Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Pwrpas:        I benodi Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod

Cofnodion:

Ceisiodd yr Hwylusydd Addysg ac Ieuenctid enwebiadau am Gadeirydd i’r cyfarfod.  

 

PENDERFYNWYD

 

Penodi’r Cynghorydd David Healey fel Cadeirydd y cyfarfod.

2.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:       I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Sian Braun gysylltiad personol ag Eitem Rhif 9 ar y Rhaglen – Cynnig Gofal Plant i Gymru, Sir y Fflint, gan ei bod yn defnyddio’r gwasanaeth hwn.

           

 

3.

Strategaeth Rhianta Corfforaethol pdf icon PDF 111 KB

Pwrpas:        Adolygu a chymeradwyo Strategaeth Rhianta Corfforaethol wedi’i hadnewyddu ar gyfer Sir y Fflint

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad i gefnogi Strategaeth Rhianta Corfforaethol wedi’i diweddaru ar gyfer Sir y Fflint. Dywedodd bod yr adroddiad yn amlinellu’r gwaith parhaus sy’n mynd rhagddo i lunio Strategaeth Rhianta Corfforaethol newydd o fewn cyd-destun Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a datblygiadau cenedlaethol sy’n ymwneud â Rhianta Corfforaethol. 

 

Cafwyd gwybodaeth gefndir gan y Swyddog Cynllunio a Datblygu, a adroddodd ar y prif ystyriaethau, fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad, mewn perthynas â chynnydd o ran datblygu Strategaeth Rhianta Corfforaethol Sir y Fflint. Eglurodd y byddai’r Strategaeth yn ei lle am o leiaf 5 mlynedd er mwyn sicrhau cysondeb ac i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i blant sy'n derbyn gofal a phobl sy'n gadael gofal. Cyfeiriodd at Strategaeth Rhianta Corfforaethol ddrafft 2018-2023 a gyflwynwyd i’r Pwyllgor ei chymeradwyo.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Hilary McGuill a fyddai’n bosib diwygio’r testun yn y Strategaeth er mwyn iddo ddarllen fel pe bai’n cyfarch plentyn. Cytunodd y Swyddog Cynllunio a Datblygu i ddiwygio’r testun yn unol â hynny.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Kevin Hughes a fyddai’n bosib diwygio’r Strategaeth i nodi, pan fo plentyn sy'n derbyn gofal yn cael ei roi mewn gofal maeth, y byddai ystyriaeth yn cael ei roi i’w osod gyda rhieni maeth gyda’r un credoau crefyddol neu ethnigrwydd. Eglurodd yr Uwch-reolwr Plant a'r Gweithlu fod hyn eisoes yn cael ei ystyried a chytunodd i’w gynnwys yn y Strategaeth.

 

 Yn dilyn awgrym gan y Cynghorydd Carol Ellis, argymhellodd y Pwyllgor y dylid cael cyflwyniad byr ar Rianta Corfforaethol yn un o gyfarfodydd y Cyngor Sir yn y dyfodol a hefyd ar gyfer Tîm y Prif Swyddog. Awgrymodd yr Uwch-reolwr Plant a’r Gweithlu y dylid gwahodd pobl ifanc i lunio’r cyflwyniad er mwyn rhoi esiamplau go iawn i’r Aelodau.

 

Awgrymodd Mrs Rebecca Stark y dylid ychwanegu esiamplau personol gan bobl ifanc at y Strategaeth derfynol, er mwyn dangos sut y gweithiodd y Strategaeth iddyn nhw.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Janet Axworthy y dylid newid teitl y Strategaeth i ‘Gofalu Amdanoch Chi: Strategaeth Rhianta Corfforaethol’.

 

Mewn ymateb i awgrym gan y Cynghorydd Cindy Hinds, a sylwadau pellach a wnaed gan y Pwyllgor yngl?n â digwyddiad Balchder Sir y Fflint, awgrymodd yr Uwch-reolwr Plant a’r Gweithlu y dylai anfon neges e-bost at bob Aelod yn cynnwys trosolwg byr o ddigwyddiad Balchder Sir y Fflint, a hefyd i wahodd cyfraniadau gan Aelodau.

 

Holodd Mr David Hytch a ellid cynnwys Aelodau cyfetholedig Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid yn y neges e-bost hon, a'u gwahodd nhw hefyd i fynychu digwyddiad Balchder Sir y Fflint ym mis Medi.  

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r camau arfaethedig i gyhoeddi Strategaeth Rhianta Corfforaethol newydd, gan roi ystyriaeth i’r diwygiadau a awgrymwyd gan yr Aelodau;

 

(b)       Cymeradwyo’r cam arfaethedig i holl staff Cyngor Sir y Fflint fod yn gyfrifol am gyflwyno’r Strategaeth;

 

(c)        Cymeradwyo'r cam arfaethedig i ddatblygu a gweithredu cynllun gweithredu traws-bortffolio i gyflawni’r datganiadau a amlinellwyd yn y Strategaeth; a

 

(d)       Codi Rhianta Corfforaethol yn un o gyfarfodydd y Cyngor Sir yn y dyfodol a gyda Thîm  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

Corporate Parenting Strategy 2018-2023 Final draft pdf icon PDF 1 MB

4.

Cyraeddiadau Addysgol Plant sy’n Derbyn Gofal yn Sir Y Fflint pdf icon PDF 114 KB

Pwrpas:        Derbyn yr Adroddiad Blynyddol ar Gyraeddiadau Addysgol Plant sy’n Derbyn Gofal

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch-reolwr Cynhwysiant a Dilyniant adroddiad ar Gyrhaeddiad Addysgol Blynyddol Plant sy'n Derbyn Gofal.   Dywedodd bod yr adroddiad yn amlinellu cyrhaeddiad academaidd Plant sy'n Derbyn Gofal Sir y Fflint ar gyfer blwyddyn academaidd 2016-2017.  Roedd y data’n ymwneud â’r garfan o Blant sy'n Derbyn Gofal a nodwyd yn unol â’r diffiniad canlynol: ‘Plentyn o oed ysgol statudol, h.y. rhwng 5 a 16 oed, oedd yn derbyn gofal yn ystod blwyddyn academaidd 2016-17 am o leiaf flwyddyn cyn 31 Awst 2017'.  Eglurodd yr Uwch-reolwr na chafodd y plant oedd yn derbyn gofal dan Seibiant Byr/Gofal Seibiant eu cynnwys yn y dadansoddiad ystadegol er diben yr adroddiad hwn.  Cafodd y data ei rannu’n bedwar gr?p oedran oedd yn cyfateb i Gyfnodau Allweddol y Cwricwlwm Cenedlaethol.  Adroddodd yr Uwch-reolwr ar y prif bwyntiau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

Holodd Mrs Lynne Bartlett a gafodd cyrhaeddiad addysgol plant oedd yn derbyn gofal yn flaenorol ei fonitro.  Dywedodd yr Uwch-reolwr Cynhwysiant a Dilyniant y gellid casglu’r wybodaeth hon ar ôl i’r data gael ei ddiffinio. 

 

Mynegodd y Cynghorydd Hilary McGuill bryderon am y nifer o Blant sy'n Derbyn Gofal mewn Addysg oedd yn gadael yr ysgol heb gymwysterau, a holodd beth sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael â hyn. Adroddodd yr Uwch-reolwr Cynhwysiant a Dilyniant ar yr amrywiol fentrau sy’n cael eu defnyddio i ymgysylltu â phobl ifanc i’w hannog i barhau â’u haddysg.  Gwnaeth sylw am yr heriau a’r anawsterau emosiynol y mae rhai pobl ifanc wedi’u profi yn eu blynyddoedd cynnar a allai hefyd fod wedi cael effaith ar eu perfformiad drwy gydol eu haddysg.   Awgrymodd y Cynghorydd Hilary McGuill y gellid gwahodd plant oedd yn derbyn gofal sydd wedi llwyddo drwy sefydliadau addysgol i siarad â phlant sy’n derbyn gofal sydd wedi’u dadrithio gan addysg am un rheswm neu’i gilydd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am iechyd meddwl a’r prinder posib o seicolegwyr yng Ngogledd Cymru, dywedodd y Cadeirydd y byddai Marilyn Wells, Rheolwr Gwasanaeth CAMHS ac Andrew Gralton, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Plant, yn mynychu cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ar 14 Mehefin 2018, i drafod Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc.

 

Mynegodd y Cynghorydd Gladys Healey bryderon am bolisi derbyn ysgolion, gan ddweud bod rhai rhieni’n cael trafferth cofrestru eu plant mewn ysgol leol.  Gwnaeth sylw hefyd am y nifer cynyddol o rieni sy'n dewis rhoi addysg i'w plentyn yn y cartref.  Mewn ymateb i’r pryderon, eglurodd y Cynghorydd Ian Roberts bod yna amryw o resymau pam nad oedd rhai plant yn gallu mynychu dewis eu rhieni o ysgol.  Dywedodd hefyd nad oedd yna unrhyw ffiniau o ran derbyn disgyblion i ysgolion.  Adroddodd y Cynghorydd Roberts y gwelwyd cynnydd cenedlaethol yn nifer y rhieni sy’n dewis rhoi addysg i’w plentyn yn y cartref.  Adroddodd yr Uwch-reolwr Cynhwysiant a Dilyniant bod Llywodraeth Cymru wrthi’n edrych ar y duedd gynyddol o ran addysg yn y cartref, a’r rhesymau pam fod rhieni’n dewis y gwasanaeth hwn.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Carol Ellis sylw ar yr  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Diogelu Plant ac Amddiffyn Plant pdf icon PDF 108 KB

Pwrpas:        Derbyn gwybodaeth mewn perthynas â diogelu ar gyfer plant a phobl ifanc

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch-reolwr Diogelu a Chomisiynu adroddiad oedd yn rhoi gwybodaeth am ddarpariaeth Diogelu Plant a’r broses Amddiffyn Plant o fewn ffiniau’r Sir.  Eglurodd bod yr adroddiad yn darparu gwybodaeth allweddol am ystadegau a pherfformiad mewn perthynas â phlant dan fygythiad, y mae gan yr Awdurdod gyfrifoldebau diogelu sylweddol amdanynt. 

