Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

21.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

Datganodd Mrs Rebecca Stark gysylltiad personol ag eitem rhif 5 ar y rhaglen – Canlyniadau Dysgwyr 2018 (Dros Dro).

 

22.

Cofnodion pdf icon PDF 104 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 27 Medi  2018.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Medi 2018. 

 

Materion yn Codi 

 

Gan gyfeirio at y pryderon a fynegwyd gan y Pwyllgor ynghylch recriwtio a chadw athrawon a’r gwahaniaethau rhwng athrawon dosbarth ac athrawon ar lefelau rheoli, rhoddodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) adborth o gyfarfod y Ffederasiwn Penaethiaid Uwchradd a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2018. Dywedodd mai’r meysydd pwnc anoddaf i recriwtio ar eu cyfer oedd Mathemateg, Cymraeg a Gwyddoniaeth.  Dywedodd Penaethiaid fod diffyg parodrwydd i ymgymryd ag arweinyddiaeth o systemau bugeiliol mewn rhai ysgolion. Dywedodd y Penaethiaid nad oedd y cynnig o gyllid ychwanegol drwy’r pwyntiau Cyfrifoldeb Addysg a Dysgu yn ddigon i annog pobl i wneud cais am y swyddi hyn, gan nodi’r cyfrifoldeb ychwanegol , yn enwedig lle bo atebolrwydd cyhoeddus ac uchel mewn perthynas â phynciau craidd, fel y prif reswm. Hefyd, roedd Arweinwyr Ysgolion yn ei chael hi’n anodd, gyda thoriadau i’r gyllideb, nid yn unig i fforddio Taliadau CAD ond hefyd i sicrhau’r lefel briodol o amser digyswllt i alluogi arweinwyr canol i gyflawni’r cyfrifoldebau hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

23.

Cynigion Cam 2 Cyllideb 2019/20 pdf icon PDF 100 KB

Pwrpas:        Ystyried cynigion cam 2 y gyllideb ar gyfer y Portffolio Addysg ac                 Ieuenctid ar gyfer 2019/20

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog adroddiad ar gam 2 cynigion y gyllideb ar gyfer y Portffolio Addysg ac Ieuenctid ar gyfer 2019/20. Rhoddodd wybodaeth gefndir a chyfeiriodd at y rhagolwg ariannol a chynigion cam 1 a Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru a oedd yn trafod gostyngiad o 1% ac y byddai hyn yn cael effaith negyddol ar y bwlch a ragwelir ar gyfer 2019/20. Gwnaeth y Prif Swyddog sylw ar y datganiad cyllideb diweddaraf a gyhoeddwyd gan y Canghellor yr wythnos hon a’r posibilrwydd o gyllid ychwanegol i awdurdodau lleol gan Lywodraeth Cymru.

 

Gwahoddodd y Prif Swyddog y Rheolwr Cyllid i adrodd ar risgiau a lefelau gwytnwch y meysydd gwasanaeth o fewn y portffolio Addysg. Gwnaeth y Rheolwr Cyllid sylw ar y datganiadau gwytnwch manwl a baratowyd ar gyfer pob maes gwasanaeth yn ystod yr haf a dywedodd fod hyn wedi cadarnhau bod cwmpas cyfyngedig ar gyfer unrhyw arbedion gweithredol pellach o fewn y portffolio.   Eglurodd fod yr Awdurdod ar hyn o bryd yn wynebu gostyngiad o 1% (£1.9m) yn y dyraniad cyllid gan Lywodraeth Cymru, ac o ganlyniad nid oedd unrhyw ychwanegedd ar gyfer pwysau ar y gyllideb, yn cynnwys dyfarniad cyflog yr athrawon.

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog a’r Rheolwr Cyllid at y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad, ac adroddodd y ddau ar bwysau a buddsoddiadau portffolio, dyfarniad cyflog athrawon, pensiynau athrawon ac arbedion cynllunio busnes portffolio. 

 

Yn dilyn y sylwadau gan aelodau yn diolch i aelodau'r Tîm Addysg ac Ieuenctid am eu gwaith caled yn ystod yr heriau ariannol, cytunodd y Prif Swyddog i gyfleu eu sylwadau yn dilyn y cyfarfod.  

 

Gofynnodd y Cynghorydd Kevin Hughes a oedd yr Awdurdod yn gweithio ar y cyd ag awdurdodau lleol eraill er mwyn cyflawni arbedion ar leoliadau y tu allan i'r sir. Dywedodd y Prif Swyddog fod cost lleoliadau y tu allan i'r sir yn fater cenedlaethol ac eglurodd fod trafodaethau yn cael eu cynnar ar lefel ranbarthol  ynghylch y posibilrwydd o greu darpariaeth ranbarthol. Dywedodd fod y brif her yn ymwneud ag ymddygiad heriol ac emosiynol a chyfeiriodd at gost y staff sydd eu hangen i ddarparu cymorth un i un a gofal 24 awr. Yn ystod y drafodaeth, dywedodd y Prif Swyddog fod atal ac ymyrraeth yn allweddol a chyfeiriodd at y gwaith a wnaed i gefnogi ysgolion ag adnabod ac ymyrryd yn gynnar. Cyfeiriodd hefyd ar rôl yr Uned Cyfeirio Disgyblion a’r gwaith estyn allan a gwblhawyd.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Ian Roberts sylw ar effaith y toriadau i gyllid a oedd yn golygu bod llai o adnoddau ar gael ei ddarparu cefnogaeth i ysgolion. Cyfeiriodd hefyd at y pwysau ar athrawon a oedd yn gorfod ymdopi ag ymddygiad heriol rhai o’r disgyblion yn ddyddiol.

