Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.
Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.
|
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 20 Mai 2019. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Mai 2019.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel rhai cywir a gofyn i’r Cadeirydd eu llofnodi. |
|
Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred PDF 97 KB Pwrpas: I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Addysg ac Ieuenctid a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol (Atodiad 1), sydd wedi’i diweddaru ers y cyfarfod diwethaf.Dywedodd y byddai cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 25 Gorffennaf yn gyfarfod ar y cyd efo’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Cyfeiriodd yr Hwylusydd at gamau gweithredu’r cyfarfod blaenorol ac adroddodd ar y canlyniadau (gweler Atodiad 2 yr adroddiad).Dywedodd fod gwybodaeth hefyd wedi’i chynnwys ar benderfyniad y Cabinet yngl?n ag ystyried yr Adolygiad o’r Polisi Trafnidiaeth yn ôl Disgresiwn – adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad, yn y cyfarfod ar 18 Mehefin, ac ystyried yr hysbysiad o gynnig, a gyflwynwyd gan y Cynghorydd David Healey i gyfarfod o'r Cyngor Llawn ar 18 Mehefin 2019.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y'i diwygiwyd;
(b) Awdurdodi’r Hwylusydd, ar ôl ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu heb eu cwblhau.
|
|
Gwasanaeth Effeithlonrwydd a Gwella Ysgolion Rhanbarthol (GwE) PDF 100 KB Pwrpas: I gael diweddariad ar gynnydd o ran datblygu gwasanaeth rhanbarthol gwella ac effeithiolrwydd ysgolion, a diweddariad ar sut mae’r model newydd yn cael ei dderbyn a’i sefydlu. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Mr Arwyn Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr GwE, a Mr Marc Berw Hughes i’r cyfarfod.
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad i ddarparu diweddariad ar gynnydd datblygu gwasanaeth effeithlonrwydd a gwella ysgolion rhanbarthol a sut mae’r model newydd yn cael ei dderbyn a’i sefydlu.Darparodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod Adroddiad Blynyddol GwE ar gyfer 2018-19 yn darparu trosolwg manwl o waith y Gwasanaeth Gwella Ysgolion yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.Mae’n ymdrin â sawl maes gan gynnwys safonau, darpariaeth, cyfraniad y gwasanaeth at y rhaglen drawsnewid genedlaethol, gweithio mewn partneriaeth a materion busnes.Mae’r atodiadau i’r adroddiad yn darparu rhywfaint o wybodaeth benodol am ganlyniadau dysgwyr a safonau addysg yn Sir y Fflint.Maent hefyd yn darparu dadansoddiad o ymateb arweinwyr ysgol Sir y Fflint a’u barn am effeithiolrwydd y Gwasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol, a gasglwyd yn ddiweddar drwy holiadur.Mae’r prif feysydd i’w datblygu, a nodwyd drwy’r prosesau hunanwerthuso a gynhaliwyd o fewn GwE, yn flaenoriaethau yn y Cynllun Busnes ar gyfer 2019-2020.
Dywedodd y Prif Swyddog y dylid darllen yr Adroddiad Blynyddol ar y cyd ag adroddiad hunanwerthuso’r Awdurdod, a gyflwynwyd i’r Aelodau yn ystod y cyfarfod diwethaf.Eglurodd fod swyddogion GwE wedi bod yn gweithio’n agos iawn gyda’r Awdurdod Lleol i ddatblygu’r adroddiad hwnnw, sy’n darparu barn gynhwysfawr ar ansawdd gwasanaethau addysg yn Sir y Fflint ac yn dangos y gwaith partneriaeth effeithiol sy’n digwydd i gefnogi holl ysgolion yr Awdurdod i wella a chael y canlyniadau gorau ar gyfer dysgwyr Sir y Fflint.
Cyfeiriodd y Prif Swyddog at arolwg diweddar Estyn o wasanaethau addysg yr awdurdod lleol a dywedodd y bydd canlyniad yr arolwg yn cael ei gyhoeddi ar 9 Awst 2019.Diolchodd am y cyfraniad aruthrol sydd wedi’i wneud gan GwE at y broses arolygu a soniodd am y berthynas waith agos rhwng swyddogion GwE a’r Awdurdod.Gwahoddodd y Prif Swyddog Arwyn Thomas i gyflwyno Adroddiad Blynyddol 2018-19 GwE.
Dywedodd Mr Thomas, fel y nodir yng Nghytundeb Rhyng-Awdurdod GwE, y byddai GwE yn adrodd yn flynyddol ar berfformiad y gwasanaeth wrth ddarparu swyddogaethau’r gwasanaeth a chyrraedd nodau allweddol.Dywedodd fod adroddiad blynyddol GwE yn darparu trosolwg o’r meysydd canlynol:cefndir a chyd-destun, safonau, darpariaeth, y daith ddiwygio, gweithio mewn partneriaeth, busnes a blaenoriaethau cynllun busnes ar gyfer 2019-20. Hefyd, mae’n cynnwys sawl atodiad sy’n cyfeirio’n benodol at y gwaith cefnogi a wneir yn ysgolion Sir y Fflint.
Soniodd Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet Addysg am y gwaith rhwng yr Awdurdod a GwE i geisio gwella ysgolion os oes angen cymorth arnynt a mynd i’r afael â'r berthynas a rheoli model. Soniodd hefyd am y gwaith agos gydag Aelodau Cabinet gogledd Cymru a Phrif Swyddogion yn dilyn y pryderon a godwyd ynghylch canlyniadau’r arholiad TGAU Saesneg.Diolchodd y Cynghorydd Roberts i Mr Thomas am ei gyflwyniad manwl.
Cyfeiriodd Shaun Hingston at Atodiad 2 yr adroddiad, sy’n disgrifio’r newidiadau y mae’n rhaid i ysgolion eu gwneud fel rhai cythryblus sy’n gwasgu ysgolion i’r eithaf. Fodd bynnag, mae Adroddiad Blynyddol GwE yn cydnabod ... view the full Cofnodion text for item 14. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.
|