Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy, Gorllewin Heol Caer, Queensferry, Glannau Dyfrdwy, Sir Y Fflint CH5 1SA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Nodyn: Nodwch leoliad y cyfarfod 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Pwrpas:        Yn y Cyfarfod Blynyddol, penderfynodd y Cyngor y dylai’r gr?p Cynghrair Annibynnol enwebu Cadeirydd y pwyllgor. Gofynnir i’r Pwyllgor benodi Cadeirydd a enwebwyd.

 

Cofnodion:

Bu i'r Hwylusydd Trosolwg a Chraffu atgoffa’r Pwyllgor bod y Cyngor wedi penderfynu yn y Cyfarfod Blynyddol mai'r gr?p Cynghrair Annibynnol ddylai enwebu Cadeirydd y Pwyllgor.Roedd y gr?p wedi enwebu’r Cynghorydd Dave Mackie.Ar ôl cynnal pleidlais, cadarnhawyd yr enwebiad.

 

PENDERFYNWYD:

Penodi’r Cynghorydd Dave Mackie fel Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y cyngor.

 

(Cadeiriodd y Cynghorydd Mackie weddill y cyfarfod)

 

2.

Penodi Is-Gadeirydd

Pwrpas:        Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.

Cofnodion:

Gofynnodd y Cadeirydd am enwebiadau ar gyfer swydd yr Is-gadeirydd.Enwebwyd y Cynghorydd Geoff Collett gan y Cynghorydd Paul Shotton, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd David Wisinger.Ar ôl cynnal pleidlais, cadarnhawyd yr enwebiad.Ni chafwyd enwebiadau pellach.

 

PENDERFYNWYD:

Penodi'r Cynghorydd Geoff Collett yn Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y cyngor.

 

3.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Tudor Jones gysylltiad personol a rhagfarnus â’r eitemau canlynol:

 

Eitem 7: Adolygiad Cynnydd Hamdden a Llyfrgelloedd Aura

Eitem 8: Adolygiad Cynnydd Arlwyo a Glanhau NEWydd

 

4.

Cofnodion pdf icon PDF 88 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 18 Mawrth 2019.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Mawrth 2019.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd David Wisinger a’i eilio gan y Cynghorydd Mike Reece.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

 

5.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 80 KB

Pwrpas:  Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol er mwyn ei hystyried.Tynnodd sylw at yr eitemau a drefnwyd ar gyfer y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor ar 1 Gorffennaf 2019 ac atgoffodd yr Aelodau, yn dilyn awgrym yn y cyfarfod diwethaf, y cytunwyd y byddai’r cyfarfod yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy.

 

 Cyfeiriodd yr Hwylusydd at yr eitem ar Bwll Nofio Cei Connah - Adroddiad Cynnydd Canol Blwyddyn Cambrian Aquatics 2018/19. Eglurodd y penderfynwyd trefnu cyfarfod gyda gr?p craidd o Aelodau a chynrychiolwyr Cambrian Aquatics ddiwedd mis Mai ac adrodd yn ôl wrth y Pwyllgor.

 

Awgrymodd y Prif Weithredwr y dylid ystyried yr eitemau canlynol yn ystod cyfarfodydd i ddod oherwydd y posibilrwydd o Fodelau Darparu Amgen / trefniadau cydweithio newydd.

 

·         Theatr Clwyd

·         Gofal Cymdeithasol

·         Gwasanaethau Stryd a’r Gwasanaeth Masnachol Tai

·         TCC – Cydweithio gyda Chyngor Wrecsam

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)      Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol fel y’i cyflwynwyd; a

 

(b)       Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd Trosolwg a Chraffu, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

 

6.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

            Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

7.

Adolygiad Cynnydd Aura

Pwrpas: Adolygu cynnydd Aura ers iddo sefydlu yn 2017

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i alluoga’r Pwyllgor adolygu cynnydd Hamdden a Llyfrgelloedd Aura Cyfyngedig ers ei sefydlu fis Medi 2017.Darparodd y Prif Weithredwr wybodaeth gefndir a chyd-destun a gwahoddodd Mike Welch, Rheolwr Gyfarwyddwr, a Neil Williams, Ysgrifennydd y Cwmni, i adrodd ar berfformiad Hamdden a Llyfrgelloedd Aura Cyfyngedig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf (2018/19), a’r Cynllun Busnes a’r rhagamcaniadau ariannol ar gyfer 2019/20.

Rhoddodd y Rheolwr Gyfarwyddwr ac Ysgrifennydd y Cwmni gyflwyniad a oedd yn ymdrin â’r prif bwyntiau:

 

·         Diweddariad Gweithrediaeth Aura

·         Canolfan Hamdden yr Wyddgrug

·         Pafiliwn Jade Jones

·         Llyfrgelloedd

·         Perfformiad Ariannol 2018/19

·         Cyfarfod Blynyddol

·         Cynllun Busnes Aura 2019/23

 

Siaradodd y Cynghorydd Tudor Jones am y gwerth a’r gwasanaeth ardderchog a ddarperir gan y Gwasanaeth Llyfrgell Teithiol i gymunedau a llongyfarchodd y Rheolwr Gyfarwyddwr a’i dîm am y gwelliannau i’r gwasanaethau.

 

Gofynnodd yr Aelodau nifer o gwestiynau am gyllid, polisi cyflogau, Cyflog Byw Cenedlaethol, pensiynau, recriwtio a chadw staff, marchnata, trefniadau llywodraethu a meysydd parcio.Gofynnodd y Cynghorwyr Paul Shotton ac Ian Dunbar am ddiweddariad ar Neuadd Chwaraeon Cei Connah.

 

Yn ystod y drafodaeth dywedodd y Prif Weithredwr fod y Cyngor yn parhau i feithrin perthynas agos a rhagweithiol gyda Bwrdd a Thîm Rheoli Aura a bod Aura yn dda iawn am gynnwys y Cyngor yn ei benderfyniadau busnes. Dywedodd y byddai’r Cyngor yn parhau i chwarae rhan lawn wrth gefnogi’r sefydliad i gynnal y perfformiad yn ystod y blynyddoedd nesaf.

 

Llongyfarchodd yr Aelodau’r Rheolwr Gyfarwyddwr a’i dîm ar y cynnydd a'r cyflawniadau gan gyfeirio at berfformiad llwyddiannus y cwmni.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Mike Welch a Neil Williams am eu cyflwyniad ac am ateb cwestiynau'r Aelodau.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Tudor Jones am sicrhau bod mecanweithiau cefnogi ar gael ar gyfer Gwasanaethau Model Darparu Amgen o fewn y sir er mwyn sicrhau eu llwyddiant parhaus.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd David Wisinger a’u heilio wedi hynny.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cydnabod cynnydd Hamdden a Llyfrgelloedd Aura Cyfyngedig ers ei sefydlu fis Medi 2017 ac yn canmol ei berfformiad; a

 

(b)      Nodi’r heriau ynghlwm wrth gynnal perfformiad y busnes;

 

(c)        Bod y Cyngor ac Aura yn trafod dyfodol Canolfan Hamdden Cei Connah gydag Aelodau Lleol;

 

(d)       Darparu cefnogaeth i Fodelau Darparu Amgen o fewn y sir er mwyn sicrhau eu llwyddiant parhaus.

 

8.

Adolygiad Cynnydd Arlwyo a Glanhau NEWydd

Pwrpas:  Adolygu cynnydd NEWydd ers iddo sefydlu yn 2017

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) adroddiad i alluogi'r Pwyllgor adolygu cynnydd NEWydd ers ei sefydlu yn 2017.Darparodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndir a gwahodd Rob Lawton, Rheolwr Gweithrediadau, a Steve Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr, i adrodd ar ddatblygiad y trawsnewid ac ar Gynllun Busnes NEWydd ar gyfer 2019/20-2021/22.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gyfarwyddwr gyflwyniad a oedd yn ymdrin â’r prif bwyntiau:

 

·         Trosolwg

·         Perfformiad ariannol

·         Blwyddyn 2

·         Cynllun Busnes 2019/20

·         Risgiau a mesurau lliniaru

 

                        Gofynnodd yr Aelodau nifer o gwestiynau am brydau ysgol, mentrau bwyta’n iach a lles, gwasanaethau glanhau, recriwtio a chadw staff, polisi cyflogau, pensiynau a threfniadau llywodraethu.Gofynnodd yr Aelodau hefyd gwestiynau am y cyfleoedd sydd ar gael i ddarparu gwasanaethau i’r sector preifat.

 

Yn ystod y drafodaeth dywedodd y Prif Swyddog fod y Cyngor yn parhau i feithrin perthynas agos a rhagweithiol gydag Arlwyo a Glanhau NEWydd Cyfyngedig a bod y cwmni yn dda iawn am gynnwys y Cyngor yn ei benderfyniadau busnes. Dywedodd y byddai’r Cyngor yn parhau i chwarae rhan lawn wrth gefnogi Arlwyo a Glanhau NEWydd Cyfyngedig i gynnal y perfformiad yn ystod y blynyddoedd nesaf.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Steve Jones a Rob Lawton am eu cyflwyniad ac am ateb cwestiynau'r Aelodau.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd David Wisinger a’u heilio wedi hynny.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cydnabod cynnydd Arlwyo a Glanhau NEWydd Cyfyngedig ers ei sefydlu fis Mai 2017 ac yn canmol ei berfformiad; a

 

(b)      Nodi’r heriau ynghlwm wrth gynnal perfformiad y busnes;

 

 

9.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

            Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.

 

(Dechreuodd y cyfarfod am 10.00 am a daeth i ben am 12.55 pm)