Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

24.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

25.

Cofnodion pdf icon PDF 68 KB

Pwrpas:I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 5 Hydref 2017.

 

Cofnodion:

Roedd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 5 Hydref 2017 wedi’u dosbarthu i’r Aelodau gyda’r rhaglen.

 

Cywirdeb

 

Dywedodd y Cyng. Paul Cunningham ei fod wedi ymddiheuro am ei absenoldeb ond nad oedd hynny wedi’i gofnodi.

 

Mynegodd y Cyng. Patrick Heesom bryderon o ran nad oedd ei sylwadau yngl?n â’r Grant Ysgolion Bach Gwledig wedi’u cofnodi. Hefyd, yn sgil y cyngor sydd bellach ar gael am feini prawf Llywodraeth Cymru ar gyfer y grant a ddarperir i ysgolion gyda mwy na 90 o ddysgwyr, dywedodd bod angen adolygu’r argymhelliad.Dywedodd hefyd nad oedd ei sylwadau ar y Gwasanaeth Ieuenctid wedi’u cofnodi a gofynnodd bod y Pwyllgor yn derbyn adroddiad ar y Gwasanaeth Ieuenctid.

 

Gwnaeth y Cyng. David Williams sylwadau ar y cynigion ar gyfer yr ysgol newydd ym Mhenyffordd a’r cyfarfod sydd ar ddod gydag athrawon.Gwahoddodd Uwch Reolwr Cynllunio a Darpariaethau Ysgolion y Cyng. Williams i gael sgwrs yn dilyn y cyfarfod, a dywedodd bod y Cyngor yn bwriadu cyflwyno’r cynnig gorau posibl ar gyfer Penyffordd.

 

            PENDERFYNWYD:

 

            Yn amodol ar y newidiadau uchod, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a gofyn i’r Cadeirydd eu llofnodi.

26.

Cynnig Gofal Plant Am Ddim pdf icon PDF 122 KB

Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y rhaglen cynnig gofal plant am ddim sy’n datblygu

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog Dros Dro (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad i roi diweddariad ar y Cynnig Gofal Plant am Ddim a gofynnodd am gefnogaeth i ymestyn y cynnig i ardaloedd eraill yn Sir y Fflint. Gwahoddodd Rheolwr y Blynyddoedd Cynnar a Chefnogi Teuluoedd i gyflwyno’r adroddiad.

 

                        Darparodd Rheolwr y Blynyddoedd Cynnar a Chefnogi Teuluoedd wybodaeth gefndir a chynghori bod y cynnig ar hyn o bryd ar brawf mewn ardaloedd penodol o Sir y Fflint a bod yr Awdurdod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu modelau lleol ar gyfer rhoi’r cynnig hwn ar waith yn genedlaethol.Rhoddodd gyflwyniad ar y Cynnig Gofal Plant a Ariennir i blant 3 a 4 oed, gan gyfeirio’n benodol at y canlynol:

 

  • Gwerth gofal plant o safon
  • Beth yw'r Cynnig Gofal Plant
  • Beth a olyga hyn i rieni
  • Beth yw addysg gynnar
  • Sut y bydd rhieni yn gwybod a ydynt yn gymwys
  • Nod y cynllun peilot
  • A oes modd i riant ddewis y darparwr gofal plant
  • A fydd yn rhaid i rieni dalu am unrhyw beth
  • Sut mae rhieni yn gwneud cais

 

                        Diolchodd y Cadeirydd i Reolwr y Blynyddoedd Cynnar a Chefnogi Teuluoedd am ei gwaith ac am y cyflwyniad llawn gwybodaeth.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cyng. Kevin Hughes yngl?n â’r rhestr o ardaloedd y mae modd i bobl wneud cais am ofal plant am ddim, a gylchredwyd i’r Aelodau, cytunodd Rheolwr y Blynyddoedd Cynnar a Chefnogi Teuluoedd i wirio cywirdeb y rhestr a rhoi gwybod i’r Aelodau yn y cyfarfod nesaf. Gofynnodd y Cyng. Hughes pryd y bydd y cynllun ar gael yn yr ardaloedd gwledig.Dywedodd y swyddogion bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i weithredu’r cynllun ar draws Cymru erbyn diwedd cyfnod presennol y Cynulliad yn 2021. Fodd bynnag, byddai angen darparu adnoddau priodol.Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro bod adborth cadarnhaol wedi’i dderbyn gan Lywodraeth Cymru yngl?n â chynnydd y cynllun yn Sir y Fflint.

