Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

25.

SYLWADAU AGORIADOL

Cofnodion:

Mynegodd y Cynghorwyr Dunbar a Bateman bryderon am lefydd parcio er mwyn gallu mynychu cyfarfodydd yn Neuadd y Sir.  Dywedodd y Cynghorydd Heesom nad oedd hyn yn dderbyniol a chynigiodd bod y pryderon yn cael eu mynegi ar bapur i’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd neu’r Prif Weithredwr.  Eiliwyd hyn a chafodd ei gefnogi gan y Pwyllgor.

 

Wrth ymateb, fe atgoffodd y Cynghorydd Shotton yr aelodau bod maes parcio Neuadd y Sir ar agor i’r cyhoedd ac y byddai angen Gorchymyn i gadw llefydd parcio.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod yna ddigon o lefydd parcio ar lawr gwaelod maes parcio Theatr Clwyd.

 

Fe holodd y Cynghorydd Hutchinson ynghylch amser y cyfarfod gan mai newydd ddechrau’r swydd ar y Pwyllgor yr oedd ar y sail bod y cyfarfod yn y boreau a oedd yn gyfleus iddo. Dywedodd yr Hwylusydd nad oedd yr amser wedi newid o'r hyn oedd yn Nyddiadur y Cyfarfodydd a gafodd ei gymeradwyo gan yr Aelodau ym mis Mai ac ar y cyfan bod y Pwyllgor yn cyfarfod am 10am lle y bo’n bosibl.  Dywedodd y Cynghorydd Dunbobbin y byddai barn Aelodau am batrwm y Pwyllgor yn y dyfodol yn cael ei drafod fel rhan o eitem ar y rhaglen yn nes ymlaen.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Hutchinson a oedd ystyriaeth wedi'i roi i awgrym a wnaed mewn cyfarfod blaenorol ynghylch defnyddio gofod y tu allan ger yr ystafelloedd cyfarfod fel mannau parcio i Aelodau sy’n mynychu cyfarfodydd. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr Hwylusydd yn ysgrifennu at y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd a Phrif Weithredwr i fynegi’r pryderon a fynegwyd gan rai Aelodau ynghylch argaeledd parcio ar gyfer cyfarfodydd.

26.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

27.

Cofnodion pdf icon PDF 97 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 25 Medi a 9 Hydref 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 25 Medi a 9 Hydref 2017.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r ddau set o gofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

28.

Gwydnwch Cymunedol a Strategaeth Budd Cymunedol pdf icon PDF 97 KB

Pwrpas:        Darparu trosolwg byr o waith i adeiladu ar waith blaenorol i ddatblygu’r sector cymdeithasol drwy ddatblygu menter gymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol) yr adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o'r gwaith sy'n cael ei wneud i adeiladu ar y gwaith blaenorol i ddatblygu’r sector cymdeithasol trwy ddatblygu menter gymdeithasol.

 

Roedd cyflawniadau ar Drosglwyddo Asedau Cymunedol a Modelau Darparu Amgen wedi helpu i gryfhau’r sector cymdeithasol a gwydnwch cymunedol. Cafodd hyn ei gefnogi gan waith y Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus ac mae eu cynllun llesiant yn cynnwys amrywiaeth o fentrau i ddatblygu’r is-flaenoriaeth ‘Cymunedau Gwydn’ o dan flaenoriaeth ‘Cyngor wedi’i Gysylltu’ yng Nghynllun y Cyngor.  Mae’r Strategaeth Budd Cymunedol, a gymeradwywyd gan y Cabinet yn ddiweddar, yn nodi’r buddion y gellir eu defnyddio ym mhob math o gontract caffael ac roedd yn declyn i asesu lefel y budd a gyflawnir gan sefydliad.

 

Dywedodd y Cynghorydd Shotton bod yr adroddiad yn un eang a bod y prosiectau a restrwyd wedi’u cysylltu ag uchelgeisiau yng Nghynllun y Cyngor.  Roedd llwyddiant y gwaith hyd yn hyn wedi helpu i adeiladu capasiti a byddai datblygiad pellach yn helpu i annog perchenogaeth gymunedol a hyrwyddo gwariant lleol.  Roedd cyflawniadau mentrau cymunedol yng Nglannau Merswy yn enghraifft lle gallai’r Cyngor ddefnyddio dysgu i fod o fudd i’r economi leol.

 

Fe ganmolodd y Cynghorydd Hutchinson y modd roedd llyfrgell a chanolfan hamdden Bwcle yn cael ei redeg gan Aura Leisure & Libraries.  Wrth ymateb i gwestiynau, cafwyd eglurhad am faterion gan gynnwys cynnydd gyda Throsglwyddo Asedau Cymunedol ar gyfer canolfan gymunedol Bwcle i allu derbyn grwpiau gwahanol a’r gefnogaeth sydd ar gael trwy fenter gymdeithasol ‘Amser Babi Cymraeg’.

 

Croesawodd y Cynghorydd Dunbar lwyddiant y rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol.  Gan gyfeirio at y cwestiynau, siaradodd y Prif Swyddog am adeiladu gwydnwch cymunedol a set sgiliau fel rhan waith wedi’i seilio yn yr ardal a gefnogwyd yn flaenorol gan Cymunedau yn Gyntaf. Rhoddodd fanylion hefyd am bartneriaethau o fewn y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus

 

Wrth ymateb i sylwadau ar fentrau Rhannu Cymunedol mewn rhannau eraill o'r DU, dywedodd y Cynghorydd Shotton bod egwyddorion caffael gyda chwmnïau lleol ymysg uchelgeisiau’r Cyngor. Roedd y Strategaeth Budd Cymunedol yn cynnwys nodau penodol a oedd yn gysylltiedig â rhai Cymunedau yn Gyntaf ond nid oeddynt yn cymryd lle’r rhaglen honno a oedd wedi cael ei ddirwyn i ben gan Lywodraeth Cymru.

 

Croesawodd y Cadeirydd ymdrechion y Cyngor i wneud y gorau y gallai i barhau â’r gwaith yn y meysydd hynny.

 

Er bod y Cynghorydd Heesom yn cefnogi unrhyw fecanwaith i reoli pwysau ar wasanaethau cymdeithasol, dywedodd nad oedd yn teimlo y byddai gwaith yn seiliedig yn yr ardal yn lleihau’r galw ar y gwasanaethau hynny.  Wrth ymateb i sylwadau pellach, eglurodd y Cynghorydd Shotton bod rhai o’r themâu y tu ôl i Rannu Cymunedol yn ymwneud â modelau perchenogaeth gymunedol o gyflawni. Roedd lleihau’r galw ar wasanaethau cymdeithasol yn rhan o'r strategaeth, er enghraifft y gymdeithas gymunedol 'Toe to Toe' a oedd yn cynnig gwasanaeth fforddiadwy, hygyrch i helpu i atal problemau iechyd parhaus.

 

O ran contractau caffael, fe eglurodd y Prif Swyddog mai’r amcan oedd i gontractwyr ddangos gwerth am  ...  view the full Cofnodion text for item 28.

29.

Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru: Adolygiad Perfformiad 2016/17 pdf icon PDF 93 KB

Pwrpas:        I amlinellu cynnydd darparu gwasanaeth llyfrgell yn erbyn Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol) adroddiad ar adolygiad o berfformiad gwasanaeth llyfrgelloedd Sir y Fflint yn 2016/17 yn erbyn Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru.

 

Rhoddodd Kate Leonard, Rheolwr Datblygu Llyfrgelloedd drosolwg o berfformiad a oedd wedi gwella ers y flwyddyn flaenorol.  Rhoddodd grynodeb o gyflawniadau ar Hawliau Craidd a Dangosyddion Ansawdd, a rhoddodd eglurhad ar y rhai nad oedd wedi cael eu diwallu'n llawn, fel y manylir yn yr adroddiad.  Bu ffocws parhaus ar wella perfformiad a byddai llenwi swyddi gwag yn cael effaith gadarnhaol ar y flwyddyn ganlynol.  Fe soniwyd yn yr Adroddiad Asesiad Blynyddol am gyflawniadau’r gwasanaeth wrth gynnal perfformiad yn ystod cyfnod o newid, ond fe soniodd hefyd am bwysigrwydd buddsoddiad parhaus.  Dywedodd y Rheolwr y byddai’r rhagolygon o ostyngiadau pellach yn cyflwyno risg yng ngweithrediad a gwydnwch y gwasanaeth.

