Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Pwrpas:        I benodi Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

Cofnodion:

            Gofynnodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid am enwebiadau i benodi Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD:

 

          Y dylid penodi’r Cynghorydd Hilary McGuill yn Gadeirydd y cyfarfod.

2.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:       I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau.

3.

Strategaeth Rhianta Corfforaethol pdf icon PDF 172 KB

Pwrpas:        Adolygu a chymeradwyo Strategaeth Rhianta Corfforaethol ar gyfer Sir y Fflint.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad gan nodi mai Rhianta Corfforaethol oedd un o swyddogaethau pwysicaf y Cyngor ac roedd yn rhoi cymorth i rhwng 240 a 250 o bobl ifanc ar hyn o bryd. Cyfeiriodd yr Aelodau at y Crynodeb o Gynllun Gweithredu’r Strategaeth Rhianta Corfforaethol yn yr adroddiad a oedd yn amlinellu’r gwaith roedd angen ei wneud i gryfhau a meithrin bywydau pobl ifanc. Rhoddodd wybodaeth am gynlluniau gweithredu y meysydd canlynol:-

 

·         Y cartref

·         Addysg a Dysgu

·         Iechyd a Lles

·         Hamdden

·         Cyfleoedd gwaith

·         Gadael gofal

·         Llais Plant sy’n Derbyn Gofal

 

Gofynnodd y Cadeirydd a oedd cymorth Cynghorydd Personol ar gael i bob unigolyn ifanc ac a oedd y swyddogion hyn bellach wedi dechrau ar eu swyddi. Yna, cyfeiriodd y Cadeirydd at Aura a’r cynnig o gerdyn aelodaeth i bobl ifanc am £22 y mis a oedd yn galluogi plant i gael mynediad at eu holl gyfleusterau, a gofynnodd a oedd hwn yn rhywbeth y gellid ei ystyried.

 

            Mewn ymateb, cadarnhaodd yr Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu) petai plentyn wedi derbyn gofal am fwy nag 13 wythnos yna byddai’n gymwys i gael cymorth Cynghorydd Personol pan fyddai rhwng 18 a 25 oed, a dywedodd fod 75 o bobl ifanc sydd wedi gadael gofal yn cael cymorth ar hyn o bryd.  Roedd swyddi wedi bod yn wag ac esboniodd sut roedd y plant wedi cael cymorth yn ystod y cyfnod hwnnw, ond cadarnhaodd fod y 4 swydd wedi’u llenwi erbyn hyn. Cyfeiriodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) at gynnig y cerdyn Aelodaeth Ieuenctid gan gytuno fod hwn yn syniad da. Cadarnhaodd y byddai’n cael sgwrs am hyn gyda’r bobl ifanc.

 

            Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Tudor Jones ynghylch cyfleoedd gwaith, esboniodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod y strategaethau a nodwyd yn yr adroddiad yn galluogi plant sy’n derbyn gofal i baratoi ar gyfer cyfleoedd gwaith cyn eu bod yn 18 oed. Cyflwynodd yr Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu) ragor o wybodaeth am y Cynllun Hwb, sef cynllun ar gyfer pobl rhwng 16 a 25 oed sy’n gadael gofal ac nad ydynt efallai’n barod eto i wneud cais am swyddi. Roedd y cynllun yn cynnig cymorth gyda sgiliau ymarferol er mwyn helpu unigolion ifanc i baratoi ar gyfer cyfweliadau a’r byd gwaith, fel ysgrifennu CV, sut i wisgo i’r gwaith, ateb y ffôn ac arferion y gweithle, cyn iddynt gael eu rhoi mewn cysylltiad â busnesau. 

 

            Cyfeiriodd yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Chynnydd) at wasanaeth arall o’r enw ADTRAC (a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop) sy’n cynnig cymorth a hyfforddiant i’r bobl ifanc hynny roedd angen cymorth ychwanegol arnynt, gan gynnwys iechyd meddwl a phecynnau wedi’u teilwra ar gyfer unigolion rhwng 16 a 24 oed. Roedd y gwasanaeth hwn yn ychwanegu at gynnig Cynllun Hwb.

 

            Cynigiodd y Cynghorydd Dave Mackie y dylid cefnogi’r argymhelliad manwl yn yr adroddiad. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Kevin Hughes.

 

PENDERFYNWYD:

 

Y dylid cefnogi’r crynodeb o gamau i’w cymryd yn 2019/20 i gyflawni’r Strategaeth Rhianta Corfforaethol.

4.

Gwella'r cynnig mewnol ar gyfer plant sydd mewn lleoliadau y tu allan i'r sir pdf icon PDF 208 KB

Pwrpas:        Darparu gwybodaeth ar y cynigion i wella cynnig mewnol y ddarpariaeth lleoliadau y tu allan i'r sir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad ac esboniodd fod lleoliadau y tu allan i’r sir yn un o’r materion mwyaf sy’n wynebu pob Awdurdod Lleol ar draws y wlad. Esboniodd fod dod o hyd i ofal a chymorth o ansawdd da yn Sir y Fflint yn broblem fawr ac yn her i’r Cyngor gan nad oedd digon o adnoddau ar gael i ateb y galw statudol. Roedd y Cyngor yn gwbl gefnogol ond y swm o arian a oedd yn dod i mewn i’r Cyngor oedd y gwir broblem. Cyfeiriodd yr Aelodau at dudalen 37 o’r adroddiad a oedd yn amlinellu costau’r lleoliad ac esboniodd sut roedd hyn yn cael effaith ar gyllidebau o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol. Roedd llawer o waith yn cael ei wneud o fewn y portffolio, yn Sir y Fflint, Rhanbarth Gogledd Cymru ac yn ehangach, er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn.

 

            Ychwanegodd yr Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu) fod hon yn her genedlaethol ac nad oes un ateb syml i’r broblem, a bod angen sawl haen o waith er mwyn gallu darparu gwahanol atebion a chynigion i nifer cynyddol o blant ag anghenion cymhleth. Rhoddodd enghreifftiau o sut roedd cymorth yn cael ei ddarparu yn y cartref, i aelodau’r teulu, maethu a gofal preswyl. Roedd yr adroddiad yn amlinellu’r amrywiaeth o fentrau roedd eu hangen er mwyn ail-lunio’r cynnig a gynigir i blant a theuluoedd a nodwyd bod rhoi cymorth yn fuan yn flaenoriaeth er mwyn galluogi teuluoedd i aros gyda’i gilydd, hyd yn oed os nad oedd hynny bob amser yn bosibl mewn rhai achosion. Aeth ymlaen i gyfeirio’r Aelodau at dudalen 12 o’r adroddiad a rhoddodd wybodaeth am y gwaith sy’n cael ei wneud i gefnogi’r tair uchelgais graidd:-

 

·         Lleihau’n ddiogel nifer y plant y mae angen iddynt dderbyn gofal

·         Rhoi cymorth i blant sy’n derbyn gofal mewn lleoliadau lleol o ansawdd uchel

·         Gwella canlyniadau plant sy’n derbyn gofal.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Mackie am esboniad pellach o’r term ‘sgiliau ochrol’ /‘side skill’ ym mhwynt 1.10 yr adroddiad. Cyfeiriodd hefyd at nifer y plant 16 oed sydd wedi cael diffyg addysg neu sy’n gwrthod addysg a dywedodd pan fyddai unigolyn ifanc yn rhoi’r gorau i dderbyn addysg roedd hyn yn rhoi mwy o bwysau ar y gofalwyr maeth ac yna’n rhoi straen ar y system gyfan. Roedd yn credu y dylid cyflwyno cynllun ar gyfer y bobl ifanc hyn a fyddai’n rhoi rhywbeth iddynt ei wneud os nad oeddynt mewn addysg, ac a fyddai’n rhoi gobaith iddynt i’r dyfodol.

 

            Ymatebodd yr Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu) gan esbonio sut byddai gweithwyr ‘sgiliau ochrol’ yn gweithio gyda gweithwyr ieuenctid er enghraifft, gan eu bod nhw mewn sefyllfa dda i feithrin perthynas ac ennill ymddiriedaeth y bobl ifanc hyn yn fuan ac i sylwi pan fyddai’r sefyllfa’n dirywio.  Roedd y swyddogion hyn eisoes yn rhan o weithlu Sir y Fflint oedd yn gweithio gyda phlant ond roedd y dull gweithredu ‘sgiliau ochrol’ yn eu galluogi i nodi a chynnig cymorth therapiwtig a  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Asesiad Ddigonolrwydd Plant pdf icon PDF 304 KB

