Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
SYLWADAU AGORIADOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn ôl cais y Cadeirydd, Aelodau'r Pwyllgor a'r swyddogion, bu iddynt godi mewn tawelwch fel teyrnged i Peter Evans, y cyn Rheolwr Democrataidd a Llywodraethu, a fu farw. |
|
Datgan Cysylltiad Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ar eitem agenda 6.3 (060336), nid oedd gan y Cynghorydd Christine Jones unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu, fodd bynnag roedd wedi siarad yn gyhoeddus i gefnogi'r cais. Felly, bydd yn siarad am yr eitem a gadael yr ystafell cyn y drafodaeth ac yn pleidleisio ar yr eitem hon. |
|
Sylwadau Hwyr Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r Aelodau ddarllen y sylwadau hwyr a rannwyd yn ystod y cyfarfod ac a oedd wedi eu hatodi i'r rhaglen ar wefan y Cyngor:
http://committeemeetings.flintshire.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=490&MId=4509&LLL=0 |
|
Dogfennau ychwanegol: |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 4 Rhagfyr 2019. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion drafft y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr 2019 yn gofnod cywir, cynigiwyd ac eiliwyd gan y Cynghorwyr Lloyd a Bithell.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel rhai gwir a chywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi. |
|
Eitemau i'w gohirio Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi) bod yr eitem ganlynol wedi’i hargymell i’w gohirio, oherwydd problem gyda pherchnogaeth tir sydd wedi dod i sylw'r swyddogion. Os y cytunir ar ohirio, bydd yr eitem yn dod yn ôl i'r Pwyllgor ar ôl cyflwyno hysbysiadau priodol a bod y mater wedi’i ddatrys.
Eitem Agenda 6.2 – Cais llawn – Trawsnewid Bwyty/ Bar nas defnyddir bellach i 13 o Fflatiau/ Rhandai yn 14 Lôn Y Felin, Bwcle (060374)
Cynigiodd y Cynghorydd Bithell y gohiriad ac eiliwyd gan y Cynghorydd Dunbar. Pan gynhaliwyd y bleidlais cafodd yr eitem ei gohirio.
Gofynnodd y Cynghorydd Peers a fydd yr adroddiad, pan fydd yn cael ei ailgyflwyno, yn mynd i’r afael â phryderon a rhai hynny gan y Cynghorydd Hutchinson fel Aelod lleol arall, ac i gynnwys ymateb gan adran Priffyrdd. Roedd ei bryderon ynghylch y llwybr troed sydd ar goll a materion arall a godwyd yn yr ymweliad safle. Siaradodd y Cynghorydd Richard Jones o blaid y cais hwn.
PENDERFYNWYD:
Bod eitem rhif 6.2 (060374) ar y rhaglen yn cael ei ohirio i gyfarfod nesaf y Pwyllgor am y rheswm a nodwyd. |
|
ADRODDIAD Y PRIF SWYDDOG (CYNLLUNIO, AMGYLCHEDD AC ECONOMI) Mae adroddiad y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi) yn amgaeedig. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD:
Cofnodi’r penderfyniadau fel y’i cyflwynwyd ar y rhestr o Geisiadau Cynllunio sydd ynghlwm wrth atodiad. |
|
AELODAU O'R CYHOEDD A'R WASG YN BRESENNOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ar ddechrau’r cyfarfod roedd 10 aelod o’r cyhoedd yn bresennol. |
|
As in report. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNIAD:
Rhoi caniatâd cynllunio ar yr amod fod yr ymgeisydd yn derbyn Rhwymedigaeth Adran 106 ac yn ddibynnol ar yr amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad, yn unol ag argymhelliad y swyddog. |
|
As in report. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNIAD:
GOHIRIWYD – iddatrys y materion ynghylch tystysgrif perchnogaeth tir a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd. |
|
As in report. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNIAD:
Rhoi caniatâd cynllunio yn ddibynnol ar yr amodau a restrir yn yr adroddiad yn unol ag argymhelliad y swyddog. |
|
As in report. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNIAD:
Rhoi caniatâd cynllunio yn ddibynnol ar yr amodau a restrir yn yr adroddiad yn unol ag argymhelliad y swyddog. |