Cadarnhawyd bod cofnodion
drafft y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Awst 2020 yn gofnod cywir, ar
ôl i’r Cynghorwyr Bernie Attridge a Chris Bithell eu
cynnig a’u heilio.
Gofynnodd y Cynghorydd
Marion Bateman i gael newid manylion y siaradwyr trydydd parti a
nodir yn yr atodiad i’r cofnodion, ar gyfer cofnodion yn y
dyfodol i ddangos y sylwadau a wnaed a chynhwyswyd yn y rhaglenni
yn hytrach na’r rhai hynny a wnaed yn ystod y cyfarfod yn
unig. Cytunwyd i newid hyn ar gyfer cyfarfodydd yn y
dyfodol.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod gwir a
chywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.