Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas:I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Ian Smith gysylltiad personol yn eitem 4 ar y rhaglen – Comisiynu a Gweithredu Cludiant i'r Ysgol, oherwydd ymgysylltiad agos aelod o’i deulu.
Datganodd y Cynghorydd Tudor Jones gysylltiad personol yn eitem 8 ar y rhaglen - Trefniadaeth yr Ysgol, fel Aelod Ward lleol ar gyfer ysgol a enwir yn yr adroddiad.
Datganodd y Cynghorydd Patrick Heesom gysylltiad personol yn eitem 8 ar y rhaglen hefyd - Trefniadaeth yr Ysgol, fel Aelod a fynychodd cyfarfodydd llywodraethwr yr ysgol.
Datganodd Mr David Hytch gysylltiad personol yn eitem 8 ar y rhaglen, fel Cadeirydd Llywodraethwyr yr ysgol ffederal a nodir yn yr adroddiad. |
|
Pwrpas:I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 28 Gorffennaf 2017. Cofnodion: Roedd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 2017 wedi eu dosbarthu i Aelodau gyda’r rhaglen.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd. |
|
Diweddariad Comisiynu a Gweithrediadau Cludiant Ysgol Pwrpas: I dderbyn diweddariad llafar ar Gomisiynu a Gweithrediadau Trafnidiaeth Ysgol Cofnodion: Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y papur ategol a gafodd ei ddosbarthu yn y cyfarfod i roi diweddariad ar broses ail-gaffael y llwybrau cludiant gan yr Uned Trafnidiaeth Integredig. Cynghorodd mai pwrpas y papur oedd esbonio digwyddiadau diweddar a heriau gweithredol yn ystod y trawsnewid i’r llwybrau a'r gweithredwyr cludiant newydd, er mwyn rhoi sicrwydd bod y gwasanaethau wedi dychwelyd i'r drefn arferol, ac i ystyried sut i wella trefniadau ar gyfer y dyfodol.
Esboniodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) fod y Cyngor wedi wynebu cyfres unigryw o sefyllfaoedd oherwydd y symud i ddull newydd o gaffael, ail-dendro llwybrau newydd fel ymarfer unigol, a rheoli’r cyfnod o drawsnewid yn ystod toriad gwyliau’r haf i ysgolion. Bu iddo adrodd ar y trawsnewid i lwybrau a gweithredwyr cludiant newydd, yr heriau a brofwyd, a’r gwelliannau allweddol ar gyfer y dyfodol. Wrth ddod i gasgliad, sicrhaodd y Prif Swyddog na fu unrhyw risg i ddisgyblion a bod darpariaeth cludiant i'r ysgol wedi’i gynnal drwy gydol y broses drawsnewid.
Gwnaeth y Cynghorydd Aaron Shotton sylw ar yr angen i adolygu a rhesymoli darpariaeth cludiant ysgol, a dywedodd fod nifer o’r anghysondebau yn y trefniadau gweithredu presennol wedi'u nodi. Roedd yr adolygiad wedi arwain at nifer o welliannau a fyddai'n lleihau risg a gwneud y mwyaf o ddarpariaeth gwasanaeth ar gyfer y dyfodol.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad diweddaru |
|
Rhagolwg Ariannol a Cham Cyntaf Cyllideb 2018/19 PDF 130 KB Pwrpas: Darparu'r rhagolwg ariannol i’r Pwyllgor ac ymgynghori ynghylch cynigion Cam 1 Cyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor ar gyfer 2018/19.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ar y rhagolwg ariannol cyfredol ar gyfer 2018/19 ac ar gynigion Cam 1 Cyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor ar gyfer 2018/19. Rhoddodd wybodaeth a chyd-destun cefndirol, gan gynghori bod yr opsiynau newydd ar gyfer y portffolio Addysg ac Ieuenctid, y pwysau ariannol, a’r amserlen ar gyfer y broses pennu cyllideb wedi’u nodi yn yr adroddiad. Cyfeiriodd y Prif Weithredwr hefyd at y Model Gweithredu Addysg ac Ieuenctid, a’r Datganiad Atgyfnerthu a oedd wedi’u hatodi i’r adroddiad. Dywedodd fod y Setliad Llywodraeth Leol Cymru dros dro i’w gyhoeddi ar 10 Hydref.
Adroddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ar y rhagolwg ariannol a’r pwysau cenedlaethol, lleol, chwyddiant a’r gweithlu, fel y manylir yn yr adroddiad sy’n benodol i’r portffolio Addysg ac Ieuenctid. Adroddodd y Rheolwr Cyllid ar y pwysau cyfredol mewn perthynas â Chyllideb Ysgolion.
Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Patrick Heesom yn ymwneud â darpariaeth Gwasanaeth Ieuenctid, rhoddodd y Prif Weithredwr sicrwydd y byddai’r ddarpariaeth yn y gyllideb sylfaenol, fel y mae’n sefyll, yn cael ei chadw.