Pwrpas:        Cyflwyno’r Adroddiad Asesiad o Ddigonolrwydd Plant.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad a oedd nodi bod cyfrifoldeb statudol i ddiweddaru’r Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant bob blwyddyn ac i ddatblygu Asesiad newydd bob 5 mlynedd o dan y Ddeddf Gofal Plant, ac esboniwyd hyn ym mhwynt 1.02 yr adroddiad. Roedd crynodeb o’r canlyniad ym mhwynt 1.08 yr adroddiad a rhai negeseuon positif ond roedd heriau hefyd a rhai meysydd yr oedd angen eu gwella.  Talodd deyrnged i Gail Bennett a Keith Wynne a dywedodd fod gan Sir y Fflint dîm ymyrraeth gynnar gweithgar iawn yn y Gwasanaethau Plant, yn wahanol i awdurdodau eraill, gyda 12 o gynlluniau ar draws  y sir a oedd wedi denu cyllid cyfalaf untro o £5m a fuddsoddwyd mewn seilwaith yn yr ysgolion ynghyd ag arian grantiau cyfalaf. Roedd ffurflen yr Asesiad wedi’i chynnwys ar ffurf Atodiad. 

 

            Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn adroddiad cynhwysfawr iawn ac y dylid diolch i’r rhai a oedd wedi ei baratoi. Gofynnodd a oedd rhestr ar gael o’r cwmnïau sy’n darparu cyfleusterau gofal plant yn fewnol. Cytunodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) i ddarparu’r wybodaeth hon yn dilyn y cyfarfod. 

 

            Yna, cyfeiriodd y Cadeirydd at y ffaith mai un clwb brecwast am ddim sydd ar gael ar gyfer Bwcle i gyd, ac nad oes dim un ym Mhenarlâg nac Aston a gofynnodd beth oedd y rhesymau dros hyn. Mewn ymateb, dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod gofal plant fforddiadwy yn broblem ac yn gostus ond roedd yr adroddiad hwn yn asesu ansawdd ac effeithlonrwydd y cyfleusterau gofal plant sy’n cael eu darparu gan Sir y Fflint ac roedd y canfyddiadau wedi’u dangos ym mhwynt 1.08 yn yr adroddiad. Ychwanegodd efallai y gellid cynnwys fforddiadwyedd fel ffactor perthnasol yn y dyfodol gan ei bod yn broblem wirioneddol i rieni.  Ychwanegodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) mai dewis yr ysgolion oedd manteisio ar gynnig Llywodraeth Cymru i ddarparu clybiau brecwast neu beidio; mae’r clybiau yn neilltuo 30 munud ar gyfer darparu brecwast.  Y broblem sy’n wynebu ysgolion yw bod rhieni yn defnyddio’r clybiau brecwast fel cyfleuster gofal plant. Roedd rhai ysgolion yn cynnig y 30 munud olaf pan oedd y brecwast yn cael ei gynnig fel yr elfen am ddim, ac os oedd angen gofal plant ar y rhieni cyn yr amser hwnnw, roedd yr ysgolion yn codi tâl am hyn. Heb os, roedd ysgolion a darparwyr yn dymuno cynnig gwasanaeth mor fforddiadwy â phosibl ond roedd yn rhaid i hyn fod yn gynaliadwy gyda’r gymhareb gywir o staff, ynghyd â’r angen i gadw at safonau, ac ati. Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod llwyddiant y cynnig gofal plant am ddim yn Sir y Fflint wedi bod o gymorth mawr iawn o ran fforddiadwyedd a chynllunio gofal plant; roedd y cynllun wedi bod yn fwy llwyddiannus na’r disgwyl ac roedd cynghorau eraill yn dilyn ein model.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Kevin Hughes i Gadeiryddion y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ysgrifennu llythyr ar y cyd at Gail Bennett,  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Cyrhaeddiad Addysgol Plant sy'n Derbyn Gofal yn Sir y Fflint pdf icon PDF 235 KB

Pwrpas:        Derbyn Adroddiad Cyrhaeddiad Blynyddol Plant sy’n Derbyn Gofal.

Cofnodion:

            Cyflwynodd yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Chynnydd) yr adroddiad a chyfeiriodd at y crynodeb gweithredol a oedd yn cynnwys manylion y canlyniadau. Darparwyd y diffiniad gan Lywodraeth Cymru a’r dyddiad cau oedd 16eg Ionawr, 2019.  Os oedd unigolyn ifanc yn derbyn gofal erbyn y dyddiad hwn, yna roedd y canlyniadau hynny yn berthnasol iddo.  Yna, cyfeiriodd Aelodau at bwynt 1.02 yn yr adroddiad a oedd yn rhoi manylion am y mannau lle’r oedd disgyblion yn cael eu lleoli (gan gadw cynifer â phosibl mewn ysgolion prif ffrwd gyda 110 o’r 140 o ddisgyblion mewn ysgolion uwchradd). Yna, rhoddodd wybodaeth am y canlyniadau, cyfraddau presenoldeb a gwaharddiadau ynghyd â dyraniad y grant datblygu disgyblion sy’n cael ei ddyrannu i’r plant er mwyn i’r ysgol gael cyllid ar gyfer bwrseriaethau neu er mwyn cydweithio er budd rhagor o blant.

