Agenda and minutes

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

20.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cynghorydd Tudor Jones at gyfarfodydd blaenorol ble roedd wedi datgan cysylltiad oherwydd ei gysylltiadau gyda Chanolfan Hamdden Treffynnon a gofynnodd a ddylai wneud hynny eto.   Dywedodd y Cadeirydd y byddai nodyn yn y cofnodion yn ddigon. 

21.

Cofnodion pdf icon PDF 137 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 1 Gorffennaf a 9 Gorffennaf 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod ar 1 Gorffennaf a 9 Gorffennaf 2019 fel cofnod cywir.

 

PENDERFYNWYD:

Cymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i’r Pwyllgor gymeradwyo symud eitem 7 ar y rhaglen ymlaen i fod yn eitem 6 er mwyn i’r rhaglen lifo’n well.    Cytunwyd ac eiliwyd gan aelodau’r Pwyllgor oedd yn bresennol.

22.

Rhaglen Gwaith I'r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 96 KB

Pwrpas:        I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Newid Sefydliadol a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yr adroddiad oedd yn amlinellu Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol drafft presennol y Pwyllgor.  Yna rhoddodd ddiweddariad ar yr eitemau oedd yn weddill ar yr atodiad Camau Gweithredu a gwybodaeth ar gynnydd eitemau eraill.   

 

            Cyfeiriodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) at Wasanaeth Teledu Cylch Cyfyng y Cyngor a chadarnhaodd drafodaethau gyda Chomisiynydd yr Heddlu a Throsedd yngl?n â chyfraniadau ariannol uwch unwaith y byddai’r teledu cylch cyfyng wedi’i adleoli yn llwyddiannus yn Wrecsam.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol fel y cyflwynwyd, yn cael ei chymeradwyo;

 

(b)       Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)        Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu heb eu cwblhau.

23.

Modelau Darparu Amgen Cam 2 pdf icon PDF 129 KB

Pwrpas:        Nodi cynnwys yr adroddiad yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet ar 16 Gorffennaf.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog yr adroddiad a gyflwynwyd i geisio cefnogaeth y Pwyllgor.   Roedd y Cabinet wedi cymeradwyo’r rhestr o flaenoriaethau ac roedd yna hefyd gysylltiadau gyda Chynllun y Cyngor.   Yna rhoddodd y wybodaeth ddiweddaraf ar bob un o’r Modelau Cyflawni Amgen (ADM):-

 

·                Gwasanaeth Monitro a Rheoli Teledu Cylch Cyfyng  

·                Theatr Clwyd.

·                Gofal Micro (Gwasanaethau gofal cartref yn y gymuned)

·                Gwasanaethau Masnachu Strydwedd a Chludiant

·                Gwasanaethau Masnachu Cyfrif Refeniw Tai  

·                Menter Tlodi Bwyd  

·                Cwmni Ynni Gwyrdd  

 

Gofynnodd y Cynghorydd David Wisinger y cwestiynau canlynol ar y profion MOT yn Alltami a chynnig i ddarparu gwasanaeth nwy a thrydan:-

 

·                Oedd yna ddigon o le parcio i gleientiaid yn y Depo?

·                A fyddai gwaith arall yn cael ei ystyried fel gwasanaethu cerbydau?

·                Yngl?n â gwasanaethu nwy a thrydan a fyddai hyn yn cael ei wneud gan un swyddog?

 

             Mewn ymateb i’r pwynt cyntaf, eglurodd y Prif Swyddog fod hyn yn parhau yn y camau cysyniad ond y cynnig oedd unwaith y byddai cerbydau’r Cyngor wedi gadael y depo yn y bore y byddai yna le ar gael i barcio yn y cefn wrth y gweithdy ar gyfer hyn.   O ran y cwestiwn gwasanaethu ceir, dywedodd y byddai yna gyfleoedd i gynnwys gwaith arall ond nid oedd yn hysbys ar hyn o bryd gan fod y prosiect yn y cam cysyniad i’w ddatblygu ymhellach.    Yngl?n â’r cynnig Gwasanaethu Nwy a Thrydan (Gwasanaethau Tai) dywedodd fod hyn eto yn y camau cynnar iawn ac y ceisir defnyddio a datblygu’r gwasanaeth o fewn y Sefydliad Llafur Uniongyrchol Tai.   Dywedodd y Cynghorydd Wisinger fod hyn yn gam cadarnhaol iawn gan fod yna alw am y math yma o wasanaeth yn arbennig gan landlordiaid preifat. 

