Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Pwrpas:        Yn y Cyfarfod Blynyddol, penderfynodd y Cyngor y dylai’r gr?p Llafur enwebu Cadeirydd y pwyllgor. Gofynnir i’r Pwyllgor benodi Cadeirydd a enwebwyd.

Cofnodion:

Dywedodd yr Hwylusydd y cadarnhawyd yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir y dylai Cadeirydd y Pwyllgor fod o’r Gr?p Llafur.    Gan fod y Cynghorydd David Healey wedi ei benodi i’r swydd hon gan y Gr?p, gofynnwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo'r penderfyniad. 

 

(Cadeiriodd y Cynghorydd Healey weddill y cyfarfod)

 

PENDERFYNWYD:

 

Cadarnhau’r Cynghorydd David Healey fel Cadeirydd y Pwyllgor.

2.

Penodi Is-Gadeirydd

Pwrpas:        Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.

 

Cofnodion:

 

Enwebodd y Cynghorydd Paul Cunnigham y Cynghorydd David Hytch fel Is-gadeirydd y Pwyllgor ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Martin White.

 

Ar ôl cynnal pleidlais penodwyd y Cynghorydd David Hytch yn Is-gadeirydd y Pwyllgor.

 

Diolchodd David Hytch i’r Pwyllgor am ddangos ffydd ynddo unwaith eto.

       

PENDERFYNWYD:

 

Penodi David Hytch yn Is-gadeirydd y Pwyllgor.

 

3.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

 

4.

Cofnodion pdf icon PDF 102 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod(ydd) ar 21 Mawrth 2019.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2019.

 

Cywirdeb

 

Dywedodd y Cynghorydd Paul Cunningham ei fod wedi cyflwyno ei ymddiheuriadau i’r cyfarfod, gan ofyn bod y cofnodion yn cael eu newid i gofnodi hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y newid uchod, bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

 

5.

Adolygiad Polisi Cludiant Dewisol – Canlyniad yr Ymgynghoriad pdf icon PDF 95 KB

Pwrpas:        Cynnig adborth ar ganlyniad yr ymgynghoriad ar yr adolygiad o’r polisi cludiant ysgol a choleg dewisol ac ystyried y dewisiadau sydd ar gael.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd MrsJane Cooper, Mr Steve Jackson a Mr Alex Thomas i’r cyfarfod.

 

                      Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad yn rhoi adborth ar ganlyniad yr ymgynghoriad ar yr adolygiad o’r polisi cludiant dewisol i’r ysgol a’r coleg ac yn ystyried yr opsiynau sydd ar gael. Gwahoddwyd y Rheolwr Ysgolion – Cynllunio a Darpariaeth i gyflwyno’r adroddiad.

 

            .     Dywedodd y Rheolwr Ysgolion bod y Cabinet wedi cytuno ar amrywiaeth o opsiynau i ymgynghori’n ffurfiol yn eu cylch mewn perthynas â'r mater o gludiant dewisol i'r ysgol a’r coleg i ddisgyblion ôl-16. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 18 Chwefror a 5 Ebrill 2019.  Mae’r adroddiad yn crynhoi canlyniadau’r ymgynghoriad. Siaradodd y Rheolwr Ysgolion am yr ystyriaethau allweddol fel sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad, ac eglurodd bod yr opsiynau a gafodd eu cynnwys yn yr ymgynghoriad, yn unol â chytundeb y Cabinet ar 18 Rhagfyr 2018,  i'w gweld yn llawn yn atodiad 2 i'r adroddiad gyda chrynodeb o'r ymatebion a gafwyd.

I gloi, dywedodd y Rheolwr Ysgolion pe bai’r Pwyllgor yn cytuno ar unrhyw opsiynau newydd yn y cyfarfod, yna byddai angen cyfnod newydd o ymgynghori er mwyn ystyried y cynigion a wnaed.

 

Croesawodd y Cadeirydd Mrs Cooper, MrJackson a Mr. Thomas i roi gwybod i'r Pwyllgor beth yw eu barn am ganlyniadau'r ymgynghoriad fel sydd i'w gweld yn yr adroddiad. 

