Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

33.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

34.

Cofnodion pdf icon PDF 80 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 27 Tachwedd 2017.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd 2017.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

 

35.

Chwarae Cymru a Digonolrwydd Chwarae pdf icon PDF 79 KB

Pwrpas: Bydd Chwarae Cymru yn darparu cyflwynid i aelodau i alluogi trafodaeth a sylwadau cyn darparu hyfforddiant i aelodau a staff ar ddechrau 2018, a fydd yn cefnogi datblygiad chwarae yn y dyfodol yn Sir y Fflint. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol 1) yr adroddiad i alluogi sylwadau a thrafodaeth i ddigwydd cyn darparu hyfforddiant i aelodau a staff ddechrau 2018 i gefnogi datblygiad chwarae yn Sir y Fflint yn y dyfodol.  Darparodd wybodaeth gefndir a nododd fod y Cyngor ar y cyfan wedi cynnal ymrwymiad cryf i chwarae er gwaethaf y blynyddoedd diweddar o lymder. Cyflwynodd Janet Roberts, Swyddog Datblygu Chwarae, a Marianne Mannello, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Chwarae Cymru, a’u gwahodd i roi cyflwyniad ar Gyfleoedd Chwarae Digonol yn Sir y Fflint. Dyma oedd pwyntiau allweddol y cyflwyniad:

 

·         yr hawl i chwarae

·         Dyletswydd Cyfleoedd Chwarae Digonol Llywodraeth Cymru

·         beth sydd yn dy rwystro di rhag chwarae y tu allan?

·         dathlu llwyddiant

·         meysydd pryder

·         cyfleoedd

·         blaenoriaethau wrth symud ymlaen 

 

Diolchodd y Cadeirydd i Gyfarwyddwr Cynorthwyol Chwarae Cymru a’r Swyddog Datblygu Chwarae am eu cyflwyniad. 

 

Gwnaeth y Cynghorydd Ian Dunbar sylw ar bwysigrwydd cynlluniau chwarae yn arbennig yn ystod cyfnod gwyliau’r Haf gan nad oedd pob teulu yn gallu mynd â phlant i ffwrdd ar wyliau. Cyfeiriodd at y rhaglen arian cyfatebol a siaradodd am yr anhawster a brofwyd gan Gynghorau Tref a Chymuned a oedd a nifer o gynlluniau chwarae ac ardaloedd chwarae i’w hariannu a’u cynnal. Dywedodd y Cynghorydd Dunbar hefyd fod rhai ardaloedd chwarae yn mynd i gyflwr gwael oherwydd diffyg cyllid i wella ac adnewyddu offer ac nid oedd goleuadau digonol mewn rhai o’r ardaloedd chwarae h?n.  Gofynnodd y Cynghorydd Dunbar a ellid darparu cyllid drwy Gytundebau Adran 106 gyda datblygwyr lleol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol 1) fod arian cyfalaf wedi ei neilltuo'r llynedd i fynd i’r afael â phob ardal chwarae oedd wedi derbyn lefel ‘coch’ i’w codi i’r safon ofynnol. Eglurodd hefyd fod gwaith yn parhau gyda Chynllunio i edrych ar ganllawiau diwygiedig ynghylch polisïau cynllunio a chyllid gan ddatblygwyr ar gyfer ardaloedd chwarae.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Paul Shotton yr angen i hyrwyddo chwarae awyr agored i bobl ifanc a siaradodd am fendithion iechyd a lles tymor hir a fyddai’n cael eu sicrhau. Anogodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol Chwarae Cymru Gynghorau Tref a Chymuned i gefnogi datblygiad chwarae yn y gymuned leol ac eirioli dulliau ar gyfer datblygu chwarae a oedd "y tu allan i'r bocs" o safbwynt darpariaeth Chwarae.  Cytunodd gyda’r farn a fynegwyd gan y Cynghorydd Shotton a dywedodd y byddai Chwarae Cymru yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws Cymru i godi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd chwarae.  Tynnodd y Cynghorydd Shotton sylw at y cyllid loteri a oedd ar gael drwy’r cynllun ‘Our Backyard’ ac eglurodd fod Cyngor Tref Cei Connah wedi llwyddo gyda’i gais am gyllid.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Brian Lloyd ynghylch Parkour neu Redeg Rhydd, dywedodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol Chwarae Cymru fod hwn yn fath penodol o ddarpariaeth ac nid oedd yn ymwybodol o gynllun yng Ngogledd Cymru

 

Diolchodd y Cynghorydd David Wisinger i’r swyddogion am yr adrodd a chydnabod y cynnydd oedd wedi cael ei wneud mewn darpariaeth chwarae, serch hynny mynegodd bryder nad oedd nifer o ardaloedd chwarae "yn cyrraedd y safon  ...  view the full Cofnodion text for item 35.

36.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol pdf icon PDF 73 KB

Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg ieuenctid & Addysg

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol i’w hystyried.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol fel y cyflwynwyd gydag amodau ac y dylid awdurdodi'r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd neu’r Hwylusydd Trosolwg a Chraffu mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd i amrywio’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol rhwng cyfarfodydd os bydd angen.

 

 (b)      Dylid cyflwyno adroddiad ar y Polisi Cynllunio Diwygiedig i’r pwyllgor maes o law. 

 

37.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

38.

Pwll Nofio Cei Connah - Adroddiad Cynnydd Canol Blwyddyn Cambrian Aquatics 2017/18

Pwrpas - Bydd y Cambrian Aquatics yn cyflwyno adolygiad cynnydd ganol blwyddyn i alluogi trafodaeth a sylwadau cyn datblygu Cynllun Busnes ar gyfer 2018/19.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol 1) adroddiad i alluogi’r Pwyllgor i ystyried cynnydd ar gyfer chwe mis cyntaf 2017/18 ac i wneud sylwadau a fydd yn hysbysu datblygiad y Cynllun Busnes nesaf gan Cambrian Aquatics ar gyfer cyflwyniad ffurfiol i’r Cyngor ddechrau 2018. Darparodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndir a gwahoddodd Simon Morgan, Cadeirydd Cambrian Aquatics, i gyflwyno adolygiad cynnydd canol blwyddyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Dylid nodi cynnydd Cambrian Aquatics, datblygiad Cynllun Busnes, a chefnogaeth barhaus i’r Trosglwyddiad Asedau Cymunedol hwn; a

 

 (b)     Dylid diolch i Simon Morgan, Cadeirydd Cambrian Aquatics am ei bresenoldeb a’i gyfraniad i’r cyfarfod.

 

39.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

            Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Presentation - Play Wales pdf icon PDF 1 MB