 

            Cyfeiriodd Geoff Collett at Theatr Clwyd a gofynnodd ai’r model arfaethedig oedd y mwyaf effeithiol o ran treth i’r Theatr.    Cyfeiriodd at Sw Caer lle gofynnwyd i noddwyr arwyddo dogfen i alluogi’r Sw i hawlio 26% yn ôl gan y Llywodraeth.   Nid oedd y Sw yn Fodel Ymddiriedolaeth Annibynnol ond gofynnwyd a fyddai’r Theatr yn gallu hawlio rhywfaint o dreth yn ôl fel y Sw.    

 

            Mewn ymateb, cadarnhaodd y Prif Swyddog y byddai’r model yn galluogi’r Theatr i dderbyn buddion o’r Dreth Gorfforaeth a’r Dreth Ar Werth.   Roedd yna gyfleoedd ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Busnes, mynediad i gyllid elusennol ac alinio modelau cyflogaeth gyda theatrau eraill a fyddai hefyd yn fuddiol.  Byddai hyn yn rhoi mwy o ryddid i’r Theatr gynllunio sut yr oeddent yn gweithredu. Roedd yna lawer o waith yn cael ei wneud ond byddai adroddiad manwl ar hyn yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn yr hydref. 

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Tudor Jones am eglurhad ar y pwyntiau canlynol yngl?n â Model Cyflawni Amgen Gwasanaethau Masnachu Cyfrif Refeniw Tai

 

·                A fyddai hyn yn cael ei sefydlu fel yr ADM Aura neu’n cael ei reoli gan y Cyngor?    

·                A fyddai hyn yn effeithio ar gyrff elusennol presennol eraill fel Gofal a Thrwsio ac a ellir ystyried partneriaeth gyda’r gweithredwyr hynny gan ei fod yn teimlo ei bod yn  ...  view the full Cofnodion text for item 23.

24.

Adroddiad Cynllun y Cyngor ar gyfer 2018/19 pdf icon PDF 200 KB

Pwrpas:        Adolygu’rcynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2018/19.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog yr adroddiad oedd yn dadansoddi’r perfformiad yn erbyn Dangosyddion Perfformiad y Cynllun Gwella.   Nid oedd yna ddangosyddion perfformiad yn dangos statws coch ar gyfer perfformiad presennol yn erbyn targedau.    

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Martin White a’i eilio gan y Cynghorydd Geoff Collett. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y pwyllgor yn cymeradwyo Adroddiad Monitro Cynllun Diwedd Blwyddyn 2018/19  y Cyngor.

25.

Menter Bwyd Sir y Fflint ac Ymateb i'r Tlodi Bwyd pdf icon PDF 238 KB

Pwrpas:        Cyflwyno a cheisio barn ar y cynnig am fodel Menter Gymdeithasol newydd er mwyn helpu i leihau tlodi bwyd yn y Sir.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog yr adroddiad oedd yn rhoi gwybodaeth ar ddatblygu’r fenter bwyd ac ymateb i dlodi bwyd.  Roedd y prosiect wedi datblygu o’r ymgyrch llwgu yn ystod gwyliau i bartneriaeth gyda Clwyd Alyn, Can Cook a Chyngor Sir y Fflint i ffurfio menter gymdeithasol.  Cyfeiriodd yr Aelodau at adran 1.09 o’r adroddiad oedd yn cynnwys amcanion y fenter gymdeithasol ac y byddai’r model pryd ar glud hefyd yn darparu agwedd gymdeithasol i’r cymunedau yn arbennig ardaloedd gwledig lle na fyddai gan drigolion lawer o gyswllt cymdeithasol a rhyngweithio o ddydd i ddydd.  Yna rhoddodd wybodaeth ar y gwasanaethau darparu bwyd gofal cartref gan ddweud mai’r nod oedd symud o’r cymorth bwyd i brynu bwyd i grwpiau bregus fyddai yn ei dro yn cefnogi pobl mewn cymunedau ac yn mynd i’r afael ag unigrwydd.  Cyfeiriodd yr Aelodau at dudalen 27 pwynt 1.11 yn yr adroddiad oedd yn amlinellu’r buddsoddiad cychwynnol gyda Sir y Fflint yn anelu i adeiladu a datblygu cegin cynhyrchu ar gyfer darparu bwyd i gymunedau a chymdeithasau tai.    

 

Gofynnodd y Cynghorydd Jones am eglurhad ar rai brawddegau yn yr adroddiad:-

 

·                Ar dudalen 26 ym mhwynt 1.01 “nid oes gan bobl fynediad i fwyd ffres da o ddewis” a gofynnodd at beth oedd hyn yn cyfeirio.  Mewn ymateb, eglurodd y Prif Swyddog fod yna bobl yn defnyddio banciau bwyd ac er eu bod yn darparu gwasanaeth ardderchog nid oeddent yn darparu bwyd ffres da.  Roedd yn ôl dewis yn golygu nad oedd ganddynt unrhyw le arall i fynd.  Ychwanegodd y Rheolwr Budd-daliadau bod yna faterion gyda phobl yn methu cael bwyd ffres da yn arbennig mewn ardaloedd gwledig.  Ychwanegodd fod gan bawb, beth bynnag eu cefndir, yr hawl i gael bwyd ffres da.  Awgrymodd y Cynghorydd Jones y dylid ei newid i “efallai yn ôl amgylchiadau.”

·                Yna cyfeiriodd at y paragraff nesaf “ar gyfer pob £1 sy’n cael ei wario ar fwyd roedd 37c yn cael ei ychwanegu ar gyfer clefydau sy’n ymwneud â diet ac angen triniaeth yn ddiweddarach” a gofynnodd am eglurhad.  Mewn ymateb, eglurodd y Rheolwr Budd-daliadau bod hwn wedi’i dynnu o  ddarn o ymchwil a gynhaliwyd gan weithwyr iechyd proffesiynol yn edrych ar effaith ehangach ar y gwasanaeth iechyd oherwydd salwch cysylltiedig â deiet.  Roedd y sylw wedi’i wneud o ganlyniad i ddeietau gwael neu pobl ddim yn cael digon i’w fwyta yna byddai angen 37c o bob £1 i drin y bobl hynny.  Dywedodd y Cynghorydd Jones fod y 37c yr hyn yr oedd yn rhaid i gymdeithas ei dalu i ddigolledu’r dewisiadau hynny a wnaed mewn blynyddoedd cynharach.   

 

            Dywedodd yr Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad bod y mesurau hyn yn bwysig yn arbennig wrth ymgeisio am arian ac amlinellodd y gwaith a wnaed gan awdurdodau lleol a’r Gwasanaeth Iechyd o ran ataliad.  Ychwanegodd yr Aelod Cabinet Rheoli Corfforaethol ac Asedau fod hon yn fenter wych yn arbennig i’r sawl oedd yn byw mewn ardaloedd gwledig a fyddai nid yn unig yn cael pryd o fwyd llawn maeth ond cyswllt gyda  ...  view the full Cofnodion text for item 25.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

26.

Menter Bwyd Sir Y Fflint ac Ymateb i'r Tlodi Bwyd (Atodiad Cyfrinachol I Eitem Rhif 6 ar y Rhaglen)

Cofnodion:

Cwestiynau ar y Cynllun Busnes

 

            Roedd y Cynghorydd Geoff Collett yn canmol y tîm ar gyflwyniad da iawn.  Cyfeiriodd at yr amser yr oedd teulu yn ei gymryd i baratoi pryd o fwyd oedd wedi lleihau o ddwy awr a hanner i 6 munud oedd yn amlygu bod yna angen addysgu pobl.  Teimlodd fod hyn yn rhywbeth cenedliadol gan nad oedd plant yn cymryd rhan yn coginio. 

 

            Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad at ymweliad â phrosiect bagiau bwyd gwyrdd yn Yr Wyddgrug lle roeddent yn gorfod rhoi cardiau cyfarwyddyd ar sut i goginio llysiau yn y bagiau.  Cytunodd fod angen addysgu plant sut i baratoi bwyd a philio llysiau ac ati.     

 

            Eglurodd y Rheolwr Budd-daliadau fod y model menter gymdeithasol wedi’i ddylunio ar gyfer pob maes o ansicrwydd bwyd o offer bwyd, gwybodaeth a sgiliau, fforddiadwyedd ac amser coginio.  Darparodd wybodaeth ar fodel Lerpwl a dywedodd nad cymorth bwyd oedd hyn ond newid tymor hir.  Ychwanegodd nad oedd pobl mewn argyfwng oedd yn llwgu yn gallu delio gyda’r materion eraill oedd yn mynd ymlaen yn eu bywydau. 

 

            Cytunodd yr Aelod Cabinet Rheoli Corfforaethol ac Asedau gyda phopeth oedd yn cael ei ddweud ac roedd yn cofio ei blentyndod lle roedd gwyddoniaeth ddomestig yn rhan fawr o’r ysgol a gartref roedd y teidiau a neiniau yn dysgu’r wyrion sut i goginio a phobi.  Mewn cyferbyniad roedd yna ddibyniaeth ar fwydydd parod, cludo bwyd parod i’r cartref ac ati.   

 

            Cytunodd y Cynghorydd Johnson ac roedd yn ffafrio’r agwedd gwerth cymdeithasol ac ychwanegodd fod yna’r mater tlodi tanwydd.  Cyfeiriodd at y siop bwyd cyfleus ar dop Holway lle roedd pobl yn ei chael hi’n anodd cario eitemau mawr tra’n delio gyda chadair wthio neu ffrâm gerdded.  Gofynnodd a oedd yna unrhyw ffordd i gynnwys yr eitemau mwy yn y ddarpariaeth o fewn y gwasanaeth hwn a sicrhau mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus.    

 

            Ymatebodd y Rheolwr Budd-daliadau gan ddweud nad oedd hyn yn rhywbeth a ystyrir ar hyn o bryd ond gallai ddod allan o’r gwaith cydnerthu cymunedol a chyfeiriodd at yr hyn yr oedd y Cynghorydd Mullin yn ei ddweud am deuluoedd neu gymdogion yn edrych allan am ei gilydd.  Efallai y byddai canlyniad y gwaith cydnerthu cymunedol yn gofyn i’r siopau bwyd cyfleus os byddent yn cludo bwyd.

 

            Cyfeiriodd y Cadeirydd at y bwydydd heb unrhyw werth maeth o gwbl a dywedodd am arbrawf yn y 1960au lle roedd y llygod mawr oedd yn bwyta’r bocsys prydau parod yn gwneud yn well na’r llygod mawr oedd yn bwyta’r bwyd parod.  Efallai bod angen amlygu cyn lleied o werth maeth oedd yn y prydau parod hyn. 

 

            Roedd y Cynghorydd Jones yn meddwl beth oedd y gwahaniaeth rhwng gwerth maeth a dietegol.  Cyfeiriodd at y dewis bwyd ar dudalen 75 o’r adroddiad a gofynnodd a fyddai gan y pwyllgor fewnbwn i’r cynhwysion.  Hefyd gofynnodd os oedd yna lai o gadwolion a fyddai’n para am gyfnod byrrach. Gyda phryderon gordewdra dros ddeiet uchel mewn siwgr, uchel mewn carbohydradau, teisennau crwst a chacennau efallai  ...  view the full Cofnodion text for item 26.

27.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol.