Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny Cofnodion: Gofynnodd y Cynghorydd Paul Cunningham i’r Cadeirydd os oedd angen i Aelodau sy’n lywodraethwyr ysgol i Ddatgan Cysylltiad. Cadarnhawyd nad oedd gwrthdaro buddiannau a bod cofnod wedi’i gymryd yn barod o ddatganiadau cysylltiad gan Aelodau.
|
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 23 Tachwedd 2017.
Cofnodion: Roedd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2017 wedi’u dosbarthu i’r Aelodau gyda’r rhaglen.
Materion yn Codi
Ar dudalen 6 o’r cofnodion, gofynnodd y Cynghorydd Mackie os oedd yr Hwylusydd wedi anfon pryderon y Pwyllgor i’r Tîm Perfformiad yngl?n â fformatio adroddiadau ac a fyddai’n bosib rhoi hyfforddiant i Aelodau er mwyn iddyn nhw gael gwell dealltwriaeth o adroddiadau perfformiad. Cadarnhaodd yr Hwylusydd bod y pryderon wedi cael eu hanfon ymlaen a bod cais wedi’i wneud am hyfforddiant i gael ei ychwanegu i’r Rhaglen Hyfforddiant i Aelodau.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Mackie am ei ymholiad am ‘y ganran o bobl ifanc 16-18 oed yn y system cyfiawnder ieuenctid sydd wedi cael cynnig addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth’ o fewn yr adroddiad perfformiad fe gytunodd yr Hwylusydd i fynd ar ôl yr adroddiad.
Yn dilyn sylwad gan y Cynghorydd Heesom ynghylch y diffyg Gwasanaethau Ieuenctid yng ngorllewin y Sir a chwestiwn ar yr adroddiad i gael ei gyflwyno i gyfarfod Pwyllgor yn y dyfodol, cadarnhaodd y Prif Swyddog Dros Dro (Addysg ac Ieuenctid) bod y ddau adroddiad canlynol yn cael eu cyflwyno i gyfarfod Pwyllgor 12 Ebrill 2018:-
· Cyngor Ieuenctid - rhoi diweddariad ar gynnydd · Gwasanaethau Ieuenctid Integredig - i ddarparu diweddariad manwl ar ddarpariaeth cyffredinol y Gwasanaethau Ieuenctid Integredig
Dyma’r Prif Swyddog Dros Dro (Addysg ac Ieuenctid) yn diolch i'r Cynghorydd Kevin Hughes am baratoi erthygl y wasg ddiweddar am gyfryngau cymdeithasol a diogelwch rhyngrwyd mewn ysgolion sydd wedi helpu i godi proffil y gefnogaeth sy’n cael ei roi gan y Cyngor i blant, pobl ifanc ac athrawon.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd. |
|
Pwrpas: I roi manylion i’r Pwyllgor o falansau ysgolion Sir y Fflint ar ôl cau ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad sy’n rhoi dadansoddiad o falansau wrth gefn ar gyfer pob ysgol yn Sir y Fflint fel ag y mae ddiwedd Mawrth 2017, a'r balansau wrth gefn terfynol gan ysgolion ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2016/17 o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Yn Sir y Fflint, mae cyllidebau ysgolion uwchradd wedi bod dan bwysau parhaus gyda saith o ysgolion uwchradd yn dangos diffyg erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Mae rhagolygon ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol yn dangos y byddai'r sefyllfa yn gwaethygu gyda'r posibilrwydd y byddai mwy o ysgolion yn mynd i ddiffyg ariannol a byddai'r lefel cyffredinol o ysgolion uwchradd mewn diffyg ariannol yn cynyddu.
Yn unol â pholisi’r Cyngor mae’n rhaid i'r ysgolion ddarparu datganiad ar sut y maen nhw'n bwriadu defnyddio unrhyw arian dros ben sy’n fwy na £50,000 i ysgolion cynradd a dros £100,000 i ysgolion uwchradd ac ysgolion arbenigol. Mae’r Tîm Cyfrifeg Ysgolion wedi gofyn am, ac wedi archwilio’r wybodaeth benodol hwn.
O ganlyniad, mae’r Rheolwr Cyllid (Addysg ac Ieuenctid) wedi cynghori nad oes gan Lywodraethwyr unrhyw hawl gyfreithiol i osod diffyg cyllidebol heb ganiatâd y Cyngor, ac ni ddylai gymryd yn ganiataol y rhoddir caniatâd o'r fath. Fodd bynnag, bydd y Cyngor yn ystyried cymeradwyo diffyg trwyddedig i ysgol lle mae'n cytuno bod yna amgylchiadau lle byddai'n afresymol gofyn i ysgol gydbwyso ei gyllidebau yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol.
