Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Cofnodion:
Datganodd Tudor Jones ddatganiad personol yn eitem 6 ar y rhaglen – Adroddiad Monitro Chwarter 3 Cynllun y Cyngor 2019/20, fel Cadeirydd Ymddiriedolwyr Canolfan Hamdden Treffynnon.
|
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 27 Ionawr 2020. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Ionawr 2020.
Cynigiwyd eu cymeradwyo gan y Cynghorydd David Wisinger ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Andy Dunbobbin.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi. |
|
Pwrpas: I ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar ganolfan ddydd Hwb Cyfle sydd newydd ei hadeiladu a’i hagor ac i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor mewn perthynas â threfniadau gweithio mewn partneriaeth gyda HFT. Cofnodion: Cyflwynodd Uwch Reolwr y Gwasanaethau Integredig adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y ganolfan ddydd newydd, Hwb Cyfle, a’r trefniadau gweithio mewn partneriaeth gyda Hft. Darparodd wybodaeth gefndir a rhoddodd wybod fod contract gwasanaeth yr Awdurdod gyda Hft yn cynnwys elfennau allweddol o gyfleoedd gwaith, cyflogaeth a gefnogir a chanolfan ddydd. Symudodd Hft o Ganolfan Ddydd Glanrafon i’r ganolfan ddydd newydd, Hwb Cyfle, ym mis Mehefin 2019 gan gefnogi 272 o unigolion. Adroddodd yr Uwch Reolwr ar y prif bwyntiau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad. Cyflwynodd ddefnyddiwr gwasanaeth a’i wahodd i roi cyflwyniad byr ar ei brofiad personol yn defnyddio’r gwasanaeth Cyfleoedd Dydd Anableddau Dysgu i Aelodau.
Rhoddodd yr Uwch Reolwr wahoddiad i Jordan Smith, Rheolwr y Ganolfan HFT, ac Andrew Horner, Uwch Reolwr Gweithredol Hft, i roi gwybod am gynnydd y gwaith partneriaeth gyda Hft. Rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor bod Hft wedi parhau i ddatblygu nifer o bartneriaethau buddiol ar draws y sir i ddarparu cyfleoedd newydd a gweithgareddau amrywiol i bobl sy’n derbyn cefnogaeth. Rhoddwyd gwybod bod Project Search yn rhaglen gyflogaeth a gefnogir ar gyfer pobl ifanc ag anableddau dysgu. Dechreuwyd y rhaglen ym mis Medi 2019 gyda naw o hyfforddeion gan weithredu yn y Fflint mewn partneriaeth â Thai Clwyd Alun fel y prif gyflogwr ar gyfer lleoliadau gwaith. Coleg Cambria oedd yr arweinydd addysg a phartner cyflenwi gwasanaeth y Cyngor ar gyfer anableddau dysgu. Darparodd Hft gefnogaeth hyfforddwr swydd. Darparwyd lleoliadau gwaith gan Hamdden a Llyfrgelloedd Aura, Mcdonalds a’r Cyngor.
Diolchodd Aelodau i’r defnyddiwr gwasanaeth am rannu ei brofiad gyda’r Pwyllgor a llongyfarchwyd ef am ei gyflawniadau. Rhoddodd Aelodau ganmoliaeth i swyddogion a Rheolwyr Hft ar lwyddiant y Model Darparu Amgen ar gyfer Cyfleoedd Dydd Anableddau Dysgu a’r gwasanaeth a’r cymorth rhagorol a ddarparwyd i unigolion gan Hft.
Cyflwynodd y Cynghorydd Christine Jones sylwadau ar ddigwyddiad busnes diweddar a dywedodd fod cyflogwyr yn edmygu llwyddiannau, brwdfrydedd a moeseg gwaith cadarnhaol defnyddwyr gwasanaeth Hft.
Awgrymodd Uwch Reolwr y Gwasanaethau Integredig y dylid trefnu taith o amgylch Hwb Cyfle i Aelodau pan fo’n addas.
Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd David Wisinger a’u heilio wedi hynny gan y Cynghorydd Andy Dunbobbin.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r cynnydd a wnaed drwy’r partneriaeth gwasanaeth â Hft, a gweddnewidiad llwyddiannus y gwasanaeth canolfan ddydd o Glanrafon i Hwb Cyfle; a
(b) Bod y Pwyllgor yn llongyfarch Hft ar ddarpariaeth Project Search. |
|
Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred PDF 81 KB Pwrpas: I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Newid Sefydliadol a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu'r adroddiad. Darparodd wybodaeth gefndir a nododd fod adroddiad wedi cael gyflwyno i’r Cyngor Sir ar 27 Chwefror 2020, a fod Aelodau wedi cefnogi’r bwriad i leihau nifer y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu o chwech i bump, a chytunwyd i argymell dadelfennu’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol i’r Cyngor.
Dywedodd yr Hwylusydd fod adolygiad wedi’i gwblhau ar yr eitemau a restrir ar Raglen Waith i’r Dyfodol y Pwyllgor i benderfynu ble y dylid adrodd ar yr eitemau hyn yn y dyfodol. Roedd copi o eitemau’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol flaenorol a pha Bwyllgor Trosolwg a Chraffu fyddai’n eu hystyried ynghlwm â’r adroddiad.
Rhoddodd yr Hwylusydd y wybodaeth ddiweddaraf ar gamau gweithredu a oedd yn codi o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor ac roedd manylion y cynnydd a wnaed mewn perthynas â’r camau yn atodiad 2 o’r adroddiad hwn.
Eglurodd y Prif Weithredwr fod y Cyngor wedi gwneud penderfyniad i leihau nifer y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu, a fyddai’n dod i rym yn dilyn cyfarfod Blynyddol y Cyngor a oedd wedi’i drefnu ar gyfer 5 Mai, 2020, gofynnodd i Aelodau ystyried y newidiadau i gyfarfodydd Pwyllgorau a oedd ar y gweill yn sgil y Coronafeirws, gan gynnwys y newidiadau i ddeddfwriaeth i ganiatáu i gyfarfodydd blynyddol y Cyngor gael eu cynnal yn hwyrach yn y flwyddyn, ac felly byddai modd i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol barhau fel Pwyllgor am y tro.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi eitemau’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol flaenorol a pha Bwyllgor Trosolwg a Chraffu fyddai’n eu hystyried yn y dyfodol; a
(b) Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu heb eu cwblhau. |
|
Adroddiad Monitro Chwarter 3 Cynllun y Cyngor ar gyfer 2019/20 PDF 124 KB Pwrpas: Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2019/20 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu'r adroddiad a oedd yn darparu crynodeb o’r gwaith monitro cynnydd ar gyfer chwarter 3 (Hydref - Rhagfyr 2019) 2019/20 ar gyfer blaenoriaethau Cynllun y Cyngor ‘Cyngor sy’n Cysylltu’, ‘Cyngor Gofalgar’, a ‘Chyngor Uchelgeisiol’ sydd yn berthnasol i’r Pwyllgor. Dywedodd fod yr ail adroddiad monitro ar gyfer Cynllun y Cyngor 2019/20 yn adroddiad cadarnhaol gydag 89% o weithgareddau'n gwneud cynnydd da ac 89% yn debygol o gyflawni'r canlyniadau a fwriadwyd. Yn ogystal â hyn, roedd 81% o'r dangosyddion perfformiad wedi'u diwallu neu wedi rhagori ar y targed. Roedd y risgiau yn cael eu rheoli'n llwyddiannus gyda'r mwyafrif yn cael eu hasesu’n risgiau cymedrol (71%) neu’n fân risgiau/risgiau ansylweddol (18%). Ni nodwyd unrhyw risgiau mawr ar gyfer y Pwyllgor.