 

                        Cyfeiriodd yr Uwch-reolwr Diogelu a Chomisiynu at y prif ystyriaethau, fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad, o ran Diogelu Plant, Addysg ac Ieuenctid a blaenoriaethau'r Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer diogelu plant, a diogelu corfforaethol. 

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Tudor Jones a oedd y targedau ar gyfer adolygu plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant yn cael eu cyrraedd, ac ymatebodd Rheolwr Gwasanaeth yr Uned Ddiogelu drwy egluro bod yr Awdurdod wedi cyflawni ei holl dargedau ar gyfer adolygu plant ar y gofrestr yn dda, yn unol â Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Kevin Hughes a oedd gwybodaeth ar gael ar oedran y plant oedd ar y rhestr amddiffyn plant, a hefyd a oedd yna unrhyw gydberthynas rhwng yr oedrannau a’r categorïau risg.  Dywedodd Rheolwr Gwasanaeth yr Uned Ddiogelu bod y data am oedran y plant ar gael ac y gellid ei rhannu.  Dywedodd hefyd y gellid dadansoddi’r data i weld a oedd yna unrhyw gydberthynas rhwng oedrannau’r plant a’r categorïau risg.

 

            Mynegodd y Cynghorydd Hilary McGuill bryderon am ddiogelu plant o amgylch eiddo’r ysgol ar ddiwedd y diwrnod ysgol.  Mewn ymateb, cyfeiriodd Rheolwr Gwasanaeth yr Uned Ddiogelu at waith y Panel Diogelu Corfforaethol, gan nodi bod gan y Gwasanaethau Addysg a’r Heddlu gynrychiolwyr ar y Panel ac esbonio’r gwaith a wneir mewn partneriaeth o ran meysydd sydd o bryder i bawb.  Awgrymodd y Cynghorydd McGuill y dylid gofyn i’r Heddlu fonitro ‘mannau problemus’ lle mae pryder, er mwyn amddiffyn plant a phobl ifanc rhag niwed ac i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol.   

 

Gwnaeth y Cynghorydd Patrick Heesom sylw am y diffyg gwasanaethau ieuenctid ar gyfer pobl ifanc yn Sir y Fflint, gan ddweud fod hynny wedi creu angen cymdeithasol ‘enbyd’.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r wybodaeth mewn perthynas â Diogelu Plant ac Amddiffyn Plant ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2017 a 31 Mawrth 2018; a

 

(b)       Rhoi sylw dyledus i’r gwaith a wneir mewn partneriaeth ar draws y meysydd portffolio i amddiffyn plant a phobl ifanc rhag niwed.

 

6.

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 pdf icon PDF 105 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad ar y cynlluniau gweithredu sy'n deillio o Ddeddfwriaeth y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch-reolwr Cynhwysiant a Dilyniant adroddiad oedd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau gweithredu sy’n deillio o Ddeddfwriaeth y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol.  Rhoddodd wybodaeth gefndir ac adroddodd ar y prif ystyriaethau, fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad. 

 

                        Yn ystod y drafodaeth, ymatebodd y Swyddogion i gwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Tudor Jones mewn perthynas â’r gofal a’r cymorth a ddarperir i bobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) o 18 oed ymlaen. 

 

                        Adroddodd yr Uwch-reolwr Cynhwysiant a Dilyniant y byddai’n rhesymol disgwyl y byddai’r cynnydd yn yr ystod oedran o 19 i 25, ac ehangiad y cynhwysiant deddfwriaethol, yn arwain at fwy o Gynlluniau Datblygu Unigol.  Roedd y ddeddfwriaeth ddiwygiedig hefyd yn darparu ar gyfer trosglwyddo cyfrifoldeb am gomisiynu ac ariannu darpariaeth arbenigol ôl-16 oddi wrth Llywodraeth Cymru i’r Awdurdodau Lleol; ond nad yw’r dull o wneud hyn wedi’i ddiffinio eto. 

                       

            Awgrymwyd y gellid darparu adroddiad pellach ar yr hyn y mae Sir y Fflint yn ei wneud ar gyfer pobl sy'n gadael gofal yng nghyfarfodydd y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn y dyfodol.

