Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

34.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

35.

Cofnodion pdf icon PDF 113 KB

Pwrpas:        Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd a 22 Tachwedd, 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd 2019.

 

            Cynigiodd y Cynghorydd Dave Mackie gymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD:

Cymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

 

 

            Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd 2019.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Patrick Heesom at dudalen 13 a’i bryderon yngl?n â symiau canlyniadol a’r risg sy'n gysylltiedig â chodi lefelau Treth y Cyngor ac roedd yn falch y byddai'r lefel yn is na 5% yn dilyn setliad Llywodraeth Cymru (LlC). 

           

            Mewn ymateb cyfeiriodd yr Arweinydd at gyfarfodydd diweddar y Cabinet ac Arweinwyr Grwpiau lle’r adroddwyd y bwriedir gosod Treth y Cyngor yn is na 5% ond nid oedd y lefel yn glir ar hyn o bryd. O’r wybodaeth a ddarparwyd gan LlC, dywedodd bod disgwyliad i Dreth y Cyngor weld cynnydd o 7.1% ledled Cymru eleni.  Nid oedd hyn yn achos dathlu a byddai mwy o wybodaeth yn cael ei rhannu unwaith y byddai’n cael ei derbyn.Roedd llawer iawn o wybodaeth i fynd trwyddi yn enwedig o ran cyllid grant ac yn dilyn yr Etholiad Cyffredinol mae’n bosibl y byddai mwy o symiau canlyniadol i Gymru ar ddechrau 2020 pan fyddai’r gyllideb yn cael ei gosod.    

 

Cynigiodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin gymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Kevin Hughes.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

 

36.

Rhaglen Gwaith I'r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

Pwpras:        I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Addysg ac Ieuenctid a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a oedd wedi cael ei diweddaru yn dilyn y cyfarfod diwethaf ac a oedd ynghlwm yn Atodiad 1.  Yr unig addasiad oedd yr eitem ar Dlodi Plant a oedd wedi cael ei symud i’r cyfarfod nesaf ar 30 Ionawr. Roedd yr holl gamau gweithredu o'r cyfarfodydd blaenorol ar 7 a 22 Tachwedd wedi cael eu cwblhau ac roedd llythyr wedi cael ei anfon at Brif Weithredwr y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid ac e-bostiwyd copi at Aelodau’r Pwyllgor.  Nid oedd ymateb wedi’i dderbyn hyd yma ond byddai unrhyw ymateb yn cael ei gylchredeg i Aelodau hefyd. Cadarnhaodd bod y camau gweithredu yn dilyn yr arolwg Estyn wedi cael eu cynnwys yn y rhaglen gwaith i’r dyfodol a bod y sylwadau am yr adroddiadau perfformiad a godwyd gan y Cynghorydd Mackie wedi cael eu bwydo’n ôl i’r Tîm Perfformiad a bod y camau gweithredu a’r  risgiau wedi cael eu diwygio ac y byddent yn ffurfio rhan o adroddiadau perfformiad bob chwarter yn y dyfodol.

 

Cynigiodd Mr David Hytch roi cymeradwyaeth i’r argymhellion yn yr adroddiad gan ac eiliwyd hynny gan Mrs Rebecca Stark.                              

 

PENDERFYNWYD:

(a)    Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y'i diwygiwyd;

 

(b)    Awdurdodi’r Hwylusydd, ar ôl ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen;

 

37.

Deilliannau Dysgwyr Dros Dro 2019 pdf icon PDF 160 KB

Pwrpas:        I ddarparu adroddiad ar y deilliannau dysgu dros dro ar gyfer 2019.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) ac roedd yn darparu gwybodaeth am Ddeilliannau Dysgwyr Cyfnod Allweddol 2 a 3 ynghyd ag adroddiad manwl gan GwE. Cyfeiriodd at y newidiadau parhaus i adroddiadau perfformiad ac at gyfarfod a gynhaliwyd gyda Llywodraeth Cymru (LlC) i ddeall sut y byddai angen addasu adroddiadau ar gyfer y Gwasanaeth Craffu yng ngoleuni’r newidiadau hyn. Ychwanegodd nad oedd modd cylchredeg gwybodaeth am Gyfnodau Allweddol 4 a 5 yn y cyfarfod gan ei bod yn dal i fod yn wybodaerg dros dro ond byddai'n cael ei chyflwyno yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Mawrth.

