Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

28.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Dim.

29.

Cofnodion pdf icon PDF 100 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 9 Medi 2019.

Cofnodion:

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Medi 2019 fel cofnod cywir.

 

Cynigiwyd eu cymeradwyo gan y Cynghorydd David Wisinger ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Martin White.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

30.

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Newid Sefydliadol a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu yr adroddiad oedd yn amlinellu Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol drafft presennol y Pwyllgor. Dywedodd fod yr eitemau canlynol wedi eu hychwanegu i’r Rhaglen i’w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor i’w gynnal ar 27 Ionawr.

 

  • Adroddiad Diweddaru Fesul Cam Trawsnewid Model Ymddiriedolaeth Theatr Clwyd
  • Adnewyddu cytundeb Gwasanaeth AURA

 

Rhoddodd yr Hwylusydd y wybodaeth ddiweddaraf ar dracio camau gweithredu a chyfeiriodd at y cam gweithredu oedd yn codi o gyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf yn ymwneud â Gwasanaeth Teledu Cylch Caeëdig y Cyngor a Gwasanaeth a Rennir gyda Wrecsam. Dywedodd nad oedd yna unrhyw gamau gweithredu yn codi o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Medi.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd David Wisinger ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd Sean Bibby. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn cael ei chyflwyno fel a gymeradwywyd;

 

(b)       Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)        Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran cwblhau’r camau gweithredu sy’n weddill.

 

31.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig: Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2020/21 pdf icon PDF 118 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i aelodau am y sefyllfa ddiweddaraf o ran y gyllideb ar gyfer 2020/21 ac unrhyw gynigion arbennig ar gyfer y Portffolio.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol adroddiad i roi gwybod i Aelodau beth yw sefyllfa ddiweddaraf y gyllideb ar gyfer 2020/21 ac unrhyw gynigion penodol ar gyfer y Portffolio.Dywedodd bod yr adroddiad yn nodi'r rhagolwg ariannol cyfredol a’r ‘bwlch’ a ragwelir yng ngofyniad cyllideb y Cyngor ar gyfer 2020/21. Dywedodd fod y bwlch llawn cyn y datrysiadau ar gyfer y gyllideb sydd wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad, a chyn Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020/21, yn £16.2m ar hyn o bryd.Roedd crynodeb o’r rhagolygon a’r newidiadau i sefyllfa’r rhagolygon a adroddwyd yn flaenorol wedi’i nodi yn yr adroddiad.

 

Darparodd y Rheolwr Cyllid Strategol wybodaeth gefndir ac eglurodd fod yr adroddiad yn cyflwyno holl arbedion effeithlonrwydd y gyllideb arfaethedig a’r pwysau o ran costau i’w cynnwys yn y gyllideb ar gyfer 2020/21. Amlygodd yr adroddiad yr arbedion effeithlonrwydd penodol a’r pwysau o ran costau i wasanaethau oedd yn flaenorol wedi eu strwythuro o fewn Newid Sefydliadol i’w hystyried gan y Pwyllgor fel rhan o’i gyfrifoldebau portffolio.Dywedodd y Rheolwr Cyllid Strategol wrth gloi mai adroddiad terfynu cyllideb dros dro oedd hwn yn aros am gwblhau gwaith parhaus ar opsiynau cyllid corfforaethol a datrysiad cyllideb Llywodraeth Cymru.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Tudor Jones pam fyddai'r Cyngor yn cyfrannu tuag at ddyfarniad cyflog Aura a Newydd.Eglurodd Rheolwr Cyllid y Gwasanaethau Cymunedol fod gan Aura a Newydd eu strwythurau tâl eu hunain a bod staff wedi derbyn cynnydd o 1% mewn tâl y flwyddyn flaenorol. Ond roedd yna gydnabyddiaeth er mwyn eu galluogi i fod yn gyflogwyr teg o ran tâl fod angen cyfraniadau ychwanegol gan y Cyngor.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Rheolwr Cyllid Strategol a'r Swyddogion am eu gwaith caled yn lleihau'r bwlch yn y gyllideb, drwy gyfuniad o arbedion effeithlonrwydd corfforaethol a phortffolio ac incwm, i ragolygon o £8.0–£8.5m. 

 

Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd David Wisinger a’i eilio gan y Cynghorydd Janet Axworthy.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo pwysau costau’r portffolio Newid Sefydliadol a argymhellwyd ar gyfer ei gynnwys yn y gyllideb ar gyfer 2020/21. 

32.

Prosiect ADM Micro-ofal Sir y Fflint pdf icon PDF 151 KB

Pwrpas:        I adrodd ar weithredu Model Darparu Micro-ofal Amgen yn Sir y Fflint.

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog (y Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad ar weithredu Model Cyflawni Amgen Micro-ofal yn Sir y Fflint.Rhoddodd wybodaeth gefndir a gwnaeth sylw ar y pwysau i fodloni’r galw cynyddol am ofal cymdeithasol o ganlyniad i boblogaeth h?n sy’n cynyddu a'r anawsterau a brofir gan asiantaethau gofal o ran recriwtio a chadw gweithwyr.  