 

            PENDERFYNWYD

 

(a)       Nodi’r adroddiad;

 

(b)       Cyflwyno adroddiad wedi’i ddiweddaru ar y cynlluniau gweithredu lleol a rhanbarthol sy’n deillio o’r ddeddfwriaeth, yng nghyfarfodydd y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn y dyfodol.

 

7.

Y Ganolfan Cymorth Cynnar Sir y Fflint pdf icon PDF 100 KB

Pwrpas:        Rhoi trosolwg o weithgarwch ac effeithiolrwydd y Ganolfan Cymorth Cynnar

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch-reolwr Darpariaeth Ieuenctid Integredig adroddiad oedd yn cynnig trosolwg o weithrediad ac effeithiolrwydd y Canolbwynt Cymorth Cynnar. Darparodd wybodaeth gefndir a gwahoddodd yr Uwch-reolwr Plant a’r Gweithlu i gyflwyno’r adroddiad.   

 

            Eglurodd yr Uwch-reolwr Plant a’r Gweithlu bod y Canolbwynt yn cynnig cyngor a chymorth i deuluoedd pan na fyddai atgyfeiriadau wedi cael eu gwneud yn flaenorol a phan roedd yna risg uchel o gael eu hatgyfeirio yn ôl at y Gwasanaethau Plant, gan ddiffinio angen mwy cymhleth. Adroddodd ar ddatblygiad y Canolbwynt Cymorth Cynnar, y gellir ei grynhoi fel a ganlyn:

 

  • Dylunio
  • Lansiad meddal
  • Gweithredu

 

            Siaradodd yr Aelodau o blaid y gwaith gwych a wnaed ar y Canolbwynt Cymorth Cynnar, gan longyfarch y swyddogion ar eu cyflawniadau. Siaradodd yr Aelodau hefyd o blaid y cydweithrediad rhwng yr asiantaethau aml-bartner i ddylunio a datblygu’r Canolbwynt, gan enwi Heddlu Gogledd Cymru a’r Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus fel enghreifftiau.

 

            Gwnaeth Mrs Rebecca Stark sylw am yr angen i barhau’r cyllid yn y dyfodol a gofynnodd sut y gellid codi proffil y Canolbwynt Cymorth Cynnar i sicrhau bod Llywodraeth Cymru ac awdurdodau a sefydliadau/cyrff eraill yn ymwybodol o’r gwaith a’r deilliannau cadarnhaol sy’n cael eu cyflawni yn Sir y Fflint.

 

PENDERFYNWYD

 

(a)       Y byddai’r Pwyllgor yn llongyfarch y swyddogion ar y gwaith y maent wedi’i wneud ar y Canolbwynt Cymorth Cynnar;

 

(b)      Y dylid cefnogi’r gwaith a’r ymrwymiad parhaus i’r Canolbwynt Cymorth Cynnar fel rhan o raglen ehangach i gefnogi teuluoedd sy’n wynebu trawma sy’n ymwneud â Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod;

 

(c)       Y byddai’r Pwyllgor yn cefnogi’r gwaith o gasglu data a thystiolaeth i ddangos yr angen am barhad yn y cyllid Teuluoedd yn Gyntaf gan Lywodraeth Cymru.

 

8.

Cynnig Gofal Plant i Gymru, Sir y Fflint pdf icon PDF 100 KB

Pwrpas:        Darparu diweddariad ar gyflwyno darpariaeth gofal plant am ddim

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad ar gyflwyniad fesul cam y ddarpariaeth gofal plant am ddim, gan nodi bod yr adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y Cynnig Gofal Plant i Gymru a ariennir yn Sir y Fflint. Gwahoddodd Reolwr y Blynyddoedd Cynnar a Chymorth i Deuluoedd i gyflwyno’r adroddiad.

           

                        Adroddodd Rheolwr y Blynyddoedd Cynnar a Chymorth i Deuluoedd ar y cynnydd o ran datblygu a darparu’r Cynnig Gofal Plant i Gymru yn Sir y Fflint, gan gyfeirio at y prif ystyriaethau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.

 

                        Mynegodd y Cynghorydd Martin White ei longyfarchiadau i’r swyddogion ar y gwaith ardderchog a wnaed i gyflwyno’r Cynnig Gofal Plant fesul cam yn Sir y Fflint. 

 

            PENDERFYNWYD:

 

(a)                  Y dylid cymeradwyo’r cynnydd a wnaed i gyflwyno’r Cynnig Gofal Plant yn llawn yn Sir y Fflint; ac

 

(b)                  Y dylid cymeradwyo’r cynllun cyflenwi traws gwlad arfaethedig.

 

9.

ATTENDANCE BY MEMBERS OF THE PRESS AND PUBLIC

Cofnodion:

There were no members of the press or public in attendance