Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

34.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

            Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

35.

Cofnodion pdf icon PDF 70 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 17 Rhagfyr 2018.

 

Cofnodion:

            Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr 2018.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

36.

Diweddariad ar y Model Darpariaeth Amgen - Diwrnod Anableddau Dysgu Gofal Cymdeithasol a’r Gwasanaeth Cyfleoedd Gwaith pdf icon PDF 129 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad ar gynnydd a wnaed gyda Model Darpariaeth                   Amgen Diwrnod Anableddau Dysgu Gofal Cymdeithasol a’r                           Gwasanaeth Cyfleoedd Gwaith, gan gynnwys trosglwyddiad y                   swydd gwasanaeth i Hft Ltd

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch cynnydd Model Cyflawni Gwahanol Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol Gofal Dydd a Chyfleoedd Gwaith Anableddau Dysgu, gan gynnwys darparu’r gwasanaeth ar ôl trosglwyddo i Hft Limited.Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd, yn ychwanegol at gynnydd ar bartneriaeth yr Awdurdod gyda Hft, bod yr adroddiad yn cynnwys diweddariad ar adeiladu Canolfan Ddydd newydd yn Queensferry, a fyddai’n helpu i drosglwyddo a moderneiddio’r gwasanaeth i bobl Sir y Fflint.

 

Croesawodd a chyflwynodd y Prif Swyddog Andrew Horner, Cyfarwyddwr Prosiectau Gweithredol Hft Limited, a Jordan Smith, Rheolwr Rhanbarthol Hft Flintshire, gan eu gwahodd i roi cyflwyniad ar Hft Flintshire a oedd yn trafod y prif bwyntiau canlynol:

 

·         pwy yw Hft a ble rydyn ni

·         trosglwyddo

·         Glanrafon, Hwb Cyfle, Tri-Ffordd, Rowley’s Pantry a Freshfields

·         Castle Connections

·         Tîm Opsiynau Gwaith

·         astudiaethau achos

·         model cefnogaeth

·         pobl rydyn ni’n eu cefnogi – adborth

·         heriau

·         datblygu'r gweithlu

·         hyfforddiant gorfodol

·         cyfnewid staff

·         codi arian

·         Project Search Flintshire

 

Soniodd Mr Horner a Mr Smith am y cynnydd a wnaed ers i’r Awdurdod benodi Hft i ddarparu’r gwasanaeth o 1 Chwefror 2018 ymlaen, gan gyfeirio at y model gwasanaeth a'r datblygiadau o ran gweithlu, cynnydd ar adeiladu canolfan ddydd newydd i oedolion, gweithio mewn partneriaeth, codi arian, cynlluniau busnes at y dyfodol a chwilio am brosiectau. Yn ystod y cyfarfod, soniodd cyn-ddefnyddiwr gwasanaeth sydd bellach yn gweithio i Hft wrth y Pwyllgor am ei phrofiadau personol o’r gwasanaeth dros y 12 mis diwethaf, wedi’i chefnogi gan ei Hyfforddwr Swydd.

 

Siaradodd y Cynghorydd Ian Dunbar o blaid y gwaith rhagorol a wnaed yng Nglanrafon a chroesawai’r cyfleuster cymunedol newydd (Hwb Cyfle) a oedd i fod i agor fis Mehefin eleni yn lle’r ganolfan ddydd bresennol.

 

Mynegodd y Cynghorydd Paul Shotton ei werthfawrogiad am y gweithgareddau codi arian a wnaed gan Hft, a oedd wedi casglu £31,000 ar gyfer gwelliannau i’r gwasanaeth, buddsoddiadau mewn cyfarpar, technoleg a gweithgareddau newydd.  Soniodd hefyd am Ysgol Fusnes Cranfield Trust a oedd wedi darparu ymgynghorydd cynllunio busnes am ddim. Croesawai’r Cynghorydd Shotton y ganolfan gymunedol newydd. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Shotton i Mr Horner a Mr Smith ddarparu mwy o wybodaeth am waith y Tîm Hyfforddi Swyddi. Eglurodd Mr Horner bod Hft yn adolygu’r holl leoliadau gwaith presennol a gefnogir gan y tîm Hyfforddi Swyddi.Dywedodd bod yr Hyfforddwyr Swyddi’n ystyried opsiynau gyda chyflogwyr lle'r oedd lleoliadau a oedd wedi bod yn ddi-dâl a bod unigolion yn cyflawni disgrifiadau swyddi a nododd rai o'r llwyddiannau roedd Hft wedi'i gael wrth wneud hyn.  Gwnaeth Mr Horner sylw hefyd ar y gwaith a wnaed gan Hft i recriwtio a chefnogi unigolion mewn rolau gwirfoddol. 

 

Soniodd Mr Horner am y rhaglen Project Search yr oedd Hft wedi’i chyflawni’n llwyddiannus ar draws y DU am flynyddoedd ac eglurodd mai rhaglen interniaeth 12 mis i oedolion ifanc ag anableddau oedd hon.  Roedd y prosiect yn gweithio’n agos gyda'r cyflogwr i ddarparu profiad gwaith i interniaid er mwyn iddynt allu dysgu a datblygu’r sgiliau angenrheidiol i gael gwaith cyflogedig neu wirfoddol. Dywedodd Mr  ...  view the full Cofnodion text for item 36.

37.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg newid                    sefydliadol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyfredol i’w hystyried. Tynnodd sylw at yr eitemau a oedd wedi’u trefnu at y cyfarfod nesaf i’w gynnal ar 18 Mawrth 2019, a dywedodd fod eitem ychwanegol i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y Strategaeth Ddigidol wedi’i chynnwys er mwyn ei hystyried yn y cyfarfod.  Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd hefyd fod yr eitem am Adolygiad Cynnydd NEWydd Catering and Cleaning, a oedd i fod i gael ei ystyried yn y cyfarfod ar 18 Mawrth, wedi’i symud i’r cyfarfod a oedd i gael ei gynnal ar 13 Mai 2019, er mwyn gallu cyflwyno adroddiad ar y Strategaeth Gwerth Cymdeithasol ar 18 Mawrth.

 

 Cyfeiriodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd at yr eitem a oedd i gael ei threfnu ar Bwll Nofio Cei Connah – Adroddiad Cynnydd Canol Blwyddyn Cambrian Aquatics 2018/19.  Dywedodd eto fod Aelodau Bwrdd Cambrian Aquatics wedi'i chael yn anodd dod i'r cyfarfod ar 28 Ionawr, ac fe awgrymwyd ailystyried amser a lleoliad y cyfarfod er mwyn iddynt allu bod yno. Dywedodd y Cynghorydd Paul Shotton bod un o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor wedi’i gynnal yn y bore yn Cambrian Aquatics, Cei Connah, a gofynnodd a ellid ystyried hyn. Awgrymodd y Cynghorydd Tudor Jones i nifer fechan o Aelodau’r Pwyllgor fynd i gyfarfod gydag Aelodau Bwrdd Cambrian Aquatics ar adeg sy’n gyfleus i bawb ac adrodd yn ôl i’r Pwyllgor mewn cyfarfod yn y dyfodol. Cytunwyd y byddai Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yn ystyried yr awgrymiadau a gyflwynwyd gyda Cambrian Aquatics.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Ian Dunbar y dylid trefnu ymweliad â Hwb Cyfle yn y dyfodol ar ran y Pwyllgor.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Paul Shotton y dylid newid lleoliad y cyfarfod a oedd i gael ei gynnal ar 18 Mawrth i Ganolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a

 

 (b)      Bod yr Hwylusydd, gan ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael caniatâd i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, pe bai angen. 

38.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.