Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

44.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. 

45.

Cofnodion pdf icon PDF 98 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 18 Ionawr a 1 Chwefror 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(i)         Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2018.

 

            Materion yn codi

 

Tudalen 7: mewn ymateb i gwestiwn gan Mr.David Hytch yn ymwneud ag effeithlonrwydd posibl gan y gwasanaeth GwE, dywedodd y Prif Swyddog Interim (Addysg) y trafodwyd 1% o effeithlonrwydd. 

 

(ii)        Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 1 Chwefror 2018.

 

Materion yn codi

 

Tudalen 13: Gofynnodd y Cynghorydd Patrick Heesom a drefnwyd dyddiad ar gyfer y gweithdy ar addysg Ôl-16.  Eglurodd yr Hwylusydd ei bod yn cysylltu â’r swyddogion i ganfod dyddiad addas a byddai’n hysbysu’r Pwyllgor unwaith y cytunwyd ar hwn. 

 

46.

Darpariaeth Ieuenctid Integredig pdf icon PDF 213 KB

Pwpras:        Rhoi diweddariad manwl ar ddarpariaeth gyffredinol Gwasanaethau Ieuenctid Integredig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Interim adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar ddarpariaeth gyffredinol Gwasanaethau Ieuenctid Integredig.   Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod y model Gwasanaethau Ieuenctid Integredig yn gweithio gyda sefydliadau statudol eraill a darparwyr sector gwirfoddol i ddarparu darpariaeth bwrpasol, a dargedwyd a darpariaeth arbenigol i bobl ifanc.    Gwahoddodd yr Uwch Reolwr Darpariaeth Ieuenctid Integredig i gyflwyno’r adroddiad oedd yn rhoi trosolwg o’r nifer o haenau o ddarpariaeth gwasanaeth i bobl ifanc ar draws Sir y Fflint. 

 

                        Rhoddodd yr Uwch Reolwr adroddiad ar y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad, ac eglurwyd bod y Gwasanaeth Ieuenctid Integredig wedi’i lywio gan yr agenda Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod oedd yn galluogi’r gwasanaeth i ddarparu’r ymatebion mwyaf adweithiol a’r ddarpariaeth ataliol gorau i gydweddu anghenion y garfan oedd angen ymatebion creadigol i anghenion unigol cymhleth. 

 

                        Mynegodd y Cynghorydd Patrick Heesom bryderon nad oedd yr adroddiad yn darparu gwasanaeth cyffredinol ar draws y Sir ac nad oedd yn mynd i’r afael â’r “amgylchiadau dygn” oedd yn bodoli mewn rhai ardaloedd oherwydd diffyg darpariaeth.   Hefyd dywedodd fod yr adroddiad yn ddetholus o safbwynt darpariaeth gwasanaeth ac roedd yn cael ei yrru gan ddarparwr nid defnyddiwr.    Awgrymodd y Cynghorydd Heesom bod gweithdy yn cael ei gynnal i symud y pryderon a godwyd ymlaen a hefyd sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei yrru gan ddefnyddwyr.      

 

                        Ymatebodd yr Uwch Reolwr i’r Cynghorydd Heesom a chyfeiriodd at faterion recriwtio a diffyg cyllid i ddarparu gwasanaethau ychwanegol.   Dywedodd fod y ffocws ar ataliad ac addysg addysgiadol a soniodd am yr ystod o wasanaethau y cyfeiriwyd pobl ifanc atynt oedd yn bwydo i’r Ddarpariaeth Ieuenctid Integredig.

 

Siaradodd y Cynghorydd Aaron Shotton am yr angen i gyflawni arbedion effeithlonrwydd ar draws pob gwasanaeth yn ystod y cyni cyllidol cyfredol.   Dywedodd fod yr Awdurdod wedi gweithio gyda chymunedau lleol i ddarparu dull cyfannol ar gyfer darparu gwasanaeth fydd o bosibl angen newid o’r ddarpariaeth draddodiadol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Kevin Hughes ar ddiogelu ac addysg pobl ifanc yn erbyn cam-drin drwy’r rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol, rhoddodd yr Uwch-Reolwr sicrwydd bod gweithdrefnau cadarn wedi eu hymgorffori o fewn darpariaeth gwasanaethau ieuenctid i amddiffyn pobl ifanc o safbwynt diogelwch ar-lein a chyfryngau cymdeithasol.   

 

                        Roedd y Cadeirydd yn pwysleisio’r angen i annog ymgysylltu â chymunedau lleol ac archwilio’r posibilrwydd ar gyfer ffyrdd y gall y gymuned ddarparu cymorth i gynnal darpariaeth gwasanaeth yn eu hardaloedd. 

 

Roedd y Cynghorydd Andy Dunbobbin yn siarad o blaid ymgyrch Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg ar y premiwm disgybl plentyn y lluoedd arfog a mynychodd seminar yng Nghaerdydd yn gynharach yn y mis.

 

Yn dilyn pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Patrick Heesom ar ddiffyg darpariaeth gwasanaeth ieuenctid i’r gorllewin o’r Sir, rhoddodd y Prif Swyddog Interim ymrwymiad i gwrdd ag ef a'r Uwch Reolwr Darpariaeth Ieuenctid Integredig yn dilyn y cyfarfod. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)      Bod y Pwyllgor yn nodi datblygiad y Ddarpariaeth Ieuenctid Integredig ac roedd yn cymeradwyo’r model darparu oedd wedi’i lywio gan y rhaglen Profiad Niweidiol yn ystod Plentyndod.  ...  view the full Cofnodion text for item 46.

47.

Cyngor Ieuenctid pdf icon PDF 134 KB

Pwrpas:        Rhoi diweddariad ar gynnydd wrth sefydlu’r Cyngor Ieuenctid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Interim (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd sefydlu Cyngor yr Ifanc.   Gwahoddodd yr Uwch-Reolwr Darpariaeth Ieuenctid Integredig i gyflwyno’r adroddiad.

 

                        Rhoddodd yr Uwch-Reolwr wybodaeth gefndir a dywedodd bod datblyiad Cyngor yr Ifanc wedi dechrau gyda chynrychiolwyr o grwpiau cymunedol a chynghorau ysgol yn sefydlu gr?p llywio ac yn ymgymryd â gwaith ymchwil paratoadol.  Dywedodd fod cynrychiolwyr Cyngor yr Ifanc wedi cyfarfod gyda’r Arweinydd a Dirprwy Arweinydd y Cyngor i sefydlu Cyngor yr Ifanc yn ffurfiol.  Cyfeiriodd yr Uwch Reolwr at y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad a’r cynllun cyflawni Cyflawni Gyda’n Gilydd, Darpariaeth Ieuenctid Integredig oedd ynghlwm â’r adroddiad.    

 

Rhoddodd y Cynghorydd Aaron Shotton adborth o’r cyfarfod a gynhaliwyd gyda chynrychiolwyr Cyngor yr Ifanc a dywedodd y bu’n gyfarfod cadarnhaol a llawn gwybodaeth.   Soniodd am y cyfle a roddodd Cyngor yr Ifanc i bobl ifanc gael llais cryf i fynegi eu barn. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Dave Mackie ei fod yn bwysig adolygu cyfansoddiad Cyngor yr Ifanc i sicrhau ei fod yn cynrychioli ystod eang o bobl ifanc a chymunedau lleol ar draws Sir y Fflint.  Pwysleisiodd y Prif Swyddog mai ymgysylltu â phobl ifanc oedd y prif flaenoriaeth.   

