Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: O ran eitem 6.1 (059217), datganodd y Cynghorydd Christine Jones gysylltiad presennol a chysylltiad sy’n rhagfarnu oherwydd bod gan aelod o’i theulu garafán ar y safle. Byddai’n ymadael â’r ystafell cyn y drafodaeth a’r bleidlais. |
|
Sylwadau Hwyr Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd dim. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 3 Ebrill 2019. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion drafft y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Ebrill 2019 ac fe’u cadarnhawyd fel rhai cywir.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel rhai gwir a chywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi. |
|
Eitemau i'w gohirio Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni argymhellwyd gohirio’r un o’r eitemau. |
|
Adroddiad y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi) Mae adroddiad y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd ac Economi) yn amgaeedig. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD:
Cofnodi’r penderfyniadau a gyflwynwyd ar y rhestr o Geisiadau Cynllunio oedd ynghlwm fel atodiad. |
|
As in report. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gwrthod rhoi caniatâd cynllunio, yn groes i argymhelliad swyddog, ar y sail ganlynol:
Mae’r estyniad ar raddfa annerbyniol; mynedfa ac allanfa aneglur a pheryglus; nid yw’n cydymffurfio â’r canllawiau ym mholisi T6; byddai’n golygu gorddefnyddio’r safle a’r fynedfa; nid yw’n gydnaws â chymeriad yr ardal. |
|
As in report. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoi caniatâd cynllunio yn ddibynnol ar yr amodau a restrir yn yr adroddiad, yn unol ag argymhelliad y swyddog. |