Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

38.

Datgan Cysylltiad

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Attridge gysylltiad personol yn eitem 6.2 ar y rhaglen (060048) gan fod gwrthwynebwyr wedi cysylltu ag o ar fwy na thri achlysur.

 

Datganodd y Cynghorydd Peers gysylltiad personol sy’n rhagfarnu yn eitem 6.4 ar y rhaglen (059665), gan ei fod yn llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Heol y Mynydd a fyddai’n elwa o gyfraniad ariannol addysg petai’r Pwyllgor yn rhoi caniatâd. Roedd gan ei gyd-aelod ward gysylltiad materol yn y cais. Felly gadawodd yr ystafell cyn y drafodaeth a phleidlais ar yr eitem hon.

 

Yn ystod y drafodaeth am eitem 6.1 ar y rhaglen (060356), dywedodd y Cynghorydd Kevin Hughes ei fod yn adnabod yr ymgeisydd o ychydig flynyddoedd yn ôl. Fe eglurodd fod yr ymgeisydd wedi chwarae pêl-droed mewn tîm dan 12 yr oedd wedi’i reoli ac roedd yn credu ei fod dal yn ffrindiau gyda’i fab.

 

Cyn y drafodaeth am eitem 6.3 ar y rhaglen (059568), datganodd y Cynghorydd Butler cysylltiad personol sy’n rhagfarnu gan ei fod yn aelod o Gyd-bwyllgor Cynghori Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd oedd wedi cyflwyno sylwadau yn erbyn y cais. Felly gadawodd yr ystafell cyn y drafodaeth a phleidlais ar yr eitem hon.

39.

Sylwadau Hwyr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r Aelodau ddarllen y sylwadau hwyr a ddosbarthwyd yn y cyfarfod, ac yr oedd wedi’u hatodi i’r agenda ar wefan Cyngor Sir Y Fflint:

 

http://committeemeetings.flintshire.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=490&MId=4475&LLL=0

 

Sylwadau Hwyr pdf icon PDF 141 KB

Dogfennau ychwanegol:

40.

Cofnodion pdf icon PDF 64 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 6ed Tachwedd, 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion drafft y cyfarfod ar 6 Tachwedd 2019 eu cyflwyno a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y cofnodion yn cael eu cymeradwyo a’u llofnodi gan y Cadeirydd fel cofnod cywir.

41.

Eitemau i'w gohirio

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd dim eitemau wedi'u hargymell gan swyddogion i'w gohirio.

42.

Adroddiad Y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd Ac Economi)

Mae adroddiad y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi) yn amgaeedig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Bod y penderfyniadau hynny yn cael eu cofnodi fel y dengys yn yr atodlen Cais Cynllunio sydd ynghlwm fel atodiad.

42a

060356 - A - Cais Llawn - Codi estyniad dau lawr i annedd yn Nhy Cornel, Park Grove, Cei Connah. pdf icon PDF 104 KB

As in report.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoi caniatâd cynllunio yn ddibynnol ar yr amodau a restrir yn yr adroddiad yn unol ag argymhelliad y swyddog.

42b

060048 - A - Cais llawn - Dymchwel adeiladau mynachlog, St. Damien's lodge a'r adeiladau allanol cysylltiedig ac ailddatblygu'r safle gyda 15 o dai ym Mynachlog Poor Clare Collettine, Upper Aston Hall Lane, Penarlâg. pdf icon PDF 154 KB

WELSH To receive a report for testing.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwrthod rhoi caniatâd cynllunio, yn groes i argymhelliad swyddog, ar y sail ganlynol:

Roedd y cynigion gyfystyr â datblygiad amhriodol yn y Rhwystr Glas a chefn gwlad agored, ac nid oedd ‘amgylchiadau eithriadol iawn’ yn adran 7.21 o’r adroddiad wedi’u hystyried yn ddigonol i roi caniatâd.

060048 Revised Plan pdf icon PDF 386 KB

Dogfennau ychwanegol:

42c

059568 - R - Cais Amlinellol ar gyfer adeiladu annedd gweithwyr amaethyddol ar Fferm Maes Alyn, Ffordd Loggerheads, Cilcain. pdf icon PDF 121 KB

As in report.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoi caniatâd cynllunio, yn erbyn argymhelliad y swyddog, yn ddarostyngedig ar amodau priodol a/neu Rwymedigaeth A106. Bydd amodau o’r fath yn cael eu dirprwyo i’r Prif Swyddog i benderfynu ar y cyd â’r ymgeisydd a’r Aelod Lleol. Adroddiad ar yr amodau i’w gyflwyno gerbron y Pwyllgor Cynllunio yn y dyfodol.

42d

059665 - A - Cais i gymeradwyo materion a gadwyd yn ôl yn dilyn cymeradwyaeth amlinellol 055936 yn Hillcrest, Mount Pleasant Road, Bwcle. pdf icon PDF 104 KB

As in report.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoi caniatâd cynllunio yn ddibynnol ar yr amodau a restrir yn yr adroddiad yn unol ag argymhelliad y swyddog.

42e

060478 - A - Cais Llawn - Ymestyn Strwythur Gwaith Cemegol presennol (Y Safle AED) i gynnwys offer prosesu newydd yn Warwick International Ltd, Coast Road, Mostyn. pdf icon PDF 80 KB

As in report

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoi caniatâd cynllunio yn ddibynnol ar yr amodau a restrir yn yr adroddiad yn unol ag argymhelliad y swyddog.

42f

060052 - Apêl gan V.Davies yn erbyn penderfyniad Cyngor Sir y Fflint i wrthod caniatâd cynllunio ar gyfer adeiladu estyniad llawr cyntaf i gefn 23 Alyn Bank, Heol y Brenin, Yr Wyddgrug - GWRTHODWYD. pdf icon PDF 66 KB

As in report.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nodwyd.

43.

AELODAU O'R CYHOEDD A'R WASG YN BRESENNOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd 23 aelod o’r cyhoedd yn bresennol ar ddechrau’r cyfarfod.