 

Fe soniodd y Cynghorydd Dunbar am lwyddiant llyfrgell Glannau Dyfrdwy a darparu Wi-Fi mewn llyfrgelloedd.

 

Gan ymateb i gwestiynau, cafwyd eglurhad bod dau reolwr llyfrgell newydd wedi’u penodi a bod ailstrwythuro’r tîm yn gynharach yn y flwyddyn wedi creu haen newydd i gefnogi datblygiad gyrfaol. O ran cyfeiriad y gwasanaeth yn y dyfodol, cafwyd eglurhad bod gostyngiad parhaol o 10% o gyllid cyffredinol gan y Cyngor yn rhan o’r cynllun busnes presennol.

 

Pan ofynnodd y Cynghorydd Gay am ddyfodol gwasanaeth y llyfrgell deithiol, dywedodd y Rheolwr y byddai cerbyd newydd ar gael i'w ddefnyddio'n fuan. Cafodd aelodau eu hannog i gysylltu â rheolwr y llyfrgell os oedd ganddynt unrhyw ofynion penodol ar gyfer gwasanaeth y llyfrgell deithiol.

 

Cynigiodd y Cadeirydd bod y Pwyllgor yn croesawu bod perfformiad wedi cael ei gynnal, a’r cynnydd o ddarparu yn erbyn Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn croesawu bod perfformiad wedi cael ei gynnal, a’r cynnydd o ddarparu yn erbyn Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru.

30.

Cynllun y Cyngor 2017/18 - Monitro canol blwyddyn pdf icon PDF 108 KB

Pwrpas:        Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2017/18.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog yr adroddiad i ystyried cynnydd ar gyfer cyflawni’r effeithiau yng Nghynllun y Cyngor 2017/18, gan ganolbwyntio ar y meysydd tan berfformiad sy’n berthnasol i’r Pwyllgor ganol blwyddyn. 

 

Yr unig ddangosydd perfformiad oedd â statws coch oedd y ganran o gymalau budd cymunedol mewn contractau caffael newydd o dan £1m.  Roedd y strategaeth hon wedi’i newid i adlewyrchu trothwy is, fel y cymeradwywyd gan y Cabinet fis Hydref, a byddai effaith hyn i’w weld nes ymlaen.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi adroddiad monitro canol blwyddyn Cynllun y Cyngor 2017/18.

31.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 86 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Waith i’r Dyfodol presennol i’w ystyried ac i gasglu barn ar batrwm cyfarfodydd y Pwyllgor, yn unol â chais gan Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd.

 

Gan fod rhai Aelodau wedi gadael y cyfarfod yn fuan, cynigiodd y Cynghorydd Wisinger bod y cais yn cael ei ystyried yn y cyfarfod nesaf i geisio barn pob Aelod.  Eiliwyd hyn. Cadarnhaodd yr Hwylusydd y byddai hyn yn golygu y gellir parhau i roi adborth i Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd ym mis Ionawr.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Axworthy at sylwadau'r Cynghorydd Hutchinson yn gynharach yn y cyfarfod a dywedodd ei bod yn cefnogi cyfarfodydd bore oherwydd argaeledd mannau parcio.

 

Cynigiodd y Cadeirydd bod y pwyllgor yn parhau i gwrdd am 10am ar fore Llun, gan gynnal cyfarfodydd achlysuron yn y prynhawn pan fo angen.  Eiliwyd hyn a chafodd ei gymeradwyo yn dilyn pleidlais ar y mater.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Rhaglen Waith i’r Dyfodol fel y cyflwynwyd, yn cael ei chymeradwyo;

 

 (b)      Y byddai’n well gan y Pwyllgor barhau i gwrdd am 10am ar fore Llun, gan gynnal cyfarfodydd achlysuron yn y prynhawn pan fo angen; a

 

 (c)      Bod yr Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd yn cael amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, os bydd angen.

32.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.