Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

44.

SYLWADAU AGORIADOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn ôl cais y Cadeirydd, Aelodau'r Pwyllgor a'r swyddogion, bu iddynt godi mewn tawelwch fel teyrnged i Peter Evans, y cyn Rheolwr Democrataidd a Llywodraethu, a fu farw.

45.

Datgan Cysylltiad

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar eitem agenda 6.3 (060336), nid oedd gan y Cynghorydd Christine Jones unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu, fodd bynnag roedd wedi siarad yn gyhoeddus i gefnogi'r cais.  Felly, bydd yn siarad am yr eitem a gadael yr ystafell cyn y drafodaeth ac yn pleidleisio ar yr eitem hon.

46.

Sylwadau Hwyr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r Aelodau ddarllen y sylwadau hwyr a rannwyd yn ystod y cyfarfod ac a oedd wedi eu hatodi i'r rhaglen ar wefan y Cyngor:

 

http://committeemeetings.flintshire.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=490&MId=4509&LLL=0

Sylwadau Hwyr pdf icon PDF 134 KB

Dogfennau ychwanegol:

47.

Cofnodion pdf icon PDF 71 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 4 Rhagfyr 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion drafft y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr 2019 yn gofnod cywir, cynigiwyd ac eiliwyd gan y Cynghorwyr Lloyd a Bithell.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel rhai gwir a chywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

48.

Eitemau i'w gohirio

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi) bod yr eitem ganlynol wedi’i hargymell i’w gohirio, oherwydd problem gyda pherchnogaeth tir sydd wedi dod i sylw'r swyddogion.  Os y cytunir ar ohirio, bydd yr eitem yn dod yn ôl i'r Pwyllgor ar ôl cyflwyno hysbysiadau priodol a bod y mater wedi’i ddatrys.

 

Eitem Agenda 6.2 – Cais llawn – Trawsnewid Bwyty/ Bar nas defnyddir bellach i 13  o Fflatiau/ Rhandai yn 14 Lôn Y Felin, Bwcle (060374)

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bithell y gohiriad ac eiliwyd gan y Cynghorydd Dunbar. Pan gynhaliwyd y bleidlais cafodd yr eitem ei gohirio.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Peers a fydd yr adroddiad, pan fydd yn cael ei ailgyflwyno, yn mynd i’r afael â phryderon a rhai hynny gan y Cynghorydd Hutchinson fel Aelod lleol arall, ac i gynnwys ymateb gan adran Priffyrdd.  Roedd ei bryderon ynghylch y llwybr troed sydd ar goll a materion arall a godwyd yn yr ymweliad safle. Siaradodd y Cynghorydd Richard Jones o blaid y cais hwn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod eitem rhif 6.2 (060374) ar y rhaglen yn cael ei ohirio i gyfarfod nesaf y Pwyllgor am y rheswm a nodwyd.

49.

ADRODDIAD Y PRIF SWYDDOG (CYNLLUNIO, AMGYLCHEDD AC ECONOMI)

Mae adroddiad y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi) yn amgaeedig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Cofnodi’r penderfyniadau fel y’i cyflwynwyd ar y rhestr o Geisiadau Cynllunio sydd ynghlwm wrth atodiad.

50.

AELODAU O'R CYHOEDD A'R WASG YN BRESENNOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ddechrau’r cyfarfod roedd 10 aelod o’r cyhoedd yn bresennol.

50a

060360 - A - Cais Llawn - Adeiladu 2 fyngalo dwy ystafell wely a garej ddwbl ar wahân yn Greystones, Ffrwd Road, Cefn-y-Bedd, Wrecsam. pdf icon PDF 112 KB

As in report.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

 

Rhoi caniatâd cynllunio ar yr amod fod yr ymgeisydd yn derbyn Rhwymedigaeth Adran 106 ac yn ddibynnol ar yr amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad, yn unol ag argymhelliad y swyddog.

50b

060374 - A - Cais Llawn - Trawsnewid bwyty/bar gwag i 13 o fflatiau/rhandai yn 14 Lôn Y Felin, Bwcle. pdf icon PDF 112 KB

As in report.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

 

GOHIRIWYD – iddatrys y materion ynghylch tystysgrif perchnogaeth tir a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd.

50c

060336 - A - Cais Llawn - Estyniad newydd 32 ystafell wely i gyfleuster cartref gofal presennol ac ardaloedd gweinyddol/gwasanaeth cysylltiedig, gyda gwaith tirlunio allanol yn Marleyfield House, Nant Mawr Road, Bwcle. pdf icon PDF 90 KB

As in report.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

 

Rhoi caniatâd cynllunio yn ddibynnol ar yr amodau a restrir yn yr adroddiad yn unol ag argymhelliad y swyddog.

50d

060222 - A - Cais i gymeradwyo materion a gadwyd yn ôl yn dilyn cymeradwyaeth amlinellol (058990) yn RAF Sealand South Camp, Welsh Road, Sealand. pdf icon PDF 111 KB

As in report.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

 

Rhoi caniatâd cynllunio yn ddibynnol ar yr amodau a restrir yn yr adroddiad yn unol ag argymhelliad y swyddog.