Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

13.

Y DIWEDDAR GYNGHORYDD KEVIN HUGHES

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn ôl cais y Cadeirydd, talodd yr holl fynychwyr deyrnged o ddistawrwydd er cof am y Cynghorydd Kevin Hughes a oedd yn Aelod o’r Pwyllgor.

14.

Datgan Cysylltiad

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Hysbysodd y Cynghorydd Attridge bod yr ymgeisydd a’r gwrthwynebwyr ar eitem 6.3 (061919) y rhaglen wedi cysylltu ag ef ar fwy na tri achlysur.

15.

Sylwadau Hwyr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r Aelodau ddarllen y sylwadau hwyr a rannwyd cyn y cyfarfod ac a oedd wedi eu hatodi i'r rhaglen ar wefan Cyngor Sir y Fflint:

 

https://cyfarfodyddpwyllgor.siryfflint.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=490&MId=4854&LLL=1

Sylwadau Hwyr pdf icon PDF 274 KB

Dogfennau ychwanegol:

16.

Cofnodion pdf icon PDF 77 KB

I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 2 Rhagfyr 2020.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion drafft y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2020 yn gofnod cywir, yn destun y diwygiad canlynol, a chynigiwyd ac eiliwyd gan y Cynghorwyr Dunbar a Lloyd.

 

Ar gais 059396, cyfeiriodd y Cynghorydd Attridge at ei sylwadau a ddangosir ar recordiad y cyfarfod lle ddywedodd ei fod wedi cysylltu â’r Cyfreithiwr Cynllunio i ofyn a ddylid cynnal archwiliad neu atgyfeiriad at yr Heddlu, ar ôl derbyn e-bost gan asiant yr ymgeisydd. Gan nad oedd y Cynghorydd Attridge wedi darparu dim eglurhad pellach yn ystod y cyfarfod, darllenodd gynnwys yr e-bost gan y Cyfreithiwr Cynllunio yn rhoi cyngor ar y mater. Gofynnodd i Aelodau’r Pwyllgor a’r swyddogion i dderbyn ei ymddiheuriadau gan nad oedd wedi rhoi darlun llawn yn y cyfarfod.

 

Mewn ymateb, diolchodd y Prif Weithredwr i’r Cynghorydd Attridge am ei ddatganiad. Ar ôl cynghori’r Cynghorydd yn flaenorol y byddai eglurhad, gwrthdyniad ac ymddiheuriad yn briodol, byddai’n ymgynghori â’r swyddogion perthnasol i weld os ystyrir ymateb y Cynghorydd Attridge yn ddigonol er mwyn derbyn yr ymddiheuriad.  Fel Pennaeth Gwasanaeth Cyflogedig, gyda dyletswydd gofal i swyddogion, roedd ef, ynghyd â’r Arweinydd wedi atgyfnerthu pwysigrwydd i Arweinwyr Gr?p i osgoi gwneud sylwadau mewn cyfarfodydd cyhoeddus a all arwain at beryglu enw da a safle swyddogion unigol, neu’r Pwyllgor Cynllunio.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y diwygiad, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir.

17.

Eitemau i'w gohirio

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd dim eitemau wedi'u hargymell i'w gohirio.

18.

Adroddiad y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi)

Mae adroddiad y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi) yn amgaeedig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Cofnodi’r penderfyniadau fel y’i cyflwynwyd ar y rhestr o Geisiadau Cynllunio a oedd ynghlwm fel atodiad.

18a

061263 - A - Cais llawn - Datblygu cyfleuster ailgylchu gwastraff presennol i estyn yr adeilad presennol, dymchwel tri adeilad a gosod cyfarpar prosesu deunyddiau a golchi, baeau storio, pont bwyso ychwanegol, swyddfa docynnau a system ddraenio newydd yn Stâd Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy, Bagillt pdf icon PDF 130 KB

As in report

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwyo caniatâd cynllunio yn unol ag argymhelliad y swyddog.

6.1 - 061263 Photos - A5 pdf icon PDF 304 KB

Dogfennau ychwanegol:

18b

060614 - A - Materion a gedwir yn ôl - Cais ar gyfer cymeradwyo materion neilltuol yn dilyn cymeradwyaeth amlinellol ar 055581 yn 61 Ffordd Brinswick, Bwcle pdf icon PDF 79 KB

As in report

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwyo caniatâd cynllunio ar yr amod bod yr ymgeisydd yn cytuno i Rwymedigaeth Adran 106, Ymgymeriad Unochrog neu ragdaliad o £733 fesul fflat, gyda’r arian yn cael ei ddefnyddio i wella’r ddarpariaeth chwarae i fabanod yn yr Ardal Chwarae Comin Uchaf, a’r amodau o fewn yr adroddiad, yn unol ag argymhelliad y swyddog.

6.2 - 060614 Photos - A5 pdf icon PDF 941 KB

Dogfennau ychwanegol:

18c

061919 - R - Cais llawn - Adeiladu 18 annedd ar wahan gan gynnwys mynediad a thirlunio'r safle yng Nghartref Nyrsio Bod Hyfryd, Ffordd Llaneurgain, Y Fflint pdf icon PDF 127 KB

As in report

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwrthod caniatâd cynllunio yn unol ag argymhelliad y swyddog, yn amodol ar ddiwygio’r trydydd rheswm ar gyfer gwrthod (wedi’i nodi yn y sylwadau hwyr) fel a ganlyn:

 

Mae gan y cynnig y posibilrwydd i achosi aflonyddwch i’r brochfa moch daear ar ffin orllewinol y safle.Credir er mwyn i’r parth clustogi o amgylch y brochfa weithio, mae angen dull cyfannol fel rhan o ddyraniad ehangach y safle o dan HN1.4 y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl).Felly, ystyrir bod y cynnig fel y cyflwynwyd, yn mynd yn erbyn Polisi Cynllunio Cymru – Rhifyn 10, Nodyn Cyngor Technegol 5 - Gwarchod Natur a Chynllunio a Pholisiau GEN 1 a WB1 Cynllun Datblygu Unedol Sir y Fflint.

6.4 - 061919 Photos - A5 pdf icon PDF 2 MB

Dogfennau ychwanegol:

19.

AELODAU O'R CYHOEDD A'R WASG YN BRESENNOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ddechrau’r cyfarfod roedd un aelod o’r wasg yn bresennol.