Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Neville Phillips gysylltiad personol ag eitem 6.1 (060253) ar y Rhaglen gan ei fod yn byw yn Tabernacle Street, Bwcle, a oedd yn agos at safle’r cais.
Datganodd y Cynghorwyr Christine Jones a David Wisinger gysylltiad personol a oedd yn rhagfarnu ag eitem 6.3 (060411) ar y Rhaglen gan fod y ddau’n llywodraethwyr i Ysgol Gynradd Sealand, a fyddai’n elwa o rodd o ddarn o dir i’r Cyngor i alluogi i safle’r ysgol gael ei ehangu. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones y byddai’n siarad am yr eitem am 3 munud ac yn gadael yr ystafell cyn y drafodaeth a’r bleidlais. Dywedodd y Cynghorydd David Wisinger y byddai hefyd yn gadael yr ysgol cyn y drafodaeth a’r bleidlais ar yr eitem.
|
|
Sylwadau Hwyr Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i’r Aelodau ddarllen y sylwadau hwyr a rannwyd yn ystod y cyfarfod ac a oedd wedi eu hatodi i'r rhaglen ar wefan Cyngor Sir y Fflint:
http://cyfarfodyddpwyllgor.siryfflint.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=490&MId=4597&Ver=4&LLL=1
|
|
late observations 04.03.20 PDF 115 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion drafft y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Chwefror 2020 yn gofnod cywir, ar ôl i’r Cynghorwyr Richard Lloyd ac Ian Dunbar eu cynnig a’u heilio.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod gwir a chywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.
|
|
Eitemau i'w gohirio Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd dim eitemau wedi'u hargymell i'w gohirio.
|
|
ADRODDIAD Y PRIF SWYDDOG (CYNLLUNIO, AMGYLCHEDD AC ECONOMI) Mae adroddiad y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi) yn amgaeedig.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD:
Cofnodi’r penderfyniadau fel y’i cyflwynwyd ar y rhestr o Geisiadau Cynllunio a oedd ynghlwm fel atodiad. |
|
060253 - A - Cais Llawn - Newid defnydd i 3 fflat yn 15 - 17 Ffordd yr Wyddgrug, Bwcle. PDF 81 KB As in report. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gwrthod caniatâd cynllunio yn groes i argymhelliad y swyddog. |
|
As in report. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoi caniatâd cynllunio yn ddibynnol ar yr amodau a restrir yn yr adroddiad yn unol ag argymhelliad y swyddog, a gan ddileu amod 3 gan ei fod yn cael ei ailadrodd yn llawn yn amod 6.
|
|
As in report. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoi caniatâd cynllunio ar yr amod fod yr ymgeisydd yn derbyn Rhwymedigaeth Adran 106 ac yn ddibynnol ar yr amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad, yn unol ag argymhelliad y swyddog. |
|
Adroddiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. PDF 61 KB As in report. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Nodi’r adroddiad.
|
|
AELODAU O'R CYHOEDD A'R WASG YN BRESENNOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ar ddechrau’r cyfarfod, roedd 12 aelod o’r cyhoedd yn bresennol a neb o’r wasg.
|