Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

39.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

            Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

40.

Cofnodion pdf icon PDF 80 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 28 Ionawr  2019.

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2019.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

41.

Strategaeth Gwerth Cymdeithasol pdf icon PDF 93 KB

Pwrpas:        Amlinellu ymdriniaeth y dyfodol o ran cynhyrchu mwy o werth cymdeithasol o wariant y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Rheolwr Menter ac Adfywio yr adroddiad oedd yn cynnwys y dull ar gyfer creu gwerth cymdeithasol cynyddol o wariant y Cyngor.  Eglurodd bod Gwerth Cymdeithasol yn edrych y tu hwnt i gost ariannol gwasanaeth ac yn ystyried pa fudd ychwanegol y gellir ei greu ar gyfer y gymuned.  Byddai gweithredu’r Strategaeth Gwerth Cymdeithasol yn elfen allweddol ar gyfer gweithredu Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol a galluogi'r Cyngor a phartneriaid i greu adnoddau newydd ar gyfer ffrydiau gwaith blaenoriaeth.

 

            Roedd y Rheolwr Menter ac Adfywio yn adrodd am y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad ac yn cyfeirio at y golau tymor hir wrth weithredu’r Strategaeth.  Parhaodd gan ddweud bod y Strategaeth yn gosod meysydd blaenoriaeth ar gyfer creu gwerth cymdeithasol, yn seiliedig ar y rhai a amlygwyd yng Nghynllun Lles Sir y Fflint a Chynllun y Cyngor, gan helpu i greu adnoddau ychwanegol ar gyfer ffrydiau gwaith hanfodol.    Dywedodd bod adolygiad wedi’i gynnal i ddeall y sefyllfa llinell sylfaen wrth ddarparu gwerth cymdeithasol drwy gaffael oedd yn gatalydd pwysig ar gyfer datblygiad ehangach.  Roedd arferion presennol wedi datblygu’n dda lle roedd fframweithiau caffael yn cael eu defnyddio yn arbennig o fewn adeiladu.  Nid oedd y Strategaeth yn cynnig unrhyw drothwyon gorfodol newydd yn y broses gaffael o dan y trothwy £1 miliwn sydd eisoes yn Rheolau'r Weithdrefn Gontractau ond mae’n herio rheolwyr gwasanaeth a swyddogion caffael i feddwl yn eang am y gwasanaethau a’r nwyddau sy’n cael eu caffael ac ystyried sut y gellir creu gwerth cymdeithasol ehangach.     

 

            Dywedodd y Rheolwr Menter ac Adfywio y bwriedir cael swydd Swyddog Arweiniol newydd i weithredu’r Strategaeth Gwerth Cymdeithasol, darparu cefnogaeth ddwys i swyddogion, cyflenwyr a phartneriaid a sicrhau bod y manteision yn cael eu gwireddu a’u cofnodi.  Byddai porthol meddalwedd un pwrpas hefyd yn cael ei greu i allu rheoli gwerth cymdeithasol ar draws y Cyngor a’i bartneriaid yn effeithiol a dangos cyflawniad yr egwyddorion yn y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.  Cynigiwyd bod hwn yn cael ei ddyrannu o arian wrth gefn am gyfnod o dair blynedd i alluogi’r systemau sefydlu a’r adenillion ar fuddsoddiad gael eu cyflawni.

 

            Cafodd y cynigion eu cefnogi’n gadarnhaol gan y Pwyllgor. 

 

            Yn dilyn cwestiwn gan y Cynghorydd Geoff Collett, cytunwyd i archwilio sut byddai pwysau gwerthuso tendr, lle'r oedd cymal gwerth cymdeithasol wedi'i gynnwys, yn cael ei archwilio. 

 

            Dywedodd y Cadeirydd bod angen sicrhau bod busnesau/masnachwyr lleol yn cael y cyfle i gyflwyno ceisiadau ac nid dan anfantais contractau Cymru gyfan neu rhanbarthol.  Hefyd mynegodd bryderon y gallai fod perygl o heriau cyfreithiol.  Yn dilyn trafodaeth bellach, cytunodd y Pwyllgor â’r awgrym gan y Cadeirydd bod y peryglon o heriau cyfreithiol a sicrhau gwerth am arian wrth ystyried y cydbwysedd o ansawdd a chost yn y gwerthusiadau tendr yn cael eu hychwanegu at y gofrestr risg. 

 

            Yn dilyn y sylwadau a chwestiynau pellach a godwyd gan Aelodau awgrymodd y Prif Weithredwr bod y posibilrwydd o Brifysgol Glynd?r fel partner academaidd ar gyfer dibenion gwerthuso effaith strategaeth yn cael ei ymchwilio. 

 

PENDERFYNWYD:  ...  view the full Cofnodion text for item 41.

42.

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Strategaeth Ddigidol pdf icon PDF 104 KB

Pwrpas:        I roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar gynnydd a diffinio a chyflawni’r Strategaeth Ddigidol gyda chrynodeb o drafodaeth yn y gweithdy Strategaeth Ddigidol diweddar gydag Aelodau. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

                        Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd i ddiffinio a chyflawni’r Strategaeth Ddigidol gyda chrynodeb o drafodaeth yn y gweithdy Strategaeth Ddigidol diweddar gydag Aelodau.    Cyfeiriodd at y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad, ac eglurodd er mwyn sicrhau bod y safonau yn gyson yn y modd yr oedd prosiectau’n cael eu dylunio a gwasanaethau’n cael eu moderneiddio, cytunwyd ar nifer o egwyddorion cynllunio.  Byddai pob prosiect yn cael ei werthuso yn ystod cam cynllunio i sicrhau y byddent yn helpu’r Awdurdod i symud ymlaen yn gyson yn erbyn yr egwyddorion craidd a fanylwyd yn yr adroddiad. 

 

                        Dywedodd y Prif Weithredwr, wrth weithio gyda’r portffolios, roedd y Rheolwr Rhaglen Cwsmer Digidol hefyd yn creu cynllun rhaglen ddigidol gyfunol fel y llinell sylfaen ar gyfer darparu; gan gyfuno nifer o gynlluniau oedd gynt yn annibynnol.  Roedd y rhaglen ddigidol hon yn cynnwys y gwaith hanfodol oedd angen adnoddau cyn y gall yr Awdurdod ystyried gwneud dewisiadau pellach o ran blaenoriaethau.  Roedd fframwaith llywodraethu hefyd wedi’i ddatblygu a ddefnyddir i reoli ceisiadau a gyflwynwyd ar gyfer newidiadau i’r rhaglen.  Fel y trafodwyd yn y briffio gydag Aelodau ar 16 Ionawr, byddai’r rhaglen a’r fframwaith yn trosi i ystod o alluoedd penodol fyddai’n caniatáu i gwsmeriaid gael mynediad i ystod cynyddol o wasanaethau a gwybodaeth ar-lein.

 

 Gofynnodd y Cynghorydd Tudor Jones i ystyriaeth gael ei rhoi i gwsmeriaid h?n ac agored i niwed nad oedd ganddynt fynediad i wasanaethau ar-lein neu heb y sgiliau neu hyder i ddefnyddio’r hunanwasanaeth ar-lein.   Mynegodd bryderon oherwydd y cynnydd yn y tueddiad o ddarparu gwasanaethau ar-lein, gall pobl gael eu heithrio neu eu bywydau’n anodd os ydynt yn cael problemau yn defnyddio gwasanaethau ar-lein yn y dyfodol.  Rhoddodd y Prif Weithredwr sicrwydd y byddai mynediad dros y ffôn a wyneb i wyneb yn parhau i gwsmeriaid a chytunodd i archwilio’r opsiynau ar gyfer ymweliadau â’r cartref mewn amgylchiadau personol eithriadol.

 

Cynigiodd y Prif Weithredwr weithdy rhyngweithiol i Aelodau ar y porthol gwybodaeth ar ward Aelodau, pan ar gael, a groesawyd gan y Pwyllgor.

 

Awgrymodd y Cadeirydd y dylid rhoi ystyriaeth i ddarparu ystod o gyfeiriadau cyswllt e-bost cyffredinol ar gyfer gwasanaethau’r Awdurdod ar y we fel na fyddai cwsmeriaid angen chwilio am gyfeiriadau e-bost swyddogion unigol ar gyfer cysylltu.  

 

Yn ystod trafodaeth, ymatebodd y Prif Weithredwr i’r cwestiynau pellach gan Aelodau ar y cynnig i gasglu llofnodion electronig yn defnyddio dyfeisiau symudol i allu cwblhau gwasanaethau ar y pwynt cyswllt cyntaf, a chyflwyno egwyddorion meistroli data i gynnig gwell hyblygrwydd i ddylunio prosesau busnes ar draws portffolios a phartneriaid. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y prif bwyntiau oedd yn codi o’r briffio mis Ionawr i Aelodau Etholedig ar ddatblygu swyddogaeth ar-lein i gwsmeriaid yn cael ei nodi; a

 

(b)       Bod yr egwyddorion cynllunio a’r rhaglen ar gyfer darparu’r Strategaeth Ddigidol yn cael eu cymeradwyo.

43.

Adroddiad Monitro Chwarter 3 Cynllun y Cyngor ar gyfer 2018/19 pdf icon PDF 114 KB

Pwrpas:        Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i roi crynodeb o berfformiad Chwarter 3 (mis Hydref tan fis Rhagfyr 2018) ar gyfer sefyllfa blaenoriaeth Cynllun y Cyngor ‘Cyngor sy’n Cysylltu’ 2018/19 a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor. 

 

Hysbyswyd yr Aelodau bod adroddiad monitro Chwarter 3 yn adroddiad cadarnhaol a’i fod  yn dangos bod 92% o’r gweithgareddau yn gwneud cynnydd da a bod 85% yn debygol o gyflawni'r canlyniadau a ddymunir.   Yn ogystal â hyn, roedd 67% o'r dangosyddion perfformiad wedi'u diwallu neu wedi rhagori ar y targed.   Roedd y risgiau’n cael eu rheoli gyda'r mwyafrif yn cael eu hasesu’n risgiau cymedrol (61%) neu’n fân risgiau/risgiau ansylweddol (22%).   Roedd yr adroddiad yn adroddiad am eithriadau ac felly’n canolbwyntio ar y meysydd a oedd yn tan-berfformio.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod Adroddiad Monitro Chwarter 3 Cynllun y Cyngor 2018/19 yn cael ei nodi.

44.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg newid sefydliadol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol gyfredol er mwyn ei hystyried.   Tynnodd sylw at yr eitemau a drefnwyd ar gyfer y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor i’w gynnal ar 13 Mai 2019, ac atgoffwyd yr Aelodau yn dilyn awgrym yn y cyfarfod diwethaf y cytunwyd y byddai’r cyfarfod yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy. 

 

Awgrymodd y Cynghorydd Tudor Jones bod lleoliad cyfarfod nesaf y Pwyllgor i'w gynnal ar 1 Gorffennaf yn newid i Ganolfan Hamdden Treffynnon a dywedodd y byddai'n holi a oedd yna ystafell addas ar gael. 

 

 Cyfeiriodd yr Hwylusydd at yr eitem ar Bwll Nofio Cei Connah – Adroddiad Cynnydd Canol Blwyddyn Cambrian Aquatics 2018/19 ac eglurodd bod swyddogion yn aros am ddyddiadau addas gan Cambrian Aquatics fel y gellir trefnu cyfarfod gyda’r Pwyllgor.  

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)      Bod y Rhaglen Waith i’r Dyfodol fel y cyflwynwyd, yn cael ei             chymeradwyo; a

 

(b)      Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd Trosolwg a Chraffu, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

45.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

            Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.