Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

10.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr Paul Johnson a Tudor Jones gysylltiad personol a chysylltiad sy'n rhagfarnu â’r eitemau canlynol:

 

Eitem 6: Trosglwyddo Ased Cymunedol Canolfan Hamdden Treffynnon.

11.

Cofnodion pdf icon PDF 157 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 13 Mai 2019.

 

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Mai 2019.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

12.

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 96 KB

Pwrpas:        I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Newid Sefydliadol a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol er mwyn ei hystyried. Tynnodd sylw at yr eitemau a drefnwyd ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor i’w gynnal ar 9 Medi 2019. 

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)     Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol fel y cyflwynwyd, yn cael ei chymeradwyo;

 

 (b)     Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd Trosolwg a Chraffu, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

 (c)      Bod y cynnydd a wnaed o ran cwblhau’r camau gweithredu sy'n weddill yn cael ei nodi.

13.

Gwasanaeth teledu cylch caeëdig y Cyngor a gwasanaeth ar y cyd â Wrecsam pdf icon PDF 111 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Aelodau am gynigion i gydweithio â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam mewn perthynas â chyfuno gwasanaeth monitro teledu cylch caeëdig y Cyngor Sir â'r gwasanaeth yn Wrecsam.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad i roi gwybod i’r Aelodau am gynigion i gydweithio â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam mewn perthynas â chyfuno gwasanaeth monitro teledu cylch caeedig Cyngor Sir y Fflint â'r gwasanaeth yn Wrecsam.

 

Darparodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndir gan ddweud bod yr adroddiad yn ystyried nifer o opsiynau o ran gosod teledu cylch caeedig fel y nodwyd yn yr adroddiad. Byddai ail-leoli’r gwasanaeth teledu cylch caeedig i Wrecsam yn darparu gwasanaeth teledu cylch caeedig ar y cyd sy’n cael ei reoli gan Wrecsam. Byddai Sir y Fflint yn dal yn gyfrifol am gostau ffibr a chynnal a thrwsio camerâu. Mae cyfleuster Wrecsam yn Nh?r Rhydfudr yn fodern gyda chynllun sydd yn rhagweld partneriaid ychwanegol. Byddai’r dewis i uno gwasanaethau yn darparu gwytnwch ac yn rheoli costau'n fwy effeithiol.

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad, mewn perthynas â gwasanaeth teledu cylch caeedig y Cyngor a’r angen am newid. Esboniodd bod nifer o fanteision ychwanegol a ellid eu datblygu o fabwysiadu dull ar y cyd â Wrecsam, yn cynnwys darparu gwasanaeth cadw allwedd a gwasanaeth monitro larwm.

 

Yn ystod trafodaeth, ymatebodd y Prif Swyddog i’r sylwadau a’r cwestiynau a godwyd gan yr Aelodau mewn perthynas â’r wybodaeth a ddarparwyd o ran y costau gwasanaeth gwirioneddol a’r costau arfaethedig a rennir rhwng yr Awdurdodau, fel sydd wedi’u hatodi i’r adroddiad. Ymatebodd y Prif Swyddog hefyd i’r cwestiynau pellach a’r pryderon a fynegwyd mewn perthynas â chostau ail-leoli, y goblygiadau o ran trefniadau staffio a thelerau ac amodau, a darpariaeth barhaus o wasanaeth teledu cylch caeedig yng Nghynghorau Tref a Chymuned. Gofynnodd y Cynghorydd Janet Axworthy bod y Pwyllgor yn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf o ran goblygiadau staffio / trafodaethau. Cytunwyd y byddai adroddiad diweddaru yn cael ei gynnwys ar y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol i’w ystyried yn un o gyfarfodydd y Pwyllgor ymhen 6-8 mis.

 

Soniodd y Cynghorydd Sean Bibby am werth gwasanaethau teledu cylch caeedig i Heddlu Gogledd Cymru a gofynnodd a oedd cyfraniad ariannol yr Heddlu yn cael ei adolygu. Cadarnhaodd y Prif Swyddog y byddai’n rhaid codi’r mater hwn â Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru. Dywedodd bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam eisoes wedi codi’r mater o gyllid â Heddlu Gogledd Cymru gan nodi y byddai’n rhaid archwilio i fodel cyllid cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau teledu cylch caeedig yn y dyfodol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Dave Wisinger fod Aelodau’r Pwyllgor yn cael cyfle i weld y cyfleuster newydd pan yn weithredol. Cadarnhaodd y Prif Swyddog y byddai hyn yn cael ei drefnu drwy Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi i’r trefniadau gael eu sefydlu yn Wrecsam.  

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)     Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r argymhelliad i uno’r swyddogaeth monitro teledu cylch caeëdig gyda Wrecsam ar ôl derbyn sicrwydd o ran parhad gwasanaeth;

 

 (b)     Bod y Pwyllgor yn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf o ran goblygiadau staffio / trafodaethau gydag adroddiad diweddaru yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ymhen 6/8 mis; a

 

 (c)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi  ...  view the full Cofnodion text for item 13.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD:

 

            Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

14.

Trosglwyddo Ased Cymunedol Canolfan Hamdden Treffynnon

Pwrpas:        Adolygu cynnydd yn ystod 2018/19 ac i ystyried cynlluniau ar gyfer 2019

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad er mwyn i’r Pwyllgor allu adolygu cynnydd Trosglwyddo Ased Cymunedol Canolfan Hamdden Treffynnon ers ei sefydlu ym mis Ebrill 2017. Darparodd wybodaeth gefndir a chyd-destun a dywedodd fod yr adroddiad yn edrych yn ôl ar y flwyddyn ariannol ddiweddaf, yn adolygu cynllun busnes y flwyddyn ariannol bresennol ac yn darparu'r cynllun busnes ar gyfer 2019/20 i’w ystyried.

 

Adroddodd y Prif Swyddog ar y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad, a chyfeiriodd at y targedau ar gyfer 2018/19 a’r cynllun busnes, sydd ynghlwm wrth yr adroddiad, sy’n nodi’r blaenoriaethau allweddol, y cynllun gweithredu a’r cynigion ariannol hyd at 2020/21. 

 

Mynegodd y Cynghorydd David Wisinger bryderon ynghylch cost y gwaith atgyweirio a chynnal a chadw sy’n rhaid ei wneud ar yr adeilad.

 

Yn ystod y drafodaeth, soniodd yr Aelodau am y cymorth refeniw a ddarparwyd gan y Cyngor i Ganolfan Hamdden Treffynnon. Cynigodd y Cynghorydd Janet Axworthy fod y cyllid cymorth refeniw yn cael ei ddarparu tu hwnt i 2019/20 ac o bosib yn cynyddu.  Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Dave Mackie. Pan gafwyd pleidlais, ni chymeradwywyd hyn.  Dywedodd Arweinydd y Cyngor, er ei fod yn cydnabod y gefnogaeth i ddarparu cyllid yn y dyfodol, roedd rhaid i Aelodau fod yn ystyriol o wneud ymrwymiadau heb ystyried manylion lefelau cyllid y Cyngor ar gyfer 2020/21.

 

Mynegodd y Cadeirydd ei ddiolch ar ran y Pwyllgor i’r Ymddiriedolwyr a’r tîm rheoli am y cynnydd a'r llwyddiannau hyd yma a llwyddiant parhaus Canolfan Hamdden Treffynnon. 

 

Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Andy Dunbobbin ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Dave Mackie. 

 

PENDERFYNWYD:

 

            Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r Cynllun Busnes ar gyfer Canolfan Hamdden Treffynnon.

15.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.