Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Pwrpas: Yn y Cyfarfod Blynyddol, penderfynodd y Cyngor y dylai’r gr?p Llafur enwebu Cadeirydd y pwyllgor. Gofynnir i’r Pwyllgor benodi Cadeirydd a enwebwyd. Cofnodion: Dywedodd yr Hwylusydd y cadarnhawyd yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir y dylai Cadeirydd y Pwyllgor ddod o’r Gr?p Llafur. Fel Cynghorydd, roedd David Healey wedi’i benodi i’r swydd hon gan y Gr?p, gofynnwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo’r penderfyniad.
PENDERFYNWYD:
Cadarnhau’r Cynghorydd David Healey fel Cadeirydd y Pwyllgor. |
|
Penodi Is-Gadeirydd Pwrpas: Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.
Cofnodion: Enwebodd y Cynghorydd Paul Cunningham David Hytch fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor a chafodd hyn ei eilio.
Yn dilyn pleidlais cafodd David Hytch ei benodi fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor.
Diolchodd David Hytch i’r Pwyllgor am eu hyder ynddo.
PENDERFYNWYD:
Bod David Hytch yn cael ei benodi fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor. |
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Cofnodion: Ni wnaed unrhyw ddatganiadau o gysylltiad. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol. |