 

Dywedodd y Prif Swyddog fod yr Awdurdod wedi sefydlu prosiect peilot mentrau Micro-ofal i fynd i’r afael â’r broblem o gyflenwi gofal ac roedd wedi bod yn llwyddiannus o ran ei geisiadau am gyllid gan Cadwyn Clwyd a Chronfa Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru i gefnogi gweithredu'r prosiect.Byddai’r prosiect peilot yn weithredol tan Fehefin 2021 a gyda Chwmnïau Cymdeithasol Cymru, Cydweithredol Cymru a budd-ddeiliaid eraill byddai’n cefnogi datblygu mentrau micro-ofal newydd yn Sir y Fflint.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog Marianne Lewis, Swyddog Cynllunio a Datblygu ar gyfer Micro-Ofal, a gwahoddodd hi i ddarparu trosolwg o’r prosiect Micro-Ofal.Eglurodd y Swyddog Cynllunio a Datblygu fod mentrau Micro-ofal yn cael eu diffinio fel cwmnïau bach â phum gweithiwr, gyda nifer ohonynt yn fasnachwyr unigol, yn darparu gwasanaethau gofal neu wasanaethau'n ymwneud â gofal i breswylwyr Sir y Fflint.  Cyfeiriodd at y pwyntiau allweddol yn ymwneud a datblygu'r prosiect Micro-ofal, fel nodir yn yr adroddiad, a dywedodd fod dau swyddog datblygu Micro-ofal wedi eu recriwtio i gyflawni’r peilot a bod Bwrdd Gweithredu wedi ei sefydlu i oruchwylio’r prosiect. Ar hyn o bryd roedd gan chwe unigolyn ddiddordeb mewn dod yn fusnesau Micro-ofal a fyddai’n gweithio i hyrwyddo’r peilot ac ehangu nifer o fentrau Micro-ofal sy’n gweithredu ar draws Sir y Fflint. Hefyd roeddent yn gweithio gyda thri busnes micro-ofal i archwilio cyfleoedd i ddatblygu ymhellach. 

 

Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Martin White yn ymwneud â chodi ymwybyddiaeth o’r gwasanaeth eglurodd y Swyddog Cynllunio a Datblygu y byddai’r prosiect yn cael ei hyrwyddo’n frwd yn y Flwyddyn Newydd drwy rwydweithiau cymunedol lleol.

 

Fe wnaeth y Cynghorydd Tudor Jones sylw ar y galw cynyddol ar wasanaethau gofal cymdeithasol o ganlyniad i’r cynnydd a ragwelir mewn disgwyliad oes ar gyfer pobl 65 oed a h?n.Gofynnodd ai dim ond ar gyfer pobl oedd yn 65 oed a h?n yr oedd y gwasanaeth Micro-ofal ar gael a chyfeiriodd at y newid yn yr oed yr oedd pobl yn gymwys i hawlio pensiwn y wladwriaeth.Wrth ymateb i’r pwyntiau a godwyd eglurodd y Prif Swyddog fod y prosiect yn hyblyg ac y gellid darparu cymorth yn dilyn ceisiadau a wnaed gan unigolion am ofal.Dywedodd y Swyddog Cynllunio a Datblygu os nad Micro-ofal oedd y datrysiad gorau ar gyfer unigolyn yna byddai ef/hi yn cael gwybod beth yw’r opsiynau eraill i gefnogi eu hanghenion. 

 

Yn ystod y trafodaethau ymatebodd Swyddogion i'r sylwadau a’r cwestiynau pellach a godwyd gan Aelodau yn ymwneud â chyllid parhaus i gefnogi/datblygu’r prosiect yn y dyfodol, taliadau uniongyrchol a darparu gofal mewn ardaloedd gwledig.Pwynt allweddol ddaeth i’r amlwg oedd y gobaith y gallai mwy o hyblygrwydd fod yn bosibl; mae'n bosibl y gall busnes micro-ofal  ...  view the full Cofnodion text for item 32.

33.

Cynllun y Cyngor 2019/20 – Monitro Canol Blwyddyn pdf icon PDF 124 KB

Pwrpas:        Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2019/20.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu yr adroddiad a oedd yn cyflwyno crynodeb o’r perfformiad ar y pwynt canol blwyddyn yn 2019/20 ar gyfer blaenoriaethau Cynllun y Cyngor ‘Cyngor sy’n Cysylltu’, ‘Cyngor Gofalgar’, a ‘Chyngor Uchelgeisiol’ sydd yn berthnasol i’r Pwyllgor. Dywedodd fod yr adroddiad monitro canol blwyddyn ar gyfer Cynllun y Cyngor 2019/20 yn adroddiad cadarnhaol gyda 88% o weithgareddau'n gwneud cynnydd da a 90% yn debygol o gyflawni'r canlyniadau a fwriadwyd.Roedd 77% o’r dangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu ragori ar eu targedau.Roedd risgiau yn cael eu rheoli, gyda 14% yn unig yn cael eu hasesu fel rhai sylweddol ac roedd 40% o risgiau yn gostwng o ran eu pwysigrwydd.Ni nodwyd unrhyw risgiau mawr ar gyfer y Pwyllgor. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd David Wisinger yr argymhelliad yn yr adroddiad ac eiliwyd gan y Cynghorydd Martin White.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.

34.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol.