Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cynghorydd David Evans ei fod am siarad fel Aelod Lleol yn unig, ar eitem rhif 6.5 ar y rhaglen – Cais Llawn - newid defnydd o C3 i C4 i D? Amlfeddiannaeth (bach) 4 ystafell wely ar 8 Wellington Street, Shotton, Glannau Dyfrdwy, (057129) ac eitem rhif 6.11 ar y rhaglen – Cais Llawn – Codi 5 annedd ar 120 Shotton Lane, Shotton, (057115). Dywedodd y Cynghorydd Evans ei fod am siarad ar yr eitemau a gadael yr ystafell ar ôl siarad a chyn i drafodaeth ddigwydd.
Dywedodd y Cynghorydd Sean Bibby ei fod wedi cyflwyno gwrthwynebiad ffurfiol o ran eitem rhif 6.11 ar y rhaglen a byddai’n gadael yr ystafell cyn i’r cais gael ei drafod a chyn i bleidlais gael ei chynnal ar yr eitem.
Eglurodd y Cynghorydd Christine Jones ei bod wedi cael cyngor cyfreithiol o ran eitem rhif 6.9 ar y rhaglen - Cais Llawn - Codi adeilad gofal ychwanegol 4 llawr i gynnwys 44 rhandy un ystafell wely ac 11 rhandy dwy ystafell wely gyda llety ategol yn Ysgol Fabanod Perth y Terfyn, Halkyn Road, Treffynnon, (057261), a dywedodd er nad oedd ganddi gysylltiad personol nac sy'n rhagfarnu, roedd wedi cefnogi'r cais yn gyhoeddus ac felly byddai'n gadael yr ystafell wrth i drafodaeth a phleidlais ar y cais ddigwydd.
Dywedodd y Cynghorydd Adele Davies-Cooke, ar ôl iddi gael cyngor cyfreithiol, byddai’n siarad fel Aelod lleol yn unig ar eitem rhif 6.3 ar y rhaglen – Cais Llawn ar gyfer tynnu Amod Rhif 6 (mynediad dros dro) ac amrywio Amod Rhif 8 (oriau agor) yn dilyn rhoi caniatâd cynllunio 056664 yn Fferm Coppy, Cilcain Road, Gwernaffield (057296) a byddai’n gadael yr ystafell ar ôl siarad a chyn i’r eitem gael ei thrafod.
Datganodd y Cynghorydd Geoff Collett gysylltiad personol ag eitem rhif 6.10 ar y rhaglen Cais Llawn – datblygiad Preswyl ar gyfer 160 o anheddau a gerddi cysylltiedig a maes parcio ym Maes Gwern, yr Wyddgrug, (056742), a dywedodd ei fod wedi cael goddefeb i siarad am 5 munud a byddai’n gadael yr ystafell cyn i’r eitem gael ei thrafod a chyn i bleidlais ddigwydd.
|
|
Sylwadau Hwyr Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r Aelodau ddarllen y sylwadau hwyr a rannwyd yn ystod y cyfarfod ac a oedd wedi’u hatodi wrth y rhaglen ar wefan Cyngor Sir y Fflint:
http://committeemeetings.flintshire.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=490&MId=4188&Ver=4&LLL=0
|
|
Late Observations - Planning 04.1017 PDF 214 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 6 Medi 2017. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion drafft y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Medi 2017.
Cywirdeb
Tudalen 7: Cynghorydd Patrick Heesom – cyfeiriodd at gais 056694 a dywedodd fod pedwar rheswm wedi’u rhoi dros wrthod y cais. Gofynnodd bod y cofnodion yn cael eu diwygio i gynnwys y rhesymau ychwanegol pam mae’r cynnig yn cynrychioli niwed sylweddol, gan danseilio polisïau lleol a chenedlaethol sydd wedi’u dylunio i ddiogelu cefn gwlad agored a chymunedau gydag agweddau gwledig a’r effaith wrth ddynesu at yr anheddiad. Byddai’r cynnig hefyd yn erydu’r cymeriad gwledig a golwg y safle a’r ardal leol gyda’r niwed o ganlyniad i gymeriad a golwg y rhan hon o’r anheddiad. PENDERFYNWYD:
Yn amodol ar y diwygiad a gynigiwyd gan y Cynghorydd Patrick Heesom, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod gwir a chywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.
|
|
Eitemau i'w gohirio Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Argymhellodd y Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd) fod eitem rhif 6.8 ar y rhaglen – Cais Amlinellol – ar gyfer Codi 10 o Anheddau yn Siglen Uchaf, Ffordd Rhuthun, Gwernymynydd yn cael ei ohirio. Eglurodd fod rhai pryderon wedi’u codi yn ystod yr ymweliad safle o ran gwelededd y briffordd ac adroddodd y swyddog am hyn wrth yr asiantaeth priffyrdd. Gan fod yr Asiantaeth wedi gofyn am ragor o amser i ystyried y gwelededd digonol ar y safle, ailadroddodd y Prif Swyddog ei argymhelliad i ohirio’r eitem nes i’r Asiantaeth ddarparu adborth.
Ar ôl pleidleisio, gohiriwyd yr eitem.
PENDERFYNWYD:
Bod eitem rhif 6.8 ar y rhaglen – Cais Amlinellol – ar gyfer Codi 10 o Anheddau yn Siglen Uchaf, Ffordd Rhuthun, Gwernymynydd yn cael ei ohirio.
|
|
Adroddiadau'r Prif Swyddog (Cynllunio A'R Amgylchedd) Mae adroddiad y Prif Swyddog (Cynllunio a’r Amgylchedd) yn amgaeedig.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD:
Cofnodi’r penderfyniadau fel y’u dangosir ar y rhestr Ceisiadau Cynllunio sydd ynghlwm fel atodiad gan gynnwys y penderfyniadau apêl.
|
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ar ddechrau’r cyfarfod roedd 14 aelod o’r cyhoedd a dim aelod o’r wasg yn bresennol.
|
|
As in report Dogfennau ychwanegol: |
|
As in report Dogfennau ychwanegol: |
|
As in report Dogfennau ychwanegol: |
|
As in report Dogfennau ychwanegol: |
|
To receive the report Dogfennau ychwanegol: |
|
As in report Dogfennau ychwanegol: |
|
As in report Dogfennau ychwanegol: |
|
As in report Dogfennau ychwanegol: |
|
As in report Dogfennau ychwanegol: |
|
As in report Dogfennau ychwanegol:
|
|
057115 - Full Application - Erection of 5 No. Dwellings at 120 Shotton Lane, Shotton. PDF 88 KB As in report Dogfennau ychwanegol: |
|
As in Report Dogfennau ychwanegol: |
|
As in report Dogfennau ychwanegol:
|
|
As in report. Dogfennau ychwanegol: |
|
As in report Dogfennau ychwanegol: |
|
As in report Dogfennau ychwanegol: |