Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Yn y Cyfarfod Blynyddol, penderfynodd y Cyngor y dylai’r gr?p Llafur enwebu Cadeirydd y pwyllgor. Gofynnir i’r Pwyllgor benodi Cadeirydd a enwebwyd.
Cofnodion: Dywedodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid y cadarnhawyd yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir y dylai Cadeirydd y Pwyllgor ddod o’r Gr?p Llafur. Gan y penodwyd y Cynghorydd David Healey i’r rôl hon gan y Gr?p, gofynnwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo'r penderfyniad.
Diolchodd y Cynghorydd David Healey i’r Cynghorydd Ian Roberts am ei waith fel Cadeirydd blaenorol y Pwyllgor.
Atgoffwyd yr Aelodau mai hwn oedd cyfarfod olaf y Pwyllgor y byddai Ian Budd, Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yn ei fynychu cyn dechrau mewn swydd newydd gyda Chyngor Sir Powys. Talodd y Cynghorydd Ian Roberts deyrnged i’r Prif Swyddog am ei waith caled a’i gyfraniad gwerthfawr i addysg plant yn Sir y Fflint. Mynegodd y Pwyllgor ei werthfawrogiad a’i ddymuniadau gorau i Mr Budd i'r dyfodol.
Hefyd croesawodd y Pwyllgor Claire Homard yn ei rôl fel Prif Swyddog Dros Dro (Addysg ac Ieuenctid).
PENDERFYNWYD:
Cadarnhau’r Cynghorydd David Healey fel Cadeirydd y Pwyllgor.
|
|
Penodi Is-Gadeirydd Pwrpas: Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.
Cofnodion: Enwebodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin y Cynghorydd David Hytch fel Is-gadeirydd y Pwyllgor ac eiliwyd hyn.
Ar ôl cynnal pleidlais penodwyd David Hytch fel Is-gadeirydd y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD:
Penodi David Hytch fel Is-gadeirydd y Pwyllgor.
|
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas:I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.
Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.
|
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 16 Mawrth 2017.
Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mawrth 2017.
Cywirdeb
Cofnod 60, tudalen 6, dywedodd David Hytch y dylai’r gair ‘presenoldeb’ yn y trydydd paragraff fod yn ‘absenoldeb’.
PENDERFYNWYD:
Yn amodol ar y newid uchod, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.
|
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelodau o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol.
|