Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

14.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas: I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Veronica Gay gysylltiad personol yn eitem rhif 4 ar y rhaglen ‘Trosglwyddo Asedau Cymunedol - Adolygu Cynnydd' gan ei bod yn aelod o Drosglwyddiad Asedau Cymunedol (TAC) Canolfan Gymunedol Sandy Lane.

 

Datganodd y Cynghorydd gysylltiad personol yn eitem rhif 4 ar y rhaglen ‘Trosglwyddo Asedau Cymunedol – Adolygu Cynnydd’ gan ei fod yn Gadeirydd Canolfan Hamdden Treffynnon ac yn Landlord Llyfrgell a chaffi Treffynnon.

15.

Cofnodion pdf icon PDF 81 KB

Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 17 Gorffennaf 2017.

 

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod ar 17 Gorffennaf 2017.

 

Holodd y Cynghorydd Dunbar a oedd diweddariad ar y cynlluniau ar gyfer Camau 3 a 4 Neuadd y Sir.  Darparodd y Prif Weithredwr rywfaint o wybodaeth gefndir ac eglurodd fod Cymalau 3 a 4 Neuadd y Sir yn wag yn bennaf, ac wedi cydgrynhoi o fewn Cymalau 1 a 2. Roedd ystyriaeth yn cael ei rhoi r?an i drosglwyddo’r gweithlu yma yn rhannol i Unity House, Ewlo.  Roedd achos busnes ar gyfer newid darpariaeth gofod swyddfa yn cael ei ddatblygu.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

16.

Trosglwyddo Asedau Cymunedol - Adolygiad o Gynnydd pdf icon PDF 85 KB

Pwrpas: I adolygu cynnydd y Rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol cyn gwahodd grwpiau cymuned i gyfarfod yn y dyfodol i roi eu barn ar brosiectau unigol sydd wedi cael eu cwblhau yn ystod blwyddyn 2 y rhaglen

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Newid Trefniadol) adroddiad a eglurodd mai hon oedd trydedd flwyddyn gweithrediad a chefnogaeth y cynllun Trosglwyddo Asedau Cymunedol (TAC).

 

Mae yna rhai trosglwyddiadau asedau allweddol ar raddfa fawr, yn nodedig Pwll Nofio Cei Connah a oedd bellach yn cael ei redeg a’i reoli gan Cambrian Aquatics, ac yn fwy diweddar Canolfan Hamdden Treffynnon, sef yr ased fwyaf a mwyaf cymhleth a drosglwyddwyd hyd yma.

 

Roedd y Cyngor yn dal i fod wedi ymrwymo i gefnogi’r rhaglen TAC ac wedi cynnal nifer o adolygiadau blwyddyn un fel rhan o’i ymrwymiad i ddeall eu hymrwymiad parhaus a’u cyfraniad at Fuddion Cymunedol.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion asedau eraill a oedd wedi bwrw ymlaen drwy gwblhau cyfreithiol neu a oedd yn cwblhau’r camau cyfreithiol terfynol.  Awgrymodd y Prif Swyddog y gallai adborth gan rai o’r grwpiau yn y rhaglen CAT fod yn rhan o gyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn y dyfodol lle gallent fynd a siarad am eu prosiectau eu hunain a oedd wedi eu cefnogi.

 

Roedd y grwpiau yn datblygu setiau o sgiliau o fewn eu pwyllgorau lleol a oedd yn drosglwyddadwy ac a greodd wydnwch cymunedol.  Roedd hwn yn gysyniad pwysig ac yn ychwanegu gwerth ar y broses TAC drwy greu cymunedau mwy gwydn a oedd yn gallu cefnogi ei gilydd drwy ddatblygu sgiliau newydd, hyder a gwybodaeth.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Dunbar ei fod yn falch gyda’r TAC ar Bwll Nofio Cei Connah a gofynnodd sut yr oedd yn cael ei ariannu.  Eglurodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol) fod cyfarfod wedi digwydd yr wythnos flaenorol gyda Cambrian Aquatics ac roedd yn falch i nodi fod cynnydd sylweddol wedi bod yn y nifer o wersi nofio sy’n cael eu rhoi ers i’r TAC ddigwydd.  Dywedodd fod y cytundeb ariannu gan y Cyngor wedi bod am dair blynedd ac roedd bellach yn ei drydedd flwyddyn.  Roedd Cynllun Busnes wedi ei awgrymu am y tair blynedd nesaf ond roedd sefyllfa ariannol Cambrian Aquatics yn gadarn.  Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dunbar ar Randiroedd Lôn y Felin yng Nghei Connah, dywedodd y Prif Swyddog (Newid Trefniadol) fod hyn wedi ei drosglwyddo i’r Cyngor Tref fel bod yr endid cyfreithiol yn bodoli gyda’r Cyngor Tref.

 

            Croesawodd y Cynghorydd Shotton yr adroddiad a chanmol Cambrian Aquatics am y gwaith roeddynt wedi ei wneud ers y TAC, gan gyfeirio at y clwb nofio ffyniannus.  Dywedodd hefyd fod cynnydd da’n cael ei wneud yng Nghlwb Ieuenctid Cei Connah.  Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Shotton, dywedodd y Prif Swyddog (Newid Trefniadol) fod cynllun ‘Ein Gardd Gefn’ Parc Golftyn yn rhan o gais loteri a gefnogwyd gan y Cyngor.