Dywedodd Mrs. Rebecca Stark am y sefyllfa ariannol sy’n gwaethygu i ysgolion wrth symud ymlaen a gofynnodd sut y mae ysgolion yn parhau i gael eu hariannu os yw'r holl ysgolion mewn diffyg ariannol. Dywedodd hefyd nad yw Estyn yn cymryd y pwysau ariannol ar ysgolion i ystyriaeth. Cynghorodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol os yw’r holl ysgolion mewn diffyg ariannol yna byddai angen darparu cyllid drwy gronfeydd wrth gefn y Cyngor. Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Addysg bod y diffyg ariannol presennol yn bodoli gan fod ysgolion yn cadw arian yn weddill ond wrth i fwy o ysgolion fod a diffyg ariannol byddai hynny’n risg ariannol corfforaethol i’r Cyngor.
Gofynnodd y Cynghorydd David Williams pe bai modd ychwanegu colofn arall ar adroddiadau'r dyfodol yn dangos nifer disgyblion ym mhob ysgol. Cytunodd y Prif Swyddog Dros Dro (Addysg ac Ieuenctid) i edrych ar y posibilrwydd o ychwanegu colofn ychwanegol ar gyfer niferoedd disgyblion yn dilyn y cyfarfod.
PENDERFYNWYD:
Nodi balansau ysgol fel ag y maent ar 31 Mawrth 2017.
|
|
Pwrpas: Ystyried Cynigion Cam Dau ar gyfer Lefel Fformiwla Ariannu Ysgolion fel rhan o broses gosod Cyllideb Cronfa’r Cyngor 2018/19. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr y cynigion ail gam ar gyfer lefel fformiwla ariannu ysgolion ar gyfer Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2018/19. Amlinellodd yr adroddiad y risgiau a lleihadau cynigion o’r fath ar ddarparu gwasanaethau addysg o ansawdd yn Sir y Fflint a darparu gwybodaeth gyd-destunol ar y lefel bresennol o falansau ysgol, lleihadau mewn cyllid grant gan Lywodraeth Cymru (LlC) a rhagolwg o’r pwysau cost chwyddiannol yn wynebu ysgolion.
Cymeradwyodd y Cyngor yn ei gyfarfod mis Rhagfyr yr ail gam o'r gyllideb i Gyllideb Ariannu'r Cyngor 2018/19 yn unol â nifer o gynigion penodol yn cael eu cyfeirio at bwyllgor Trosolwg a Chraffu i'w harchwilio yn fanwl cyn ystyriaeth bellach gan y Cabinet ac yna'r Cyngor. Un o’r cynigion cyllideb benodol oedd bod ysgolion ond yn derbyn setliad ‘arian gwastad’ ar gyfer 2018/19 gan greu effeithiolrwydd o £1.143m a bod addasiadau i gyllideb yr ysgol yn cael eu gwneud yn seiliedig ar ddemograffeg disgybl gan arbed £0.288m pellach.
Ychwanegodd y Prif Weithredwr, er yr heriau o gyni cyllideb dros gyfnod estynedig, bod y Cyngor wedi llwyddo i ddarparu graddfa fechan o amddiffyniad ariannol o gyllid dirprwyedig i ysgolion ac wedi cwrdd â chodiadau canran amddiffyn Gweinidogol Llywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion. Mae sefyllfa ariannol heriol lle mae angen i'r Cyngor ystyried gosod cyllideb 'arian gwastad' i ysgolion wedi cael ei greu gan bolisïau wedi'u gosod yn genedlaethol a oedd heb eu hariannu h.y. dyfarniadau cyflog i athrawon a staff cefnogi a chynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol cyflogwyr.
Adroddodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod Ysgolion wedi bod yn rhagweithiol mewn addasu i leihau lefelau cyllido ac wedi adolygu eu cyllidebau yn llym i amsugno pwysau wrth ganolbwyntio ar gynnal y gwaith o ddarparu cwricwlwm o ansawdd a gwella canlyniadau dysgwyr. Trafodaethau agored a gonest yn cael eu cynnal gydag Ysgolion gyda rhai yn cael eu dwyn i’r amlwg ar gyfer heriau ariannol yn fwy nag eraill. Risg pellach i gyllidebau ysgol oedd y lleihad mewn grantiau penodol ym Mhortffolio Addysg ac Ieuenctid fel y manylir yn yr adroddiad, gydag ysgolion yn dibynnu arnynt i ddarparu gwasanaethau eu hunain neu lle roeddent yn derbyn gwasanaethau cefnogi yn uniongyrchol gan y Cyngor.
Gwahoddodd y Cadeirydd Mrs. Rachel Molyneux, Richard Collett, Mrs. Ann Peers a Mr. John Wier i gynrychioli'r Ffederasiwn Penaethiaid Cynradd ac Uwchradd i amlinellu i’r pwyllgor eu sylwadau ar y cynigion cyllideb bresennol ar gyfer ysgolion. Mae copi o’r sylwadau a wnaed ynghlwm ag Atodiadau 1 a 2 o’r cofnodion.
Dyma Arweinydd y Cyngor yn diolch i’r Penaethiaid am fynychu. Dywedodd am yr heriau parhaus o gyni cyllidol a’r heriau ariannol posib sy’n wynebu’r Cyngor ym mlynyddoedd ariannol y dyfodol pe bai’r rhaglen cyni yn parhau. Soniodd am y ceisiadau penodol wedi eu gwneud i Lywodraeth Cymru (LlC) am gyllid ychwanegol drwy gynnydd yn y Cap Ffi Gofal Cartref, adennill 50% o’r Ardoll Treth Prentis, a gwarant o gyfraniadau ariannol yn y dyfodol trwy’r Gronfa Gofal Canolraddol (CGC). Cefnogodd i’r achos gael ei roi o flaen Penaethiaid ysgol a'r angen ... view the full Cofnodion text for item 35. |
|
Pwrpas: Mae’r adroddiad yn amlinellu'r prosiectau sy'n cael eu cynnwys o fewn cyflwyniad Cynllun Trefniadaeth Ysgolion i Lywodraeth Cymru ar gyfer y rhaglen Band B arfaethedig ac yn darparu gwybodaeth bellach ar y Model Buddsoddi Cydfuddiannol
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad sydd yn amlinellu prosiectau sydd wedi’u cynnwys o fewn cyflwyniad Cynllun Amlinellol Strategol (CAS) y Cyngor i Lywodraeth Cymru (LlC). Mae’r adroddiad hefyd yn nodi’r egwyddorion a ddefnyddiwyd a'r rhagdybiaethau a wnaed i ddarparu rhaglen sy’n cael yr effaith lleiaf posib ar gyllidebau refeniw’r dyfodol a gwybodaeth am y Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MBC).
Cynghorodd Arweinydd y Cyngor fod y Cynllun Trefniadaeth Ysgolion eto i gael ei gymeradwyo gan Cabinet. Eglurodd bod LlC wedi gofyn am flaenoriaeth i'r holl raglenni, er o ystyried y byddai’r rhaglen gymhleth o gwmpas am gyfnod o 5/6 mlynedd byddai angen bod yn hyblyg o ran blaenoriaethu gyda'r Bwrdd Rhaglen Addysg yn parhau i adolygu'r rhaglen.
Mewn ymateb i gwestiynau am yr MBC, eglurodd yr Uwch Reolwr Cynllunio a Darpariaeth Ysgolion mai dyma ffurf newydd LlC o Bartneriaeth Cyhoeddus neu Fenter Cyllid Preifat (MCP). Trwy’r gwasanaeth hwn byddai’r Cyngor yn derbyn cyfradd ymyrraeth o 75% o gyllid gan Lywodraeth Cymru gyda 25% o gyllid gan y Cyngor dros gyfnod o 25 mlynedd. Byddai’r cyllid gan LlC yn cael ei dderbyn trwy grant penodol.
Mewn ymateb i’r sylwadau ynghylch addysg cyfrwng Cymraeg, dywedodd y Prif Swyddog trwy'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (WESP) bod y Cyngor wedi ymrwymo i gynyddu nifer y disgyblion sy’n cael mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg i helpu Llywodraeth Cymru (LlC) i gyrraedd ei tharged uchelgeisiol o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mynegodd y Cynghorydd Tudor Jones ei gefnogaeth i ysgolion gwledig a ddylai yn ei farn ef gael eu cynnal yn weithgar. Dywedodd hefyd am yr angen i ddatblygu ffederasiwn yn weithgar a chynnig bod unrhyw gyfeiriad at gau ysgol wledig yn cael ei dynnu allan o'r rhaglen. Eiliwyd y cynnig hwn gan y Cynghorydd Patrick Heesom. O'i roi i bleidlais, gwrthodwyd y cynnig.
Cwestiynodd Mrs. Rebecca Stark os y dylid ystyried yr adroddiad mewn fforwm cyhoeddus a mynegodd ei phryderon am yr effaith y byddai cynigion o’r fath yn ei gael ar leoliadau ysgol. Ymateb y Prif Swyddog oedd bod yr holl ysgolion wedi cael eu briffio gyda thrafodaethau yn cael eu cynnal â’r holl Benaethiaid ysgol yn unigol ar y rhaglen ac eglurwyd mai cyfres o gynigion dros dro oedden nhw ar y cyfnod hwn.
Gofynnodd Mr. David Hytch am wybodaeth ar y tir yn Ysgol Maes Edwin ac Ysgol Llanfynydd ar ôl eu cau. Cadarnhaodd yr Uwch Reolwr Cynllunio a Darpariaeth Ysgolion bod y dewisiadau yn cael eu hystyried ar hyn o bryd ar gyfer tir yn Ysgol Maes Edwin a bod y tir yn Ysgol Llanfynydd wedi cael ei werthu.
PENDERFYNWYD:
Bod sylwadau'r Pwyllgor yn cael eu hadrodd i'r Cabinet ar ddydd Mawrth 23 Ionawr 2018. |
|
Appendix 1 - Amended version circulated at the meeting PDF 109 KB |
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 73 KB Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg ieuenctid & Addysg
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol gyfredol er mwyn ei hystyried a chynghorwyd bod yr eitemau a nodwyd yn ystod y cyfarfod ar Wasanaethau Ieuenctid yn cael eu hychwanegu i'r rhestr o eitemau ar gyfer cyfarfod 12 Ebrill 2018.
PENDERFYNWYD:
(a) Diwygio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Roedd 35 aelod o’r cyhoedd ac un aelod o’r wasg yn bresennol.
|