Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Penodi Is-Gadeirydd Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cynigiodd y Cynghorydd Christine Jones y Cynghorydd Richard Lloyd fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Chris Bithell. Ni chyflwynwyd unrhyw enwebiadau eraill.
PENDERFYNWYD:
Penodi'r Cynghorydd Richard Lloyd fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor. |
|
Datgan Cysylltiad Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn dilyn cyngor gan Reolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol, datganodd y Cynghorydd Paul Johnson gysylltiad personol sy’n rhagfarnu ag eitem 7.3 (062912) y rhaglen. |
|
Sylwadau Hwyr Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r Aelodau i ddarllen y sylwadau hwyr a oedd wedi eu dosbarthu cyn y cyfarfod ac wedi eu hatodi i’r rhaglen ar wefan Cyngor Sir Y Fflint:
https://cyfarfodyddpwyllgor.siryfflint.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=490&MId=4859&Ver=4&LLL=1
|
|
late observations 26.05.21 PDF 232 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 31 Mawrth 2021.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 31 Mawrth 2021 fel cofnod cywir, fel y cynigwyd ac eiliwyd gan y Cynghorwyr Chris Bithell a Richard Lloyd.
PENDERFYNWYD:
Derbyn y cofnodion fel cofnod cywir a phriodol. |
|
Eitemau i'w gohirio Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Awgrymodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) y dylid gohirio eitem rhif 7.2 – (052236) - Cais Amlinellol – ar gyfer datblygiad preswyl a gwaith cysylltiedig yn Atlas Yard, Ffordd Corwen, Pontybotgyn. Argymhellodd y Prif Swyddog y dylid gohirio’r cais oherwydd bod materion heb eu penderfynu yn ymwneud â’r Asesiad o Ganlyniadau Llifogydd (FCA) er mwyn caniatáu i wybodaeth ddiwygiedig gael ei derbyn gan yr asiant.
Cynigiodd y Cynghorydd Richard Lloyd y dylid gohirio’r cais ar y sail bod yr asiant yn cyflwyno'r wybodaeth ofynnol o fewn y 3 wythnos nesaf (erbyn 15 Mehefin 2021). Os na fydd y wybodaeth yn cael ei chyflwyno, neu’n parhau'n anfoddhaol, yna dylid cynnwys yr eitem yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynllunio. Eiliwyd y cynnig hwn gan y Cynghorydd Chris Bithell.
Wrth fynd i bleidlais, cytunwyd i ohirio’r eitem.
PENDERFYNWYD:
Gohirio eitem rhif 7.2 – (052236) y rhaglen - Cais Amlinellol ar gyfer ddatblygiad preswyl a gwaith cysylltiedig yn Atlas Yard, Ffordd Corwen, Pontybotgyn. |
|
Adroddiad y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi) Mae adroddiad y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi) yn amgaeedig.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD:
Cofnodi’r penderfyniadau fel y dangosir ar amserlen y Ceisiadau Cynllunio sydd wedi ei gynnwys fel atodiad. |
|
As in report Dogfennau ychwanegol: |
|
As in Report Dogfennau ychwanegol: |
|
As in report Dogfennau ychwanegol: |
|
Aelodau O'r Cyhoedd A'r Wasg Hefyd Yn Bresennol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ar ddechrau’r cyfarfod, roedd un aelod o’r wasg a dau aelod o’r cyhoedd hefyd yn bresennol. |