 

            Cyfeiriodd yr Uwch-Reolwr at y crynodeb gweithredol a oedd yn darparu trosolwg yn dilyn y gweithdy diweddar i aelodau a’r newidiadau arwyddocaol mewn adroddiadau a hefyd asesiadau athrawon i Gyfnod Allweddol 2 a 3 ar gyfer ysgolion Cymru.  Tynnodd sylw aelodau at yr atodiad a oedd yn darparu mwy o fanylion ac yn rhoi syniad iddynt o’r ffordd y byddai ysgolion yn ymdopi â’r cyfnod pontio ac yn cynnal safonau.

 

            Cadarnhaodd Mr Dave Edwards (Uwch Arweinydd Craidd Cynradd) bod y safonau a gadarnhawyd ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 yn Sir y Fflint yn dal i fod yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol. Cyfeiriodd at Werth Ychwanegol a’r lefelau cyflawni a oedd yn ddisgwyliedig gan ysgolion ledled Sir y Fflint, fodd bynnag i rai ysgolion byddai hon yn her fawr ond dywedodd y byddai’r newidiadau adrodd hyn yn cydnabod yr heriau yn enwedig o ran deilliannau.  Darparodd fwy o fanylion yngl?n â sut oedd gwybodaeth am bob ysgol unigol yn cael ei monitro i sicrhau bod pob disgybl yn cyflawni eu potensial. Cyfeiriodd wedyn at y wybodaeth a ddarparwyd am y bwlch rhwng bechgyn a merched a phrydau ysgol am ddim a hefyd y gwaith a oedd yn cael ei wneud mewn ysgolion yn dilyn arolygiadau Estyn.

 

            Soniodd Mr David Hytch ei fod wedi cael anhawster deall y ffigyrau ar gyfer cynnydd disgyblion heb lefel gwaelodlin a gofynnodd a oedd Mr Edwards yn gallu cael mynediad at y wybodaeth hon ond yn methu â’i rhannu. Mewn ymateb, dywedodd Mr Edwards na fyddai’r data mor hygyrch yn y dyfodol ond trwy ddefnyddio’r rhaglen lwybro byddai hyn yn galluogi GwE i fesur gwerth ychwanegol yn enwedig i blant â sgiliau llythrennedd isel a darparu trosolwg o’r modd y gellid olrhain cefnogaeth i’r plant hyn trwy’r Cyfnod Sylfaen ac ar ôl hynny. Ychwanegodd bod ysgolion yng nghyfnod allweddol 2 yn cydweithio i gymedroli er mwyn rhannu, gwerthuso a chreu lefelau i ddeall beth fyddai’r deilliant i Gyfnod Allweddol 1 a 2.

 

            Cyfeiriodd yr Uwch-Reolwr at y dulliau adrodd data blaenorol a’r safleoedd ac ati a dywedodd yn 2017 bod 91% o ddysgwyr Cyfnod Allweddol 2 wedi cyflawni’r lefel ddisgwyliedig. Y broses o symud at y fframwaith atebolrwydd a fyddai’n edrych ar safon addysg yn gyffredinol a chynnwys lles disgyblion, deilliannau Estyn a’r ddarpariaeth mewn ysgolion i sicrhau bod pobl ifanc yn cyflawni eu potensial.  

 

            Cyfeiriodd yr Arweinydd at ddangosyddion  ...  view the full Cofnodion text for item 37.

38.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.