 

            PENDERFYNWYD:

 

(a)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi sefydlu a chynnal Cyngor yr Ifanc Sir y Fflint i gynrychioli holl bobl ifanc yn Sir y Fflint yn unol â Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol;

 

(b)      Bod y Pwyllgor yn cysylltu gyda Chyngor yr Ifanc i greu egwyddorion arweiniol a darparu adborth i Gyngor yr Ifanc ar ganlyniadau ymgynghoriadau i bontio’r bwlch rhwng Llywodraeth Leol a phobl ifanc Sir y Fflint drwy agor y llinellau cyfathrebu, gan arwain at gyfranogiad ystyrlon a’u galluogi i ymgysylltu fel dinasyddion yn yr “yma a nawr” i ddylanwadu’r dyfodol;

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn sefydlu cyfleoedd rheolaidd i Gyngor yr Ifanc gwrdd â nhw i froceru cyfleoedd ar gyfer asesu a sicrhau digonedd o wasanaethau sy’n effeithio ar fywydau pobl ifanc a gynrychiolir.   Bydd hyn yn arbennig o bwysig wrth asesu’r cyfleoedd i’r rhai a nodwyd sydd wedi dioddef profiadau niweidiol yn ystod plentyndod sydd wedi effeithio ar eu bywydau;

 

(d)      Bod y Pwyllgor yn sicrhau bod yr holl wybodaeth yn cael ei chyflwyno mewn fformat a iaith sy’n briodol i’r garfan a gynigir mewn dewis iaith i bobl ifanc er mwyn iddynt roi barn hysbys a gwneud penderfyniadau; 

 

(e)      Gofyn i’r Cabinet sefydlu dull ar gyfer ymgynghori gyda Chyngor yr Ifanc i sicrhau amserlen briodol iddynt gyfrannu yn unol â Safonau Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc; 

 

(f)       Bod y Pwyllgor yn sicrhau bod barn Cyngor yr Ifanc a’r bobl ifanc a gynrychiolir ganddynt yn cael eu hymgorffori yn y broses gwneud penderfyniadau drwy ddefnyddio’r amcanion lles, sicrhau bod cyfranogiad yn cael ei gynnig mewn ffordd ystyrlon a hygyrch ac ymgorffori canllawiau Atodiad B o ganllawiau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.   “”Hybu a hwyluso cyfranogiad plant a phobl ifanc mewn penderfyniadau sy’n gallu effeithio arnynt”; a

 

(g)      Bod Cyngor yr Ifanc yn cyfrannu at asesu a sicrhau digonedd o  ...  view the full Cofnodion text for item 47.

48.

Hunanwerthuso Wasanaethau Addysg Llywodraeth Leol pdf icon PDF 99 KB

I roi diweddariad i Aelodau ar berfformiad cyffredinol gwasanaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Interim (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar berfformiad gwasanaeth yn gyffredinol.   Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod yr adroddiad yn rhoi trosolwg o’r trefniadau archwilio newydd, ac roedd crynodeb o’r hunanwerthusiad drafft a chopi o’r adroddiad drafft ynghlwm i’r adroddiad.    

 

                        Rhoddodd y Prif Swyddog Interim drosolwg byr o’r hunanwerthusiad o wasanaethau addysg llywodraeth leol a chyfeiriodd at y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad.     

 

                        Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Paul Cunningham roedd y Prif Swyddog Interim wedi amlinellu rôl Estyn ac eglurodd ar y cyfan mai'r Awdurdod oedd yn penderfynu yngl?n â’i welliant ei hun.   Dywedodd am effaith cyni cyllidol ar ddarpariaeth gwasanaeth.    

 

Awgrymodd Mrs Lynne Bartlett bod y gair ‘effeithiol’ yn cael ei ychwanegu at y disgrifiad o’r gwaith partneriaeth rhwng yr Awdurdod Lleol a’r Esgobaeth.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Patrick Heesom i farn GwE ar yr Adroddiad Hunanwerthuso drafft 2018 gael ei ddarparu i’r Pwyllgor ar ôl ei dderbyn.