 

Diolchodd MrsCooper, ar ran y Gymdeithas Penaethiaid Ysgolion Uwchradd, i’r Pwyllgor am y cyfle i gyflwyno safbwyntiau Penaethiaid Uwchradd mewn ymateb i’r adolygiad o’r polisi cludiant i’r ysgol/coleg dewisol a'r opsiynau sydd ar gael. Dywedodd bod y Gymdeithas Penaethiaid Ysgolion Uwchradd yn deall y pwysau ariannol y  mae costau perthnasol i gludiant ysgolion yn eu hachosi a’r angen i gau 'bwlch' ariannu'r Cyngor, ond maen bwysig annog pob dysgwr dros 16 i barhau â'u  haddysg a'u cefnogi i wneud hynny drwy eu galluogi i fynd i leoliad o'u dewis nhw e.e.addysg ôl-16 mewn ysgol neu goleg. Aeth yn ei blaen i ddweud er ei bod yn bwysig bod dysgwyr yn cael cludiant am ddim i’w lleoliad ôl-16, mae’n bwysicach fyth bod cludiant ar gael ar draws Sir y Fflint, hyd yn oed ar gost bychan i rieni, er mwyn  galluogi  myfyrwyr i barhau mewn addysg ôl-16 a gwneud eu dewis eu hunain o ran lle i fynd, Roedd y Gymdeithas Penaethiaid Ysgolion Uwchradd yn cefnogi'r opsiwn o godi tâl ar rieni ond bod hwnnw'n cael ei gadw ar lefel isel er mwyn gallu parhau i ddarparu cludiant ar gyfer myfyrwyr. 

 

 Cyfeiriodd MrsCooper at bryderon y Gymdeithas Penaethiaid Ysgolion Uwchradd y byddai sawl canlyniad pe rhoddid y gorau i'r cludiant gan gynnwys mwy o dagfeydd traffig o amgylch ysgolion oherwydd y cynnydd mewn cerbydau preifat yn cludo plant. Dywedodd ei bod yn bwysig annog myfyrwyr i barhau i ddefnyddio cludiant cyhoeddus i deithio i ac o’r ysgol. I gloi dywedodd MrsCooper er mai dymuniad y Gymdeithas Penaethiaid Ysgolion Uwchradd fyddai cadw at y drefn sydd ohoni ond eu bod yn cydnabod  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Hunanwerthusiad o Wasanaethau Addysg Llywodraeth Leol pdf icon PDF 149 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar berfformiad gwasanaeth gan gynnwys Canlyniadau Dysgwr ar gyfer 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod y Cyngor yn cynnal hunanwerthusiad blynyddol gan fesur ei hun yn erbyn gofynion fframwaith arolygu Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol a gyhoeddir gan Estyn.  Roedd yr adroddiad yn rhoi trosolwg o’r hunanwerthusiad hwnnw ac yn amlygu cryfderau allweddol a'r rhesymau dros ddatblygu o fewn y ddarpariaeth gwasanaethau addysg bresennol. 

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog yr adroddiad a chyfeiriodd at yr ystyriaethau allweddol. Eglurodd y cyflwynwyd y fframwaith newydd ar gyfer arolygu                                 gwasanaethau addysg awdurdodau lleol yn 2018 yn dilyn cyfnod peilot ac roedd yn canolbwyntio ar ddeilliannau, ansawdd gwasanaethau addysg, arweinyddiaeth a rheolaeth. Dywedodd y Prif Swyddog y byddai Gwasanaethau Addysg pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi cael eu harolygu erbyn 2022 ac y byddai 10 wythnos o rybudd yn cael ei roi cyn arolygiad.Roedd yr Awdurdod wedi cael gwybod y byddai’n cael ei arolygu gan d?m o Estyn ac Arolygwyr SAC rhwng 3-7 Mehefin 2019.  Byddai ymweliad rhagarweiniol dros ddeuddydd yn digwydd ar 22 a 23 Mai. Eglurodd y Prif Swyddog mai’r adroddiad hunanwerthuso a gynhyrchir gan yr Awdurdod fydd y ddogfen allweddol a ddefnyddir gan yr arolygwyr i hysbysu eu trywydd ymholi a'u dyfarniadau yn ystod yr ymweliad, wedi'i gefnogi gan ddadansoddiad o amrywiaeth o ddata ac ymweliadau gydag uwch swyddogion a rhanddeiliaid allweddol. Tynnodd y Prif Swyddog sylw at y pum cwestiwn lleol a nodir yn yr adroddiad ac y creffir arnynt yn ychwanegol at y fframwaith arolygu cyffredinol. 

 

I gloi dywedodd y Prif Swyddog y byddai’r adroddiad ar Wasanaethau Addysg Sir y Fflint yn cael ei gyhoeddi ar 9 Awst 2019.  Crybwyllodd y safonau uchel y mae ysgolion Sir y Fflint yn eu cyrraedd gan ddweud fod deilliannau dysgwyr ymhell dros y cyfartaledd cenedlaethol ac yn rhai o'r gorau yn y rhanbarth.

 

Llongyfarchodd y Cynghorydd Kevin Hughes y Prif Swyddog a'i thîm a’r ysgolion am eu hymroddiad i barhau i wella safonau addysgol. Talodd deyrnged hefyd i’r gwaith rhagorol y mae Claire Sinnot, Ymgynghorydd Dysgu, Iechyd a Lles yn ei wneud i sicrhau bod pobl ifanc yn cael ei diogelu, ac er bod yr Awdurdod yn gweithio’n adeiladol gyda rhieni mae’n her os gwrthodir mynediad i swyddogion i aelwydydd lle caiff plant eu haddysgu yn y cartref. Dywedodd y Prif Swyddog bod adolygiad o bolisi cenedlaethol yn y maes hwn ar y gweill ar hyn o bryd. 

 

Mewn ymateb i sylwadau Mr David Hytch am yr effeithiau a’r heriau sy’n wynebu ysgolion oherwydd diffyg cyllid, eglurodd y Prif Swyddog bod buddsoddiad mewn addysg wedi parhau i fod yn flaenoriaeth i’r Cyngor er gwaethaf cyni cyllidol parhaus, fodd bynnag ni fyddai’n caniatáu i lefelau cyllido gwael ddylanwadu ar safon gwasanaethau addysgol gan gyfeirio eto at y safonau uchel a'r perfformiad da a gyflawnwyd gan ysgolion Sir y Fflint yn wyneb adnoddau cyfyngedig.     

 

Llongyfarchodd y Pwyllgor y Prif Swyddog am adroddiad cynhwysfawr ac am ehangder a gwerth y gwasanaeth a ddarperir. Dywedodd y Prif Swyddog y byddai’n trosglwyddo sylwadau’r Pwyllgor i’w Th?m.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)      Nodi cynnwys yr hunanwerthusiad; a  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Prosiect ADTRAC pdf icon PDF 88 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am waith ADTRAC.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad yn rhoi diweddariad ar waith a chanlyniadau’r prosiect ADTRAC. Eglurodd mai prosiect cymdeithasol a ariennir gan Ewrop yw ADTRAC wedi ei dargedu at bobl ifanc 16 - 24 oed sydd wedi eu dosbarthu fel rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET), ac y bydd yn parhau tan fis Hydref 2020.  Roedd y prosiect wedi ei rannu’n 2 is ranbarth (Dwyrain a Gorllewin) ac roedd yr Awdurdod wedi’u partneru gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Y partneriaid allweddol eraill yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yr Adran Gwaith a Phensiynau a Gyrfa Cymru.  Eglurodd y Prif Swyddog gyd-destun a darpariaeth y prosiect a chyfeiriodd at y prif ystyriaethau a nodwyd yn yr adroddiad. Dywedodd bod 158 o bobl ifanc wedi ymgysylltu â'r prosiect ADTRAC hyd yma a bod 14 arall yn aros i wneud hynny.

 

Mynegodd y Cynghorydd Patrick Heesom bryderon yngl?n â chyfleoedd i bobl ifanc 15-25 ym mhob rhan o'r wlad gael mynediad at gyllid drwy’r prosiect ADTRAC. Mewn ymateb i sylwadau’r Cynghorydd Heesom yngl?n ag argaeledd cyllid cyfeiriodd y Prif Swyddog at feini prawf y prosiect a dywedodd y byddai’n fodlon hwyluso cyfarfod rhwng y Cynghorydd Heesom a Phennaeth y Gwasanaeth Cynhwysiant i drafod y materion a godwyd mewn mwy o fanylder.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cydnabod pwysigrwydd a gwerth y gwaith ac effaith y gwasanaeth ADTRAC.

 

8.

Cyfryngau Cymdeithasol a Diogelwch Rhyngrwyd pdf icon PDF 163 KB

Pwrpas:        Derbyn sicrwydd/ monitro’r adroddiad blynyddol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddodd  y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr Ymgynghorydd Dysgu, Iechyd, Lles a Diogelu i gyflwyno’r adroddiad. Eglurodd yr Ymgynghorydd Dysgu bod yr adroddiad wedi'i lunio mewn ymateb i gais gan yr Aelodau am ddiweddariad ar yr adroddiad blaenorol a gyflwynwyd ym mis Tachwedd 2017, yn rhoi sicrwydd bod plant a phobl ifanc yn ysgolion Sir y Fflint yn derbyn cefnogaeth briodol i ddatblygu eu sgiliau o ran defnyddio cyfryngau cymdeithasol a’r rhyngrwyd yn ddiogel. 

 

Rhoddodd yr Ymgynghorydd Dysgu, Iechyd Lles a Diogelu wybodaeth gefndir a chyfeiriodd at yr ystyriaethau allweddol fel y’u nodwyd yn yr adroddiad, yn ymwneud â’r cyfryngau cymdeithasol a diogelwch ar y rhyngrwyd. Tynnodd sylw at y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion, deddfwriaeth arfaethedig Llywodraeth y DU, y Fframwaith Cymhwysedd Digidol, hunanwerthusiad diogelu Estyn, llwyfan Hwb, 360 Degree Safe Cymru, Rhaglenni Cyswllt Ysgolion Craidd Cymru Gyfan a’r Diwrnod Defnydd Mwy Diogel o’r Rhyngrwyd.

 

Mynegodd y Cadeirydd bryderon am seiber fwlio a'r defnydd amhriodol o'r cyfryngau cymdeithasol a soniodd am yr angen i ddefnyddio technoleg yn gyfrifol a gyda pharch. Awgrymodd y dylai aelodau fod yn ystyriol o'u defnydd eu hunain o'r cyfryngau cymdeithasol a'r angen iddynt osod esiampl i bobl ifanc. 

 

Mewn ymateb i’r pryderon a gododd y Cadeirydd roedd pob aelod o’r Pwyllgor wedi gwneud addewid na fyddent yn ymgysylltu â'r cyfryngau cymdeithasol mewn modd a fyddai'n difenwi pobl eraill.

 

Soniodd y Cynghorydd Kevin Hughes am y defnydd cynyddol o'r cyfryngau cymdeithasol ym mhob agwedd ar fywyd bob dydd a darpariaeth technoleg a alluogir gan y rhyngrwyd sy'n newid ac yn datblygu'n gyflym.  Cynigiodd y dylid cynnwys eitem ar y cyfryngau cymdeithasol a diogelwch ar y rhyngrwyd mewn ysgolion yn rheolaidd yn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor a chytunodd yr aelodau â hyn.

 

Llongyfarchodd y Cynghorydd Patrick Heesom yr Ymgynghorydd Dysgu, Iechyd, Lles a Diogelu am eu hadroddiad cynhwysfawr a dywedodd y byddai'n ddefnyddiol pe bai modd anfon copi ymlaen at yr holl Aelodau er gwybodaeth ar ôl y cyfarfod.

 

Yn ystod trafodaeth ymatebodd yr Ymgynghorydd Dysgu i gwestiynau a sylwadau a godwyd gan aelodau am ymwybyddiaeth rhieiniol a soniodd am y mentrau mewn ysgolion i ymgysylltu â rhieni a rhannu arfer da er mwyn cadw pobl ifanc yn ddiogel ar-lein  wrth ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)      Bod y Pwyllgor yn cadarnhau eu bod wedi derbyn lefel briodol o sicrwydd am y cynnig addysgol mewn ysgolion mewn perthynas â diogelwch ar-lein gan gynnwys y defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol;

 

(b)      Bod yr Aelodau’n ymrwymo i osod esiampl i bobl ifanc o ran y modd y maen nhw eu hunain yn ymgysylltu a’r cyfryngau cymdeithasol.

 

(c)       Bod yr Aelodau'n cefnogi camau i wahodd yr holl Gynghorwyr i wneud y fath ymrwymiad; a

 

(d)      Bod copi o’r adroddiad ar gael i'r holl Gynghorwyr.

 

9.

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg ieuenctid & Addysg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol er ystyriaeth.   Dywedodd y byddai cyfarfod nesaf y Pwyllgor yn cael ei gynnal ar 27 Mehefin ac yn dilyn cymeradwyo Amserlen Cyfarfodydd 2019/20 yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir ym mis Mai 2019, roedd cyfarfodydd y Pwyllgor ar gyfer y dyfodol wedi eu cynnwys yn y Rhaglen.  

 

            Tynnodd yr Hwylusydd sylw at y cyfarfod a oedd wedi ei drefnu ar gyfer 26 Medi gan ddweud y byddai canlyniad Arolygiad Estyn o Gyngor Sir y Fflint yn cael ei gynnwys er ystyriaeth.  Dywedodd hefyd bod yr Uwch Reolwr Darpariaeth Ieuenctid Integredig wedi cael gwahoddiad i fynychu cyfarfod y Pwyllgor ar 7 Tachwedd 2019 er mwyn rhoi gwybodaeth am waith y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid.

 

Cytunodd y Pwyllgor ag awgrym y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) ei bod, ar ôl cwblhau cynlluniau busnes y portffolio Addysg ac Ieuenctid, yn ymgysylltu â’r Cadeirydd er mwyn ychwanegu eitemau at y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.

 

            Dywedodd yr Hwylusydd ei bod wedi anfon e-bost at holl aelodau’r Pwyllgor yn eu gwahodd i ddod i weld yr ysgol newydd ym Mhenyffordd ddydd Mawrth 5 Mehefin. Gofynnodd i'r aelodau sy’n dymuno mynd ar yr ymweliad roi gwybod iddi cyn gynted a phosibl.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol fel y’i newidiwyd, yn cael ei chymeradwyo; a

 

(b)       Bod yr Hwylusydd, mewn ymgynghoriad a Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

 

10.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol