Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

8.

Datgan Cysylltiad

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

O ran eitem 6.5 (062300) dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, er nad oedd ganddi gysylltiad personol na chysylltiad sy’n rhagfarnu, ei bod hi fel Aelod Lleol wedi mynegi pryderon ynghylch y cais ar ran trigolion lleol. Oherwydd hynny, ni fyddai’n siarad nac yn pleidleisio ar y cais.

 

O ran eitem 6.2 (062917) dywedodd y Cynghorydd Veronica Gay fod pobl wedi cysylltu â hi ar fwy nag un achlysur yngl?n â’r cais.

9.

Sylwadau Hwyr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r Aelodau ddarllen y sylwadau hwyr a rannwyd cyn y cyfarfod ac a oedd wedi’u hatodi i'r rhaglen ar wefan y Cyngor:

 

https://cyfarfodyddpwyllgor.siryfflint.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=490&MId=4861&LLL=1

Sylwadau Hwyr pdf icon PDF 267 KB

Dogfennau ychwanegol:

10.

Cofnodion pdf icon PDF 68 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 26 Mai 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Mai 2021 yn gywir, ar ôl i’r Cynghorwyr Richard Lloyd a Chris Bithell eu cynnig a’u heilio.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel rhai cywir.

11.

Eitemau i'w gohirio

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni argymhellwyd gohirio dim un o’r eitemau.

12.

Adroddiad y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi)

Mae adroddiad y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi) yn amgaeedig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Cofnodi’r penderfyniadau fel y’i cyflwynwyd ar y rhestr o Geisiadau Cynllunio a oedd ynghlwm fel atodiad.

12a

052236 - G - Aminellol cynllunio - Cais Amlinellol ar gyfer datblygiad preswyl a gwaith cysylltiedig yn Atlas Yard, Ffordd Corwen, Pontybodkin pdf icon PDF 136 KB

As in Report

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwrthod caniatâd cynllunio yn unol ag argymhelliad y swyddog am y rhesymau a nodir yn yr adroddiad.

12b

062917 - C - Cais llawn - Codi estyniad ochr a llawr gwaelod i gefn 5 Alyndale Road, Saltney pdf icon PDF 88 KB

As in Report

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoi caniatâd cynllunio yn ddibynnol ar yr amodau a restrir yn yr adroddiad yn unol ag argymhelliad y swyddog.

12c

061294 - C - Cais llawn - newid defnydd eiddo o annedd i dy amlfeddiannaeth, 7 Howard Street, Cei Connah pdf icon PDF 87 KB

As in report

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoi caniatâd cynllunio yn ddibynnol ar yr amodau a restrir yn yr adroddiad yn unol ag argymhelliad y swyddog.

12d

062110 - C - Cais llawn - Gwaith echdynnu graddol o 28.38m o dunelli o galchfaen o fewn yr ardal ganiataol bresennol ac o fewn estyniad dwyreiniol y chwarel fel estyniad cynhwysfawr a chynllun cyfuno; cadw'r offer prosesu presennol ac isadeiledd cysylltiedig ar gyfer hyd y datblygiad; cadw a defnyddio'r mynediad presennol ar gyfer hyd y datblygiad; adeiladu a thirlunio tirffurf sgrinio; a gweithredu cynllun adfer ar gyfer y chwarel bresennol ac ardal estyniad yn Chwarel Hendre, Ffordd Dinbych, Rhydymwyn pdf icon PDF 198 KB

As in report

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoi caniatâd cynllunio ar yr amod bod yr ymgeisydd yn derbyn Rhwymedigaeth Adran 106 i ffurfioli’r taliad blynyddol a wneir i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar gyfer rheoli Gwarchodfa Natur Coed y Felin ac amrywio’r cytundeb cyfreithiol presennol sy’n cynnwys cyfyngiad ffrwydradau uwch o 20mm/s ppv ar gyfer fferm Gwrachen, a’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad, yn unol ag argymhelliad y swyddog. Hefyd, yn amodol ar y tri amod a gyflwynwyd gan United Utilities fel y’u gwelir yn y sylwadau hwyr.

12e

062300 - C - Amrywio/Dileu Amod - Cais i amrywio amod rhif 2 yn dilyn rhoi caniatâd cynllunio cyf: 059514 yn hen Wersyll y De RAF Sealand, Ffordd y Cymry, Sealand pdf icon PDF 88 KB

As in report

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoi caniatâd cynllunio i amrywio’r amod cynllunio a’r Cytundeb Adran 106 cysylltiedig fel y nodir yn yr adroddiad, yn unol ag argymhelliad y swyddog.

12f

060699 - C - Cais cynllunio amlinellol - Cais Amlinellol ar gyfer datblygiad preswyl arfaethedig ar gyfer hyd at 18 o anheddau gan gynnwys ffurfio mynedfa newydd i gerbydau, systemau draenio, tirlunio a'r holl waith cysylltiedig arall yn Nhan-y-Bryn, Ffordd y Bryn, y Fflint pdf icon PDF 105 KB

As in report

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwrthod rhoi caniatâd cynllunio, yn groes i argymhelliad swyddog, am y rhesymau canlynol: Bod y cynnig yn (i) gorddatblygu’r safle a (ii) heb gynllun priffyrdd digonol i ddarparu mynediad.

12g

060591 - C - Cais llawn - Newid defnydd tir ar gyfer 4 Llain Sipsiwn/Teithwyr ac 1 bloc amwynder / ystafell ddydd cymunedol ym Myngalo T? D?r, Tanlan, Treffynnon pdf icon PDF 126 KB

As in report

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoi caniatâd cynllunio yn ddibynnol ar yr amodau a restrir yn yr adroddiad yn unol ag argymhelliad y swyddog.

13.

AELODAU O'R CYHOEDD A'R WASG YN BRESENNOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ddechrau’r cyfarfod nid oedd yr un aelod o’r wasg yn bresennol.