Mynegodd Lynn Bartlett bryderon ar effaith lleihau addysg feithrin a gwnaeth sylw ar werth hirdymor addysg yn y blynyddoedd cynnar.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn fodlon â’r ymagwedd a gymerir i Gam Un y Gyllideb yn y portffolio Addysg. |
|
Model Rhanbarthol Diwygiedig ar gyfer Cefnogaeth Ysgolion Uwchradd PDF 118 KB Pwrpas: Rhoi trosolwg o’r trefniadau newydd yn y Gwasanaeth Gwella Ysgolion rhanbarthol i roi gwell cefnogaeth i ysgolion uwchradd, a ddaw i rym o fis Medi 2017. Cofnodion: Cyflwynoddy Prif Weithredwr adroddiad i roi trosolwg o’r trefniadau newydd yn y Gwasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol i roi gwell cefnogaeth i ysgolion uwchradd, a ddaeth i rym ym mis Medi 2017.
Esboniodd Uwch Reolwr Interim y Systemau Gwella Ysgolion fod adolygiad diweddar o berfformiad ysgol gan GwE wedi tynnu sylw at bryderon am berfformiad ysgolion uwchradd ar draws Rhanbarth Gogledd Cymru. Daeth yr adolygiad i'r casgliad hefyd nad oedd y model gweithredu gwreiddiol o raniad 80/20 o adnoddau o blaid ysgolion cynradd yn addas i'r pwrpas bellach a bod angen cyfeirio mwy o adnoddau at ysgolion uwchradd i sicrhau gwelliant cyflym. Cyflwynodd Mr Alwyn Lloyd Jones – Cyfarwyddwr Cynorthwyol GwE, Mr Elfyn Vaughan Jones – Arweinydd Uwchradd Rhanbarthol GwE, a Mr Martyn Froggett – Arweinydd Craidd Uwchradd ar gyfer Sir y Fflint, a’u gwahodd i adrodd ar y sail resymegol ar gyfer newid, gan ddarparu trosolwg o sut y byddai’r model rhanbarthol diwygiedig ar gyfer cefnogi ysgolion uwchradd yn cael ei weithredu.
Gwnaeth y Cynghorydd Dave Mackie sylw ar berfformiad ysgolion uwchradd yn Sir y Fflint, gan roi gwybodaeth ar ganran y disgyblion a gyrhaeddodd lefel 2 ac uwch rhwng 2013 a 2016 mewn ysgolion uwchradd, fel enghraifft o’i bryderon. Wrth ymateb i’r materion a godwyd, cydnabu GwE yr angen i wella gan ddweud bod cynnydd yn cael ei wneud. Rhoddodd swyddogion GwE sicrwydd hefyd fod ysgolion uwchradd Sir y Fflint yn perfformio’n dda o gymharu ag awdurdodau eraill.
Yn ystod trafodaethau, ymatebodd swyddogion i’r sylwadau a’r pryderon pellach a godwyd ynghylch y data a ddarparwyd yn yr adroddiad yn ymwneud â pherfformiad ysgolion, yn seiliedig ar feincnodau a chymhwysedd prydau ysgol am ddim.
Cododd Mr David Hytch y mater o recriwtio athrawon, gan wneud sylw ar broblem recriwtio athrawon pynciau arbenigol, a chyfeirio at Fathemateg fel enghraifft. Cytunodd y Cynghorydd Ian Roberts gyda'r sylwadau a wnaed gan MrHytch ar y mater recriwitio a chadw athrawon yn ysgolion Sir y Fflint, gan awgrymu efallai y bydd y Pwyllgor am anfon llythyr arall at Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Addysg i amlinellu ei bryderon, a chytunwyd ar hyn gan y Pwyllgor. Cytunwyd hefyd y byddai'r Hwylusydd yn dosbarthu copi o'r llythyr blaenorol a gafodd ei anfon at Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Addysg, yn ogystal ag ymateb y Gweinidog.
