Rhaglen a chofnodion
Cyfarfod arbennig, Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol
Dydd Llun, 9fed Hydref, 2017 2.00 pm
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas:I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. |
|
Rhagolwg Ariannol a Cham Cyntaf Cyllideb 2018/19 PDF 113 KB Pwrpas: Darparu'r rhagolwg ariannol i’r Pwyllgor ac ymgynghori ynghylch cynigion Cam 1 Cyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor ar gyfer 2018/19. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad a oedd yn amlinellu’r rhagolwg ariannol cyfredol ar gyfer 2018/19 yn ogystal â’r pwysau ariannol a’r opsiynau newydd ar gyfer y portffolio Newid Sefydliadol.
Diwygiwyd y rhagolwg ariannol a oedd wedi’i nodi yn adran 1.04 yr adroddiad, i ystyried y penderfyniadau a wnaed fel rhan o gyllideb 2017/18, a’i ddiweddaru â’r wybodaeth ddiweddaraf o ran pwysau gan bortffolios gwasanaeth. Defnyddiwyd setliad yr un fath neu debyg i waelodlin ariannol 2017/18 fel sail ar gyfer cyfrifo'r rhagolwg ar gyfer 2018/19 ac nid oedd unrhyw fodel ar gyfer codi lefelau Treth y Cyngor wedi’i gynnwys yn ystod y cam hwn.
Daeth y Rheolwr Cyllid Corfforaethol i’r casgliad bod cam un y cynigion ar gyfer y portffolio gwasanaeth yn cael eu cyflwyno drwy gydol mis Hydref i'w hadolygu gan yr holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu. Roedd y Setliad Llywodraeth Leol Cymru dros dro i’w gyhoeddi ar 10 Hydref, 2017. Roedd y setliad terfynol i’w gyhoeddi’n ddiweddarach yn y flwyddyn galendr, yn dilyn datganiad cyllideb Canghellor y Trysorlys ar 22 Tachwedd 2017.
Gwahoddodd y Cadeirydd y Prif Swyddog (Newid Sefydliadol 1) i gyflwyno’r Datganiad Atgyfnerthu a’r Modelau Gweithredu ar gyfer y portffolio Newid Sefydliadol.
Newid Sefydliadol 1 Amlinellodd y Prif Swyddog y Datganiad Atgyfnerthu, sydd ynghlwm wrth yr adroddiad, a oedd manylu ar yr arbedion effeithlonrwydd a oedd wedi'u gwneud hyd yma ac effeithiau’r arbedion effeithlonrwydd hyn ar y gwasanaethau o fewn y portffolio Newid Sefydliadol 1. Manylodd y Prif Swyddog ar yr arbedion effeithlonrwydd arfaethedig o £416,000 ar gyfer 2018-19, sydd wedi’u nodi ym Model Gweithredu’r Dyfodol yn Atodiad 1. Roedd yr arbedion effeithlonrwydd arfaethedig yn cynnwys, parhau â chynllun busnes y flwyddyn flaenorol ar gyfer Hamdden, Llyfrgelloedd a Threftadaeth, i ddatblygu cwmni sy’n eiddo i’r gweithwyr.
Croesawodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor, y Datganiadau Atgyfnerthu a oedd yn cael eu cyflwyno i bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu. Roeddent yn ddefnyddiol iawn ar gyfer meincnodi’r arbedion effeithlonrwydd hyd yma ac amlygu’r risgiau i feysydd gwasanaeth. Amlinellodd y bwlch cyllido presennol o £11.7M gan nodi mai cyfanswm cynigion cyllideb cam un ar hyn o bryd oedd £3M a oedd felly’n amlygu’r heriau i ddod. Soniodd hefyd am yr angen i barhau i lobïo’r Llywodraeth Genedlaethol i amlygu effeithiau caledi.
Croesawodd y Cadeirydd y broses ymgynghori ar y gyllideb gyda Phwyllgorau Trosolwg a Chraffu a oedd yn rhoi cyfle i Aelodau ddylanwadu ar benderfyniadau terfynol o ran y gyllideb.
Diolchodd y Cynghorydd Ian Dunbar i’r swyddogion am y diweddariad o ran y sefyllfa ariannol ac fe groesawodd y cynnydd o ran nifer yr ymweliadau i lyfrgelloedd Sir Y Fflint. Hefyd, fe wnaeth sylw ar y ffaith bod llai o arian yn cael ei roi i Theatr Clwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru a gofynnodd a fyddai’n rhaid i’r Cyngor gyfrannu mwy o arian oherwydd hyn. Eglurodd y Prif Swyddog bod Cyngor Celfyddydau Cymru hefyd o dan bwysau i ganfod arbedion effeithlonrwydd a lleihau ei gyllideb. Dywedodd y byddai’n rhaid i’r Theatr ddelio ag unrhyw ostyngiad o ran ... view the full Cofnodion text for item 23. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol. |