Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

20.

Datgan Cysylltiad

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar eitem 6.3 (061530) y rhaglen, dywedodd y Cynghorydd Allport er nad oedd ganddo gysylltiad, fel Aelod lleol roedd wedi gwneud ei wrthwynebiadau i’r cais yn glir. Fel Aelod o’r Pwyllgor, byddai’n aros yn y cyfarfod ond ni fyddai’n siarad na phleidleisio ar yr eitem.

 

Ar yr un eitem, bu i’r Cynghorydd Richard Lloyd ddatgan cysylltiad personol gan ei fod wedi danfon glo i eiddo yn agos i'r safle.

 

Ar eitem 6.4 (061817) y rhaglen, dywedodd y Cynghorwyr Chris Bithell, Mike Peers ac Owen Thomas bod preswylwyr lleol wedi cysylltu â hwy fwy na thair gwaith, ond nid yr ymgeisydd.

21.

Sylwadau Hwyr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r Aelodau ddarllen y sylwadau hwyr a rannwyd cyn y cyfarfod ac a oedd wedi eu hatodi i'r rhaglen ar wefan Cyngor Sir y Fflint:

 

https://committeemeetings.flintshire.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=490&MId=4856&LLL=0

Sylwadau Hwyr pdf icon PDF 222 KB

Dogfennau ychwanegol:

22.

Cofnodion pdf icon PDF 70 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 13 Ionawr 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Ionawr 2021 yn gofnod cywir, ar ôl i’r Cynghorwyr Chris Bithell a Gladys Healey eu cynnig a’u heilio.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel rhai cywir.

23.

Eitemau i'w gohirio

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau wedi'u hargymell i'w gohirio.

24.

Adroddiad y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi)

Mae adroddiad y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi) yn amgaeedig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Cofnodi’r penderfyniadau fel y’i cyflwynwyd ar y rhestr o Geisiadau Cynllunio a oedd ynghlwm fel atodiad.

24a

061618 - A - Newid defnydd o hen fanc (A3) i ddatblygiad preswyl (C3) ac addasu adeilad i chwech o randai. Heb Fanc Lloyds TSB, 2 Ffordd yr Wyddgrug, Bwcle pdf icon PDF 98 KB

As in report

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoi caniatâd cynllunio yn amodol ar y cais yn bod yn rhan o Rwymedigaeth Adran 106 neu daliad o flaen llaw o £733 fesul rhandy yn gyfnewid am ddarpariaeth man agored cyhoeddus ar safle, y cyfraniad oddi ar safle yn cael ei ddefnyddio i wella man agored cyhoeddus sy’n bodoli yn y gymuned, sef Ardal Chwarae Higher Common. Hefyd yn ddibynnol ar yr amodau a restrir yn yr adroddiad yn unol ag argymhelliad y swyddog.

61618 Photos pdf icon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

24b

061454 - A - Newid Defnydd o Ddefnydd Dosbarth C3 (Annedd Preswyl) HMO 110 Dwyrain Ffordd Caer, Shotton pdf icon PDF 84 KB

As in report

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoi caniatâd cynllunio yn ddibynnol ar yr amodau a restrir yn yr adroddiad yn unol ag argymhelliad y swyddog.

061454 Photos pdf icon PDF 883 KB

Dogfennau ychwanegol:

24c

061530 - R - Datblygiad preswyl o 95 annedd (yn cynnwys tai fforddiadwy), mynedfa, man agored a'r holl waith cysylltiedig tir gyferbyn â Higher Kinnerton Meadows, Lôn Kinnerton, Higher Kinnerton pdf icon PDF 184 KB

As in report

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwrthod caniatâd cynllunio yn unol ag argymhelliad y swyddog.

061530 Photos pdf icon PDF 2 MB

Dogfennau ychwanegol:

24d

061817 - A - To fflat ar estyniad yn y cefn i ddisodli to ar ongl a gymeradwywyd yn flaenorol 17 Overleigh Drive, Bwcle pdf icon PDF 95 KB

As in report

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoi caniatâd cynllunio yn ddibynnol ar yr amodau a restrir yn yr adroddiad yn unol ag argymhelliad y swyddog, gydag amod ychwanegol i osod gwydr aneglur ar dair ffenestr ar ochr yr eiddo.

061817 Photos pdf icon PDF 559 KB

Dogfennau ychwanegol:

25.

AELODAU O'R CYHOEDD A'R WASG YN BRESENNOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ddechrau’r cyfarfod roedd un aelod o’r wasg yn bresennol.