Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

21.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

Dim.

 

22.

Cofnodion pdf icon PDF 66 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 27 Mehefin a 17 Gorffennaf 2018.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(i)         Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Mehefin 2018.

 

Materion yn Codi

 

Cofnod rhif 11: Mewn ymateb i gais gan y Cynghorydd George Hardcastle, dywedodd yr Hwylusydd y byddai adroddiad diweddaru ar ôl-ddyledion rhent yn cael ei roi gerbron cyfarfod nesaf y Pwyllgor, i’w gynnal 7 Tachwedd 2018.

 

(ii)        Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 17 Gorffennaf 2018.

 

            Cywirdeb

            Tudalen 9: i ddiwygio teitl y cofnodion

 

Materion yn Codi

 

Rhoddodd y Cynghorydd Paul Shotton sylw ar lwyddiant y Rhaglen Llwglyd Dros y Gwyliau. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y newid uchod, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

23.

Un Llwybr Mynediad At Dai pdf icon PDF 122 KB

Pwrpas: I ystyried Polisi Dyrannu ar gyfer tai cymdeithasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad i ystyried y Polisi Dyraniadau ar gyfer tai cymdeithasol.  Gwahoddodd y Rheolwr Cefnogi Cwsmeriaid i gyflwyno’r adroddiad. 

 

Rhoddodd y Rheolwr Cefnogi Cwsmeriaid wybodaeth gefndir a rhoddodd wybod bod adolygiad o'r polisi SARTH wedi'i wneud yn 2017 yn dilyn blwyddyn gyntaf ei weithrediad.  Nododd yr adolygiad fod angen diweddaru’r polisi i sicrhau cydymffurfiaeth â Deddf Tai (Cymru) 2014. Fe wnaeth adolygiad o faterion a godwyd yn y panel gweithredol a'r gr?p llywio sefydlu nad oedd angen unrhyw newidiadau mawr i unrhyw un o egwyddorion allweddol y polisi.  Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid wybod fod y gofyniad am bolisi wedi’i ddiweddaru’n rhoi cyfle i ddatblygu dogfen a oedd yn haws i’w darllen a’i deall.  Mae’r polisi diwygiedig (yn amgaeedig yn atodiad un), yn nodi ymrwymiad allweddol partneriaid at ddull rhanbarthol cyffredin tuag at ddyraniadau tai cymdeithasol. 

 

Adroddodd y Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid ar y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad, ynghylch cydweithrediad rhanbarthol, galw am dai cymdeithasol, archwilio a thai arbenigol.    

 

Rhoddodd y Cynghorydd Ian Dunbar sylw ar yr angen am ddatrysiadau tai addas i fodloni anghenion arbenigol a gofynnodd a oedd tai addas wedi’u darparu o stoc dai hen neu newydd.  Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid fod atebion wedi’u rhoi o gymysgedd o hen dai a rhai newydd.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Shotton at y gwaith cydweithredol a wnaed gyda Chyngor Sir Ddinbych, a gofynnodd a oedd rhagor o gyfleoedd i ddatblygu gwaith ar y gofrestr brysbennu a thai gydag awdurdodau lleol eraill.  Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid fod yr Awdurdod hefyd wedi cael incwm gan landlordiaid partner eraill a byddent yn olrhain unrhyw gyfleoedd i ehangu’r bartneriaeth i ragor o Gynghorau.

 

Holodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin a oedd gwybodaeth wedi’i rhannu rhwng meysydd gwasanaeth yn yr Awdurdod, a nododd y Gwasanaethau Tai a'r Gwasanaethau Cymdeithasol fel esiampl, a sefyllfa pe bai eiddo’n dod yn wag oherwydd bod tenant wedi symud i gartref gofal.   Rhoddodd y Prif Swyddog sicrwydd fod gwybodaeth yn cael ei rhannu rhwng adrannau Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdod. 

 

Mewn ymateb i bryder a godwyd gan y Cynghorydd George Hardcastle ynghylch dyrannu tai cymdeithasol, eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid fod Sir y Fflint a Sir Ddinbych yn gweithredu dwy gofrestr tai ar wahân.  Rhoddodd wybod fod Sir y Fflint wedi bod yn rheoli’r gofrestr brysbennu a thai i Sir Ddinbych ers Ebrill 2017, a chyfeiriodd at y buddion niferus o gael Sir y Fflint yn cynnal y ddwy Gofrestr.     

 

Cododd y Cynghorydd Patrick Heesom bryderon am y gwasanaeth brysbennu a chyfeiriodd at y cynnydd yn nifer y ceisiadau yn 2017/18. Rhoddodd sylw am nifer y ceisiadau blynyddol a holodd pa gefnogaeth a roddwyd i’r ymgeiswyr hynny nad oedd yn symud ymlaen i'r gofrestr tai.  Rhoddodd sylw hefyd ar atebolrwydd democrataidd y Cyngor wrth ddarparu tai, a dywedodd nad oedd yn teimlo fod hyn wedi’i ysgrifennu yng nghylch gorchwyl y Polisi SARTH ac na chyfeiriwyd yn ddigonol ychwaith at rôl aelodau etholedig.  Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid sicrwydd  ...  view the full Cofnodion text for item 23.

24.