 

            Cyfeiriodd y Cadeirydd at dudalen 198 lle’r oedd 5 o’r plant sy’n derbyn gofal heb ennill cymwysterau cyfnod allweddol 2 a gofynnodd pa fesurau gafodd eu rhoi ar waith i gynorthwyo’r plant hyn. Mewn ymateb, cadarnhaodd yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Chynnydd) fod gwahanol fathau o gymorth yn cael eu darparu, er enghraifft llythrennedd a chymorth therapiwtig.

 

            Nododd y Cynghorydd Dave Mackie fod y canlyniadau yn well na’r hyn a welwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac roedd yn gobeithio y byddai hyn yn parhau. Roedd yn credu bod y pwyllgor wedi cytuno i edrych ar hyn ar sail “Gwerth Ychwanegol” oherwydd roedd yn teimlo byddai rhoi esboniad ehangach o’r rhesymau pam nad oedd y canlyniadau mor dda yn rhoi gwell esboniad.  Mewn ymateb, cadarnhaodd yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Chynnydd) mai’r fformat hwn a ddefnyddiwyd y llynedd ond y gellid cyflwyno’r adroddiad gan gynnwys “gwerth ychwanegol” yn y dyfodol. Roedd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yn deall pwynt y Cynghorydd Mackie ac awgrymodd y gellid darparu ffigyrau cyffredinol yn y dyfodol ynghyd â rhai astudiaethau achos a oedd yn tynnu sylw at bwynt cychwynnol a therfynol er mwyn cyflwyno gwybodaeth ar y gwerth ychwanegol. 

 

            Dywedodd y Cynghorydd Dave Healey wrth y Pwyllgor fod Shaun Hingston, aelod cyfetholedig o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid a chynrychiolydd Cyngor Ieuenctid Sir y Fflint, wedi gwneud cais i gyflwyno’r datganiad canlynol yn ei absenoldeb.

 

“Mae’r datganiad canlynol yn amlinellu ei farn ar yr eitemau ar yr agenda yn ymwneud â Phlant sy’n Derbyn Gofal a’u cyrhaeddiad addysgol. Dywed: ‘Rwyf yn credu’n gryf fod y Strategaeth Cymorth a Lleoliad Ddrafft 2019-2020 yn strategaeth sy’n amlinellu’n glir yr hyn mae angen i’r Awdurdod Lleol hwn ei wneud er mwyn parhau i wneud gwaith rhagorol o ran sicrhau diogelwch, a chyrhaeddiad academaidd plant sy’n derbyn gofal. Mae’r ffigyrau a gyflwynir yn y strategaeth yn adlewyrchu gallu’r Cyngor hwn i gwrdd â’r safonau uchel mae’n eu gosod ar gyfer ei hun ac y mae’n rhaid iddo eu dilyn yn unol â’r ddeddwriaeth.

 

‘Yr hyn sydd wedi gwneud argraff fawr arnaf yw lefel yr ymgynghori sydd wedi bod gyda phobl ifanc a’r pwyslais clir  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Amrywio Trefn Y Rhaglen

Cofnodion:

            Dywedodd y Cadeirydd y byddai newid yn nhrefn y rhaglen ac y byddai’r eitem ‘Cyflwyniad gan Bobl Ifanc’ yn cael ei dwyn ymlaen.

8.

Cyflwyniad gan Bobl Ifanc

Pwrpas:        Rhoi gwybod i Aelodau Etholedig ynghylch gwaith y Gr?p Cyfranogi a’r materion y byddant yn gweithio arnynt.

Cofnodion:

            Estynnodd y Cadeirydd groeso i aelodau’r Gr?p Cyfranogi (Lleisiau Ifanc yn Codi eu Llais) a oedd wedi dod i’r cyfarfod i roi cyflwyniad gerbron y pwyllgor, sydd ynghlwm yn Atodiad 1 y cofnodion. 

 

            Diolchodd y Cadeirydd, ar ran yr Aelodau, i’r bobl ifanc am eu cyflwyniad. Llongyfarchodd Lynn Bartlett y bobl ifanc ar eu cyflwyniad a dywedodd y dylent fod yn falch iawn o’r hyn roeddynt wedi’u gyflawni. 