Yn ystod trafodaeth, codwyd materion pellach cefnogaeth ar gyfer penaethiaid, iechyd a lles staff ysgolion, balans rhwng gwaith a bywyd personol, a rhaglenni arweinyddiaeth gynaliadwy.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r newidiadau i’r model cefnogaeth ranbarthol ar gyfer cefnogi ysgolion uwchradd;
(b) Bod y Pwyllgor yn cydnabod y gefnogaeth uwch ar gyfer ysgolion uwchradd a'r newidiadau a ddyluniwyd i wella perfformiad ysgolion yn Sir y Fflint; a
(c) Bod yr Hwylusydd yn ysgrifennu at Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Addysg, ar ran y Pwyllgor, gan amlinellu ei bryderon ynghylch recriwtio athrawon. |
|
Canlyniadau Dysgwyr 2017 PDF 86 KB Pwrpas: Hysbysu’r Aelodau ynghylch y deilliannau dysgwyr wedi’u dilysu ar gyfer y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3 ac i rannu’r deilliannau dros dro ar gyfer Cyfnod Allweddol 4. Mae’r adroddiad hefyd yn cymharu perfformiad Sir y Fflint gyda chynghorau eraill yng ngogledd Cymru a Chymru gyfan. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Uwch Reolwr Interim Systemau Gwella Ysgolion adroddiad i hysbysu’r Pwyllgor ynghylch y deilliannau dysgwyr wedi’u dilysu ar gyfer y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3, ac i rannu’r deilliannau dros dro i ddysgwyr ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 a 5. Dywedodd fod yr adroddiad hefyd yn cymharu perfformiad Sir y Fflint â chynghorau eraill yng ngogledd Cymru a Chymru gyfan.
Rhoddodd yr Uwch Reolwr Interim wybodaeth gefndir, gan esbonio bod atodiadau unigol wedi’u hatodi i’r adroddiad a oedd yn rhoi dadansoddiad manwl o berfformiad pob cyfnod allweddol ar gyfer 2017, gan gynnwys cymariaethau i’r flwyddyn flaenorol ac i gyfartaleddau cyfredol Cymru. Gofynnwyd i’r Pwyllgor nodi cyrhaeddiad plant a phobl ifanc Sir y Fflint ar gyfer 2016-17 yn y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3, a'r data dros dro ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 a 5.
Talodd y Cynghorydd Ian Roberts deyrnged i waith caled ysgolion wrth gyflawni perfformiad da a gwell, uwchlaw'r lefelau disgwyliedig, ym mhob dangosydd yn y Cyfnod Sylfaen a Chyfnodau Allweddol 2 a 3. Nodwyd perfformiad dros dro Sir y Fflint yng Nghyfnodau Allweddol 4 a 5 hefyd. Awgrymodd y gallai'r Pwyllgor fynegi ei llongyfarchiadau a diolch i ysgolion am eu gwaith caled a'u cyflawniadau.
Yn ystod y drafodaeth, ymatebodd yr Uwch Reolwr Dros Dro i’r sylwadau a wnaed o amgylch y gwahaniaeth o ran cyrhaeddiad yn y Gymraeg rhwng bechgyn a merched, a'r newid mewn safle ar gyfer Technoleg Gwybodaeth yn 2017.
PENDERFYNWYD
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi cyrhaeddiad plant a phobl ifanc Sir y Fflint ar gyfer 2016-17 yn y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3, a'r data dros dro ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 a 5; a
(b) Bod y Pwyllgor yn cael y ffigurau cyrhaeddiad dilys ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 a Chyfnod Allweddol 5 mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
Pwrpas: Rhoi diweddariad ar Ffedereiddio a chynigion trefniadaeth ysgolion eraill
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Uwch Reolwr, Cynllunio a Darpariaeth Ysgolion, adroddiad i roi'r diweddaraf ar Ffederasiwn a chynigion trefniadaeth ysgolion eraill.
Rhoddodd yr Uwch Reolwr wybodaeth gefndirol a chyd-destun a chyfeiriodd at yr ystyriaethau allweddol, fel y nodwyd yn yr adroddiad, ynghylch y prosiect gwella cyfalaf yn Ysgol Uwchradd Cei Connah, a oedd hefyd yn cwmpasu gwaith i ddymchwel rhannau o hen adeilad Ysgol Uwchradd John Summers, a'r cynllun arfaethedig ym Mhenyffordd i uno'r trefniant safle rhanedig presennol a dod â'r holl ddarpariaeth gynradd i un safle.
Yn ystod trafodaeth, ymatebodd yr Uwch Reolwr i’r sylwadau a’r pryderon a godwyd ynghylch Ffederasiwn a threfniadaeth ysgolion. Dywedodd fod diweddariad ar faterion trefniadaeth ysgolion Ffederasiwn, cenedlaethol a lleol, wedi’i atodi i'r adroddiad.
PENDERFYNWYD
Nodi cynnydd y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion. |
|
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol PDF 72 KB Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg ieuenctid & Addysg Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol gyfredol er mwyn ei hystyried.
Yn ystod y drafodaeth, dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts fod Llywodraeth Cymru wedi atal newidiadau arfaethedig i'r Cwricwlwm ac felly dylid dileu'r eitem Diwygio'r Cwricwlwm a drefnwyd ar gyfer cyfarfod 23 Tachwedd o'r flaenraglen waith am y tro.
PENDERFYNWYD:
(a) Yn amodol ar yr uchod, bod y Pwyllgor yn cymeradwyo'r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ddrafft; a
(b) Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd nac unrhyw aelodau o’r wasg yn bresennol. |