 

Gan gyfeirio at gost lleoliadau y tu allan i'r sir, awgrymodd y Cynghorydd Paul Cunningham y dylid gofyn i Lywodraeth Cymru osod cap ariannol ar ddarparwyr lleoliadau y tu allan i'r sir.  Awgrymodd y Prif Swyddog y dylai Pennaeth y Gwasanaeth Cynhwysiant godi’r mater yn ystod y cyfarfod rhanbarthol nesaf  ...  view the full Cofnodion text for item 23.

24.

Canlyniadau Dysgwr 2018 (Dros Dro) pdf icon PDF 85 KB

Pwrpas:        I roi diweddariad ar ddeilliannau dros dro a gyflawnwyd gan                                     ddysgwyr Sir y Fflint ar draws pob cyfnod o Addysg yn 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) Mr David Edwards, Arweinydd Craidd Sir y Fflint ar gyfer ysgolion Cynradd, a Mr Martyn Froggett, Arweinydd Craidd Sir y Fflint ar gyfer ysgolion Uwchradd (GwE) i’r cyfarfod.  

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog yr adroddiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ar y canlyniad dros dro a gyflawnwyd gan ddysgwyr Sir y Fflint ar draws pob cyfnod o Addysg yn 2018. Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd, yn dilyn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gyhoeddi asesiadau athrawon yn y dyfodol, nad oedd Llywodraeth Cymru bellach yn cyhoeddi data cymharol Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3 ar lefel ysgol, awdurdod lleol a chonsortia ac felly, tu hwnt i gymhariaeth â chyfartaleddau cenedlaethol nid oedd gwybodaeth gymharol neu feincnodi ar gael. O ganlyniad i’r newidiadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas ag adrodd data, cytunodd y Prif Swyddogion Addysg yng Ngogledd Cymru y byddai adroddiad craffu safonol yn cael ei lunio gan GwE er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â’r newidiadau a dull cyson ar draws y rhanbarth yn cynnwys yr holl setiau data. Mae trosolwg manwl o berfformiad Sir y Fflint wedi’i gynnwys yn yr  atodiad i'r adroddiad.

 

Adroddodd y Prif Swyddog ar y prif ystyriaethau yn yr adroddiad a dywedodd, ar y cyfan, fod canlyniadau Sir y Fflint ar draws yr holl camau allweddol yn parhau i fod yn gryf a fod perfformiad yn cymharu'n dda â chyfartaleddau rhanbarthol a chenedlaethol. Tynnodd sylw at y diwygiad i arholiadau TGAU yng Nghyfnod Allweddol 4 ac effaith cyflwyniad cyfres o gymwysterau TGAU newydd mewn Gwyddoniaeth, fel y manylwyd yn yr adroddiad. Eglurodd y Prif Swyddog fod newid sylweddol wedi bod i ffiniau graddau ers yr haf 2017 a mis Tachwedd 2017 o’i gymharu â'r haf 2018, yn enwedig i radd C mewn Saesneg a Mathemateg a oedd wedi ei gwneud yn anodd i ysgolion sicrhau rhagamcaniadau cywir a gosod targedau. Eglurodd fod y mater hwn yn destun cyfathrebu swyddogol rhwng Llywodraeth Cymru a Chymwysterau Cymru ar hyn o bryd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Rebecca Stark, cytunodd y Prif Swyddog i ddosbarthu copi o’r ymateb gan CBAC i lythyr a anfonwyd gan y Penaethiaid, i’r Pwyllgor. 

 

Cyfeiriodd Mr David Edwards at y newidiadau i’r meysydd dysgu yn y Cyfnod Sylfaen a dywedodd wrth gymharu â’r cyfartaleddau cenedlaethol, fod ysgolion yn Sir y Fflint yn perfformio’n dda. Dywedodd hefyd fod canlyniadau Cyfnod Allweddol 2 Sir y Fflint yn parhau i fod yn gryf a bod canran y disgyblion sy’n cyflawni’r lefelau disgwyliedig neu uwch yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer yr holl bynciau craidd. 

 

            Wrth drafod Arweinyddiaeth ysgolion, dywedodd Mr Edwards fod diddordeb parhaus mewn athrawon a oedd yn ymgeisio am swyddi arweinyddiaeth neu brifathrawiaeth a dywedodd fod y canran o ymgeiswyr o Sir y Fflint yn uwch na rhanbarthau eraill.

 

Rhoddodd Mr Martyn Froggett wybodaeth gyd-destunol o ran Cyfnod Allweddol 4 a dywedodd, er i’r wybodaeth gychwynnol am ganlyniadau gael ei rhannu nid oedd mynediad, hyd yma, at ddata cymharol a meincnodi.  Dywedodd hefyd fod  ...  view the full Cofnodion text for item 24.

25.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg ieuenctid              & Addysg

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol er mwyn ei hystyried.

 

Yn dilyn cais gan y Cynghorydd Mackie, cytunwyd y bydd adroddiad ar y fenter ADTRAC sy’n ymwneud â mecanweithiau cyllido cymdeithasol Ewropeaidd i fodloni anghenion pobl ifanc yn cael ei drefnu ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol i’w ystyried yn y cyfarfod ar 16 Mai 2019.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y'i diwygiwyd, yn cael ei chymeradwyo; a

 

 (b)      Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.

 

26.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.