 

            Siaradodd yr Aelodau o blaid y cynnig gofal plant am ddim a mynegi eu cytundeb i ymestyn y cynnig i ardaloedd eraill yn Sir y Fflint.Gofynnodd Mrs Rebecca Stark bod diolchiadau’r Pwyllgor am waith caled y tîm wrth weithredu’r cynnig gofal plant yn cael ei anfon at y swyddogion perthnasol.Cytunodd Rheolwr y Blynyddoedd Cynnar a Chefnogi Teuluoedd i gyflwyno sylwadau cadarnhaol y Pwyllgor at ei thîm yn ystod cyfarfod nesaf y Gr?p Gorchwyl.

 

PENDERFYNWYD:

 

Roedd y Pwyllgor yn croesawu’r cynnydd wrth weithredu’r Cynnig Gofal Plant ac yn edrych ymlaen at yr estyniad arfaethedig i bob rhan o Sir y Fflint.

Presentation - The Funded Childcare Offer for 3 and 4 year olds pdf icon PDF 618 KB

27.

Maint dosbarthiadau pdf icon PDF 89 KB

Darparu gwybodaeth yngl?n â sut oedd y Cyngor yn defnyddio’r Grant gan Lywodraeth Cymru ar gyfer maint dosbarthiadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad i hysbysu’r Aelodau o Grant Lleihau Maint Dosbarthiadau Babanod a Chodi Safonau Llywodraeth Cymru. Dywedodd bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cyhoeddi manylion cronfa £36 miliwn newydd i fynd i’r afael â maint dosbarthiadau babanod ac i godi safonau, a fydd ar gael o 1 Ebrill 2018 tan 31 Mawrth 2021. Soniodd y Prif Swyddog Dros Dro am y prif ystyriaethau, fel y nodir yn yr adroddiad, a thynnu sylw at feini prawf y grant a chais y Cyngor i Lywodraeth Cymru a oedd yn amlinellu’r defnydd arfaethedig o’r cyllid refeniw i godi safonau ysgolion penodol.

 

                        Cyfeiriodd y Cyng. Kevin Hughes at y ddau brosiect arfaethedig yn yr adroddiad a gofynnodd pa waith sydd wedi’i wneud o ran y materion priodoldeb/amgylchiadau.Mewn ymateb, amlinellodd Uwch Reolwr, Cynllunio a Darpariaethau Ysgolion, yr amcanion a’r meini prawf ar gyfer nodi prosiectau ac eglurodd bod 78 o ysgolion yn y sir gyda dosbarthiadau o 29 disgybl a mwy.

 

                        Mewn ymateb i ymholiad gan Mrs Rebbeca Stark yngl?n â sut y bydd y cynnig yn effeithio ar ddisgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim, dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro mai dim ond un ysgol sydd yn y categori oren ar gyfer cefnogaeth.

 

 Gofynnodd y Cyng. Patrick Heesom am adroddiad pellach ar sut mae rhaglen band B Ysgolion yr 21ain yn cyd-fynd â’r grant maint dosbarthiadau gan Lywodraeth Cymru. Cytunodd y swyddogion i ddarparu adroddiad yn y flwyddyn newydd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi cynnwys yr adroddiad a chefnogi cyflwyno achos busnes i Lywodraeth Cymru.

28.

Cynllun y Cyngor 2017/18 - Monitro canol blwyddyn pdf icon PDF 118 KB

Pwrpas: Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2017/18.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro adroddiad i adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor ar gyfer 2017/18. Eglurodd ei fod yn adroddiad cadarnhaol gydag 88% o’r gweithgareddau yn gwneud cynnydd da yn ôl yr asesiad a 67% yn debygol o gyflawni’r canlyniad a ddymunwyd.Yn ogystal, roedd 65% o'r dangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu ragori ar y targed.Roedd y risgiau hefyd yn cael eu rheoli'n llwyddiannus gyda'r mwyafrif yn cael eu hasesu’n risgiau cymedrol neu’n fân risgiau. Cyfeiriodd y Prif Swyddog Dros Dro at dair risg fawr, fel y nodir yn yr adroddiad a, gan gyfeirio at gynaliadwyedd y ffrydiau ariannu, dywedodd bod y Cyngor wedi derbyn hysbysiad yn ddiweddar, heb rybudd ymlaen llaw, bod Llywodraeth Cymru wedi torri’r Grant Gwella Addysg 11%.

 

                        Dywedodd y Cyng. Ian Roberts, yn ychwanegol at y gostyngiad yn y grant hwn, bod y Grant Gwisg Ysgol ar gyfer disgyblion blwyddyn 7 sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim hefyd wedi’i dynnu’n ôl yn ddirybudd.

 

            Yn ystod y drafodaeth mynegodd yr Aelodau nifer o bryderon ynghylch y toriadau mewn cyllid grant a’r diffyg rhybudd i alluogi'r Cyngor a'r ysgolion gynllunio ar gyfer yr effaith. Gwnaeth y Cyng. Ian Roberts sylw ar oblygiadau codi cyflogau athrawon y flwyddyn nesaf a dywedodd y byddai angen ariannu cynnydd o fwy nag 1% mewn cyflogau sector cyhoeddus yn ganolog.Cynigiodd y Cyng. Patrick Heesom y dylid anfon llythyr ar ran y Pwyllgor yn amlinellu eu pryderon, ac eiliwyd hyn gan y Cyng. Ted Palmer.Cytunwyd i anfon llythyr at Mrs Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn amlinellu'r canlynol:-

 

·         Y gostyngiad arfaethedig o 11% yn y Grant Gwella Addysg

·         Diddymu Grant Ysgolion Bach a Gwledig

·         Diddymu Grant Gwisg Ysgol ar gyfer disgyblion blwyddyn 7 sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim

 

            Mynegodd y Cyng. Dave Mackie nifer o bryderon ynghylch fformat yr adroddiad monitro perfformiad yn Atodiad 1. Cytunodd yr Hwylusydd i siarad efo’r Tîm Perfformiad i sicrhau bod fformat yr adroddiadau nesaf yn well.Dywedodd y Cyng. Mackie bod cynigion wedi’u gwneud i ddarparu hyfforddiant i Aelodau i’w galluogi nhw i ddeall yr wybodaeth am berfformiad yn well a gofynnodd a oedd yr hyfforddiant yn mynd i gael ei drefnu. Cytunodd yr Hwylusydd i godi’r mater gyda Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd fel rhan o’r Rhaglen Datblygu Aelodau.

 

            Holodd y Cyng. Mackie ynghylch y ffigyrau ar dudalen 51 yr adroddiad a chanran y bobl ifanc 16-18 oed yn y system cyfiawnder ieuenctid sydd wedi cael cynnig addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth. Cytunwyd y byddai'r Hwylusydd yn cysylltu â’r Rheolwr Cyfiawnder Ieuenctid i dderbyn eglurhad o’r ffigyrau.

 

                        Cyfeiriodd Mrs Rebecca Stark at y risg ynghylch gallu arweinyddiaeth a nodir yn yr adroddiad cynnydd a gofynnodd a oes risg o ran diffyg penaethiaid cymwys ac addas yn y dyfodol. Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro bod y sefyllfa yn fwyfwy heriol ond nad yw ysgolion yn Sir y Fflint wedi cael trafferthion penodi ymgeiswyr cadarn.Eglurodd  ...  view the full Cofnodion text for item 28.

29.

Cyfryngau Cymdeithasol a Diogelwch Rhyngrwyd mewn Ysgolion pdf icon PDF 162 KB

Darparu manylion i'r Pwyllgor am gyfryngau cymdeithasol a diogelwch ar y rhyngrwyd a ddarperir i ysgolion

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Addysg Dros Dro (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad am ddiogelwch cyfryngau cymdeithasol a diogelwch ar y rhyngrwyd a ddarperir i ysgolionCyflwynodd Claire Sinnott, Ymgynghorydd Dysgu – Iechyd, Lles a Diogelu, a’i gwahodd i gyflwyno’r adroddiad.

 

                        Eglurodd yr Ymgynghorydd Dysgu bod yr adroddiad wedi'i lunio mewn ymateb i gais gan yr Aelodau am sicrwydd bod plant a phobl ifanc yn ysgolion Sir y Fflint yn derbyn cefnogaeth briodol i ddatblygu eu sgiliau o ran defnyddio cyfryngau cymdeithasol a’r rhyngrwyd yn ddiogel.Darparodd wybodaeth gefndir a chyd-destun ac adroddodd ar y datblygiadau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol, fel y nodir yn yr adroddiad.

 

                        Siaradodd y Cyng. Kevin Hughes o blaid offeryn hunanadolygu e-ddiogelwch 360 Degree Safe Cymru a dywedodd y dylai bod pob ysgol yng Nghymru yn cael ei hannog i ddefnyddio’r offeryn. Bu iddo longyfarch Ysgol Gynradd Parc Cornist am dderbyn y Marc Diogelwch Ar-Lein a phwysleisiodd yr angen am ymgysylltu â rhieni ac annog cefnogaeth gan gyfoedion mewn ysgolion.Yn ystod y drafodaeth cytunwyd y byddai'r Cyng. Kevin Hughes yn llunio datganiad ar gyfer papurau newydd lleol ar y gefnogaeth a ddarperir gan y Cyngor i blant, pobl ifanc ac athrawon ar ddiogelwch cyfryngau cymdeithasol a’r rhyngrwyd a chylchredeg y datganiad i Aelodau’r Pwyllgor.

