (CYMUNED SIPSIWN A THEITHWYR). Y SAFLE I GYNNWYS UN CARAFAN STATIG, UN CARAFAN DEITHIOL, OFFER TRIN D?R A PHARCIO I DDAU GAR GYDAG ARWYNEB CALED A SEILWAITH CYSYLLTIOL YN LÔN YR EGLWYS, EWLO. pdf icon PDF 148 KB

As in report

Dogfennau ychwanegol:

12c

061388 - C - Amlinellol - Dymchwel hen orsaf heddlu ac adeiladau cwrtil a chodi 10 fflat newydd a lle parcio cysylltiedig yng Ngorsaf yr Heddlu Bwcle, Ffordd Yr Wyddgrug, Bwcle. pdf icon PDF 106 KB

As in Report

Dogfennau ychwanegol:

12d

064316 - C - OSI EIDDO PRESWYL PRESENNOL I FFURFIO 7 T? AMLFEDDIANNAETH YN Y PRESBYTERI PABYDDOL, FFORDD BRUNSWICK, BWCLE pdf icon PDF 117 KB

As in report

Dogfennau ychwanegol:

13.

AELODAU O'R CYHOEDD A'R WASG HEFYD YN BRESENNOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

 

 

(Dechreuodd y cyfarfod am 1.00 pm a daeth i ben am 2.41 pm)

 

 

 

 

…………………………

Y Cadeirydd

 

 

Caiff cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio eu gweddarlledu, a gellir eu gwylio drwy ymweld â’r llyfrgell gweddarllediadau yn:http://flintshire.public-i.tv/core/portal/home