 

            PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod fframwaith newydd Estyn ar gyfer arolygu gwasanaethau addysg o fewn Awdurdodau Lleol yng Nghymru yn cael ei nodi; a

 

(b)       Bod sylwadau’r Pwyllgor mewn perthynas â’r adroddiad hunanwerthuso drafft diweddaraf yn cael ei nodi.

 

49.

Adroddiad Monitro Chwarter 3 Cynllun y Cyngor ar gyfer 2017/18 pdf icon PDF 127 KB

Pwrpas:        Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2017/18.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Interim adroddiad Monitro Cynllun Chwarter 3 y Cyngor 2017/18.  Cynghorodd bod yr Adroddiad yn cyflwyno’r cynnydd monitro ar ddiwedd Chwarter 3 o Gynllun y Cyngor ar gyfer y flaenoriaeth ‘Cyngor sy’n Dysgu’ a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Interim bod yr Adroddiad Monitro ar gyfer Cynllun y Cyngor 2017/18 yn adroddiad cadarnhaol gydag 81% o’r gweithgareddau yn gwneud cynnydd da yn ôl yr asesiad, a 69% yn debygol o gyflawni’r canlyniad a ddymunwyd.  Roedd y dangosyddion perfformiad yn dangos cynnydd da gydag 84% yn cyfarfod neu bron a chyfarfod targed y cyfnod.  Roedd y risgiau hefyd yn cael eu rheoli'n llwyddiannus gyda'r mwyafrif yn cael eu hasesu’n risgiau cymedrol (67%) neu’n fân risgiau (10%).    

 

            Dywedodd y Prif Swyddog nad oedd yna ddangosyddion perfformiad yn dangos statws coch ar gyfer perfformiad presennol yn erbyn targed oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor.    Dywedodd fod yna dri phrif risg (coch) a nodwyd ar gyfer y Pwyllgor fel y manylwyd yn yr adroddiad.

                    

Dywedodd yr Hwylusydd y byddai gweithdy ‘Deall Adroddiadau Perfformiad' yn cael ei gynnal i’r holl Aelodau ar ddiwedd mis Mehefin / ar ddechrau mis Gorffennaf, i gysylltu ag adroddiad alldro Cynllun y Cyngor i’r Cyngor ar 19 Mehefin 2018.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Mackie at dudalen 236, IP 3.1.1.12 M12 a gofynnodd am eglurhad ar y nifer o ddyfodiaid tro cyntaf.  Hefyd, gofynnodd am y dyddiad cychwyn a 50% o ddata wedi'i gwblhau a ddarparwyd yn erbyn IP 3.1.1.2 ar dudalen 234.    

 

PENDERFYNWYD:

(a)      Nodi’r adroddiad; a

 

(b)      Bod y Pwyllgor yn nodi gyda phryder y risgiau sy’n ymwneud â’r adroddiad oedd yn gysylltiedig â chaledi a chyllid isel y Cyngor. 

 

50.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg ieuenctid & Addysg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol gyfredol er mwyn ei hystyried.   Dywedodd y byddai cyfarfod nesaf y Pwyllgor a gynhelir ar 24 Mai yn gydgyfarfod gyda’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol.   Hefyd cadarnhaodd y byddai MrArwyn Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr GwE yn mynychu cyfarfod y Pwyllgor i’w gynnal ar 28 Mehefin.    

 

Dywedodd yr Hwylusydd y byddai Adroddiad Monitro Gwelliant Chwarter 4 yn cael ei gyflwyno i gyfarfod y Pwyllgor ar 24 Mai 2018.   

 

Mewn ymateb i gais gan y Cynghorydd David Williams, cytunodd yr Hwylusydd i ofyn i’r adroddiad Diweddariad Moderneiddio Ysgolion, i’w gyflwyno i gyfarfod y Pwyllgor ar 28 Mehefin, gynnwys y wybodaeth ddiweddaraf ar bob ffrwd gwaith presennol gwella ysgolion.   

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn cael ei newid; a

 

(b)      Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

 

 

51.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd dau aelod o’r wasg a dim aelod o’r cyhoedd yn bresennol.