 

            Mewn ymateb i gwestiynau a sylwadau’r Cadeirydd a'r Cyng. Dave Mackie ar gasglu’r holl wybodaeth i athrawon mewn pecyn, cytunodd yr Ymgynghorydd Dysgu i ddarparu pecyn gwybodaeth a’i gylchredeg i bob ysgol.

 

                        Mewn ymateb i ymholiad gan y Cyng. Tudor Jones yngl?n â sut y caiff y gwaith o godi ymwybyddiaeth ymhlith disgyblion ei fesur i sicrhau ei effeithiolrwydd, eglurodd yr Ymgynghorydd Dysgu bod Gwasanaethau Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion yn mynd i ysgolion uwchradd bob dwy flynedd a bod pob ysgol yn rhan o hyn.Cytunodd i rannu’r canfyddiadau ar fesur effeithiolrwydd y gwaith i godi ymwybyddiaeth.

 

            PENDERFYNWYD:

 

(a)      Nodi’r adroddiad ar ddiogelwch cyfryngau cymdeithasol a’r rhyngrwyd a chadarnhau eu bod wedi derbyn lefel briodol o sicrwydd ynghylch y gefnogaeth a ddarperir i blant, pobl ifanc ac athrawon i’w cadw’n ddiogel;

 

(b)      Cydnabod y gefnogaeth i ysgolion a datblygiad parhaus y Fframwaith Cymhwysedd Digidol a defnyddio offeryn 360 Degree Safe Cymru

 

(c)       Derbyn adroddiadau rheolaidd ar ddiogelwch cyfryngau cymdeithasol a’r rhyngrwyd a ddarperir i blant, pobl ifanc ac athrawon.

30.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol pdf icon PDF 87 KB

Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg ieuenctid & Addysg

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol er mwyn ei hystyried. Dywedodd bod cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 21 Rhagfyr 2017 wedi'i ganslo ac y bydd yr eitemau yn cael eu cynnwys ar raglen y cyfarfod nesaf ar 1 Chwefror 2018. Eglurodd y bydd y sesiwn friffio ar ddiogelu corfforaethol, a oedd i fod i gael ei chynnal cyn y cyfarfod ym mis Rhagfyr, yn cael ei chynnal cyn cyfarfod o’r Cyngor Sir.

 

            Yn ystod y drafodaeth, cynigiwyd y diwygiadau canlynol i’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol.

 

  • Cynnwys adroddiad ar y Gwasanaeth Ieuenctid

 

  • Gwneud diogelwch cyfryngau cymdeithasol a’r rhyngrwyd yn eitem reolaidd ar Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor

 

  •  Cynnwys adroddiad ar sut mae rhaglen band B Ysgolion yr 21ain yn cyd-fynd â’r grant maint dosbarthiadau gan Lywodraeth Cymru

 

  • Cyflwyno adroddiad cynnydd ar weithredu’r ddarpariaeth gofal plant am ddim i gyd-gyfarfod o’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 

  • Cyflwyno adroddiad ar y Ganolfan Hawl Bore Oes i gyd-gyfarfod o’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 

Tynnodd yr Hwylusydd sylw at baragraff 1.03 yr adroddiad a dywedodd, yn ystod cyfarfod Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 25 Hydref 2017, y penderfynwyd holi barn bob Pwyllgor am amseroedd y cyfarfodydd fel rhan o’u rhaglen gwaith i'r dyfodol.Cyfeiriodd at y dewisiadau, y manylwyd arnynt yn yr adroddiad, a gofynnodd i’r Pwyllgor am eu barn ynghylch patrwm cyfarfodydd.Byddai’r canlyniad yn cael ei adrodd yn ôl wrth Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd.

 

 Awgrymodd y Cyng. Patrick Heesom y dylai’r Pwyllgor gadw at y trefniadau presennol a chyfarfod ar brynhawn ddydd Iau am 2.00pm.Eiliwyd hyn gan y Cyng. Dave Mackie a chafodd ei gymeradwyo pan gynhaliwyd pleidlais ar y mater.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)      Diwygio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)      Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen;

 

(c)       Rhoi gwybod i Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd bod y Pwyllgor yn ffafrio cwrdd am 2pm ddydd Iau.

31.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol a dim ond un aelod o’r wasg.