Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

45.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd datganiad o gysylltiad personol a rhagfarnus gan y Cynghorydd Tudor Jones yn yr eitemau canlynol:

 

Eitem 6: Adolygiad o Gynnydd ‘NEWydd Catering and Cleaning’

Eitem 7: Adolygiad o Gynnydd ‘Aura Leisure and Libraries’

 

46.

Cofnodion pdf icon PDF 80 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 18 Rhadfyr 2017 a 29 Ionawr 2018.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr 2017 a 29 Ionawr 2018.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

 

 

47.

Adroddiad Monitro Chwarter 3 Cynllun y Cyngor ar gyfer 2017/18 pdf icon PDF 114 KB

Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2017/18.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol 1) Adroddiad Monitro Chwarter 3 Cynllun y Cyngor 2017/18. Esboniodd fod yr adroddiad yn cyflwyno’r gwaith o fonitro cynnydd blaenoriaeth Cynllun y Cyngor ‘Cyngor sy’n Cysylltu’ a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndir a dywedodd fod yr adroddiad monitro ar gyfer Cynllun y Cyngor 2017/18 yn adroddiad cadarnhaol, gan fod cynnydd da yn cael ei wneud mewn 81% o’r gweithgareddau a aseswyd, ac roedd 69% yn debygol o gyflawni’r canlyniad a ddymunir.  Roedd Dangosyddion Perfformiad yn dangos cynnydd da ac roedd 84% wedi cyrraedd targed y cyfnod, neu bron â’i gyrraedd. Llwyddwyd i reoli risgau hefyd ac aseswyd y mwyafrif fel risgiau canolig (67%) neu fân (10%). 

 

            Dywedodd y Prif Swyddog nad oedd unrhyw ddangosyddion perfformiad wedi’u nodi fel rhai statws coch o ran eu perfformiad presennol yn erbyn y targed ar gyfer y Pwyllgor ac nid oedd unrhyw risgiau wedi’u nodi. Roedd cynnydd yn erbyn y risgiau a nodwyd yng Nghynllun y Cyngor wedi’u cynnwys yn yr atodiad i’r adroddiad.

 

            Mewn ymateb i sylw a wnaed gan y Cadeirydd ynghylch y cyfyngiadau i fusnesau lleol a chyflenwyr lleol, esboniodd y Prif Swyddog y byddai’r Strategaeth Budd Cymunedol yn gwella datblygiad marchnadoedd yn y gymuned leol a’r trydydd sector yn sgil newidiadau i’r broses gaffael bresennol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi adroddiad Monitro Chwarter 3 Cynllun y Cyngor 2017/18.

 

48.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg ieuenctid & Addysg

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol bresennol er mwyn iddi gael ei hystyried gan y Pwyllgor. Dywedodd y byddai’n rhannu manylion y rhaglen ar gyfer y flwyddyn i ddod ar ôl i ddyddiadau cyfarfodydd y pwyllgor gael eu cymeradwyo yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor ar 1 Mai.

 

Tynnodd yr Hwylusydd sylw at yr eitemau i’w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 14 Mai 2018, a’r eitemau a oedd wedi’u dynodi i gael eu hystyried yng nghyfarfodydd y dyfodol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog y byddai’n cysylltu â’r Cadeirydd, yn dilyn y cyfarfod, i bennu eitemau a restrwyd o dan ‘eitemau i’w trefnu’ ar gyfer dyddiadau addas cyfarfodydd y dyfodol. 

 

 PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol a gyflwynwyd; ac

 

(b)       Awdurdodi’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd neu’r Hwylusydd Trosolwg a Chraffu, mewn ymgynghoriad gyda’r Cadeirydd a’r Is-gadeirydd i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd yn ôl yr angen.

 

49.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

            Gwahardd y wasg a’r cyhoedd ar gyfer gweddill y cyfarfod, dan ddarpariaethau paragraff(au) 14, Rhan 4, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd) er mwyn trafod yr eitemau canlynol oherwydd ei bod yn debygol y bydd gwybodaeth eithriedig yn cael ei datgelu.

 

 

50.

Adolygiad Cynnydd Arlwyo a Glanhau NEWydd

Pwrpas:  Adolygu cynnydd NEWydd ers iddo sefydlu yn 2017

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Newid Sefydiladol 1) adroddiad er mwyn galluogi’r Pwyllgor i adolygu cynnydd NEWydd ers ei sefydlu yn 2017.  Cyflwynodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndir a gwahoddwyd Darren Jones – Cadeirydd y Bwrdd, a Steve Jones – Rheolwr-gyfarwyddwr, i adrodd ar sut roedd y newid wedi dod yn ei flaen ac ar Gynllun Busnes NEWydd ar gyfer y flwyddyn ariannol 2018/19. 

 

                        Gofynnodd yr Aelodau nifer o gwestiynau ynghylch prydau ysgol a gwasanaethau glanhau. Cytunodd y Pwyllgor i dderbyn gwybodaeth bellach am brydau ysgol am ddim pan fyddai’n briodol. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i Darren Jones a Steve Jones am eu cyflwyniad ac am ateb cwestiynau’r Aelodau.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn diolch i NEWydd am yr esboniad o’u Cynllun Busnes ar gyfer y flwyddyn ariannol 2018/19; a

 

(b)       Nodi a chroesawu cynnydd NEWydd a oedd wedi cael blwyddyn gyntaf dda o fasnachu.

 

51.

Adolygiad Cynnydd Hamdden a Llyfrgelloedd Aura

Pwrpas:  Adolygu cynnydd Aura ers iddo sefydlu yn 2017

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol 1) adroddiad er mwyn galluogi’r Pwyllgor i adolygu cynnydd ‘Aura Leisure and Libraries Limited’ ers ei sefydlu yn 2017. Cyflwynodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndir a gwahoddwyd Paul Jones, Rheolwr Gwella Busnes a Pherfformiad, a Neil Williams, Ysgrifennydd y Cwmni, i adrodd ar gynnydd y trosglwyddiad ac ar Gynllun Busnes ‘Aura Leisure and Libraries’ ar gyfer y flwyddyn ariannol 2018/19.

 

Gofynnodd yr aelodau nifer o gwestiynau am weithgareddau i bobl anabl a phrosiectau buddsoddiad cyfalaf y dyfodol. Cytunodd Paul Jones y byddai’n ystyried yr awgrymiadau i ddarparu sesiynau ychwanegol i bobl anabl.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Paul Jones a Neil Williams am eu cyflwyniad ac am ateb cwestiynau’r Aelodau.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi cynnydd ‘Aura Leisure and Libraries Ltd’ ers ei sefydlu ym mis Mawrth 2017; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn diolch i ‘Aura Leisure and Libraries Ltd’ am yr esboniad o’u Cynllun Busnes ar gyfer y flwyddyn ariannol 2018/19.

 

52.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol.