Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

11.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

 

12.

Cofnodion pdf icon PDF 184 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 20 Mai 2019.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Mai 2019.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir a gofyn i’r Cadeirydd eu llofnodi.

13.

Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 97 KB

Pwrpas:       I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Addysg ac Ieuenctid a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol (Atodiad 1), sydd wedi’i diweddaru ers y cyfarfod diwethaf.Dywedodd y byddai cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 25 Gorffennaf yn gyfarfod ar y cyd efo’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

 

Cyfeiriodd yr Hwylusydd at gamau gweithredu’r cyfarfod blaenorol ac adroddodd ar y canlyniadau (gweler Atodiad 2 yr adroddiad).Dywedodd fod gwybodaeth hefyd wedi’i chynnwys ar benderfyniad y Cabinet yngl?n ag ystyried yr Adolygiad o’r Polisi Trafnidiaeth yn ôl Disgresiwn – adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad, yn y cyfarfod ar 18 Mehefin, ac ystyried yr hysbysiad o gynnig, a gyflwynwyd gan y Cynghorydd David Healey i gyfarfod o'r Cyngor Llawn ar 18 Mehefin 2019.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)         Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y'i diwygiwyd;

 

(b)         Awdurdodi’r Hwylusydd, ar ôl ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)      Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu heb eu cwblhau.

 

14.

Gwasanaeth Effeithlonrwydd a Gwella Ysgolion Rhanbarthol (GwE) pdf icon PDF 100 KB

Pwrpas:        I gael diweddariad ar gynnydd o ran  datblygu gwasanaeth rhanbarthol gwella ac effeithiolrwydd ysgolion, a diweddariad ar sut mae’r model newydd yn cael ei dderbyn a’i sefydlu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Mr Arwyn Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr GwE, a Mr Marc Berw Hughes i’r cyfarfod.

 

                      Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad i ddarparu diweddariad ar gynnydd datblygu gwasanaeth effeithlonrwydd a gwella ysgolion rhanbarthol a sut mae’r model newydd yn cael ei dderbyn a’i sefydlu.Darparodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod Adroddiad Blynyddol GwE ar gyfer 2018-19 yn darparu trosolwg manwl o waith y Gwasanaeth Gwella Ysgolion yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.Mae’n ymdrin â sawl maes gan gynnwys safonau, darpariaeth, cyfraniad y gwasanaeth at y rhaglen drawsnewid genedlaethol, gweithio mewn partneriaeth a materion busnes.Mae’r atodiadau i’r adroddiad yn darparu rhywfaint o wybodaeth benodol am ganlyniadau dysgwyr a safonau addysg yn Sir y Fflint.Maent hefyd yn darparu dadansoddiad o ymateb arweinwyr ysgol Sir y Fflint a’u barn am effeithiolrwydd y Gwasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol, a gasglwyd yn ddiweddar drwy holiadur.Mae’r prif feysydd i’w datblygu, a nodwyd drwy’r prosesau hunanwerthuso a gynhaliwyd o fewn GwE, yn flaenoriaethau yn y Cynllun Busnes ar gyfer 2019-2020.

 

Dywedodd y Prif Swyddog y dylid darllen yr Adroddiad Blynyddol ar y cyd ag adroddiad hunanwerthuso’r Awdurdod, a gyflwynwyd i’r Aelodau yn ystod y cyfarfod diwethaf.Eglurodd fod swyddogion GwE wedi bod yn gweithio’n agos iawn gyda’r Awdurdod Lleol i ddatblygu’r adroddiad hwnnw, sy’n darparu barn gynhwysfawr ar ansawdd gwasanaethau addysg yn Sir y Fflint ac yn dangos y gwaith partneriaeth effeithiol sy’n digwydd i gefnogi holl ysgolion yr Awdurdod i wella a chael y canlyniadau gorau ar gyfer dysgwyr Sir y Fflint.

 

            Cyfeiriodd y Prif Swyddog at arolwg diweddar Estyn o wasanaethau addysg yr awdurdod lleol a dywedodd y bydd canlyniad yr arolwg yn cael ei gyhoeddi ar 9 Awst 2019.Diolchodd am y cyfraniad aruthrol sydd wedi’i wneud gan GwE at y broses arolygu a soniodd am y berthynas waith agos rhwng swyddogion GwE a’r Awdurdod.Gwahoddodd y Prif Swyddog Arwyn Thomas i gyflwyno Adroddiad Blynyddol 2018-19 GwE.

 

            Dywedodd Mr Thomas, fel y nodir yng Nghytundeb Rhyng-Awdurdod GwE, y byddai GwE yn adrodd yn flynyddol ar berfformiad y gwasanaeth wrth ddarparu swyddogaethau’r gwasanaeth a chyrraedd nodau allweddol.Dywedodd fod adroddiad blynyddol GwE yn darparu trosolwg o’r meysydd canlynol:cefndir a chyd-destun, safonau, darpariaeth, y daith ddiwygio, gweithio mewn partneriaeth, busnes a blaenoriaethau cynllun busnes ar gyfer 2019-20. Hefyd, mae’n cynnwys sawl atodiad sy’n cyfeirio’n benodol at y gwaith cefnogi a wneir yn ysgolion Sir y Fflint.

 

Soniodd Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet Addysg am y gwaith rhwng yr Awdurdod a GwE i geisio gwella ysgolion os oes angen cymorth arnynt a mynd i’r afael â'r berthynas a rheoli model. Soniodd hefyd am y gwaith agos gydag Aelodau Cabinet gogledd Cymru a Phrif Swyddogion yn dilyn y pryderon a godwyd ynghylch canlyniadau’r arholiad TGAU Saesneg.Diolchodd y Cynghorydd Roberts i Mr Thomas am ei gyflwyniad manwl.

 

Cyfeiriodd Shaun Hingston at Atodiad 2 yr adroddiad, sy’n disgrifio’r newidiadau y mae’n rhaid i ysgolion eu gwneud fel rhai cythryblus sy’n gwasgu ysgolion i’r eithaf. Fodd bynnag, mae Adroddiad Blynyddol GwE yn cydnabod  ...  view the full Cofnodion text for item 14.

15.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.