Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

15.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Ian Smith gysylltiad personol yn eitem 4 ar y rhaglen – Comisiynu a Gweithredu Cludiant i'r Ysgol, oherwydd ymgysylltiad agos aelod o’i deulu.

 

            Datganodd y Cynghorydd Tudor Jones gysylltiad personol yn eitem 8 ar y rhaglen - Trefniadaeth yr Ysgol, fel Aelod Ward lleol ar gyfer ysgol a enwir yn yr adroddiad. 

 

Datganodd y Cynghorydd Patrick Heesom gysylltiad personol yn eitem 8 ar y rhaglen hefyd - Trefniadaeth yr Ysgol, fel Aelod a fynychodd cyfarfodydd llywodraethwr yr ysgol. 

 

Datganodd Mr  David Hytch gysylltiad personol yn eitem 8 ar y rhaglen, fel Cadeirydd Llywodraethwyr yr ysgol ffederal a nodir yn yr adroddiad.

16.

Cofnodion pdf icon PDF 69 KB

Pwrpas:I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 28 Gorffennaf 2017.

Cofnodion:

Roedd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 2017 wedi

eu dosbarthu i Aelodau gyda’r rhaglen.

 

            PENDERFYNWYD:

 

            Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.   

17.

Diweddariad Comisiynu a Gweithrediadau Cludiant Ysgol

Pwrpas: I dderbyn diweddariad llafar ar Gomisiynu a Gweithrediadau Trafnidiaeth Ysgol

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y papur ategol a gafodd ei ddosbarthu yn y cyfarfod i roi diweddariad ar broses ail-gaffael y llwybrau cludiant gan yr Uned Trafnidiaeth Integredig.  Cynghorodd mai pwrpas y papur oedd esbonio digwyddiadau diweddar a heriau gweithredol yn ystod y trawsnewid i’r llwybrau a'r gweithredwyr cludiant newydd, er mwyn rhoi sicrwydd bod y gwasanaethau wedi dychwelyd i'r drefn arferol, ac i ystyried sut i wella trefniadau ar gyfer y dyfodol. 

 

Esboniodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) fod y Cyngor wedi wynebu cyfres unigryw o sefyllfaoedd oherwydd y symud i ddull newydd o gaffael, ail-dendro llwybrau newydd fel ymarfer unigol, a rheoli’r cyfnod o drawsnewid yn ystod toriad gwyliau’r haf i ysgolion.    Bu iddo adrodd ar y trawsnewid i lwybrau a gweithredwyr cludiant newydd, yr heriau a brofwyd, a’r gwelliannau allweddol ar gyfer y dyfodol. Wrth ddod i gasgliad, sicrhaodd y Prif Swyddog na fu unrhyw risg i ddisgyblion a bod darpariaeth cludiant i'r ysgol wedi’i gynnal drwy gydol y broses drawsnewid.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Aaron Shotton sylw ar yr angen i adolygu a rhesymoli darpariaeth cludiant ysgol, a dywedodd fod nifer o’r anghysondebau yn y trefniadau gweithredu presennol wedi'u nodi.  Roedd yr adolygiad wedi arwain at nifer o welliannau a fyddai'n lleihau risg a gwneud y mwyaf o ddarpariaeth gwasanaeth ar gyfer y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad diweddaru

18.

Rhagolwg Ariannol a Cham Cyntaf Cyllideb 2018/19 pdf icon PDF 130 KB

Pwrpas: Darparu'r rhagolwg ariannol i’r Pwyllgor ac ymgynghori ynghylch cynigion Cam 1 Cyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor ar gyfer 2018/19.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ar y rhagolwg ariannol cyfredol ar gyfer 2018/19 ac ar gynigion Cam 1 Cyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor ar gyfer 2018/19. Rhoddodd wybodaeth a chyd-destun cefndirol, gan gynghori bod yr opsiynau newydd ar gyfer y portffolio Addysg ac Ieuenctid, y pwysau ariannol, a’r amserlen ar gyfer y broses pennu cyllideb wedi’u nodi yn yr adroddiad.  Cyfeiriodd y Prif Weithredwr hefyd at y Model Gweithredu Addysg ac Ieuenctid, a’r Datganiad Atgyfnerthu a oedd wedi’u hatodi i’r adroddiad. Dywedodd fod y Setliad Llywodraeth Leol Cymru dros dro i’w gyhoeddi ar 10 Hydref.

 

Adroddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ar y rhagolwg ariannol a’r pwysau cenedlaethol, lleol, chwyddiant a’r gweithlu, fel y manylir yn yr adroddiad sy’n benodol i’r portffolio Addysg ac Ieuenctid.  Adroddodd y Rheolwr Cyllid ar y pwysau cyfredol mewn perthynas â Chyllideb Ysgolion. 

 

Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Patrick Heesom yn ymwneud â darpariaeth Gwasanaeth Ieuenctid, rhoddodd y Prif Weithredwr sicrwydd y byddai’r ddarpariaeth yn y gyllideb sylfaenol, fel y mae’n sefyll, yn cael ei chadw.

 

Mynegodd Lynn Bartlett bryderon ar effaith lleihau addysg feithrin a gwnaeth sylw ar werth hirdymor addysg yn y blynyddoedd cynnar.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn fodlon â’r ymagwedd a gymerir i Gam Un y Gyllideb yn y portffolio Addysg.

19.

Model Rhanbarthol Diwygiedig ar gyfer Cefnogaeth Ysgolion Uwchradd pdf icon PDF 118 KB

Pwrpas: Rhoi trosolwg o’r trefniadau newydd yn y Gwasanaeth Gwella Ysgolion rhanbarthol i roi gwell cefnogaeth i ysgolion uwchradd, a ddaw i rym o fis Medi 2017.

Cofnodion:

Cyflwynoddy Prif Weithredwr adroddiad i roi trosolwg o’r trefniadau newydd yn y Gwasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol i roi gwell cefnogaeth i ysgolion uwchradd, a ddaeth i rym ym mis Medi 2017.

 

            Esboniodd Uwch Reolwr Interim y Systemau Gwella Ysgolion fod adolygiad diweddar o berfformiad ysgol gan GwE wedi tynnu sylw at bryderon am berfformiad ysgolion uwchradd ar draws Rhanbarth Gogledd Cymru.  Daeth yr adolygiad i'r casgliad hefyd nad oedd y model gweithredu gwreiddiol o raniad 80/20 o adnoddau o blaid ysgolion cynradd yn addas i'r pwrpas bellach a bod angen cyfeirio mwy o adnoddau at ysgolion uwchradd i sicrhau gwelliant cyflym.  Cyflwynodd Mr Alwyn Lloyd Jones – Cyfarwyddwr Cynorthwyol GwE, Mr Elfyn Vaughan Jones – Arweinydd Uwchradd Rhanbarthol GwE, a Mr Martyn Froggett – Arweinydd Craidd Uwchradd ar gyfer Sir y Fflint, a’u gwahodd i adrodd ar y sail resymegol ar gyfer newid, gan ddarparu trosolwg o sut y byddai’r model rhanbarthol diwygiedig ar gyfer cefnogi ysgolion uwchradd yn cael ei weithredu. 

 

                        Gwnaeth y Cynghorydd Dave Mackie sylw ar berfformiad ysgolion uwchradd yn Sir y Fflint, gan roi gwybodaeth ar ganran y disgyblion a gyrhaeddodd lefel 2 ac uwch rhwng 2013 a 2016 mewn ysgolion uwchradd, fel enghraifft o’i bryderon.    Wrth ymateb i’r materion a godwyd, cydnabu GwE yr angen i wella gan ddweud bod cynnydd yn cael ei wneud. Rhoddodd swyddogion GwE sicrwydd hefyd fod ysgolion uwchradd Sir y Fflint yn perfformio’n dda o gymharu ag awdurdodau eraill. 

 

                        Yn ystod trafodaethau, ymatebodd swyddogion i’r sylwadau a’r pryderon pellach a godwyd ynghylch y data a ddarparwyd yn yr adroddiad yn ymwneud â pherfformiad ysgolion, yn seiliedig ar feincnodau a chymhwysedd prydau ysgol am ddim.  

 

                        Cododd Mr  David Hytch y mater o recriwtio athrawon, gan wneud sylw ar broblem recriwtio athrawon pynciau arbenigol, a chyfeirio at Fathemateg fel enghraifft.  Cytunodd y Cynghorydd Ian Roberts gyda'r sylwadau a wnaed gan MrHytch ar y mater recriwitio a chadw athrawon yn ysgolion Sir y Fflint, gan awgrymu efallai y bydd y Pwyllgor am anfon llythyr arall at Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Addysg i amlinellu ei bryderon, a chytunwyd ar hyn gan y Pwyllgor.  Cytunwyd hefyd y byddai'r Hwylusydd yn dosbarthu copi o'r llythyr blaenorol a gafodd ei anfon at Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Addysg, yn ogystal ag ymateb y Gweinidog.

 

                        Yn ystod trafodaeth, codwyd materion pellach cefnogaeth ar gyfer penaethiaid, iechyd a lles staff ysgolion, balans rhwng gwaith a bywyd personol, a rhaglenni arweinyddiaeth gynaliadwy. 

 

            PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r newidiadau i’r model cefnogaeth ranbarthol ar gyfer cefnogi ysgolion uwchradd; 

 

 (b)      Bod y Pwyllgor yn cydnabod y gefnogaeth uwch ar gyfer ysgolion uwchradd a'r newidiadau a ddyluniwyd i wella perfformiad ysgolion yn Sir y Fflint; a

 

(c)      Bod yr Hwylusydd yn ysgrifennu at Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Addysg, ar ran y Pwyllgor, gan amlinellu ei bryderon ynghylch recriwtio athrawon.

20.

Canlyniadau Dysgwyr 2017 pdf icon PDF 86 KB

Pwrpas: Hysbysu’r Aelodau ynghylch y deilliannau dysgwyr wedi’u dilysu ar gyfer y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3 ac i rannu’r deilliannau dros dro ar gyfer Cyfnod Allweddol 4. Mae’r adroddiad hefyd yn cymharu perfformiad Sir y Fflint gyda chynghorau eraill yng ngogledd Cymru a Chymru gyfan.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Uwch Reolwr Interim Systemau Gwella Ysgolion adroddiad i hysbysu’r Pwyllgor ynghylch y deilliannau dysgwyr wedi’u dilysu ar gyfer y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3, ac i rannu’r deilliannau dros dro i ddysgwyr ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 a 5. Dywedodd fod yr adroddiad hefyd yn cymharu perfformiad Sir y Fflint â chynghorau eraill yng ngogledd Cymru a Chymru gyfan. 

 

                        Rhoddodd yr Uwch Reolwr Interim wybodaeth gefndir, gan esbonio bod atodiadau unigol wedi’u hatodi i’r adroddiad a oedd yn rhoi dadansoddiad manwl o berfformiad pob cyfnod allweddol ar gyfer 2017, gan gynnwys cymariaethau i’r flwyddyn flaenorol ac i gyfartaleddau cyfredol Cymru.  Gofynnwyd i’r Pwyllgor nodi cyrhaeddiad plant a phobl ifanc Sir y Fflint ar gyfer 2016-17 yn y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3, a'r data dros dro ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 a 5.

 

                        Talodd y Cynghorydd Ian Roberts deyrnged i waith caled ysgolion wrth gyflawni perfformiad da a gwell, uwchlaw'r lefelau disgwyliedig, ym mhob dangosydd yn y Cyfnod Sylfaen a Chyfnodau Allweddol 2 a 3. Nodwyd perfformiad dros dro Sir y Fflint yng Nghyfnodau Allweddol 4 a 5 hefyd. Awgrymodd y gallai'r Pwyllgor fynegi ei llongyfarchiadau a diolch i ysgolion am eu gwaith caled a'u cyflawniadau.

 

Yn ystod y drafodaeth, ymatebodd yr Uwch Reolwr Dros Dro i’r sylwadau a wnaed o amgylch y gwahaniaeth o ran cyrhaeddiad yn y Gymraeg rhwng bechgyn a merched, a'r newid mewn safle ar gyfer Technoleg Gwybodaeth yn 2017. 

 

PENDERFYNWYD

 

 (a)     Bod y Pwyllgor yn nodi cyrhaeddiad plant a phobl ifanc Sir y Fflint ar gyfer 2016-17 yn y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3, a'r data dros dro ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 a 5; a

 

(b)     Bod y Pwyllgor yn cael y ffigurau cyrhaeddiad dilys ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 a Chyfnod Allweddol 5 mewn cyfarfod yn y dyfodol.

21.

Trefniadaeth Ysgol pdf icon PDF 92 KB

Pwrpas: Rhoi diweddariad ar Ffedereiddio a chynigion trefniadaeth ysgolion eraill

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr, Cynllunio a Darpariaeth Ysgolion, adroddiad i roi'r diweddaraf ar Ffederasiwn a chynigion trefniadaeth ysgolion eraill. 

 

Rhoddodd yr Uwch Reolwr wybodaeth gefndirol a chyd-destun a chyfeiriodd at yr ystyriaethau allweddol, fel y nodwyd yn yr adroddiad, ynghylch y prosiect gwella cyfalaf yn Ysgol Uwchradd Cei Connah, a oedd hefyd yn cwmpasu gwaith i ddymchwel rhannau o hen adeilad Ysgol Uwchradd John Summers, a'r cynllun arfaethedig ym Mhenyffordd i uno'r trefniant safle rhanedig presennol a dod â'r holl ddarpariaeth gynradd i un safle.

 

Yn ystod trafodaeth, ymatebodd yr Uwch Reolwr i’r sylwadau a’r pryderon a godwyd ynghylch Ffederasiwn a threfniadaeth ysgolion. Dywedodd fod diweddariad ar faterion trefniadaeth ysgolion Ffederasiwn, cenedlaethol a lleol, wedi’i atodi i'r adroddiad.

                                     

PENDERFYNWYD

 

Nodi cynnydd y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion.

22.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg ieuenctid & Addysg

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol gyfredol er mwyn ei hystyried. 

 

Yn ystod y drafodaeth, dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts fod Llywodraeth Cymru wedi atal newidiadau arfaethedig i'r Cwricwlwm ac felly dylid dileu'r eitem Diwygio'r Cwricwlwm a drefnwyd ar gyfer cyfarfod 23 Tachwedd o'r flaenraglen waith am y tro.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Yn amodol ar yr uchod, bod y Pwyllgor yn cymeradwyo'r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ddrafft; a

 

 (b)      Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

23.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd nac unrhyw aelodau o’r wasg yn bresennol.