 

            Croesawodd y Prif Weithredwr y cynnydd rhyfeddol oedd wedi ei wneud gyda TAC.  Gwnaeth sylw ar y cynnig gan Lywodraeth Cymru (LlC) y dylid cynnal adolygiad sylfaenol ar swyddogaeth Cynghorau Tref a Chymuned.  Awgrymwyd y gallai Sir y Fflint ymateb drwy nodi fod cynnal TACau YN swyddogaeth allweddol iddynt bellach oedd a gwneud cais iddynt allu tynnu ar gyllid canolog am y  ...  view the full Cofnodion text for item 16.

17.

Cynllun y Cyngor 2017-23 pdf icon PDF 82 KB

I ystyried a chadarnhau targedau penodol a osodwyd o fewn Cynllun y Cyngor  2017-23, a dangosyddion perfformiad cenedlaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol) adroddiad Cynllun y Cyngor 2017-23 a oedd wedi’i adolygu a’i ddiweddaru i adlewyrchu prif flaenoriaethau'r Cyngor ar gyfer tymor 5 mlynedd y weinyddiaeth newydd.

 

            Roedd strwythur y Cynllun yn parhau'r un fath â chynlluniau blaenorol a bellach yn cynnwys chwe blaenoriaeth ac is-flaenoriaethau perthnasol.  Mae’r chwe blaenoriaeth yn cymryd golwg hirdymor ar brosiectau ac uchelgeisiau dros y pum mlynedd nesaf.

 

            Cyfeiriodd at flaenoriaeth ‘Cyngor wedi’i Gysylltu’ a’r cysylltiadau â Throsglwyddo Asedau Cymunedol (TAC) a Modelau Cyflenwi Amgen (MCA).  Roedd hwn yn gyfle i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol ddarparu unrhyw adborth ar feysydd penodol i’r Cabinet eu hystyried cyn eu cyflwyno i’r Cyngor Sir.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Shotton fod effaith diwygio'r gyfundrefn les yn bryder iddo yn ogystal â mynediad at wasanaethau digidol.  Roedd Credyd Cynhwysol yn system ar lein felly croesawodd y mesur ar ‘Cyngor Cefnogol: Diogelu pobl rhag tlodi’ o Gyflawni Cyllidebau Personol a Gwasanaethau Cefnogaeth Ddigidol’ a oedd yn ymwneud ag effaith lleol cyflwyno'r gwasanaeth Credyd Cynhwysol llawn.

 

            Ar ‘Cyngor Cefnogol: Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Cymunedol Integredig’, teimlai’r Cynghorydd Jones y dylid dileu'r geiriau ‘yn y cartref’ o Effaith 1) Galluogi mwy o bobl i fyw’n annibynnol ac yn dda yn y cartref, gan nodi esiamplau lle’r oedd pobl yn byw’n annibynnol ac yn dda, ond nid o reidrwydd yn y cartref, ond mewn lleoedd fel Llys Jasmine.  Eglurodd y Prif Weithredwr nad oedd y geiriau ‘yn y cartref’ yn llythrennol a chydnabuwyd mai mater personol oedd i bobl ddewis ble i fyw.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Jones, eglurodd yr Aelod Cabinet Addysg, mewn perthynas â’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCMA), roedd yn bwysig fod ysgolion presennol yn parhau’n hyfyw ac yn anelu at wella, ynghyd â’r nod i gynyddu nifer y cyfleusterau lle’r oed d y Gymraeg yn cael ei darparu.

 

            Ar ‘Cyngor Gwyrdd: Datblygu Cynaliadwy a Rheoli Amgylcheddol’, Adran 3: Cynyddu potensial asedau’r Cyngor am effeithlonrwydd ynni, dywedodd y Cynghorydd Jones nad oedd unrhyw gyfeiriad at sut y byddai defnydd o ynni yn cael ei leihau.  Eglurodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol) y broses o reoli systemau ar y campws, rhai ohonynt yn cael eu gweithredu o bell ac roedd yn bwysig fod gweithwyr yn ymwybodol o’r neges ‘dim cost / cost isel’  Cytunwyd y byddai’r geiriau ‘Rheoli / lleihau defnydd y Cyngor o ynni ac felly costau’ yn cael eu hargymell i’r Cabinet eu hystyried.

 

            Ar 'Cyngor sy'n Gwasanaethu: Gwella Rheolaeth Adnoddau, Adran 5: Strategaeth Ddigidol a Strategaethau Cwsmeriaid, gwnaeth y Cynghorydd Jones sylw ar y problemau parhaus oedd yn wynebu pentrefi yn ei ward wrth geisio cael mynediad i’r rhyngrwyd.  Roedd nifer o fusnesau’n gweithredu yn yr ardaloedd hynny ac yn dibynnu ar gysylltu â’r rhyngrwyd nad oedd yn bosibl ei gael ar hyn o bryd.  Dywedodd y Prif Weithredwr fod barn debyg wedi ei mynegi mewn cyfarfod diweddar o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ac y dylai’r Cyngor fod yn fwy dylanwadol o ran y darparwyr isadeiledd a rhwydweithiau.  ...  view the full Cofnodion text for item 17.