Rhaglen Gyfalaf Safonau Ansawdd Tai Cymru – y wybodaeth ddiweddaraf ar yr Adolygiad Cyflenwi pdf icon PDF 129 KB

Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd Safonau Ansawdd Tai Cymru, a gyflenwir gan y Cyngor drwy ei Raglen Buddsoddiad Cyfalaf

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad i roi diweddariad ar gynnydd SATC a ddarparwyd gan y Cyngor drwy ei Raglen Buddsoddi Cyfalaf.  Eglurodd fod Rhaglen Waith SATC wedi cyrraedd ei charreg filltir hanner ffordd, ac yn symud i’r tair blynedd olaf o ddarpariaeth.  Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar beth a ddarparwyd hyd yn hyn a beth oedd ar ôl i’w gwblhau cyn dyddiad cau 2020.

 

            Adroddodd y Prif Swyddog ar y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad ar Raglen SATC.  Rhoddodd wybod fod tîm prosiect SATC bron â chwblhau'r rhaglen Gwaith Mewnol (ceginau ac ystafelloedd ymolchi) a bod yr eiddo a oedd yn weddill naill ai’n 'wrthodiadau gan denantiaid' neu'n 'ddim mynediad', a ddosbarthwyd fel 'methiannau derbyniol' gan Lywodraeth Cymru o ran cyflawni SATC.  Roedd tîm prosiect SATC hefyd wedi caffael pob prif Gontract SATC wrth symud i Flwyddyn 4 (2018/19) o’r Rhaglen Gyfalaf, ac o flaen y targed gyda nifer y cydrannau a osodwyd, ac yn bwriadu gweithredu'r Ateb Cymhorthydd Digidol Personol (PDA) yn Chwarter 4 o’r flwyddyn ariannol hon.  Aeth y Prif Swyddog ymlaen i ddweud fod tîm prosiect SATC wedi darparu sawl contract, yn amrywio o waith uwchraddio mewnol i waith ailwampio allanol mawr, a chynlluniau amgylcheddol.  Roedd y Cyngor wedi buddsoddi tua £60m hyd yn hyn o fewn ei stoc dai, ac ar hyn o bryd o flaen y targed wrth fodloni dyddiad cau SATC o 2020.

 

            Cyfeiriodd y Prif Swyddog at Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) a rhoddodd wybodaeth gefndir, fel y manylwyd yn yr adroddiad.  Dywedodd fod yr archwiliad wedi cwmpasu nifer o feysydd yn ymwneud â defnyddwyr gwasanaeth yr Awdurdod, ac ar ôl cynnal arolygon, ystyried adborth defnyddwyr a chymedroli eu canfyddiadau, daeth  SATC i'r casgliad "at ei gilydd, roedd y Cyngor yn gwneud cynnydd da tuag at gyflawni SATC ac roedd y rhan fwyaf o denantiaid y Cyngor yn fodlon gydag ansawdd y gwasanaeth a'u cartrefi".

 

            Llongyfarchwyd y Prif Swyddog a'i dîm gan y Cadeirydd a’r Cynghorydd Paul Shotton ar eu llwyddiannau gyda SATC hyd yn hyn ac am roi adroddiad da.   

 

            Rhoddodd y Cynghorydd Patrick Heesom sylw ar yr angen i sicrhau bod contractwyr lleol a llafur yn cael eu defnyddio yn rhaglen waith SATC.  Rhoddodd y Rheolwr Gwaith Cyfalaf wybod fod contractwyr a llafur lleol ynghlwm wrth bob t? newydd a adeiladir a dywedodd fod angen bodloni trothwyon wrth gontractio gwaith ar gyfer rhaglen SATC.  Eglurodd am bob £1m o wariant, roedd yr Awdurdod wedi gorfod sicrhau bod nifer benodol o gyfleoedd swyddi lleol a phrentisiaethau wedi'u rhoi, a dywedodd y rhagorwyd ar y targed hyd yn hyn. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin at eiddo nad oedd wedi’u huwchraddio oherwydd ‘gwrthodiadau gan denantiaid’ neu’n ‘ddim mynediad’, a holodd a oedd cyflwr yr eiddo wedi’u gwirio i sicrhau y cydymffurfiwyd â safonau tai.  Eglurodd y Rheolwr Gwaith Cyfalaf y byddai arolygiad cyflwr yn cael ei wneud pan fo’n briodol.

 

Awgrymodd y Prif Swyddog y dylai'r Pwyllgor gael adroddiad diweddaru blynyddol ar ddarparu Rhaglen Gyfalaf SATC,  ...  view the full Cofnodion text for item 24.

25.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol pdf icon PDF 72 KB

Pwrpas: Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg menter & cymunedol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol i’w hystyried, cyfeiriodd yr Hwylusydd at yr eitemau i’w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor 7 Tachwedd, a dywedodd y cytunwyd i ohirio Adroddiad Monitro Cynllun Cyngor 2018/19 Chwarter 1 a 2 ar gyfer cyfarfod 19 Rhagfyr 2018. Cytunwyd hefyd y byddai adroddiad Ôl-ddyledion Rhent yn cael ei gyflwyno gerbron cyfarfod 7 Tachwedd.  

 

            Rhoddodd yr Hwylusydd wybod y byddai gweithdy’n cael ei drefnu yn ystod Hydref i aelodau o’r Pwyllgor ystyried cynigion y gyllideb, a dywedodd y byddai manylion yn cael eu cadarnhau i Aelodau dros e-bost.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, fel y'i diwygiwyd, yn cael ei chymeradwyo; a

 

(b)       Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei         awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr    angen.

26.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.