 

Cymeradwyodd yr Aelodau y plant am eu cyflwyniad.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Kevin Hughes i’r bobl ifanc beth fyddai’r Cyngor yn gallu ei wneud yn well, yn eu barn nhw. Mewn ymateb, dywedodd y bobl ifanc y dylai pobl wrando mwy arnynt. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Y dylid nodi cynnwys y cyflwyniad.

9.

Adroddiad Hunanwerthuso Diogelu mewn Addysg pdf icon PDF 113 KB

Pwrpas:        Cyflwyno adroddiad hunanwerthuso Diogelu’r Awdurdod Lleol ar gyfer y Portffolio Addysg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad a chyfeiriodd at adroddiad diweddar gan Estyn ar Wasanaethau Llywodraeth Leol. Fel rhan o’r broses hon roedd Sir y Fflint wedi cyflwyno adroddiad hunanwerthuso o’n gwasanaethau addysg a hunanwerthusiad ar wahân o’r ffordd rydym yn cyflawni ein cyfrifoldebau diogelu. Roedd yr adroddiad hwnnw ynghlwm a byddai Estyn yn cyhoeddi ei adroddiad ar 9fed Awst. Roedd y Prif Swyddog yn awyddus i roi sicrwydd i’r Aelodau bod gweithdrefnau cadarn yn eu lle i gyflawni diogelu. Rhoddodd wybodaeth am yr adroddiadau a dderbyniwyd gan y Pwyllgor a’r rhaglen hyfforddiant a pholisïau ar gyfer ysgolion. Roedd Gwasanaethau Cymdeithasol Conwy wedi gweithredu fel pâr arall o lygaid ac wedi adolygu ein Polisi Hunanwerthuso ac roeddem yn falch iawn o’r adborth a dderbyniwyd, a’r ffaith ei fod yn bodloni’r holl ofynion statudol.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at bobl ifanc sy’n absennol o’r ysgol a dywedodd mai cyfrifoldeb Sir y Fflint oedd monitro hyn. Gofynnodd pa lwybr fyddai’n cael ei ddilyn petai gan rywun bryderon a phetai angen tynnu sylw’r ysgolion a’r gwasanaethau cymdeithasol at y mater. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod presenoldeb yn rhan annatod o’r ysgol ac os nad oedd plentyn yn bresennol yna dylai’r ysgol gymryd cyfrifoldeb dros geisio darganfod y rhesymau dros yr absenoldeb. Roedd y Gwasanaeth Lles Addysg yn rhoi cymorth i ysgolion ac roedd gan bob ysgol Swyddog Lles Addysg a oedd yn gweithio gyda nhw i wirio’r cofrestri a byddai’r rhain o bosibl yn gwybod am y plentyn hwnnw’n barod. Yna dylai ysgolion gysylltu â’r rhieni a dylent weithredu polisi adrodd am absenoldeb ar ddiwrnod cyntaf yr absenoldeb, gan olygu y dylai rhieni roi gwybod i’r ysgol os nad oedd y plentyn yn mynd i ddod i’r ysgol.  Trwy’r ysgolion, a gyda chymorth y swyddogion, byddai unrhyw bryderon posibl yn cael eu codi’n awtomatig gyda’r Gwasanaethau Plant.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Gladys Healey pa fesurau oedd wedi cael eu rhoi ar waith ar gyfer ymdrin ag iechyd meddwl mewn ysgolion a faint o seicolegwyr plant oedd yn Sir y Fflint. Mewn ymateb, cyfeiriodd yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Chynnydd) at waith y gr?p llywio sy’n goruchwylio iechyd meddwl. Mae aelodau’r gr?p llywio yn cynnwys gwahanol bartneriaid a chynrychiolwyr o’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS). Roedd gan bob ysgol uwchradd swyddog CAMHS dynodedig i gyfarfod disgyblion unigol a rhoi cyngor iddynt. Lluniwyd pecyn Atal Hunan-niweidio er mwyn helpu Staff addysgu ar adeg o argyfwng a’u cyfeirio at gyswllt yn CAMHS. Rhoddodd wybodaeth am y rhaglen 5 ffordd at lesiant ac esboniodd sut roedd y rhaglen yn cael ei chyflwyno ar draws Sir y Fflint. O ran Seicolegwyr Addysgol, dywedodd fod gennym 5.5 (cyfwerth amser llawn) seciolegydd plant.  Nid seicolegwyr clinigol oedd y rhain gan y byddai’r cymorth hwnnw yn cael ei roi gan y Bwrdd Iechyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Y dylid nodi’r adroddiad.