18.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg newid sefydliadol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Cymunedol ac Addysg yr adroddiad Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a oedd wedi cael ei ddiweddaru ar ôl cyfarfod diwethaf y Pwyllgor.

 

Awgrymwyd y dylid trefnu cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor i dderbyn Cam 1 y gyllideb a chytunwyd ar hyn.

 

Awgrymodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol) y dylid gwahodd Newydd ac Aura i ddod i gyfarfodydd ddwywaith y flwyddyn.  Byddai un cyfarfod yn derbyn adolygiad canol blwyddyn, gan roi esiamplau o arfer da, gyda’r ail yn gyfle i’r Pwyllgor dderbyn eu Cynlluniau Busnes am y flwyddyn i ddod.  Cefnogwyd hyn.

 

Awgrymodd y Prif Swyddog hefyd y dylid neilltuo dau slot i’r Model Cyflenwi Amgen (MCA) Gofal Cymdeithasol.  Nod y cyfarfod cyntaf fyddai derbyn gwiriad canol blwyddyn ar eu perfformiad yn ystod y flwyddyn gydag esiamplau o arferion da, a byddai’r ail gyfarfod yn gyfle i’r Pwyllgor dderbyn Cynllun Busnes am y flwyddyn i ddod.  Wrth gefnogi’r awgrym hwnnw, cytunwyd hefyd y dylid gwahodd Aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd i ddod i’r cyfarfod ar gyfer yr adolygiad MCA Gofal Cymdeithasol, a oedd wedi ei drefnu ar hyn o bryd ar gyfer 27 Tachwedd, gan nodi y gallai’r dyddiad newid.

 

Awgrymwyd a chytunwyd y dylid gwahodd cynrychiolydd y Cambrian Aquatics i’r cyfarfod ar 29 Ionawr 2018 ac y dylid cynnal y cyfarfod yn un o’r lleoliadau Trosglwyddo Asedau Cymunedol (TAC).

 

Cytunodd y Pwyllgor i wahodd Prif Weithredwr BT i gyfarfod yn y dyfodol i egluro strategaeth ehangach Open Reach i Aelodau, yn dilyn pryderon blaenorol a fynegwyd am fynediad digidol mewn rhannau gwledig o’r Sir.  Awgrymodd y Cynghorydd Jones y dylid trefnu hyn ar ôl i Lywodraeth Cymru (LlC) gyhoeddi ei ganfyddiadau yn dilyn ymarferiad ymgynghori diweddar ar anghenion band eang, a fyddai’n hysbysu cam nesaf cyflwyno'r gwasanaeth a fydd yn digwydd ddechrau 2018.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Diwygio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol i adlewyrchu’r eitemau a gytunwyd arnynt; a

 

 (b)      Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

19.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Eithrio’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod gan fod yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried yn wybodaeth wedi’i heithrio yn rhinwedd paragraffau 14 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

20.

Adolygu Model Darpariaeth Amgen Hamdden a Llyfrgelloedd

Pwrpas: Adolygu trefniadau sefydlu Aura Leisure and Libraries Ltd a dechreuodd redeg gwasanaethau hamdden, llyfrgelloedd a threftadaeth y Cyngor o 1 Medi 2017

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol) yr adroddiad Adolygu’r Model Darparu Amgen Hamdden a Llyfrgelloedd a oedd yn adolygu trefniadau sefydlu Aura Leisure and Libraries Ltd a ddechreuodd weithredu Gwasanaethau Hamdden, Llyfrgelloedd a Threftadaeth y Cyngor o 1 Medi 2017.

 

            Dyma rai o atodiadau’r adroddiad:

 

·         Yr adroddiad grymoedd dirprwyedig terfynol wedi’i lofnodi i gymeradwyo sefydlu;

·         Y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Cyngor Sir y Fflint ac Aura Leisure and Libraries Ltd.; a

·         Y Cytundeb Ariannu rhwng Cyngor Sir y Fflint ac Aura Leisure and Libraries Ltd.

 

Roedd Rheolwr Gyfarwyddwr Aura yn bresennol i ateb unrhyw gwestiynau a diolchodd i’r Pwyllgor am y gwahoddiad i’r cyfarfod.  Dywedodd fod llawer o waith wedi ei wneud a chyfeiriodd at y berthynas gefnogol a phositif gyda’r Cyngor.

 

Croesawodd yr Aelod Cabinet Addysg yr adroddiad a dywedodd ei fod yn esiampl dda o bartneriaeth bositif.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dunbar, dywedodd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol) fod y strwythur hwn yn rhoi mwy o sicrwydd i lyfrgelloedd llai o faint.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi a chefnogi’r gwaith oedd wedi ei wneud i sefydlu Model Cyflenwi Amgen (MCA) yn y Gwasanaethau Hamdden, Llyfrgelloedd a Threftadaeth.

21.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.