Cynigiodd y Cynghorydd David Wisinger yr argymhelliad yn yr adroddiad ac eiliwyd gan y Cynghorydd Paul Johnson.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad. |
|
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd Cofnodion: PENDERFYNWYD:
Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). |
|
Cynllun Busnes NEWydd Pwrpas: Cyflwyno cynllun busnes tair blynedd NEWydd (2020/21 I 2022/23) ar gyfer ei ystyried, adolygu a’i gefnogi. Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad i gyflwyno cynllun busnes tair blynedd NEWydd (2020/21 i 2022/23) i’w gymeradwyo. Darparodd wybodaeth gefndir a rhoddodd wybod fod blaenoriaethau cynllun busnes ehangach yn 2019/20 yn seiliedig ar wella busnes craidd, gan sicrhau dull gweithredu hyfyw i’r dyfodol. Roedd y cynnydd mewn perthynas â chyflawni blaenoriaethau cynllun busnes 2019/20, ynghyd â’r blaenoriaethau busnes a nodwyd ar gyfer y tair blynedd ariannol nesaf, wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad ac roedd y manylion ynghlwm â’r adroddiad.
Cyflwynodd y Rheolwr Gyfarwyddwr, Arlwyo a Glanhau NEWydd Cyfyngedig, yr ystyriaethau allweddol. Yn ystod y drafodaeth, ymatebodd y Rheolwr Gyfarwyddwr i’r cwestiynau a godwyd ynghylch sicrhau contractau arlwyo a glanhau i gynnal gwasanaeth i ysgolion a allai ddewis arfer ‘dewis lleol’, darpariaeth prydau ysgol am ddim mewn ysgolion uwchradd, a threfniadau ar gyfer cefnogaeth ‘swyddfa gefn’.
Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd David Wisinger ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd Sean Bibby.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r llwyddiannau hyd yma yn erbyn blaenoriaethau Cynllun Busnes Arlwyo a Glanhau NEWydd Cyfyngedig 2019/20; a
(a) Bod y Pwyllgor yn argymell Cynllun Busnes NEWydd 2020/21 i 2022/23 i’r Cabinet i’w ystyried. |
|
Y Wybodaeth Ddiweddaraf Am Y Coronafeirws Cofnodion: Cyn ystyried y wybodaeth ddiweddaraf am y Dull Darparu Amgen, darparodd y Prif Weithredwr ddiweddariad cryno i’r Pwyllgor o’r trefniadau sydd ar waith yn sgil pandemig y Coronafeirws, yn arbennig mewn perthynas ag Aura, Cambrian Aquatics a Theatr Clwyd.
Cynghorodd y Rheolwr Gyfarwyddwr, Arlwyo a Glanhau NEWydd Cyfyngedig, fod gan NEWydd gynlluniau wrth gefn ar waith i fodloni’r gofynion i ddisgyblion a oedd yn derbyn prydau ysgol am ddim.
Darparodd y Cynghorydd Tudor Jones y wybodaeth ddiweddaraf fel Ymddiriedolwr i Ganolfan Hamdden Treffynnon ar drefniadau a roddwyd ar waith a diolchodd i’r Cyngor am eu cefnogaeth yn ystod y cyfnod hwn. |
|
Alternative Delivery Model Update (Social Care - Learning Disability Day and Work Opportunities) (Confidential Appendix to Agenda Item Number 4) Cofnodion: Cyflwynodd Uwch Reolwr y Gwasanaethau Integredig atodiad i’r wybodaeth ddiweddaraf am y Model Darparu Amgen (Gofal Cymdeithasol – Cyfleoedd Dydd a Gwaith Anableddau Dysgu) a gyflwynwyd i’r Pwyllgor yn gynharach yn y cyfarfod. Cyflwynodd yr Uwch Reolwr yr adroddiad a oedd yn amlinellu’r cynnydd presennol yn erbyn y gyllideb a’r amcanestyniadau i’r dyfodol.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Paul Johnson yn ymwneud â threfniadau pensiwn ar gyfer trosglwyddo staff i Hft, dywedodd yr Uwch Reolwr y byddai hi’n darparu gwybodaeth ar y cynllun pensiwn a ddefnyddir gan Hft i’r Cynghorydd Johnson ar ôl y cyfarfod.
Cynigiwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Sean Bibby a’i eilio gan y Cynghorydd Janet Axworthy.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r cynnydd a wnaed o ran y ddarpariaeth gwasanaeth, y gwerth ychwanegol a sicrhawyd drwy’r gweithgareddau codi arian a phartneriaethau, a’r arbedion effeithlonrwydd amcangyfrifedig ar ddiwedd y cyfnod contract. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol. |