10.

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 pdf icon PDF 134 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad ar Newidiadau Deddfwriaethol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Chynnydd) a roddodd yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (ALNET) a dderbyniodd gydsyniad Brenhinol ym mis Ionawr 2018, ac a gaiff ei rhoi ar waith ym mis Medi 2020.  Esboniodd fod angen llawer o waith i sicrhau bod ysgolion a phartneriaid yn barod a rhoddodd wybodaeth am amcanion cyffredinol y Ddeddf.  Cyhoeddwyd Cod drafft sy’n amlinellu dyletswyddau gweithredol y Ddeddf ac a oedd yn amodol ar ymgynghoriad yn gynharach eleni.  Lluniwyd ymateb gan y Cyngor a oedd yn cynnwys mewnbwn gan amryw o bartneriaid gan gynnwys y Cyngor Ieuenctid. Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried ymatebion yr ymgynghoriad ac mae disgwyl i’r Cod terfynol gael ei gyflwyno gerbron y Cynulliad yn yr hydref gyda’r nod o’i gyhoeddi erbyn diwedd mis Rhagfyr 2019.  Oherwydd yr amserlen hon, esboniodd fod y tîm wedi cael adnoddau ychwanegol i sicrhau bod cymorth di-dor ar gael i’r bobl ifanc pan ddaw’r ddeddf i rym.  Lluniwyd cynllun gweddnewid ar gyfer y Cyngor, fodd bynnag, mae’r amserlen yn dynn iawn o ystyried dyddiad cyhoeddi arfaethedig y Cod terfynol.

 

Roedd yn destun pryder bod y Ddeddf hon wedi cael ei disgrifio gan Lywodraeth Cymru fel un niwtral o ran cost ond bydd ei goblygiadau o ran adnoddau yn ddifrifol iawn i’r Cyngor. 

 

Yna aeth yr Uwch Reolwr ati i restru’r goblygiadau i’r Cyngor yn sgil y newidiadau hyn:-

 

·         Er enghraifft, roedd angen cael Swyddog Anghenion Dysgu Ychwanegol ar gyfer y blynyddoedd cynnar i adnabod y plant ag anghenion dysgu ychwanegol a rhoi darpariaeth ym mhob lleoliad, ac nid yw hyn yn rhywbeth sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd.

 

·         Roedd yn ofynnol i gael cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol ym mhob ysgol; yn yr achosion hynny lle mae’r pennaeth yn cyflawni’r rôl hon ar hyn o bryd, mae’n debygol y bydd yn rhaid i rywun arall ei chyflawni o ystyried y cyfrifoldebau ychwanegol fydd yn cael eu rhoi i’r ysgolion gan y Ddeddf.

 

·         Bydd yr ystod oedran yn codi i 25 oed, gan gynnwys rhoi cymorth i bobl ifanc mewn addysg bellach; ar hyn o bryd, mae gwasanaethau yn rhoi cymorth i bobl ifanc hyd at 19 oed sy’n mynychu ysgol.

 

·         Y ddyletswydd i gomisiynu darpariaeth arbenigol ar gyfer pobl ifanc 16-25 oed; Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am hyn ar hyn o bryd. Rhoddwyd gwybodaeth am y Gweithgor a fyddai’n ystyried y mecanwaith ar gyfer ariannu’r ddarpariaeth hon. Bydd y ddyletswydd hon yn dod i rym o 2021 ymlaen.

 

·         Byddai’r Swyddog Plant sy’n Derbyn Gofal yn gyfrifol am ysgrifennu’r Cynlluniau Datblygu Unigol – ar hyn o bryd mae’r Datganiad Anghenion Dysgu Arbennig yn cael ei ysgrifennu gan yr awdurdod lle mae’r plentyn sy’n derbyn gofal yn byw, fodd bynnag, o dan y Ddeddf newydd swyddogion Sir y Fflint fydd yn gyfrifol am y gwaith hwn. 

 

·         Gallai’r Cyngor fod yn gyfrifol am nodi anghenion dysgu ychwanegol pobl ifanc yn y ddalfa – byddai’r ddarpariaeth yn cael ei rhoi ar waith ar  ...  view the full Cofnodion text for item 10.

11.

Presenoldeb Aelodau O'r Wasg A'r Cyhoedd

Cofnodion:

            Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol yn y cyfarfod.