Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

50.

Datgan Cysylltiad

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Derek Butler gysylltiad personol mewn perthynas ag eitem 6.1 ar y rhaglen (063337) gan ei fod yn aelod o Fwrdd Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd ond nid oedd yn aelod o’r Cydbwyllgor a oedd wedi cyflwyno sylwadau ar y cais.   Ar y sail honno, byddai’n cymryd rhan yn y drafodaeth ac yn pleidleisio.

51.

Sylwadau Hwyr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r Aelodau ddarllen y sylwadau hwyr a oedd wedi eu dosbarthu cyn y cyfarfod ac wedi eu hatodi i’r rhaglen ar wefan Cyngor Sir y Fflint:

 

https://committeemeetings.flintshire.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=490&MId=4995&LLL=0

Late Observations 2.2.2022 pdf icon PDF 270 KB

Dogfennau ychwanegol:

52.

Cofnodion pdf icon PDF 62 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 12 Ionawr 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion drafft y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Ionawr 2022 yn gofnod cywir, ar ôl i’r Cynghorwyr Richard Lloyd ac Ian Dunbar eu cynnig a’u heilio.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn y cofnodion fel cofnod cywir a phriodol.

53.

Eitemau i'w gohirio

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni argymhellwyd gohirio dim un o’r eitemau.

54.

Mae adroddiad y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi)

Mae adroddiad y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi) yn amgaeedig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Cofnodi’r penderfyniadau fel y dangosir ar amserlen y Ceisiadau Cynllunio sydd wedi ei chynnwys fel atodiad.

54a

063337 - C - Codi llety cwn moethus bach (12 uned i gyd) yn Brookside, Mynydd Du, Nercwys, yr Wyddgrug pdf icon PDF 93 KB

As in Report

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwyno caniatâd cynllunio, yn unol ag argymhelliad y swyddog, yn ddibynnol ar yr amodau a restrir yn yr adroddiad gydag amod ychwanegol i gyflwyno a chytuno ar Fesurau Osgoi Rhesymol priodol i ddiogelu amffibiaid yn ystod unrhyw ddatblygiad ar y safle a nodyn yn adlewyrchu cyngor CNC mewn perthynas â’r angen am drwyddedau dan Reoliad 55 yn Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (fel y diwygiwyd) pe bai Rhywogaeth a Warchodir gan Ewrop yn cael ei ganfod yn ystod y gwaith.

063337 Collated Photos pdf icon PDF 855 KB

Dogfennau ychwanegol:

54b

Adran 42 Ymgynghoriad Deddf Cynllunio 2008: Prosiect Lein Beipiau a Dal Carbon HyNet North West pdf icon PDF 88 KB

As in report

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dirprwyo’r ymateb terfynol i Ymgynghoriad Adran 42 ar HyNet (Adroddiad Gwybodaeth Amgylcheddol Rhagarweiniol) i swyddogion gan ymgynghori ag aelodau lleol allweddol a effeithir gan lwybr y biblinell carbon deuocsid newydd arfaethedig a’r biblinell presennol, sy’n gorffen yn nherfynell nwy Y Parlwr Du.

 

Yn dilyn cyflwyno’r cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu, a ddisgwylir yn ystod haf 2022, bydd yn rhaid ymgynghori â’r Cyngor eto a bydd gofyn iddynt gynhyrchu Adroddiad ar yr Effaith Leol.  Bydd y Pwyllgor Cynllunio’n cael eu hysbysu ar y cam hwn mewn perthynas â’r cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu ac yn cael cyfle i gynnig sylwadau ar y cynnig a chynnwys yr Adroddiad ar yr Effaith Leol gan y Cyngor mewn perthynas â’r cyflwyniad.

55.

Aelodau o'r cyhoedd a'r wasg hefyd yn bresennol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ddechrau’r cyfarfod, roedd dau aelod o’r cyhoedd yn bresennol a neb o’r wasg.